Neidio i'r prif gynnwys

Ymddygiad Cadarnhaol

Ymddygiad Cadarnhaol

Mae URC wedi ymrwymo i hybu ymddygiad cadarnhaol, a gweithio gyda rhieni a gwirfoddolwyr i sicrhau ein bod yn creu amgylchedd diogel a chadarnhaol er mwyn i blant ddysgu, datblygu a chael hwyl drwy eu profiadau ym myd rygbi.

Mae’n hynod o bwysig bod gwirfoddolwyr rygbi yng Nghymru yn deall eu cyfrifoldebau diogelu o ran y plant y maent yn rhyngweithio â nhw yn yr amgylchedd rygbi. Mae chwaraeon yn rhoi cyfle gwych i athletwyr ifanc i ddatblygu eu sgiliau bywyd, ac mae rygbi yn arbennig, gan ei bod yn gêm dîm, yn enghraifft o sut y gall chwaraewyr sy’n dangos esiampl gadarnhaol lunio a dylanwadu ar ymddygiad eraill.

Mae gan bawb sy’n ymwneud â’r gêm gyfrifoldeb i sicrhau bod parch a disgyblaeth yn parhau’n thema ganolog ym meddyliau plant sy’n cychwyn ar eu taith rygbi. Mae’n bwysig bod plant, rhieni, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a phawb arall sy’n ymwneud â’r gêm yn deall diwylliant a moeseg rygbi a thrin pobl â pharch er mwyn i bawb fwynhau ‘Profiad Rygbi Cymru’.

Ceir nifer o glybiau sy’n hybu ymddygiad cadarnhaol drwy ddefnyddio ‘Byrddau Parch’ ac mae rhai wedi postio eu Codau Ymddygiad nid yn unig ar hysbysfyrddau, ond ar fyrddau parhaol y tu allan i’r clwb neu’r ystafelloedd newid.

Mae’n hynod o bwysig bod oedolion yn deall effaith eu hymddygiad, ac mae hyfforddwyr yn arbennig mewn sefyllfa o ymddiriedaeth a chyfrifoldeb a gallant ddylanwadu’n gryf ar y ffordd y mae’r plant dan eu hyfforddiant yn meddwl ac yn ymddwyn.

Ceir Codau Ymddygiad ar gyfer Chwaraewyr, Rhieni, Gwylwyr a Hyfforddwyr a dylid rhoi’r rhain mewn lle amlwg fel y gall pob gwirfoddolwr ac ymwelydd eu gweld a deall yr hyn a ddisgwylir o ran ymddygiad pawb yn y clwb.

Mae Dyfarnwyr a Swyddogion yn chwarae rhan hanfodol ymhob gêm o rygbi a chwaraeir, o’r llwyfan rhyngwladol i gylchoedd cymuned a graddau oedran. Mae ganddynt swyddogaeth ganolog yn sicrhau bod gêm genedlaethol Cymru, ac fe ellir dadlau, ei phrif gariad, yn parhau i ffynnu o wythnos i wythnos. Mae angen i bob oedolyn ddeall bod yn rhaid inni hybu ymddygiad cadarnhaol tuag at Ddyfarnwyr, a gosod esiamplau da i blant eu dilyn.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert