Neidio i'r prif gynnwys

Dau gais Dyddgu yn syfrdanu’r Dreigiau

Dau gais Dyddgu yn syfrdanu’r Dreigiau

Dau gais gwych gan Dyddgu Hywel yn yr ail hanner oedd y gwahaniaeth yn y pen draw, wrth i’r Scarlets sicrhau buddugoliaeth gyda sgôr o 17-15 mewn gêm anodd yn erbyn y Dreigiau yn Ystrad Mynach, yng ngêm gyntaf Pencampwriaeth Ranbarthol Undeb Rygbi Cymru i Ferched ddydd Sul.

Rhannu:

Roedd hi’n agos yn ystod y 15 munud cyntaf, wrth i’r ddau dîm dreulio rhywfaint o amser yn hanner eu gwrthwynebwyr. Sgoriwyd y pwyntiau cyntaf pan gollodd y Scarlets y bêl yn ardal y dacl a phan fanteisiodd Keighlee Williams ar hynny gan blymio dros y llinell i sgorio’r pwyntiau cyntaf.

Roedd y 10 munud nesaf yn debyg iawn i’r chwarter awr cyntaf, nes i’r Scarlets ildio cic gosb weddol hawdd yn eu 22 eu hunain. Llwyddodd Elinor Snowsill â’r gôl gosb gan ymestyn mantais y Dreigiau i 8-0. Ildiodd y Dreigiau gic gosb saith munud yn ddiweddarach, a rhoddodd hynny gyfle i Jodie Evans sgorio tri phwynt i sicrhau mai mantais o 8-3 fyddai gan y Dreigiau adeg hanner amser.

Yn fuan ar ôl dechrau’r ail hanner sgoriodd cefnwr y Scarlets, Dyddgu Hywel, gais unigol gwych i roi’r Scarlets ar y blaen. Ar ôl casglu’r bêl wrth ymyl y llinell hanner ffordd, gwibiodd drwy amddiffyn y Dreigiau gan sgorio dan y pyst, a llwyddodd Evans i ychwanegu’r trosiad.

Roedd y sgôr nesaf yn ymdrech gan dîm cyfan y Dreigiau. Ar ôl cadw’r bêl am sawl cymal a’i sgubo allan i’r asgell at Charlie Murray, croesodd cyn-asgellwr Cymru y llinell gais tua 15 metr o’r ystlys. Llwyddodd Snowsill, a gafodd gêm wych â’r bêl yn ei dwylo, i gicio’r trosiad gan roi mantais o 15-10 i’r Dreigiau.

Wrth nesáu at ddiwedd y gêm mae’n rhaid bod y Dreigiau wedi teimlo eu bod wedi gwneud digon i ennill yr ornest, ond doedd hynny ddim wrth fodd Dyddgu Hywel. Llwyddodd y cefnwr i gipio’r fuddugoliaeth i’r Scarlets ag ymdrech unigol arbennig arall i sgorio ger y pyst, gan roi cyfle hawdd i Evans lwyddo â’r trosiad.

Yn y gêm arall a gynhaliwyd ar yr un maes ar yr un diwrnod, dangosodd y Gweilch beth yw eu bwriad y tymor hwn wrth iddynt sicrhau buddugoliaeth gyffyrddus dros y Gleision gyda sgôr o 41-5.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert