Jump to main content

A Living Language: A Language for Living

A Living Language: A Language for Living

The Welsh Government will focus on helping people to use Welsh in everyday life, including through new technology and social media, the Minister responsible for the language, Leighton Andrews, said today.

Share this page:

As he launched the Welsh Government’s new five-year Welsh Language Strategy A living language: a language for living, the Minister said: “We need to breathe new life into the language. The Welsh government should lead the way, intervening with the largest players in the market to ensure a presence for Welsh on all platforms, in every aspect of our lives.”

He added: “The Welsh language is an important and defining characteristic of Wales, and it belongs to all the people of Wales – Welsh speakers and non-Welsh speakers alike. In implementing this strategy, I want to invite new voices to help us with the challenging task of increasing the use of Welsh in the community.”

Mr Andrews was joined by the First Minister, Carwyn Jones, and Welsh rugby stars, Robin McBryde and Rhys Priestland, when he launched the strategy today at the WRU Centre of Excellence.

Keen rugby players from Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd enjoyed a coaching session through the medium of Welsh with the rugby stars.

First Minister, Carwyn Jones, said: “We need to provide more opportunities for children and young people to use the Welsh language outside school.

“A consultation by the Urdd found that children and young people were eager to see more Welsh-medium activities, and that sporting activities were most popular, followed by dance, drama art and outdoor activities. Through this strategy we will continue support activities like these, but most importantly we will consult with them to ensure we are delivering what they want.”

Wales forwards coach, Robin McBryde, added: “I’ve been very lucky in my playing and coaching career in that all the rugby environments I’ve been involved in have been Welsh speaking in varying degrees.  

“From Mold and Menai Bridge in North Wales to Swansea, Llanelli, the Scarlets and now with the Welsh national team there have always been Welsh speakers and that extends to my children as well, who are regulars at Tumble rugby club. The Welsh language has been a prominent part of the clubs I’ve been involved with and those clubs have also always been central points in any of the communities I have lived.  

“Welsh has always existed in the more informal areas of my life, at home or on visits to your local shop and post office, but the one place where I have always been able to rely on the familiarity of my native tongue is in my local rugby or sports club.  

“It may have been mixed in with different amounts of English based on the geography of the relevant area, but the Welsh language has always been there to make me feel at home in and long may that continue.”

One of the significant changes from the draft strategy originally published in 2010 is the additional focus on technology and new media.

“The traditional broadcast media and emerging new digital media will be crucial to the future of the language. New developments in media, technology and digital content need to be available in Welsh if the language is to be seen as a modern and living language,” said Mr Andrews.

“Our ambition and expectation is that Welsh speakers should be able to conduct their lives electronically. Some of the most exciting developments in Welsh materials online have been created by Welsh speakers themselves. We must harness that energy and commitment and give space to new voices to ensure this continues.”

To that end, a group will be set-up to advise the Welsh Government on how they can support this and a new fund will be created to support the development of new Welsh medium software and digital interfaces.

The strategy sets out six areas for action. They are:

2 – To encourage and support the use of the Welsh language within families.

3 – To increase the provision of Welsh medium activities for children and young people and to increase their awareness of the value of the language;

4 – To strengthen the position of the Welsh language in the community;

5 – To increase opportunities for people to use Welsh in the workplace;

6 – To improve Welsh language services to citizens; and

7 – To strengthen the infrastructure, including technology and media, for the language.

Mr Andrews said the future development and survival of the language will need fresh ideas and must be owned by everyone in Wales.

Iaith Fyw: Iaith Byw

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, heddiw (Dydd Iau, 1 Mawrth) y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar helpu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, gan gynnwys drwy gyfryngau cymdeithasol a thechnoleg newydd.

Wrth iddo lansio Strategaeth newydd pum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg Iaith fyw: iaith byw, dywedodd y Gweinidog: “Mae angen i ni roi anadl einioes newydd i’r iaith. Dylai Llywodraeth Cymru arwain y ffordd, gan ymwneud â’r sefydliadau mwyaf blaenllaw er mwyn sicrhau lle i’r Gymraeg ar bob platfform, ac ym mhob agwedd ar ein bywydau.

Ychwanegodd: “Mae’r Gymraeg yn nodwedd bwysig a chwbl unigryw i Gymru. Mae hefyd yn perthyn i holl bobl Cymru – siaradwyr Cymraeg a siaradwyr di-Gymraeg fel ei gilydd. Wrth weithredu’r strategaeth hon hoffwn wahodd lleisiau newydd i’n cynorthwyo â’r dasg heriol o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y gymuned.”

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ynghyd â rhai o sêr rygbi Cymru, Robin McBryde a Rhys Priestland, yn ymuno â Mr Andrews heddiw i lansio’r strategaeth yng Nghanolfan Ragoriaeth Undeb Rygbi Cymru.

Bydd chwaraewyr rygbi brwd o Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn cael sesiwn hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg gyda’r sêr rygbi.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae angen i ni greu rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol.

“Daeth ymgynghoriad gan yr Urdd i’r casgliad bod plant a phobl ifanc yn awyddus i weld rhagor o weithgareddau cyfrwng Cymraeg. Gwelwyd mai gweithgareddau chwaraeon oedd fwyaf poblogaidd, ac yna gweithgareddau dawns, drama, celf a gweithgareddau awyr agored. Trwy’r strategaeth hon byddwn yn parhau i gefnogi gweithgareddau tebyg, ond yn bwysicach byddwn yn ymgynghori â nhw er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r hyn y mae galw amdano.”

Ychwanegodd Robin McBryde, hyfforddwr blaenwyr Cymru: “Dw i wedi bod yn ffodus yn fy ngyrfa fel chwaraewr ac fel hyfforddwr, gan fod y Gymraeg yn cael ei siarad i raddau gwahanol yn yr holl agweddau ar fyd rygbi dwi wedi bod yn gysylltiedig â nhw.

“O’r Wyddgrug a Phorthaethwy yn y Gogledd i Abertawe, Llanelli, y Scarlets, a bellach tîm cenedlaethol Cymru, roedd yna siaradwyr Cymraeg, ac mae hynny’n wir yn achos fy mhlant i hefyd, sy’n chwarae’n rheolaidd yng nghlwb rygbi’r Tymbl. Mae’r iaith Gymraeg wedi bod yn rhan amlwg o’r clybiau dw i wedi bod yn gysylltiedig â nhw, ac mae’r clybiau hynny hefyd wedi bod yn ganolbwynt i bob un o’r cymunedau dw i wedi byw ynddyn nhw.

“Mae’r Gymraeg wedi bod yno erioed yn yr agweddau mwy anffurfiol ar fy mywyd, gartref ar yr aelwyd neu wrth ymweld â’r siop leol a swyddfa’r post, ond yr un man lle dw i wedi gallu dibynnu erioed ar glywed y famiaith sydd mor gyfarwydd i mi yw yn fy nghlwb rygbi neu yn fy nghlwb chwaraeon lleol.

“Mae’n ddigon posib’ bod yna eiriau Saesneg wedi bod yn rhan ohoni i ryw raddau neu’i gilydd, yn dibynnu ym mha ran o’r wlad yr oeddwn i, ond mae’r iaith Gymraeg wedi bod yno erioed i wneud i mi deimlo’n gartrefol, a gobeithio mai dyna fel y bydd hi am amser maith i ddod”.
Un o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol, o’i gymharu â’r strategaeth ddrafft a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010, yw’r pwyslais ychwanegol ar dechnoleg a’r cyfryngau newydd.  

Dywedodd Mr Andrews “Bydd y cyfryngau darlledu traddodiadol a’r cyfryngau digidol newydd sy’n datblygu yn gwbl allweddol i ddyfodol yr iaith. Bydd angen i ddatblygiadau newydd ym myd y cyfryngau, technoleg a chynnwys digidol fod ar gael yn y Gymraeg er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn iaith fodern ac yn iaith fyw.”

“Ein huchelgais a’n disgwyliad yw y dylai siaradwyr Cymraeg allu byw eu bywydau’n electronig, i’r un graddau â siaradwyr di-Gymraeg. Siaradwyr Cymraeg sy’n gyfrifol am rai o’r datblygiadau mwyaf cyffrous mewn deunyddiau Cymraeg ar-lein. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar yr ymrwymiad a’r brwdfrydedd hwn, gan roi cyfle i leisiau newydd a sicrhau bod hyn yn parhau.”

I’r perwyl hwn caiff gr?p ei sefydlu er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch y ffordd orau o gefnogi’r gwaith hwn. Bydd cronfa newydd hefyd yn cael ei chreu er mwyn hwyluso datblygiad meddalwedd a rhyngwynebau digidol cyfrwng Cymraeg.

Amlinella’r strategaeth chwe maes ar gyfer gweithredu. Dyma’r meysydd:

1 – annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg o fewn teuluoedd.

2 – cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith;

3 – cryfhau safle’r Gymraeg o fewn y gymuned;

4 – cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;

5 – gwella gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion; a

6 – cryfhau’r seilwaith ar gyfer yr iaith, gan gynnwys technoleg ddigidol.  

Dywedodd Mr Andrews y bydd angen syniadau newydd a ffres er mwyn sicrhau bod yr iaith yn parhau i ddatblygu ac yn goroesi. Bydd angen i holl bobl Cymru ymfalchïo ynddi yn ogystal.  

Partners and Suppliers

Principal Partners
Principality
Official Broadcast Partners
BBC Cymru/Wales
S4C
Official Partners
Heineken
Isuzu
Guinness