Neidio i'r prif gynnwys

Gweithio i URC

Mae Grwp URC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant lle mae’r holl gyflogeion yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu’n gyfartal. Rydym yn benderfynol y bydd GrwpURC nid yn unig yn lle arbennig i weithio, ond y caiff ei gydnabod fel y lle gorau i weithio yng Nghymru. Rydym yn ymdrechu’n galed i wella’r amgylchedd gwaith ynbarhaus i’r holl staff a datblygu strwythurau gwobrwyo blaengar a hyblyg.

Fel busnes proffil uchel, rydym yn mynnu’r safonau uchaf o ymddygiad personol a phroffesiynol oddi wrth yr holl staff. Rydym hefyd yn disgwyl i gyflogeion drin ei gilyddgydag urddas a pharch bob amser. Yn gyfnewid am safonau mor uchel rydym yn cydnabod bod gennym ddyletswydd gofal i bob cyflogai.

Yn fwy na dim, rydym yn anelu at fod yn lle gwych i weithio, gan gydbwyso proffesiynoldeb a hiwmor o fewn yr amgylchedd gwaith. Mae’r uchelgais hon yn dibynnuarnom ni gyd yn gweithio gyda’n gilydd i greu amgylchedd deinamig, cyfeillgar a chyffrous.

Mae URC yn hyrwyddo, meithrin, annog a rheoli undeb rygbi ledled Cymru. Mae’n cyflogeion yn allweddol er mwyn sicrhau y cyflawnir y bwriadau hyn.

Mae’n nodau, ynghyd â’n gweledigaeth a’n cenhadaeth, yn cael eu hategu gan ein gwerthoedd a’n credoau craidd sy’n coleddu:-

  • Gonestrwydd
  • Rhagoriaeth
  • Llwyddiant
  • Dewrder
  • Teulu
  • Hiwmor

Mae Grwp Undeb Rygbi Cymru’n llwyr ymroddedig i egwyddorion cydraddoldeb ac mae’n gyfrifol bod cyflogeion, aelodau, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr, waeth bethfo’u hoed, anabledd, ailgyfeiriad rhyw, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredo, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol, yn cael eu trin yndeg a heb wahaniaethu.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert