Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws URC 18/11/2020

Diweddariad Statws

“Mae’n bleser mawr gennyf ysgrifennu atoch heddiw fel cadeirydd Undeb Rygbi Cymru.

Rwy’n falch iawn o fod yn y sefyllfa hon. Mae cynifer o bobl wedi fy annog ac wedi dangos ffydd ynof, yn dystiolaeth fod gan bobl hyder ynof, ac felly wedi fy arwain i wneud fy nghais am y gadeiryddiaeth a bwriadaf wobrwyo’r ffydd hwnnw.
Gobeithiaf gyfarfod â chymaint o glybiau sy’n aelodau ag sy’n bosibl yn ystod fy nghyfnod. Mae sawl un ohonoch yr wyf eisoes yn eu hadnabod, ond i’r rheini ohonoch nad wyf wedi cyfarfod eto, gadewch imi gyflwyno fy hun yn ffurfiol.

Rhannu:

Clwb Rygbi Bargoed yn sicr yw fy nghartref. Efallai fy mod wedi gadael y cwm droeon dros y blynyddoedd ond nid yw’r cwm erioed wedi fy ngadael i. Ar ôl i’m dyddiau chwarae ddod i ben, gwasanaethais am 21 mlynedd fel ysgrifennydd ac rwyf bellach ag aelodaeth oes yn y clwb.

Dros y bum mlynedd diwethaf ar fy nhaith i ymuno â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru rwyf wedi mwynhau amrywiaeth o brofiadau yn ymwneud â Rygbi Cymru yn fy ardal leol. Fy agwedd ers y diwrnod cyntaf ar y Bwrdd fu i gofleidio’r fraint ac, yn syml iawn, rwyf wedi ymdrin â chymaint â phosibl yn ystod fy amser hyd yma. Ar hyd y ffordd, gofynnwyd i mi fod yn is-gadeirydd i’r pwyllgor cymunedol ac yn is-gadeirydd i’r is-bwyllgor perfformiad ac, ar ôl rhywfaint o newid llywodraethu, roeddwn wrth fy modd o gael fy newis i gadeirio’r Bwrdd Gemau Cymunedol.

Rwy’n ystyried y Bwrdd Gemau Cymunedol fel teulu, ac rwy’n falch iawn o’r gwaith rydym wedi’i wneud a’n cyflawniadau hyd yma. Nid ydym bob amser wedi cytuno ar y ffordd ymlaen a bu rhai dadleuon buddiol ynglŷn â llawer o bynciau, ond rydym bob amser wedi symud ymlaen a byddwn yn parhau i fynd i’r afael â’r heriau sydd o’n blaenau mewn ffordd flaengar.
Nid yw fy arddull yn unbenaethol, rwy’n wrandäwr mawr ac rwyf wirioneddol yn poeni a gofalu am bobl.

Hoffaf weithio ar y cyd ag eraill, a chredaf mai dim ond ar ôl lleisio a gwrando ar amrywiaeth o safbwyntiau y gwneir y penderfyniadau gorau. Rwyf wedi bod mewn swyddi drwy gydol fy mywyd lle rwyf wedi gallu arsylwi dulliau arwain, ac rwy’n un â ddysgai’n gyson gan eraill. Rwy’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd a bwriadaf ymgymryd â nodweddion gorau’r sawl o’m cwmpas a’r rhai sydd wedi mynd o’m blaen.

Ar y pwnc hwn rwyf bob amser wedi gwerthfawrogi cryfder perthynas ag unigolion. Rwy’n hynod o angerddol am y perthnasau yr wyf eisoes wedi’i sefydlu yn y gêm, ac rwy’n siarad â chymaint o bobl â phosibl ar bob cyfle i ddarganfod sut maen nhw’n gweithio.

Credaf oherwydd yr elfen bersonol yma yr wyf wedi fy ngwobrwyo â ffydd i mi gyflawni’r rôl fel cadeirydd. Rwyf yma am un rheswm – i wneud fy ngorau dros Rygbi Cymru – ac rwy’n credu fod Steve (Phillips) a’i staff gweithredol a’r un credoau.

Rwy’n gwybod y bydd fy mherthynas â’m Prif Swyddog Gweithredol yn allweddol i’n llwyddiant a’n cynnydd a byddaf yn cymryd hyn o ddifrif. Fy rôl i yw herio a sicrhau bod ein gweithrediaeth yn atebol am strategaeth. Mae gennym eisoes berthynas waith cryf, ac mae gennyf berthynas yr un mor gryf â gwahanol aelodau ein gweithrediaeth sydd, heb os, yn ymfalchïo’n fawr yn yr hyn y maent yn ei wneud ac yn ei chyflawni.

Credaf fod gan bob un ohonom y cyfrifoldeb i wneud y peth iawn ar gyfer rygbi a’r cymunedau Cymraeg yr ydym yn gweithredu ynddynt. Gwyddom beth y gallwn ei wneud, ond dylem hefyd ofyn i ni’n hunain beth y dylem ei wneud?
Yr wyf yn falch o’r sylwadau a wnaethom fel URC ar ddechrau’r daith hon drwy’r pandemig.

Aethom i’r afael â dros 300 o’n clybiau sy’n aelodau a’u hysbysu y byddem yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnal pawb drwy effeithiau’r pandemig. Mae hon yn dasg anodd, ond credaf yn gryf fod gennym y sgiliau cywir er mwyn llwyddo.

Mae ein clybiau sy’n aelodau, sydd wrth galon ein gêm, yn ymdrechu i oroesi eu hunain. Maent hefyd yn gwybod bod angen i’r gêm broffesiynol fod yn llwyddiant er mwyn i ni wella’r siawns o gynaliadwyedd hirdymor i bawb. Yr ydym i gyd yn hyn gyda’n gilydd ac, yn bwysicaf oll, mae’r hunanymwybyddiaeth yno drwy gydol ein gêm.

Robert Butcher
Cadeirydd URC

Rob Butcher

Newly elected WRU Chairman Robert Butcher at his local rugby club Bargoed RFC.

Cwrdd â Rob Butcher:
Mae’r cadeirydd newydd Robert Butcher wedi myfyrio ar ei daith o Fargoed i’r ystafell fwrdd wrth iddo gymryd ei le fel cadeirydd Undeb Rygbi Cymru.
Mewn cyfweliad â WRU TV, mae’n sôn am y foment enillodd y gadeiryddiaeth ac mae’n esbonio pam mai, am y tro, dim ond am flwyddyn y bydd yn y rôl.
Ar ôl 21 mlynedd fel ysgrifennydd Clwb Rygbi Bargoed, a chael aelodaeth oes, ymunodd Butcher â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru yn 2015. Y fuan wedi hynny ymunodd â’r pwyllgor rygbi cymunedol a’r is-bwyllgor perfformiad fel is-gadeirydd, yn ogystal ag ymgymryd ag amrywiaeth o rolau eraill gan gynnwys lle ar bwyllgor Rygbi’r Byd.
Pan foderneiddiodd Undeb Rygbi Cymru ei strwythur llywodraethu yn 2019, fe’i dewiswyd i gadeirio’r Bwrdd Gemau Cymunedol ac o ganlyniad mae’n mynychu sesiynau’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol yn rheolaidd.
Er bod ei broffil cyhoeddus y tu allan i goridorau pŵer URC wedi bod yn brin hyd yma, daeth i’r amlwg yn gyflym fel un o’r rhedwyr blaen ar ôl i swydd y cadeirydd ddod yn wag. Mae’n rhoi hyn i lawr i’r amser y mae wedi’i fuddsoddi mewn sefydlu perthynas gref drwy gydol y gêm:
“Mae angen i ni fod yn ffit ac yn ystwyth fel Bwrdd a bod yn barod i symud wrth i amodau newid,” meddai Butcher, gan esbonio ei ymagwedd at y gadeiryddiaeth sydd wedi apelio cymaint at ei gefnogwyr.
“I mi, mae newid yn gontinwwm. Un enghraifft dda o hyn yw’r penderfyniad diweddar a wnaeth y Bwrdd ar ei gadeirydd. Cyn imi gael fy mhleidleisio i’r rôl, trafodwyd y posibilrwydd y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn eistedd am dair blynedd, dwy flynedd neu flwyddyn.
“Daeth y Bwrdd i’r casgliad, ar adeg o newid mawr yn y gêm, y byddai tymor o flwyddyn yn fwy priodol y tro hwn, gyda’r bwriad o ailedrych ar y penderfyniad ymhen 12 mis.
“Rwy’n credu bod hon yn enghraifft wych o’r Bwrdd yn addasu i’r amgylchiadau a gyflwynir iddo.
“Mae’n benderfyniad yr wyf yn ei gefnogi yn llwyr, penderfyniad nad yw’n ymwneud â mi, ond am beth yw’r gorau i’r undeb.”
Mwy yma:

Cofrestrwch gydag AmazonSmile i helpu Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, sy’n helpu chwaraewyr rygbi a anafwyd a’u teuluoedd, wedi cofrestru fel elusen a fydd yn cael ei chefnogi o dan gynllun AmazonSmile.
Os credwch ei bod yn briodol, enwebwch yr Ymddiriedolaeth fel elusen a fydd yn elwa pan fyddwch yn prynu o Amazon.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru ym 1972 gan gyn-arlywydd URC Syr Tasker Watkins VC i helpu chwaraewyr sydd wedi cael eu hanafu’n ddifrifol wrth chwarae rygbi.
Yn y blynyddoedd ers ei greu, mae cannoedd o chwaraewyr, yn ddynion a merched – o rygbi llawr gwlad i’r gêm elît – wedi cael eu cefnogi gan yr Ymddiriedolaeth. Mae rhai’n cael cymorth ar sail tymor byr lle maent, yn ffodus, wedi cael effaith bositif ar eu gwellhad. Ond yn anffodus, mae eraill wedi dioddef anafiadau sy’n newid bywyd sydd wedi cael effaith ddinistriol nid yn unig ar eu bywydau ond ar eu teuluoedd. Ar hyn o bryd mae’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi nifer o ddynion a merched, ar sail hirdymor, sydd wedi cael eu hanafu’n ddifrifol wrth chwarae rygbi. Mae pob un wedi dioddef anafiadau trychinebus, sawl un mor ddifrifol fel na fyddant byth yn cerdded eto, yn colli defnydd eu breichiau ac/neu goesau, gyda rhai yn gorfod cael breichiau neu goesau wedi eu torri i ffwrdd o ganlyniad uniongyrchol i’w hanafiadau.
Er mwyn cyfrannu at Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru bob tro y byddwch yn siopa ar-lein, cofrestrwch gydag AmazonSmile, manylion yma:
Os ydych chi’n prynu nwyddau yn ystod Wythnos Amazon Black Friday rhwng 20 a 30 Tachwedd, gallwch wneud mwy na darganfod bargeinion gwych:
Siopwch yn smile.amazon.co.uk/ch/502079-0 neu drwy droi AmazonSmile ymlaen yn eich ap Siopa Amazon, a bydd AmazonSmile yn cyfrannu canran o’r gwerthiant i Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, am ddim cost ychwanegol.

Abrahams a Taylor i hyfforddi Merched Cymru
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi cyn-hyfforddwr cynorthwyol tîm 7 bob ochr Merched UDA Warren Abrahams fel prif hyfforddwr llawn amser Merched Cymru. Hefyd penodwyd Rachel Taylor fel Hyfforddwr Sgiliau Cenedlaethol llawn amser sydd â 67 cap ac yn gyn capten i dîm Merched Cymru ac yn hyfforddwr academi Gogledd Cymru.
Byddant yn dechrau yn eu swyddi ar unwaith er mwyn gallu paratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesaf yn Seland Newydd.
Ganwyd Abrahams yn Ne Affrica. Roedd yn rhan o dîm hyfforddi Saith bob ochr Dynion Lloegr am bedair blynedd tra hefyd yn cyflawni rolau fel hyfforddwr academi Harlequins a phennaeth uwch gynghrair 7 bob ochr cyn anelu am America. Mae hefyd yn fentor ar gyfer hyfforddwyr ar gyfer RFU ac yn arwain hyfforddwyr drwy eu cymwysterau hyfforddi. Bydd yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu a chyflwyno’r rhaglen hyfforddi ar gyfer rhaglenni rhyngwladol gemau 15 bob ochr a 7 bob ochr ar gontract tair blynedd.
Yn unol â’r strategaeth y cytunwyd arni gan y Bwrdd, mae’r penodiadau’n rhan o ymrwymiad parhaus URC i fuddsoddi’n sylweddol yn elfen perfformiad y gêm i ferched gyda chyhoeddiadau pellach i ddilyn.
Meddai Prif Swyddog Gweithredol URC Steve Phillips, “Mae Warren Abrahams a Rachel Taylor yn benodiadau strategol allweddol i ni, nid yn unig i rygbi merched yng Nghymru ond o ran ein statws yn y gêm fyd-eang. Mae’r pandemig presennol wedi effeithio ar bob rhan o’n sefydliad ynghyd â gweddill y byd chwaraeon ac adloniant. Fodd bynnag, mae’n hanfodol i gadw cydbwysedd a sicrhau na chaiff chwaraeon merched ei effeithio, a gwnaethom y penderfyniad pwysig i barhau â’r buddsoddiadau arfaethedig i rygbi merched.”
Dywedodd Warren Abrahams, “Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i fod yn rhan o raglen Merched Cymru ac mae gennym gyfle i wneud rhywbeth arbennig iawn yn y 12 mis nesaf a thu hwnt.
“I mi, mae meddylfryd yn allweddol. Ffiniau personol yw cyfyngiadau. Sylweddolaf fod gan bob un ohonom rwystrau a heriau i’w goresgyn ac mae’r sefyllfa bresennol yn enghraifft wych. Er mwyn sicrhau eu bod yn perfformio i’w lefel orau mae ein chwaraewyr yn cadw cydbwysedd rhwng nifer o agweddau yn eu bywydau. O ystyried hyn, os byddwn yn cymryd cyfrifoldeb am ein yr hyn a wnawn, rydym eisoes ar y blaen.”
Meddai Rachel Taylor, “Ar ôl chwarae mewn tri Chwpan Rygbi’r Byd, roeddwn yn dyst i sut yr oedd y gystadleuaeth yn datblygu bob tro. Dyma binacl rygbi rhyngwladol merched ac i’r chwaraewyr hyn gael y cyfle i gystadlu yn Seland Newydd bydd yn anhygoel ar sawl lefel.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Warren. Rwy’n gwybod y bydd yn fy herio fel hyfforddwr a chredaf y bydd fy mhrofiad a’m sgiliau yn helpu i gefnogi ei amcanion hefyd.”
Mwy yma

Warren Abrahams

Warren Abrahams.

Dychwelyd i Stadiwm y Principality
Ddydd Mercher diwethaf, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro eu bod gadael Ysbyty Calon y Ddraig, wrth iddynt roi Stadiwm y Principality yn ôl i URC.
Dywedodd Martin Driscoll, Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a’r holl staff a chleifion yr ydym yn darparu gwasanaethau ar eu cyfer, diolch am ein galluogi i dawelu meddwl ein cymunedau. Roeddem yn barod am beth bynnag a daflodd y pandemig atom ni. Roedd Ysbyty Calon y Ddraig yn ei leoliad eiconig – y stadiwm wedi dangos i ni chwaraeon tîm ar ei orau ac mae hyn yn wir am sut yr ymatebodd pawb – Diolch yn Fawr.”
Dywedodd Steve Phillips, Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru: “Mae gallu cynnig Stadiwm y Principality i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Llywodraeth Cymru i helpu yn y frwydr yn erbyn Covid 19 wedi bod yn fraint. Mae Ysbyty Calon y Ddraig yn dangos y gallu i gydweithio yn llwyddiannus a’r hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw pobl Cymru at ei gilydd; ac rwy’n hynod falch o staff URC a chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r ysbyty dros dro yn llwyddiannus yn ein stadiwm.
‘Fe wnaethom gytuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro y byddai’r stadiwm yn cael ei throsglwyddo’n ôl i ni ganol mis Tachwedd a gallwn yn awr ddechrau gweithio ar adfer y stadiwm, wrth i ni edrych ymlaen at Chwe Gwlad Guinness yn 2021.’
Mwy yma:

Addysg i hyfforddwyr yn parhau
Mae adran datblygu hyfforddwyr URC wedi parhau i ddarparu addysg i hyfforddwyr er gwaethaf yr heriau diweddar.
Oherwydd pandemig y coronafeirws, bu’n rhaid i staff newid y ffordd y maent yn darparu cyrsiau i helpu a chefnogi hyfforddwyr, yn enwedig yr hyfforddwyr ar gyfer timau plant.
Hyd yma, mae 11 cwrs rygbi tag a 12 cwrs rygbi cyswllt wedi’u darparu ar-lein, yn rhad ac am ddim – a fynychwyd gan 390 o hyfforddwyr.
Dywedodd rheolwr datblygu hyfforddwyr URC Gerry Roberts: “Fe wnaethom addasu’r modiwlau i gyd-fynd â dull darparu ar-lein gan ein staff. Cynhaliwyd cynllun peilot ar gyfer pob cwrs yn ôl ym mis Medi gyda grŵp bach o hyfforddwyr a fu yn llwyddiannus. Defnyddiwyd Zoom ar gyfer y cyrsiau, oherwydd y gallu i rannu yn grwpiau llai. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae cyrsiau ar-lein wedi gweithio’n dda iawn. Rydym wedi cael adborth gwych gyda hyfforddwyr yn dweud eu bod wedi mwynhau’r cynnwys a’r tasgau ar gyfer grwpiau llai.
“Mae mwy o gyrsiau ar-lein am ddim ar gael ac rydym yn awyddus i ychwanegu cyrsiau lefel un a chyrsiau dyfarnu yn yr un ffordd.”
Mae’r holl wybodaeth ar gyrsiau i’w gweld ar dudalen we Game Locker ar wefan URC:

Hwb i Rygbi Cymru wrth i glybiau groesawu cefnogwyr yn ôl – yn ddiogel
Mae llawer o glybiau cymunedol ledled Cymru yn falch o groesawu cefnogwyr yn ôl i’w clybiau i gefnogi Cymru’r hydref hwn.
Mae llawer o glybiau wedi’u cau am y rhan fwyaf o’r flwyddyn oherwydd y stormydd ac yna effaith pandemig y coronafeirws, gyda chyfnodau clô lleol a chenedlaethol yn effeithio ar eu gweithrediadau oddi ar y cae. Fodd bynnag, mae llacio’r cyfyngiadau yng Nghymru ar ôl yr ail gyfnod clô wedi rhoi hwb croesawus i Rygbi Cymru.
Gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, mae llawer o glybiau’n awyddus i agor eu drysau fel y gall cefnogwyr wylio gemau Cymru yn nhwrnament Cwpan yr Hydref, newyddion a fydd yn rhoi hwb i gyllid clybiau ac yn codi ysbryd cefnogwyr.
Meddai Mike Prosser, Cadeirydd Clwb Rygbi’r Barri, “Roedd yn braf gallu agor y clwb ddydd Gwener ddiwethaf ac i eistedd yng nghwmni ei gilydd, cael peint tawel neu ddau a gwylio gêm Cymru v Iwerddon. Diolch byth, nid oedd y canlyniad yn tynnu oddi ar y mwynhad a gafodd pawb.
“Rydym yn byw mewn cyfnod na fyddwn byth yn ei weld eto gobeithio, felly mae’n rhaid i ni wneud y gorau o hyn a chadw at y rheolau.
“Hoffwn ddiolch i aelodau’r pwyllgor rheoli a staff y bar yn y clwb sydd wedi gweithio mor galed i roi’r holl fesurau amddiffyn ar waith y tu mewn i’r clwb ac am gefnogaeth barhaus ein haelodau. Nid yw’n ymarferol yn ariannol agor y clwb yn rheolaidd, ond bydd yn agor bob dydd Sadwrn er mwyn i ni allu cymdeithasu mewn modd diogel”
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau lletygarwch sy’n darlledu gemau rhyngwladol hydref Cymru yn cynnwys:
· Mynediad dan reolaeth – defnyddiwch systemau archebu lle bynnag y bo modd, cadw’r nifer a ddaw i mewn heb archebu ar y system yn isel. Argymhellir y bydd angen cadw at slot amser o ddwy awr. Fodd bynnag, yn achos darllediadau teledu, gallai lleoliadau ei ystyried yn fwy diogel i rai pobl wylio’r gêm y llawn yn hytrach nag annog sawl archeb mewn gwahanol safleoedd mewn cymuned leol.
· Cynnal 2 fetr rhwng pob grŵp o bobl lle bo hynny’n bosibl
· Cadw lefelau sain darlledu ar lefel isel er mwyn osgoi’r angen i gwsmeriaid godi eu lleisiau i gael eu clywed
· Osgoi gweiddi, dawnsio neu ganu
· Cynyddu cylchrediad aer drwy agor ffenestri a drysau (nid drysau tân)
· Sicrhau pellter corfforol lle mae hyd at bedwar o bobl o wahanol aelwydydd yn eistedd gyda’i gilydd
Am ragor o arweiniad, ewch i:

Darlledu rygbi byw yn eich clwb
Amazon Prime Video – Cwpan Cenhedloedd yr Hydref 2020
CLICIWCH YMA I GAEL MYNEDIAD AM DDIM I FIDEO AMAZON PRIME:
Gall clybiau sy’n aelodau ddarlledu gemau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn fyw drwy Amazon Prime ac S4C ym mhob safle trwyddedig heb unrhyw gost ychwanegol.
Bydd cynnig Amazon yn darparu darllediadau byw am ddim drwy sianel bwrpasol Prime Video dros lwyfan Sky Television.
Mae’r darllediadau ar Amazon Prime Video yn cynnwys yr holl gemau sy’n weddill yn y twrnament sy’n cynnwys tîm Cymru, gyda darllediad Cymraeg ar yr un pryd ar S4C.
Er mwyn cofrestru ar gyfer cynnig Amazon Prime, dylai clybiau ddilyn y ddolen a ddarperir uchod i wefan Sky Business – lle darperir manylion cyswllt pellach ar gyfer y broses gofrestru.
Noder, os nad ydych yn gwsmer presennoli Sky, byddwch angen bocs Sky HD a cherdyn gwylio er mwyn gallu manteisio ar ddarllediad Prime Video o’r gemau. Os nad oes gennych gerdyn gwylio, gellir darparu un yn rhad ac am ddim pan fyddwch yn cysylltu â Sky.
Mae URC yn diolch i Amazon ac S4C am eu cefnogaeth barhaus i Rygbi Cymru a’i chlybiau sy’n aelodau.
Rydym yn sylweddoli y bydd clybiau yn cynllunio ar gyfer darlledu Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn unol â chanllawiau lletygarwch cyfredol Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, byddem yn argymell, os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y canllawiau, fod clybiau’n edrych ar ddogfen ganllaw Lletygarwch Llywodraeth Cymru sydd ar gael ar wefan Lletygarwch y DU. (darperir linc i’r ddogfen hwn ar ddiwedd pwynt 4. uchod)

2019/2020 Cynnig Tanysgrifiad – Premier Sports WRU Club

Bydd clybiau sydd wedi tanysgrifio ar gyfer y cynnig clwb blynyddol diweddaraf URC ar gyfer 2019/20, yn derbyn ymestyniad ar eu tanysgrifiad Premier Sports tan 14 Chwefror 2021.
Roedd y tanysgrifiad gwreiddiol i fod i ddod i ben ym mis Medi 2020, ond gan fod PRO14 Guinness wedi ei ohirio oherwydd y cyfnod clô cychwynnol. O ganlyniad mae Premier Sports wedi cytuno i ymestyn y tanysgrifiad presennol yn unol â’r misoedd a gollwyd heb rygbi PRO14. Noder, mae hyn hefyd yn cynnwys estyniad pythefnos pellach ar gyfer y clô byr diweddara Llywodraeth Cymru.
Gan y bydd y tanysgrifiad estynedig yn dod i ben ym mis Chwefror 2021, mae’n ymwybodol y bydd angen i glybiau adnewyddu eu tanysgrifiad i ddarlledu rowndiau cau tymor 2020/21. Bydd y clybiau hyn felly yn derbyn cynnig cyfradd gostyngedig o £70 y mis ar gyfer y cyfnod rhwng 14 Chwefror a Mai 2021.
Os yw clybiau am fanteisio ar y cynnig misol ‘diwedd tymor’, bydd angen i chi gysylltu â Premier Sports ar y cyfeiriad e-bost penodedig yma clubhouse@premiersports.com.
Gan y bydd y cynnig misol o fis Chwefror 2021 yn uniongyrchol rhwng y clwb sy’n aelod a Premier Sports, bydd angen darparu manylion talu’r clwb. Felly, byddem yn annog clybiau i gysylltu â Premier Sports ar yr e-bost uchod i ofyn am alwad gan y tîm er mwyn iddynt allu derbyn manylion y taliad. Yn ddelfrydol, argymhellir fod clybiau’n cysylltu â Premier Sports ym mis Ionawr 2021, fel y gall bilio misol ddechrau o fis Chwefror 2021 ymlaen.
Tanysgrifiadau Newydd
Ar gyfer clybiau nad ydynt ar hyn o bryd yn tanysgrifio i Premier Sports ac sydd â diddordeb mewn darlledu’r PRO14, gallwch yn awr fanteisio ar y gyfradd fisol o £70. I gofrestru ar gyfer y
cynnig misol, gall clybiau sy’n aelodau URC gysylltu â Premier Sports yn uniongyrchol ar clubhouse@premiersports.com. Bydd angen i glybiau hefyd ddarparu manylion talu gan fod y cynnig hwn yn cael ei filio’n uniongyrchol rhwng Premier Sports a’r clwb.

Newyddion Rygbi:
Darren Carew yw Cydlynydd Rygbi Anabledd URC, mae wedi bod yn rhan annatod o addysgu gweithlu URC mewn gweithgareddau cynhwysiant yn unol â’r strategaeth rygbi anabledd
(https://www.wru.wales/2018/03/wru-launches-ambitious-disability-rugby-strategy/).
Ond mae ganddo stori bersonol ysbrydoledig hefyd i’w hadrodd:
‘O gwmpas Diwrnod y Cofio pan fydda i’n glanhau fy medalau mae’n fy atgoffa mai dim ond cynrychiolaeth faterol o’r profiadau rwyf wedi’u cael yn ystod fy amser yn y Fyddin ydynt, ein hatgoffa o’r milwyr mawr y gwasanaethais gyda hwy, y perygl a rannwyd a’r cyfeillgarwch a luniwyd rhyngom yn yr amgylcheddau hynny.’

Darren Carew

Darren Carew

CAREW: ‘DIM DIFARU’
Mae’r adeg hon o’r flwyddyn bob amser yn bwysig gan ei bod yn amser i fyfyrio, nid yn unig ar hanes a’r aberth a wnaed gan ein cyndadau, ond hefyd y rhai a dalodd yr aberth eithaf mewn gwrthdrawiadau modern hefyd.
Rwyf wastad wedi bod yn angerddol am rygbi, cefais y cyfle i fod yn filwr ac yn chwaraewr rygbi yn Y Gatrawd Frenhinol Gymreig – felly roedd yn gyfuniad perffaith. I fod yn onest fe wnes i ffynnu yn ystod fy nghyfnod yn y lluoedd arfog ac er i mi gymryd o rygbi i ganolbwyntio ar filwrio, dois i adnabod fy hun – tyfu – a chyfarfod â ffrindiau oes.
Yn 2008, ar ôl trosglwyddo i Queen’s Dragoon Guards yn 2005, newidiodd fy mywyd am byth tra ar batrôl yn Afghanistan.
Deffrais i fyd gwahanol, y peth cyntaf a sylwais oedd blas gwaed yn fy ngheg a sŵn gwichian uchel yn fy nghlustiau. Roedd y llwch fel llen yng nghefn y cerbyd felly wrth i’r sain yn fy nghlustiau leihau. Y peth cyntaf a glywais oedd fy nhîm yn sgrechian, rhywbeth sy’n dal i’m deffro yng nghanol y nos 12 mlynedd yn ddiweddarach.
Mae rygbi wedi fy helpu i ddod o hyd i fy hyder eto.
Ni chollais fy nghoes yn syth. Cefais fy nhrin yn Ysbyty Headley Court am bedair blynedd…
Darllenwch ymlaen yma:

CLWB RYGBI YN DARPARU BWYD I’R GYMUNED

Er gwaethaf eu bodolaeth nomadaidd, mae Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn parhau i gryfhau eu bodolaeth yng nghalon cymuned Caerdydd gyda’u hymdrechion elusennol.
Wedi eu hysgogi gan lwyddiant eu her redeg, nôl ym mis Mai – a oedd yn ceisio cysylltu trigolion a staff cartrefi gofal ledled Cymru â’u teuluoedd – mae’r clwb bellach wedi gosod ei olygon ar helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd yn y ddinas.
Yn ystod y penwythnos diwethaf, gwahoddwyd aelodau’r clwb i ddod â bwyd a diod i lawr – yn ogystal â chynhyrchion hylendid personol – i ystafelloedd newid y clwb ym Meysydd Pontcanna. Hefyd anogwyd busnesau lleol i gefnogi a lledaenu’r gair drwy gyfryngau cymdeithasol.
O ystyried ei lwyddiant, mae potensial iddo ddod yn ddigwyddiad blynyddol i helpu pobl mewn angen ar draws y ddinas.
Cafodd eu hachos eleni gymorth mawr gyda 200 o blant yn cymryd yn yr hyfforddiant i blant iau ddydd Sul – pob un ohonynt yn cyfrannu.
Mwy yma:

COFFÂD: IAN FORD

Wrth feddwl yn ôl i’r foment enwog pan gurodd Casnewydd y Crysau Duon yn 1963, mae cyfraniad ail reng Cymru Ian Ford, sydd wedi marw yn 91 oed, yn anochel ar wefusau pawb a welodd y fuddugoliaeth 3-0 yn Rodney Parade.
Er mai cic adlam John Uzzell gaiff ei nodi yn y penawdau, sylfaen y fuddugoliaeth fwyaf yn hanes rygbi clybiau Cymru oedd y ffordd yr oedd Ford ei bartner ail reng Brian Price a’r blaenasgellwr Glyn Davidge yn gwrthsefyll chwaraewyr Seland Newydd.
Disgrifiodd un o’i gyd-chwaraewyr o’r diwrnod gwych hwnnw, Stuart Watkins, Ford fel “cawr o ddyn” am y ffordd yr oedd yn sefyll i fyny i’r Crysau Duon a oedd yn cynnwys rhai o’r enwau mwyaf yn rygbi’r byd.
Mwy yma:

I GLOI… UN CAP NEU 50, MAEN NHW I GYD YN WERTHFAWR

Tomas Francis yn myfyrio ar ei 50fed cap yn Nulyn yn erbyn Iwerddon yng ngêm agoriadol Cwpan Cenhedloedd YR Hydref:
Mwy yma

Mae maswr Bristol Bears Calum Sheedy yn llawn balchder ar ôl ennill y cyntaf o’r hyn a fydd yn sicr yn niferus:
Mwy yma

Efallai eu bod wedi colli yn ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn yr Alban ym Mharc y Scarlets, ond mae rheng ôl Gleision Caerdydd Shane Lewis-Hughes yn dal i edrych yn ôl heb ddim ond atgofion da o’r dydd:
Mwy yma

A bydd McNicholl yn ceisio ychwanegu at ei bedwar, wrth i Botham anelu am ei gap cyntaf:
Mwy yma

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert