Dennis Gethin

Llywydd yr Undeb Rygbi Cymru

Fe’i ganwyd ar Fai 24, 1944. Yn un o saith o blant a fagwyd ym mhentref bach glofaol Blaendulais ger Castell Nedd yn Nyffryn Dulais yn Ne Cymru, roedd tad a brawd hynaf Dennis yn lowyr yn gweithio dan ddaear. Roedd yr holl deulu’n siarad Cymraeg.

Yn Ysgol Ramadeg Castell Nedd, lle daeth yn Brif Swyddog, fe’i hanogwyd i ddilyn y ddau beth a garai fwyaf, hanes a rygbi, a chafodd le yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt lle ymddiddorodd yn y ddau.

Gan feddwl y gallai’r Gyfraith gynnig llwybr i yrfa fwy addawol na hanes, fe newidiodd ei gwrs a graddio wedi pedair blynedd, gan ennill Gradd Meistr yn y Celfyddydau a Gradd Meistr yn y Gyfraith.

Wedi gadael coleg yn 1967 aeth Dennis i hyfforddi fel cyfreithiwr gan gymhwyso yn 1971. Wedi cyfnod byr mewn practis preifat fe ymunodd â Chyngor Sir Morgannwg fel eu cyfreithiwr cynorthwyol ac arhosodd yno am 2 flynedd cyn symud i Gyngor Bwrdeistref Taf-Elái lle daeth yn Brif Weithredwr y Cyngor.

Yn 1998 bu newid arall mewn gyrfa pan, wedi gadael llywodraeth leol, fe drodd at weinyddu chwaraeon, gan ddod yn Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru, swydd a ddaliodd am 5 mlynedd tan 2003. Wedi ymddeol o URC fe ymunodd â Chyngor Darlledu’r BBC yng Nghymru ac roedd yn aelod o 2004-2009.

Yn 2007 etholwyd Dennis yn Llywydd Undeb Rygbi Cymru, swydd mae’n parhau ynddi. Yn ychwanegol mae e hefyd yn dal y swyddi canlynol:

  • Llywydd Rygbi’r Deillion yng Nghymru
  • Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, elusen wedi ymrwymo i ddarparu cymorth a chefnogaeth i chwaraewyr rygbi a anafwyd yn ddifrifol
  • Noddwr Rygbi Sirol Morgannwg
  • Aelod oes o Glwb Rygbi Academwyr Cymru a Chlwb Rygbi Blaendulais
  • Llywydd Côr Meibion Pontypridd
  • Is-lywydd Côr Meibion De Cymru

Gyrfa ym maes Rygbi

Mae rygbi erioed wedi chwarae rhan flaenllaw ym mywyd Dennis. Daeth yn Chwaraewr Rhyngwladol i Ysgolion Uwchradd Cymru yn 1963, daeth yn Lesyn Rygbi ddwy waith yng Nghaergrawnt (1965 a 1966), chwaraeodd fel cefnwr i’w bentref genedigol, Blaendulais, cyn chwarae i Abertawe, Castell Nedd, Caerdydd (1966-1971), ac yn olaf i Grwydriaid Morgannwg. Yn 1971 rhoddodd y gorau i chwarae rygbi dosbarth cyntaf er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa ym myd y gyfraith. Tra’r oedd yn chwarae i Gaergrawnt chwaraeodd yn erbyn Crysau Duon Seland Newydd yn 1963 a Wallabies.

Awstralia yn 1966. Yn ystod ei yrfa gyda Chaerdydd daliai’r record am sgorio’r pwyntiau mwyaf a chwaraeodd yn erbyn Sringboks De Affrica yn 1969.

Lywyddion undeb Rygbi Cymru