Neidio i'r prif gynnwys

Rygbi Anabledd

Mae hon yn gêm i bawb yng Nghymru.

Dros y tair blynedd nesaf byddwn yn gwella a chynyddu cyfranogi ac ymgysylltu rheolaidd, ar draws yr holl oedrannau, ffurfiau a chystadlaethau, mewn ‘clybiau’ cryf a bywiog a safleoedd addysg sy’n cynnal gwerthoedd rygbi ac sy’n rhoi ‘Profiadau Rygbi Cadarnhaol’ i BAWB gan hefyd gyfrannu tuag at iechyd hirdymor a lles cymdeithas.

Mae hwn yn gynllun i dyfu, datblygu a gwella’r hyn y mae rygbi’r undeb yn ei gynnig yng Nghymru drwy addasu’r ymagwedd draddodiadol a sicrhau ein bod yn gynhwysol ac yn atyniadol i bobl a chymunedau o bob math.

Mae Tirlun Rygbi Anabledd yn amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael i gyfranogwyr.
Amcanion URC:

• Penderfynu ar y cyfraniad y gall URC ei wneud i ffurfiau cynhwysol y gêm ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys rygbi byddar, rygbi Unedig (gallu cymysg) a rygbi cadair olwyn;
• Sicrhau bod y gêm gymunedol yn gynhwysol ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys chwarae, gweinyddu, dyfarnu, hyfforddi, gwirfoddoli a chefnogi;
• Nodi’r camau y bydd yn rhaid eu cymryd i sicrhau bod gweithlu URC a’r ‘teulu’ ehangach yn cael eu cefnogi a bod eu sgiliau’n cael eu gwella i fabwysiadu ymagwedd fwy cynhwysol at rygbi;
• Sicrhau bod llywodraethu URC yn adlewyrchu anghenion pobl anabl ac yn ymateb i’r anghenion;
• Nodi sut y gall URC gyfrannu at lwybrau chwaraeon anabledd eraill yn cynnwys ond nid yn unig Paralympaidd, Byddarlympaidd ac Anabledd Deallusol.

I GAEL RHAGOR O WYBODAETH CYSYLLTWCH Â:

Darren Carew
Cydgysylltydd Rygbi Anabledd URC
07787 836116
dcarew@wru.wales
Twitter @disrugbydc

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert