Neidio i'r prif gynnwys

Gwersylloedd Cymru Alltud

Exiles

Gwersylloedd Alltudion

Mae’r rhaglen lawn ar gyfer tymor 2018 / 2019 yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd a chaiff ei chyhoeddi ar y dudalen ‘Calendr Digwyddiadau’ hon yn y man. Er hynny nodwch y bydd y calendr yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd felly edrychwch am newidiadau’n gyson. Cofiwch fod cannoedd o chwaraewyr yn rhaglen Alltudion URC felly mae’n amhosib gwahodd pob chwaraewr i ddigwyddiadau yng Nghymru.

Petai chi’n dymuno gwneud cais i fod yn bresennol mewn digwyddiad ‘agored’ (e.e. y gwersylloedd undydd rhanbarthol a gynhelir yn Lloegr) mae’n RHAID ichi fod wedi cofrestru fel chwaraewr gyda’r Alltudion a bod eich cais wedi ei gymeradwyo cyn dod i’r gwersyll. Yn anffodus ni chaiff chwaraewyr sy’n cyrraedd heb gadarnhad o flaen llaw gymryd rhan.

Digwyddiadau yn y Dyfodol

Dyddiad: dydd Mawrth 19 Chwefror 2019 (10am-3.30pm)

Grŵp Oedran: dan 13 i dan 18;

Lleoliad: Trent College, Nottingham (ar gyfer chwaraewyr sydd wedi eu lleoli yng nghanolbarth a gogledd Lloegr);

Digwyddiad: Gwersyll Alltudion URC Rhanbarthol yn cael ei redeg gan staff a hyfforddwyr URC;

Sylw: Gwahoddiad agored i bob chwaraewr presennol sydd wedi cofrestru gyda’r Alltudion, a hefyd i chwaraewyr cymwys newydd sydd angen cofrestru gyda URC. Mae’n rhaid cofrestru cyn cael bod yn bresennol. Cysylltwch â wruexilescamp@gmail.com am ragor o fanylion ac i gofrestru. Dyddiad cau 11 Chwefror 2019.

Dyddiad: dydd Mercher 20 Chwefror 2019 (10am-3.30pm)

Grŵp Oedran: dan 13 i dan 18;

Lleoliad: Clwb Rygbi Cymry Llundain (ar gyfer chwaraewyr sydd wedi eu lleoli yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr);

Digwyddiad: Gwersyll Alltudion URC Rhanbarthol yn cael ei redeg gan staff a hyfforddwyr URC;

Sylw: Gwahoddiad agored i bob chwaraewr presennol sydd wedi cofrestru gyda’r Alltudion, a hefyd i chwaraewyr cymwys newydd sydd angen cofrestru gyda URC. Mae’n rhaid cofrestru cyn cael bod yn bresennol. Cysylltwch â wruexilescamp@gmail.com am ragor o fanylion ac i gofrestru. Dyddiad cau 11 Chwefror 2019.

Dyddiad: dydd Iau 21 Chwefror 2019 (10am-3.30pm)

Grŵp Oedran: dan 13 i dan 18;

Lleoliad: Clwb Rygbi Bridgwater ac Albion, Gwlad yr Haf (ar gyfer chwaraewyr sydd wedi eu lleoli yn ne a de-orllewin Lloegr);

Digwyddiad: : Gwersyll Alltudion URC Rhanbarthol yn cael ei redeg gan staff a hyfforddwyr URC; Sylw: Gwahoddiad agored i bob chwaraewr presennol sydd wedi cofrestru gyda’r Alltudion, a hefyd i chwaraewyr cymwys newydd sydd angen cofrestru gyda URC. Mae’n rhaid cofrestru cyn cael bod yn bresennol. Cysylltwch â wruexilescamp@gmail.com am ragor o fanylion ac i gofrestru. Dyddiad cau 11 Chwefror 2019.

Nodwch fod y calendr yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd felly edrychwch am newidiadau’n gyson. Hefyd cofiwch gofrestru gyda rhaglen Alltudion URC a diweddaru eich proffil chwaraewr presennol.

Gall chwaraewyr cymwys sydd wedi eu lleoli y tu allan i Loegr ddewis dyddiad a lleoliad ‘gwersyll’ sydd fwyaf cyfleus iddynt.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert