Jump to main content

Hwb mawr i’r Gymraeg gan Undeb Rygbi Cymru

Hwb mawr i’r Gymraeg gan Undeb Rygbi Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi lansio menter fawr i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn rygbi yng Nghymru, cyn lansiad polisi iaith Gymraeg yr Undeb yn ddiweddarach eleni.

Share this page:

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru yn cefnogi tri phrosiect dwyieithog gyda Stadiwm y Mileniwm, gwefan URC a Phencampwriaeth IRB Ieuenctid y Byd.

Y prosiect cyntaf yw cyhoeddiadau dwyieithog ar gyfer Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd rhwng yr 16 tîm rhyngwladol dan 20 gorau yn y byd a gynhelir yng Nghymru ym mis Mehefin. Bydd hyn yn cynnwys llyfryn swyddogol y bencampwriaeth a rhaglen gêm derfynol y bencampwriaeth yn Stadiwm Liberty. Bydd tocynnau am bob un o’r 41 gêm yn y bencampwriaeth yn cynnwys gwybodaeth iaith Gymraeg.


Ailwampio deunydd statig gwefan URC yw’r ail brosiect. Yn fuan  bydd gwybodaeth ag ystadegau ar gael yn ddwyieithog i unrhywun â diddordeb mewn rygbi Cymru.
Yn y trydydd prosiect, bydd nifer sylweddol o arwyddion cwbl ddwyieithog yn cael eu codi yn Stadiwm y Mileniwm i sicrhau bod pob ymwelydd yn gallu mynd o amgylch yr adeilad gan ddilyn arwyddion Cymraeg.


Meddai Roger Lewis, Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru: “Rwy’n falch iawn o gael lansio’r tri phrosiect sy’n dangos ein hymrwymiad clir i’r Gymraeg.


“Rwyf wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru ar y mentrau hyn ac rwy’n ddiolchgar dros ben am eu cefnogaeth barhaus. Mae hwn yn gam pwysig ar y llwybr i Bolisi Iaith Gymraeg ar gyfer URC. Bydd y polisi yn cael ei gyhoeddi yn y misoedd nesaf.”


“Mae URC wrth wraidd pob cymuned yng Nghymru ac rydym yn gwerthfawrogi’n llawn ein cyfrifoldeb i ddiwylliant ac iaith ein gwlad. Mae’r prosiectau hyn yn dangos sut rydym yn blaenoriaethu’r Gymraeg a bydd y polisi yn dangos yn glir y gwaith rydym eisoes yn ei wneud a’r hyn rydym yn bwriadu’i gyflawni yn y dyfodol.”


Meddai Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth: “Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn falch iawn o gael cefnogi Undeb Rygbi Cymru yn ei ymdrechion i hyrwyddo a meithrin y defnydd o’r Gymraeg, o fewn a thrwy rygbi.”


“Rydym yn croesawu’r ymrwymiad i gyhoeddi polisi iaith Gymraeg. Mae’n bwysig i sefydliadau amlwg yng Nghymru fel URC ddefnyddio’r Gymraeg, a gall rygbi chwarae rhan hanfodol o ran helpu i annog pobl o bob oedran ac yn pob rhan o Gymru i ddysgu Cymraeg a defnyddio’r iaith bob dydd.”


“Rydym yn gwybod pa mor aml mae pobl yng Nghymru yn trafod rygbi a bydd manteision amlwg wrth i fwy ohonom allu gwneud hynny yn Gymraeg.”


“Mae URC yn hyrwyddo’r Gymraeg mewn ffordd amlwg ac ystyrlon drwy ganolbwyntio ar arwyddion yn y stadiwm genedlaethol, y cyhoeddiadau ar gyfer Pencampwriaeth Dan 20 y Byd a’r wefan. Rydym yn falch iawn o gael chwarae rhan i’w helpu i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg.”


Roedd Huw Jones, Prif Weithredwr, Cyngor Chwaraeon Cymru yn bresennol yn y lansiad ac roedd yn bleser  ganddo gefnogi’r cynlluniau.


“Mae iaith yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i sut mae pobl yn cyfathrebu gyda’i gilydd ac mae siarad yr Iaith Gymraeg mewn chwaraeon yn gallu fod yn fantais fawr ar ac oddi ar y cau.


“Mae ymrwymiad yr URC i ddatblygu eu polisi iaith Gymraeg yn cyd-fynd â pholisi prif ffrydio’r Gymraeg y Cyngor Chwaraeon ac ymdrechion Swyddog Iaith Gymraeg y Cyngor Chwaraeon i ddatblygu cyfleoedd chwaraeon trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.”


“Mae’n bleser gennym roi ein cefnogaeth i’r bartneriaeth gyda’r URC ac mae’n dda i weld bod nhw gwerthfawrogi’r iaith Gymraeg a’r potensial i ddatblygu ei chwaraeon drwy’r iaith a’r iaith drwy chwaraeon.


Mae URC wrthi’n cwblhau’r Polisi Iaith Gymraeg gyda chymorth gan Fwrdd yr Iaith, a bydd yn cael ei gymeradwyo a’i lansio’n ddiweddarach eleni. Meddai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag Undeb Rygbi Cymru dros y misoedd nesaf er mwyn datblygu eu polisi iaith Gymraeg. Rydym yn eu llongyfarch ar y prosiectau dwyieithog newydd hyn.”


“Gyda llygaid y byd ar y Stadiwm, mae’n bwysig fod y Gymraeg i’w gweld yn glir yno. Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith wrth ddod i gysylltiad â’r Undeb a’i gweithgareddau ac wrth ymweld â Stadiwm y Mileniwm yn y dyfodol.”


Meddai David Pickering, Cadeirydd URC: “Mae’r Gymraeg bob amser wedi bod yn rhan bwysig o rygbi yng Nghymru ac mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos ein bod am ddatblygu’r ymrwymiad hwn ymhellach.


“Bydd y prosiectau rydym yn eu datgelu heddiw hefyd yn sicrhau y bydd pobl o’r tu allan i Gymru ac o bob cwr o’r byd rygbi yn gwybod pa mor bwysig yw’r iaith i’n pobl a’n diwylliant.”


Meddai Gerald Davies, cyn seren Cymru a’r Llewod, sydd bellach ar Fwrdd Cyfarwyddwyr URC fel cynrychiolydd cenedlaethol: “Mae’n hollbwysig i rygbi Cymru chwarae rôl ganolog o ran cynnal ac annog y defnydd o’n hiaith.


“Fel rhywun sy’n siarad Cymraeg, rwy’n falch pan fydd ein chwaraewyr, ein hyfforddwyr, ein gweinyddwyr a’n cefnogwyr yn defnyddio’r iaith. Rhaid i URC eu galluogi i ddefnyddio’r iaith yn eu holl brofiadau rygbi.


“Mae rygbi eisoes yn chwarae rhan fawr iawn o ran hyrwyddo ac annog defnydd o’r Gymraeg drwy ein partneriaid darlledu ac yn y gymuned drwy ein swyddogion datblygu a’n hyfforddwyr cymunedol. Mae hyn yn fodd o gydnabod pa mor bwysig yw’r iaith drwy ffynonellau allweddol eraill.


“Rydym yn datgan i’r byd bod y Gymraeg yn bwysig ac rwy’n sicr y bydd hyn yn helpu i annog mwy o bobl i weld faint o hwyl yw dysgu a defnyddio’r iaith gyfoethog a hanesyddol bwysig hon yn eu bywydau bob dydd.”

Partners and Suppliers

Principal Partners
Principality
Official Broadcast Partners
BBC Cymru/Wales
S4C
Official Partners
Heineken
Isuzu
Guinness