Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws URC 14/10/2020

Diweddariad Statws

“Rwy’n siŵr y bydd clybiau sy’n aelodau yn ymuno â mi wrth groesawu ein partner technegol newydd Macron i Rygbi Cymru ar y diwrnod y datgelwyd y cit rhyngwladol newydd yn ei holl ogoniant.

Mae crys newydd Cymru, gan Macron, yn gynrychiolaeth o draddodiad Rygbi Cymru ac rydym yn falch iawn o fod wedi gallu dechrau ein partneriaeth saith mlynedd newydd gyda Macron yn y ffordd benigamp yma.

Mae gan y gwneuthurwr dillad chwaraeon a chyflenwyr technegol yma o’r Eidal bedigri rygbi sydd wedi ei phrofi.
Clwb Rygbi Castell-nedd oedd y cyntaf ledled y byd iddynt gynhyrchu cit rygbi ar eu cyfer yn 2008. Nid yn unig ydynt eisoes yn cyflenwi dros 50 o glybiau o’r gêm gymunedol, gan gynnwys Merthyr, Bedwas a Llandaf, ond hefyd dwy o’n hochrau rhanbarthol, Gleision Caerdydd a’r Scarlets.

Mae’r cytundeb hefyd yn golygu fod Macron yn cymryd drosodd gweithrediad masnachol URC– yn union fel y mae wedi’i wneud i’r Gleision a’r Scarlets – yn rhedeg y siop ar-lein a’r siop yn Stadiwm Principality Caerdydd.

Ond yr elfen gymunedol unigryw i’r bartneriaeth newydd hon sy’n ein cyffroi i gyd fwyaf. Dros y chwe blynedd nesaf, gan ddechrau yn nhymor 2021/22, bydd gwerth £1 miliwn o git Macron ar gael, bob blwyddyn, i’r gêm gymunedol a hynny am ddim . Bydd rhagor o fanylion yn dilyn ynglŷn â’r mecanwaith y byddwn yn eu defnyddio i gael y cit i’r ardaloedd o fewn Rygbi Cymru sydd â’r angen mwyaf. Mae’r buddsoddiad uniongyrchol hwn yn ein gêm gymunedol yn amserol iawn ac yn cael ei groesawu, o ystyried y sefyllfa’r pandemig yr ydym ynddi ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol Grŵp URC ddechrau’r wythnos hon, ac mae’n disgrifio sut na fyddai wedi bod yn bosib rheoli effaith Covid-19 i lawr i ddiffyg ariannol o £5.3 miliwn heb ymdrechion y Bwrdd, Aelodau’r Cyngor, gweithwyr, ein partneriaid masnachol a’r teulu rygbi yn ehangach – ein clybiau sy’n aelodau.

Roeddem wedi disgwyl adennill costau ar gyfer y flwyddyn gyfredol ac roeddem ar y trywydd iawn i gyflawni hyn hyd at yr aflonyddwch busnes ac economaidd a achoswyd gan y pandemig. Mae ei effaith ar y Grŵp wedi golygu colled annisgwyl, ond gobeithiwn y bydd modd cynnal yr elw yn y cyfamser er mwyn gallu gwrthbwyso’r golled hon a dychwelyd asedau net i lefelau blaenorol.

Mae gan y Grŵp yma fusnes llewyrchus, gyda mantolen gadarnhaol a llif arian wrth gefn. Cymerwyd camau ar unwaith i leihau costau a diogelu ein sefyllfa ariannol oherwydd y pandemig.

Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i fesur effaith lawn pandemig Covid–19 ar berfformiad ariannol yn y dyfodol a bydd y Grŵp yn parhau i fonitro’r sefyllfa fel mae pethau yn datblygu.

Yr ydym i gyd wrth ein bodd y bydd rygbi rhyngwladol yn dychwelyd yr hydref hwn, ond mae gan y posibilrwydd o chwarae heb wylwyr ddylanwad amlwg a negyddol uniongyrchol ar ein gallu i gynhyrchu refeniw ac, wrth gwrs, hoffwn fod mewn sefyllfa lle gall y gêm gyfan ddychwelyd heb gyfyngiadau.

Yr ydym wedi sefydlu cynlluniau wrth gefn, er enghraifft ar gyfer y posibilrwydd y bydd yn rhaid chwarae gemau cartref ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2021 o flaen torfeydd rhan-gapasiti, oherwydd ymbellhau cymdeithasol, ond bydd dim torfeydd yn cyflwyno heriau difrifol.

Mae gennym gyfleusterau bancio digon cadarn ond nid oes amheuaeth y byddwn yn teimlo effaith lawn y pandemig yn y flwyddyn a ddaw i ben yn 2021.

Credaf y gallwn ni i gyd fod yn falch o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yma ac, o dan yr amgylchiadau presennol, gellir gweld yr ochr bositif i ddim ond colled o £5.3 miliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2020. Er hyn, mae llawer o waith caled o’n blaenau, yn union fel sydd i bawb yn y diwydiant chwaraeon, hamdden ac adloniant wrth inni barhau i lywio drwy’r ansicrwydd sy’n deillio o’r pandemig presennol.”

Cadwch yn ddiogel,
Steve Phillips
Prif Swyddog Gweithredol URC

Adroddiad Blynyddol: Lleihau’r golled i £5.3 miliwn ond ‘heriau difrifol o’n blaenau’

Gwelwyd trosiant o dros £79.9 miliwn gan Grŵp URC yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2020 ac roedd wedi gallu lleihau’r golled i £5.3 miliwn er gwaethaf pandemig Covid-19.
Mae Adroddiad Blynyddol y Grŵp, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn datgelu effaith lawn canslo rownd derfynol Chwe Gwlad 2020 yn erbyn yr Alban – oherwydd yr argyfwng iechyd – ac yn disgrifio sut mae tua 78% o incwm yn deillio o gynnal gemau rhyngwladol tîm rygbi Cymru a’r gweithgareddau masnachol sy’n gysylltiedig ag ef.
Roedd gohirio gêm yr Alban yn unig yn gyfystyr â diffyg ariannol o tua £8.1 miliwn. Cafodd colledion y Grŵp ei ddylanwadu hefyd gan absenoldeb digwyddiadau cynlluniedig eraill fel Dydd y Farn a chyngerdd Rammstein.
Ond oherwydd ymateb cyflym i’r argyfwng gwelwyd gostyngiad yng nghostau’r Grŵp.
Cafodd unrhyw gyfalaf nad oedd yn hanfodol ei rewi a’i leihau. Bu hefyd gostyngiad yng nghyflogau gweithwyr a gwnaed defnydd o Gynllun Cadw Swyddi’r Llywodraeth a lansiwyd o ganlyniad i’r Coronafeirws.
Helpodd hyn, ynghyd â £4.9 miliwn o incwm, a ddarparwyd gan gyfran y Grŵp o’u buddsoddiad Bartneriaid Cyfalaf CVC yng nghystadleuaeth y PRO14, i liniaru effaith y pandemig.
Ochr yn ochr â’r gostyngiad naturiol mewn costau sy’n deillio o gwtogi gweithgareddau rygbi yn gynnar, mae’r mesurau wedi gostwng costau i tua £1.9 miliwn yn y flwyddyn yn diweddu 2020 a disgwylir iddynt leihau costau ymhellach hyd at tua £2.5 miliwn yn y flwyddyn yn diweddu 2021.

Roedd camau pendant yn golygu bod y Grŵp yn gallu parhau i ail-fuddsoddi mewn clybiau cymunedol, gan gynnwys sicrhau fod tua £1.0 miliwn ar gael fel cronfeydd brys yn gymorth ar gyfer ailadeiladu ar ôl Storm Dennis ac addasu yn ôl yr angen oherwydd Covid-19.
Cynyddodd ail-fuddsoddiad y Grŵp mewn rygbi cymunedol yn ystod y flwyddyn i £4.6 miliwn (o £4.5 miliwn yn 2019) ac, er bod y buddsoddiad cyffredinol yn y gêm wedi gostwng i £47.5 miliwn (2019: £49.6 miliwn), mae hyn yn bennaf oherwydd diwedd cynnar annisgwyl i’r tymor rygbi.
Mwy yma:
https://www.wru.wales/2020/10/annual-report-ye20-losses-limited-to-5-3-but-severe-challenges-ahead
Lawrlwytho Adroddiad Blynyddol y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2020 yma:
Noder: Mae Adroddiad Blynyddol 2020 yn y broses o gael ei gyfieithu. Byddwn yn ei gyhoeddi pan y bydd wedi ei gwblhau.

Crys newydd Cymru yn cael ei ddatgelu heddiw

Datgelwyd cit newydd Cymru, gan y gwneuthurwyr nwyddau chwaraeon Macron, ar yr un pryd yn ystafelloedd newid preifat pencadlys y tîm cenedlaethol yn Hensol a chanolfan hyfforddi bresennol sgwad Merched Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y cit yn cael ei wisgo am y tro cyntaf yn y gêm yn erbyn Ffrainc ym Mharis ymhen deng niwrnod.
Ymunodd capten Merched Cymru Siwan Lillicrap a Gwen Crabb â Jonathan Davies a Ross Moriarty i ddatgelu’r cit yn erbyn cefndir o grysau o’r gêm gymunedol yng Nghymru sydd hefyd wedi’u cynhyrchu gan bartner technegol swyddogol newydd URC.
Mae lansio’r cit newydd wedi cymryd teimlad ôl-Covid, gyda’r ddwy sgwad yn byw mewn ‘swigod’ priodol ar hyn o bryd ac felly mae agwedd gymunedol y bartneriaeth – £1 miliwn o git am ddim i’w gyflenwi bob blwyddyn i glybiau rygbi Cymru dros chwe blynedd – wedi’i hadlewyrchu gan yr arddangosfa o grysau rygbi cymunedol presennol gan Macron.
Y coch tywyll traddodiadol a ddefnyddiwyd ar gyfer y crys ‘cartref’ newydd sydd wedi ei wneud yn bwrpasol gan Macron ar gyfer tîm Cymru. Mae ganddo goler gwyn siâp ‘v’ traddodiadol â trim gwyrdd, gyda’r un manylion i’w gweld ar y llawes.
Mae nifer o nodweddion unigryw i’r crys, yn cynnwys y ddraig goch wedi ei argraffu ar draws cefn isaf y crys, patrwm wedi ei argraffu yn gorchuddio’r llawes – gan drawsnewid siâp hecsagonol logo tair pluen URC yn groen ‘cen y ddraig’ – a’r gair ANRHYDEDD ar gefn y coler.
Mae crysau newydd Cymru, ‘cartref’ (COCH) ac ‘i ffwrdd’ (DU), nawr ar werth gan URC ar-lein (store.wru.co.uk) ac yn ei siop yng Nghaerdydd, lle mae prisiau cystadleuol wrth gymharu â chrysau eraill Chwe Gwlad Guinness, gyda’r top replica yn costio £70 a’r crys chwarae bwrpasol ar werth am £96.
LINK:

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol URC

Fel y gwŷr yr aelodau, cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol URC rhithwir eleni ar Ddydd Mercher 28 Hydref 2020 gan ddechrau am 7:00pm. Yn anffodus ni fydd cynrychiolwyr aelodau yn gallu mynychu’r cyfarfod hwn yn bersonol. Noder, na fydd unrhyw gynrychiolydd o aelodau neu ddirprwy sy’n ceisio mynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn bersonol yn cael eu derbyn.
Bydd uchafswm o ddau (2) cynrychiolydd enwebedig fesul aelod yn cael manylion mewngofnodi unigol i fynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol rhithwir. Er mwyn sicrhau y gellir dosbarthu’r manylion mewngofnodi perthnasol i gynrychiolwyr enwebedig eich aelod cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, rhowch fanylion cyswllt (enw ac e-bost) i ni ar gyfer pob un o gynrychiolwyr enwebedig eich aelod, drwy e-bost at agm@wru.cymrucyn gynted â phosib.
O ystyried y modd y cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni, rydym hefyd yn annog pob aelod i gyflwyno cwestiynau ac unrhyw sylwadau perthnasol, hefyd drwy e-bost i agm@wru.cymru erbyn 5pm Ddydd Gwener 23 Hydref 2020 fan bellaf, fel y gellir derbyn y rhain o flaen llaw ac ymateb iddynt yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, o gofio na fydd rhyngweithio ‘byw’ oherwydd fformat y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni.

Rhannu:

Pivac yn enwi saith chwaraewr heb eu capio yn sgwad yr Hydref

Cyhoeddodd y Prif Hyfforddwr Wayne Pivac ei garfan 38 dyn ar gyfer yr Hydref yr wythnos diwethaf yn cynnwys saith chwaraewr heb eu capio.
Cafodd dau flaenwr heb eu capio e’u henwi fel y bachwr Sam Parry ac yn y rheng ôl Josh Macleod, tra bod pump o’r olwyr heb eu capio yn cynnwys: Kieran Hardy, Callum Sheedy, Johnny Williams, Louis Rees-Zammit ac Ioan Lloyd.
Bydd aelodau sgwad Cwpan y Byd Tomas Francis, Rhys Patchell a Jonathan Davies a fethodd ymgyrch y Chwe Gwlad Guinness yn gynharach eleni, yn dychwelyd o anaf ac yn cael eu cynnwys yn y garfan.
Wrth siarad am ddychwelyd i rygbi rhyngwladol a’i gynlluniau ar gyfer yr ymgyrchoedd sydd o’n blaenau dywedodd Pivac:
“Mae’r ymgyrch hon yn hynod bwysig gan edrych i’r dyfodol yn ogystal â hirdymor at Gwpan y Byd yn 2023.
“Rydym yn dechrau’r ymgyrch gyda gêm yn erbyn Ffrainc a fydd yn helpu i’n paratoi ar gyfer ein gêm yn erbyn yr Alban a ail-drefnwyd oherwydd gohirio gemau olaf y Chwe Gwlad yn gynharach yn y flwyddyn. Mi fydd yn gêm bwysig ac yn hanfodol ein bod yn perfformio yn dda.
“Yna rydyn ni’n mynd i Gwpan Cenhedloedd yr Hydref sy’n bencampwriaeth gyffrous ac yn gyfle gwych i ni. Mae’n gyfle i ni barhau i ddatblygu ein gêm, rhoi cyfleoedd i chwaraewyr a’u profi ar y lefel hon. Mae’n baratoad delfrydol ar gyfer Chwe Gwlad hollbwysig yn 2021 a fydd yn dilyn yn fuan wedi Cwpan y Cenhedloedd.”
Stori lawn:


Codi’r gwaharddiad yn Abertawe a Chaerdydd

Codwyd y gwaharddiad dros dro a osodwyd ar rygbi cymunedol yn ardal Abertawe
a Chaerdydd ar ôl adolygu’r sefyllfa ar y cyd â’r clybiau o fewn yr Awdurdodau Lleol perthnasol, mwy na phythefnos ar ôl i’r clô lleol ddod i rym.
Ynghyd â chlybiau a thimau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Casnewydd, Merthyr, Pen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Gwent lle mae’r ataliadau rygbi dros dro eisoes wedi’u codi, gall timau o bob oed yn Awdurdod
au Lleol Abertawe a Chaerdydd ddychwelyd i hyfforddi o fewn y canllawiau dychwelyd i rygbi presennol os teimlant y gallant ddarparu amgylchedd diogel i chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr.

Mae’n bwysig pwysleisio, yn unol â rheoliadau newydd sy’n ymwneud â theithio i blant fynychu gweithgareddau chwaraeon, bod cyfyngiadau lleol Llywodraeth Cymru yn dal i atal chwaraewyr, rhieni a hyfforddwyr rhag mynd i mewn neu adael ardaloedd lle mae clô lleol mewn grym er mwyn mynychu sesiynau hyfforddi.
Atgoffwyd chwaraewyr a rhieni hefyd fod yn rhaid iddynt gwblhau’r gwiriwr symptomau ar ‘Game Locker’ ar wefan URC cyn pob sesiwn hyfforddi.
https://community.wru.wales/2020/10/13/return-to-rugby-for-swansea-clubs-reminder-of-travel-restrictions/


Mwy am y pwnc hwn:
Caerffili yn dychwelyd :
https://community.wru.wales/2020/09/29/statement-on-community-rugby-as-caerphilly
Codwyd gwaharddiad dros dro Rhondda Cynon Taf: https://community.wru.wales/2020/10/02/63331/
Gweithgareddau rygbi cymunedol yn ail ddechrau yng Nghasnewydd, Merthyr, Pen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Gwent:
https://community.wru.wales/2020/10/07/return-of-community-rugby-activities-for-newport-merthyr-and-bridgend/

Addysg Minecraft

Ar Ddydd Llun 5 Hydref, ymunodd URC â Minecraft: Education Edition a Hwb, llwyfan digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu ac addysgu, er mwyn lansio cystadleuaeth ‘Clwb y Dyfodol’.
Mae’r gystadleuaeth unigryw hon yn rhan o bartneriaeth gyffrous, y gyntaf o’i fath, i ddefnyddio rygbi a’r llwyfan hapchwarae digidol – Minecraft: Education Edition, i wella dysgu ac ymgysylltu yn yr ystafell ddosbarth yn unol â chwricwlwm Cymru.
Bydd cyfle i’r dysgwyr ddylunio ac adeiladu eu clwb rhithwir eu hunain o’r dyfodol ar y llwyfan hapchwarae gan ddechrau gyda thaith rithwir o gartref eiconig Rygbi Cymru, Stadiwm y Principality! Mae’r wybodaeth a gasglwyd o’r daith o amgylch y stadiwm a’r tasgau dilynol a gyflwynir yn yr ystafell ddosbarth wedi’u hanelu at herio’r hyn y gallai ‘Clwb y Dyfodol’ pob dysgwr ei gynnwys. Gall y meysydd dan sylw gynnwys cynhwysiant ac amrywiaeth, cynlluniau hyfforddi tîm a gofynion maethol chwaraewyr.
Anogir dysgwyr i ystyried eu cymuned leol, gan ymchwilio ac archwilio’r anghenion yn eu hardaloedd lleol er mwyn dechrau datblygu cynllun ar gyfer ‘clwb rygbi’r dyfodol’. Mae clybiau rygbi yn aml yn ganolog i gymunedau lleol, felly bydd dysgwyr yn dysgu am werthoedd rygbi a sut y gellir defnyddio hyn i roi profiad cadarnhaol i bawb a chyfrannu at iechyd a lles hirdymor cymdeithas yng Nghymru. O’r cynllun, bydd y dysgwyr wedyn yn dechrau dod â’u gweledigaeth eu hunain ar gyfer clwb o’r dyfodol yn fyw o fewn Minecraft: Education Edition.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob ysgol ledled Cymru, rhaid iddynt gofrestru drwy Dîm penodedig cystadleuaeth Microsoft:
https://hwb.gov.wales/news/article/dfa48424-898c-4522-9b49-23062fc441e1

Newyddion Rygbi

Anrhydeddu Arwyr Cymru

Anrhydeddwyd Capten Cymru i Alun Wyn Jones, cyn brîf hyfforddwr Cymru Warren Gatland a chyn asgellwr Cymru Gareth Thomas yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Gwobrwywyd OBE i Jones, tra dyfarnwyd CBE i Gatland a Thomas.
Roedd Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines i fod i gael ei chyhoeddi ym mis Mehefin, ond cafodd ei ohirio i alluogi enwebiadau i bobl a chwaraeodd rôl hanfodol yn ystod misoedd cyntaf argyfwng Covid-19.
Dywedodd Jones: “Mae’n fraint enfawr derbyn anrhydedd o’r fath.
“I ddechrau nid oeddwn yn siŵr a oedd yn addas i mi dderbyn gwobr o’r fath yn ystod amseroedd anodd fel hyn, pan fydd cynifer o bobl yn gwneud cymaint o les i’r gymuned ac felly yn fwy teilwng, ond rwy’n gweld hyn fel cydnabyddiaeth i’r holl bobl sydd wedi fy helpu drwy gydol fy ngyrfa.
“Mae’n gydnabyddiaeth i bawb sydd wedi fy nghefnogi, o’r gêm o rygbi ar lawr gwlad i rygbi ar lefel broffesiynol a rhyngwladol. Hefyd, fy nheulu, y rhai nad ydynt yma bellach a’r rhai sy’n dal yma am eu holl gefnogaeth yn yr hyn rwyf wedi’i wneud a’r hyn rwyf am barhau i’w wneud.”
Ychwanegodd Gatland: “Mae’n anrhydedd mawr i mi dderbyn CBE. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth i bawb sy’n ymwneud â rygbi yng Nghymru a’r cyfan a gyflawnwyd gennym gyda’n gilydd yn ystod fy amser fel prif hyfforddwr,” meddai Gatland.
“Rwy’n teimlo’n ffodus iawn o allu gwneud rhywbeth rwy’n ei garu bob dydd a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi yn ystod fy ngyrfa.”
CLICIWCH YMA:

SAM YW’R DYN
Ymunodd Sam Davies, maswr y Dreigiau, a rhestr enwog o chwaraewyr rhanbarthol o Gymru ym muddugoliaeth y Dreigiau yn erbyn Zebre yn Rodney Parade, fel y seithfed chwaraewr yn unig i gyrraedd 1,000 o bwyntiau.
Wrth drosi ei gic cosb gyntaf ym muddugoliaeth 26-18 y Dreigiau, daeth yn gyfartal â Ceri Sweeney ar 1,000 o bwyntiau ac yna aeth ei ail gic cosb ag ef o fewn 43 pwynt i Stephen Jones. Llwyddodd hefyd i sgorio dros 750 pwynt yn y Guinness PRO14 ar y noson.
Gallai 76 pwynt arall y tymor hwn ei weld yn symud i’r trydydd safle. Er hyn mae dal yng nghysgod Dan Biggar, ac wedi dilyn ei ôl traed yn ystod ei ddyddiau cynnar yn y Gweilch. Bu Biggar, yn ei grys Cymru Rhif 10, yn llwyddiannus yn cyrraedd 2,203 o bwyntiau yn ystod y 221 o gemau a chwaraeodd ar gyfer ei ranbarth yn Abertawe.
Mae Biggar wedi parhau i ychwanegu at ei bwyntiau ers symud i Saints Northampton ac mae wedi sgorio 318 arall mewn 38 ymddangosiad yn uwch gynghrair Lloegr, er ar gyfradd ychydig yn llai gyda chyfartaledd o 8.37 pwynt ym mhob gêm.
Mae hefyd yn ymddangos yn y 10 uchaf o sgorwyr rygbi’r byd ers i’r rhanbarthau ddechrau ar 3 Medi 2003. Deiliad presennol nifer uchaf o bwyntiau yn Rygbi’r Byd yw Dan Carter, yn arwain y ffordd gyda mwy na 4,000 o bwyntiau.
Mwy:
https://www.wru.wales/2020/10/davies-joins-select-band-to-reach-1000-regional-points/

SÊR CYMRU YN CREU ARGRAFF YN ALLIANZ PREMIER 15
Daeth rownd agoriadol tymor Allianz Premier 15 i ben mewn steil gyda digon o gynrychiolaeth Gymreig yn y pedair gêm a chwaraewyd.
Rhoddodd Carys Phillips Worcester Warriors 25-24 o flaen y Saracens ym Mharc Allianz ond gwelodd rali hwyr Saracens yn hawlio buddugoliaeth 34-25, gem a fu yn uchafbwynt i’r diwrnod.
Roedd Hannah Jones, a oedd yn chwarae cefnwr yn wahanol i’w safle arferol ar y cae rygbi, yn llwyddo i ychwanegu at daflen sgorio Gloucester-Hartpury, wrth iddynt ddechrau eu hymgyrch gyda buddugoliaeth 34-14 dros dîm newydd Exeter Chiefs.
Gohiriwyd y gwrthdaro rhwng Bears Bryste a’r Wasps oherwydd bod chwaraewr o Fryste wedi cael prawf positif COVID-19.
Y stori yn llawn: https://www.wru.wales/2020/10/64039/

JERSEY YN ADDAS AR GYFER TRI O GYMRU
Mae clwb Ynysoedd y Sianel, Jersey Reds, yn gobeithio ychwanegu at eu rhestr o enwogion ryngwladol ar ôl i Wayne Pivac enwi tri chwaraewr yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r hydref. Chwaraewyr sydd eisoes wedi chwarae yn ail haen rygbi Lloegr gyda’r Reds.
Cadwodd Will Rowlands, chwaraewr ail reng y Wasps, ei le yn sgwad Cymru a bydd yn gobeithio ychwanegu at y cap a enillodd ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Treuliodd Rowlands bedwar mis ar fenthyg gyda’r Reds yn ystod tymor 2015/16.
Ymddangosodd maswr Bristol Bears Callum Sheedy yn rownd derfynol Prydain ac Iwerddon 2017 yn Cork fel chwaraewr i Jersey Reds. Symudodd i Jersey ar fenthyg o Fryste ym mis Ionawr 2017, yn 21 oed, a threuliodd weddill y tymor gyda’r Reds, gan wneud 12 ymddangosiad.
Symudodd mewnwr Scarlets Kieran Hardy i’r Ynys yn 20 oed yn haf 2016 o’i Gymru frodorol ac roedd yn gallu datblygu ei gêm dan hyfforddiant Cyfarwyddwr Rygbi Jersey, cyn-fewnwr y Wasps, Harvey Biljon.
Chwaraeodd y mewnwr ifanc dros 50 o gemau ym Mhencampwriaeth Greene King IPA a Chwpan Prydain ac Iwerddon i’r Reds, gan helpu ei glwb i hanner uchaf tabl y cynghrair a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Prydain ac Iwerddon.
Ers dychwelyd i Orllewin Cymru yn 2018, mae Hardy wedi dod yn rhan gynyddol bwysig o garfan y Scarlets, gan chwarae’n rheolaidd yn y Guinness PRO14 ac wedi parhau i lwyddo er mwyn cystadlu ar lefel genedlaethol.

Mwy:

GRIFFITHS YN ANELU I DDYCHWELYD
Efallai nad yw’r Dreigiau wedi dal eu gafael ar Will Griffiths, ond nid yw cyn-fachgen Dan 20 Cymru wedi rhoi’r gorau i fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol.
Mae Griffiths, a chwaraeodd dros Lynebwy yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, bellach yn gweithio ar atgyweirio ceir ac wedi arwyddo dros Gasnewydd, gan wrthod rhoi’r gorau i’w freuddwyd rygbi.
Credai cyn brîf hyfforddwr y Dreigiau Bernard Jackman fod Griffiths yn gyfartal ag Elliot Dee yng Nghymru pan oedd wrth y llyw yn Rodney Parade, ond mae’r ddau chwaraewr bellach mewn cyfnodau gwahanol yn eu gyrfaoedd.
Mae Dee yn chwarae yn rheolaidd yn rhanbarthol, mae ganddo 29 o gapiau Prawf, ac mae wedi bod i Gwpan y Byd tra bod Griffiths bellach wedi gadael rygbi proffesiynol ac yn gobeithio chwarae i Gasnewydd yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor hwn.
“Roedd cynnig i aros a hyfforddi gyda’r tîm hŷn i weld a allwn i gael contract gyda’r Dreigiau am chwe mis, ond penderfynais beidio â chymryd y risg honno” meddai Griffiths.
“Digwyddodd hyn yn ystod ddechrau’r cloi, ac roeddwn i’n meddwl y dylwn i gymryd swydd, bod yn ddiogel, a chwarae i Gasnewydd. O fewn dwy flynedd os byddaf yn chwarae’n dda dros Gasnewydd gobeithio y gallaf ddychwelyd i’r system.
“Roedd yn anodd, yn anodd iawn, ac roedd dyddiau pan oeddwn yn meddwl tybed beth ddylwn ei wneud, ond dydw i ddim yn rhoi’r gorau iddi – ddim o gwbl. Mae’n dal yn un o fy ngobeithio, ond nid yw’n ddiwedd y byd os nad ydw i’n ei gael.
“Fel blaenwr y rheng flaen, mae’n cymryd mwy o amser i ddatblygu felly mae gen i amser o hyd.”
Cyswllt:

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert