Jump to main content

HWB I RYGBI CYMRU GAN Y PRINCIPALITY

Club graphic

Mi fydd Uwch Gynghrair Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn dechrau ar y 3ydd o Fedi, gyda 16 tîm lled-broffesiynol yn herio ei gilydd. Dyma’r tro cyntaf ers 1996 i’r uwch gynghrair gael ei noddi.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru a rygbi Cymru wedi dod ynghyd ar adeg mor dyngedfennol i’n gêm genedlaethol”, meddai prif weithredwr yr Undeb, Steve Lewis. “Mae llwyddiant Cymru yn y Gamp Lawn y llynedd, a chyfraniad clodwiw’r Cymry ar daith y Llewod i Seland Newydd, wedi sicrhau bod rygbi yn ei anterth ar hyn o bryd.


“Y gamp yn awr yw sicrhau ein bod yn aros ar y brig, sy’n golygu bod angen llwyddiant ymhob cynghrair yng Nghymru. Uwch Gynghrair Cymdeithas Adeiladu’r Principality yw’r feithrinfa ddelfrydol ar gyfer sêr y dyfodol – mi fydd tri deg gêm o safon uchel mewn cynghrair llwyddiannus, angerddol a chystadleuol yn sicrhau y bydd yna ddigon o chwaraewyr medrus ar gael am flynyddoedd i ddod.


“Mi aeth chwaraewyr ifanc fel Matthew Jones a Chris Czekaj ar daith lwyddiannus Cymru i Ogledd America dros yr Haf, gan ddangos eu gallu i gamu o’r Uwch Gynghrair i rygbi rhanbarthol ac i’r uchelfannau rhyngwladol. Rhaid cofio hefyd am lwyddiant tîm dan 21 Cymru – mi enillon nhw Gamp Lawn y llynedd yn ogystal, yn bennaf oherwydd eu bod yn chwarae gemau safonol yn rheolaidd yn yr uwch-gynghrair.


“Dyma’r talwrn sy’n creu chwaraewyr proffesiynol llawn-amser y dyfodol, ac rwy’n sicr y bydd tymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymdeithas Adeiladu’r Principality’n un i’w gofio.”


Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y Principality, Tracy Morshead: “Mae’r Uwch Gynghrair yn berffaith ar ein cyfer, oherwydd mae’r Principality ac Undeb Rygbi Cymru’n sefydliadau Cymreig amlwg a llwyddiannus, sydd yn awchu am lwyddiant i’n gêm genedlaethol; mae’n gyfuniad delfrydol, ac mi fydd yn sicr yn arwain at lwyddiant ar y cae chwarae.”


Ychwanegodd Neal Pritchard, pennaeth gwasanaethau ariannol y Principality: “Ar ôl i ni greu delwedd newydd i’r gymdeithas yn ddiweddar, roedd angen cael cytundeb noddi a oedd yn dangos ein bod yn gwmni Cymreig, sy’n falch o’i dreftadaeth ac sy’n rhan o’n cymuned. Mae’r cytundeb yma, sy’n cefnogi un o gonglfeini rygbi Cymru, yn gwneud hynny’n berffaith.”


Mae gan y Gymdeithas hanes anrhydeddus o gefnogi rygbi yng Nghymru; noddwyd Cwpan Cymru gan y Principality hyd at yr aildrefnu dwy flynedd yn ôl a arweiniodd at greu’r Cynghrair Celtaidd.

Share this page:

Partners and Suppliers

Principal Partners
Principality
Official Broadcast Partners
BBC Cymru/Wales
S4C
Official Partners
Heineken
Isuzu
Guinness