Neidio i'r prif gynnwys

Ysgrifenyddion

Ysgrifenyddion undeb Rygbi Cymru yn y gorffennol

Ysgrifennydd cyntaf yr hen Undeb Rygbi Cymru oedd Richard Mullock, gwr â’i fysedd mewn sawl briwes yn y maes chwaraeon; ‘Mr Fixit’ rygbi Cymru. Ynghyd â bod yn aelod sefydlu Clwb Athletig Casnewydd yn 1874, roedd hefyd yn bresennol pan ffurfiwyd y Gymdeithas Athletau Amatur (CAA) yng Ngwesty Randolph, Rhydychen yn 1880.

Yn 1881, fe gymerodd arno’i hun y dasgh o ddewis tîm rygbi Cymru i chwarae yn erbyn Lloegr. Cafodd ei dîm grasfa a mis yn ddiweddarach fe ffurfiwyd Undeb Rygbi Cymru yng Nghastell Nedd.

Etholwyd Mullock yn Ysgrifennydd Anrhydeddus ac yn Drysorydd a gwasanaethodd fel Ysgrifennydd tan 1892. Daeth yn bedwerydd dyfarnwr rhyngwladol Cymru pan ‘ddyfarnodd’ y frwydr yn y Bencampwriaeth rhwng Iwerddon a Lloegr yn Heol Lansdowne. Fe’i gwelwyd yn aml yn yr haf yn dyfarnu gemau criced yng Nghasnewydd ac fe’i hetholwyd i Bwyllgor Cyffredinol y Gymdeithas Athletau Amatur yn 1881 fel cynrychiolydd clybiau ‘Gorllewin Lloegr’.

Ef oedd y cyntaf o gyfres o Ysgrifenyddion yr Undeb a ddaliodd y swydd am 121 o flynyddoedd tan i newid mewn cyfansoddiad greu Bwrdd Gweithredol gyda phennaeth newydd, Prif Weithredwr Grwp. Roedd tri o olynwyr Mullock, Billy Gwynn, Bill Clement a Denis Evans yn gyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru, er i Evans gael ei eni yn Lloegr.

Daeth David Moffett, y gwr o Seland Newydd a anwyd yn Lloegr, yn Brif Weithredwr Grwp cyntaf URC yn 2002 a gadawodd yn 2006. Gwnaeth Steve Lewis yn Brif Weithredwr URC yn 2005, er iddo ef hefyd adael yr Undeb yn 2006. Cymerodd Roger Lewis drosodd fel Prif Weithredwr Grwp URC yn Hydref, 2006.

Ysgrifenyddion undeb Rygbi Cymru

1881 – 1882: Richard Mullock (Casnewydd)

1892 – 1896: William Gwynn (Abertawe)

1896 – 1948: Walter Rees (Castell-nedd)

1948 – 1955: Eric Evans (Caerdydd)

1956 – 1981: Bill Clement OBE, MC (Llanelli)

1981 – 1988: Ray Williams (Wrecsam)

1989: David East (Llanelli)

1990 – 1993: Denis Evans (Scunthorpe)

1993 – 1996: Edward Jones (Ogmore Vale)

1996 – 1997: Richard Jasinski

1998 – 2002: Dennis Gethin OBE (Castell-nedd)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert