Neidio i'r prif gynnwys

Hyfforddi

Hyfforddi

Tirlun Datblygu Hyfforddwyr

Mae Rygbi Cymru wedi addasu tirlun datblygu hyfforddwyr yng Nghymru i ddiwallu anghenion newidiol hyfforddwyr a chwaraewyr llawr gwlad.
Yn ddiweddar cynhaliodd URC gyfres gynhwysfawr o weithdai ar gyfer hyfforddwyr cymunedol o bob lefel ac mae canlyniadau’r broses ymgynghori wedi creu sylfaen i’r ymagwedd newydd at hyfforddi llawr gwlad yng Nghymru.
Mae’r system newydd yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygiad cyfannol yr hyfforddwyr a’u galluogi i gael gafael ar gymorth parhaus, adnoddau a chymwysterau drwy gydol eu gyrfa hyfforddi, pa un a ydynt yn aros ym maes hyfforddi clybiau iau, neu’n symud ymlaen i hyfforddi chwaraewyr gwryw a menyw hŷn ar lefel llawr gwlad, dilyn cyfleoedd yn y gêm berfformio neu gymysgedd o’r uchod.
Yn hytrach na system datblygu hyfforddwyr ar ffurf pyramid gyda Thag a Lefel 1 Plant ar y gwaelod a Lefel 4 ar y brig, mae’r broses ymgynghori ddiweddar, ynghyd ag ymchwil a chydweithredu â chyrff llywodraethu a sefydliadau eraill wedi helpu URC i gynllunio system newydd sy’n gosod yr hyfforddwr yn y canol ac yn cydnabod y ffyrdd a’r mynedfeydd gwahanol y gall unigolion eu defnyddio i fynd i faes hyfforddi. Mae hyn yn caniatáu mwy o weithdai rheolaidd a chymorth (datblygiad proffesiynol parhaus) y tu allan i’r cyrsiau ffurfiol i alluogi hyfforddwyr gynyddu eu sgiliau a chael eu cefnogi ar y lefel o hyfforddi y maent wedi ei dewis, a fydd yn ei dro yn eu helpu i ddatblygu chwaraewyr gwell.

Mae’r cyrsiau hyfforddi wedi’u newid hefyd, yn bennaf i gyflwyno cwrs ‘Hyfforddi Cyswllt Cynnar’ i rai o dan 9 oed i’r rhai o dan 11 oed sy’n cydnabod yr angen am gefnogaeth ychwanegol, yn enwedig ynghylch diogelwch yn y gêm, ar adeg hollbwysig i chwaraewyr wrth i daclo ac elfennau eraill o rygbi gael eu cyflwyno a’u datblygu.
Dywedodd rheolwr datblygu hyfforddwyr cymunedol, Gerry Roberts: “Hyfforddwyr clybiau llawr gwlad yw’r mwyafrif o’n hyfforddwyr gweithredol yng Nghymru ac rydym ni’n credu y bydd yr ymagwedd newydd hon at ddatblygu hyfforddwyr nid yn unig yn eu cefnogi nhw ar eu taith hyfforddi ond wrth wneud hynny fe fydd yn gwella’r ffordd yr ydym ni’n datblygu ein chwaraewyr yng Nghymru.”

Ychwanegodd Pennaeth Cyfranogaeth Rygbi URC Ryan Jones: “Mae’r modd y mae ein chwaraewyr yn mwynhau ein gêm yn cael ei ddylanwadu’n helaeth gan y profiad unigol y maen nhw’n ei gael gyda’u hyfforddwyr – mae amgylchedd diogel, llawn hwyl sy’n ysbrydoli yn rhoi profiad rygbi cadarnhaol iddyn nhw. Mae’r newidiadau sy’n cael eu gweithredu yn cael eu llywio gan ddiben Rygbi Cymru – mwy o bobl, yn amlach, gyda mwy o fwynhad a mwy o lwyddiant.”

I gael rhagor o wybodaeth, trefnu cyrsiau a chynnwys hyfforddi perthnasol defnyddiwch y ddolen gyswllt i fynd i wefan Game Locker URC:
www.wrugamelocker.wales

Dogfennau cysylltiedig

WRU Game Locker

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert