Neidio i'r prif gynnwys

Dosbarth Digidol WRU i adael etifeddiaeth

Santes Tudful

Negeseuon pob lwc i Tim Cymru gan disgyblion Ysgol Santes Tudful

Bydd Dosbarth Digidol WRU yn gadael etifeddiaeth gydol oes wrth i ddisgyblion roi ysbrydoliaeth galonogol i garfan Cymru

Rhannu:

Ar yr un dydd ag y mae carfan Cymru’n hedfan i Japan i gynrychioli’r genedl yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2019, mae Undeb Rygbi Cymru wedi lansio menter mewn cydweithrediad ag athrawon ledled Cymru i ysbrydoli cenhedlaeth gyfan o blant ysgol gynradd i ddysgu drwy rygbi.

Dywedodd cyfarwyddwr cymunedol WRU Geraint John, “Wrth i Gymru gynrychioli’r genedl yn Japan, mae Dosbarth Digidol WRU yn fenter hynod gyffrous sy’n gobeithio gadael etifeddiaeth barhaus ar gyfer iechyd, lles a threftadaeth ddiwylliannol ein cenedl yn y dyfodol. Rydym yn gwybod y pŵer cadarnhaol y gall rygbi ei gael ac rydym ni eisiau rhannu hynny gyda chenhedlaeth gyfan o blant, boed hynny trwy arwain atyn nhw’n chwarae, gwirfoddoli neu gefnogi ein gêm yn y dyfodol.”

Cafodd y tîm ffarwel angerddol gan fwy na 250 o ddisgyblion Ysgol Santes Tudful, Merthyr, gyda pherfformiad i ysgwyd yr enaid o Hen Wlad Fy Nhadau ac anerchiad brwd gan ddisgybl ym mlwyddyn chwech.

Roedd yr ysgol yn ymateb i gais gan dîm Cymru, a gyflwynwyd yn bersonol gan gapten diwethaf Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd, Sam Warburton, am negeseuon creadigol o gefnogaeth gan bob ysgol a oedd yn rhan o’r prosiect. Bydd y tîm yn rhannu’r negeseuon hyn ac yn ymateb iddynt yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd. Gall hyn fod yn gân, cerdd, araith, celf greadigol neu fideo dychmygus.

Bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn derbyn pecynnau i’w helpu i ddangos eu cefnogaeth i Gymru yr hydref hwn a bydd y dosbarth sy’n creu’r neges gefnogol fuddugol yn ennill tocynnau i wylio dynion a menywod Cymru yn wynebu’r Barbariaid yn Stadiwm Principality ar 30 Tachwedd.

Dywedodd Warburton, sy’n llysgennad Sefydliad Cymunedol Gleision Caerdydd, “Mae unrhyw un sy’n ymwneud â rygbi’n deall y buddion corfforol, meddyliol, cymdeithasol a diwylliannol y gall rygbi eu cynnig i bobl o bob oedran. Mae’n glir bod y rhaglen hon yn gallu cynnig y buddion hynny i filoedd o bobl newydd a hefyd eu helpu i gyflawni eu potensial y tu fewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth.”

“Roedd hi’n wych gweld y disgyblion yn perfformio’u negeseuon cefnogol i dîm Cymru. Rwy’n cofio’n glir gymaint mae’n ei olygu i gael negeseuon o Gymru yn dymuno pob lwc pan fyddwch chi’n bell o adref yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd, felly rwy’n gwybod gymaint y bydd y chwaraewyr yn gwerthfawrogi clywed gan ein cenhedlaeth nesaf o chwaraewyr, hyfforddwyr, cefnogwyr a gwirfoddolwyr yn eu cais am lwyddiant ar y llwyfan byd-eang.”

Mae mwy na 250 o ysgolion cynradd ledled Cymru eisoes wedi cofrestru gyda Dosbarth Digidol WRU (WRU Digital Classroom) sef cyfres o dasgau cyfoethog aml-haen wedi’u hysgrifennu gan athrawon ysgolion cynradd – yn Gymraeg yn gyntaf – gan bwysleisio pedwar diben cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru.*

Mae’r platfform dysgu ar-lein yn defnyddio adnoddau ysbrydoledig sy’n seiliedig ar rygbi i wneud y chwe maes dysgu* yn hwyl ac yn ddeniadol i bob disgybl. Yn rhan o’r adnodd, gall dosbarthiadau wylio clipiau fideo o chwaraewyr Cymru’n gofyn am help disgyblion gyda nifer o dasgau amrywiol fel dylunio crys rygbi newydd, creu cynllun bwyta’n iach a rheoli Stadiwm Principality am ddiwrnod.

Yn Ysgol Santes Tudful, cyflawnodd disgyblion blwyddyn 6 ystod o dasgau rhifedd ar thema Cwpan Rygbi’r Byd gan gynnwys tasg cymesuredd yn seiliedig ar faneri’r timau sy’n cystadlu. Defnyddiodd dosbarth blwyddyn 5 bêl rygbi i gyflwyno sesiwn cyfathrebu a lles disgyblion a gweithiodd dosbarth Blwyddyn 2 gyda’i gilydd y tu allan i’r dosbarth i lunio gemau ar thema rygbi, gan gynyddu gweithgaredd corfforol ar ffurf gynhwysol.

Dywedodd Lynne Jones, Dirprwy Bennaeth Ysgol Santes Tudful, “Fel rhan o dîm gwych o athrawon ac addysgwyr ar y prosiect hwn, un pwyslais oedd gennym ni – dod â rygbi Cymru i’r ystafell ddosbarth. Mae buddion rygbi’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r gêm, boed wrth chwarae’r gêm neu ei gwylio, ac roeddwn i eisiau darparu deunyddiau symbylol, diddorol a chyffrous ar gyfer yr ystafell ddosbarth a oedd yn dangos hynny. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar hanes, traddodiad, calon ac uniondeb, ynghyd â thwf rygbi cynhwysol, ar y cae a thu hwnt. Mae’r prosiect yn unigryw oherwydd ei fod wedi dechrau yn Gymraeg.

“Gwelsom ni fuddion mawr cyn gynted ag y gwnaethom ni dreialu rhai o’r tasgau cyfoethog y llynedd. Roedd plant a oedd yn credu eu bod yn ddidaro ynghylch rygbi Cymru wedi eu cyfareddu. Roedd plant, bechgyn yn bennaf, a oedd fel arfer yn swil ac yn cadw’n dawel yn ystod trafodaethau yn y dosbarth, yn cynnig syniadau ac yn dod yn arweinwyr. Roedd plant yn teimlo fel bod yna bwrpas i’w gwaith. Roedd merched yn dymuno ffurfio tîm rygbi i ferched yn yr ysgol ac roedd athrawon a oedd yn credu nad oedden nhw’n gallu addysgu am rygbi yn ei gwneud yn hawdd ac yn hyderus. Rydym erbyn hyn wedi dechrau gweithio ar y tasgau cyfoethog sy’n seiliedig ar Gwpan y Byd a hyd yn hyn mae’r plant i’w gweld yn mwynhau’r pwnc ac yn awyddus i ddilyn tîm Cymru ar eu taith.”

Mae un ysgol, Ysgol Bro Allta yn Ystrad Mynach, wedi neilltuo aelod o’i staff addysgu, Mr Morgan Griffiths, i ddarparu’r rhaglen yn amser llawn i’r ysgol gyfan.

Dywedodd y Pennaeth, Mrs Delyth Williams, “Ar ôl mynd i gynhadledd y penaethiaid ym mis Ebrill, roeddwn i’n gyffro i gyd i weld y cyfle i rygbi fod yn gêm sy’n cynnwys pawb. Mae’r rhaglen hon yn darparu cyfleoedd i ddatblygu’r chwe maes dysgu ar draws yr ysgol. Fe gynlluniwyd y rhaglen yn ofalus i ystyried Pedwar Egwyddor Craidd Dysgu ac fel ysgol rydym yn credu y byddwn yn elwa ar y penderfyniad i roi’r cyfle i Mr Griffiths ddefnyddio pob maes cwricwlwm a darparu profiadau cofiadwy i’n disgyblion.”

Dywedodd Bethan Davies, Swyddog Siarter y Gymraeg dros Gonsortiwm Addysg Canolbarth y De,

“Mae adnodd Undeb Rygbi Cymru yn gwireddu gweledigaeth Consortiwm Canolbarth y De o rymuso ysgolion i wella deilliannau i bob dysgwr ar draws y rhanbarth. Wrth weithio tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 mae’r adnodd euraidd yma, sy’n dod a rygbi i fewn i’r ystafell ddosbarth, yn mynd i arwain at falchder a hunaniaeth ein disgyblion ac felly sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith.”

Er mwyn cyfrannu at y gystadleuaeth i ennill tocynnau ar gyfer y ddwy gêm yn erbyn y Barbariaid, anfonwch eich negeseuon yn dymuno pob lwc i dosbarthdigidol@wru.wales. Mae telerau ac amodau y gystadleuaeth ar gael ar blatfform ar-lein Dosbarth Digidol WRU.
Anogir pob ysgol i rannu eu negeseuon yn dymuno pob lwc i’r tîm ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #PobLwcCymru a @WelshRugbyUnion

Gall ysgolion cynradd gofrestru o hyd i fod yn rhan o Ddosbarth Digidol WRU – ewch i cofrestru.dosbarthdigidolwru.co.uk

* Y Pedwar diben a’r chwe maes dysgu
Bwriad y Cwricwlwm i Gymru 2022 newydd arfaethedig yw helpu ein holl ddysgwr i fod
– yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes
– yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
– yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus i Gymru a’r byd.
– yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae pob diben yn fwy na phennawd; fe’i disgrifir hefyd yn nhermau nodweddion allweddol. Yn eu cyfanrwydd dylen nhw danategu’r holl ddysgu ac addysgu Cymru.
Chwe maes dysgu a phrofiad
Mae Cwricwlwm i Gymru 2022 yn trefnu dysgu o gwmpas chwe maes dysgu a phrofiad:
– Celfyddydau Mynegiannol
– Iechyd a Lles
– Y Dyniaethau
– Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
– Mathemateg a Rhifedd
– Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert