Neidio i'r prif gynnwys

Gwirfoddoli

Gwirfoddoli

GWIRFODDOLI

Mae gwreiddiau pob chwaraewr rygbi yn y clybiau sy’n ffurfio Undeb Rygbi Cymru ac mae clybiau rygbi yn dibynnu ar wirfoddolwyr i wneud pob agwedd ar rygbi’n bosibl.
Mae gwirfoddoli ym maes rygbi yn mynd y tu hwnt i’r hyfforddwyr a’r dyfarnwyr. Mae gennym ni gyfleoedd i bawb fod yn rhan o weithgareddau a swyddogaethau amrywiol sy’n hanfodol i’n gêm ni.

Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i gefnogi a hyfforddi gwirfoddolwyr i wneud iddyn nhw deimlo’n rhan o amgylchedd y clwb a chynnal eu hamser a’u hymdrechion gwerthfawr.
Gan gadw hyn mewn cof mae URC yn cefnogi athroniaethau megis egwyddorion Rhoi i Elwa Chwaraeon Cymru. Mae’r egwyddorion hyn yn berthnasol i wirfoddolwyr a chlybiau gyda’r bwriad o gefnogi gwirfoddolwyr i ddatblygu, a chlybiau i greu gweithlu gwirfoddol medrus.

1. Mae gwirfoddolwyr yn gwybod yn iawn beth sy’n ddisgwyliedig – gellir cyflawni hyn drwy ddefnyddio disgrifiadau clir o swyddogaethau gydag ymrwymiad amser neu gyrsiau cyflwyno.
2. Mae gwirfoddolwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu datblygu a’u cefnogi – bydd cyrsiau addysg, gweithdai neu wobrau cydnabod yn symud tuag at yr egwyddor hon.
3. Mae manteision gwirfoddoli i’r ddwy ochr yn amlwg i bawb – gan bwysleisio pam mae gwirfoddolwyr yn allweddol i’n gêm a bydd y buddion a gaiff gwirfoddolwyr megis gwella iechyd, cyflogadwyedd a hyder yn helpu i dyfu ein gweithlu.

Bydd nifer o glybiau yn ysgogi’r egwyddorion hyn, efallai bydd angen cymorth ar rai i dyfu mwy, efallai bod rhai ar ddechrau eu taith. Gyda phwyslais clir ar wirfoddoli a datblygu’r gweithlu, mae rhai clybiau wedi enwebu Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr i sicrhau bod pob gwirfoddolwr yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw, i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth gyda’u swyddogaethau a bod gan wirfoddolwyr newydd lwybr clir i’r clwb.

Mae gwirfoddolwyr wrth wraidd ein clybiau. Mae URC eisiau cefnogi clybiau i recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr. Os ydych yn dymuno mwy o gymorth, eisiau cofrestru Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr ar gyfer eich clwb neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli eich hunan anfonwch e-bost at jharris@wru.wales yn gofyn am gyngor.

HYFFORDDI GWIRFODDOLWYR
Cymorth Cyntaf Brys Sant Ioan Cymru ar gyfer Rygbi – Cwrs 3 awr wedi ei deilwra ar gyfer gwirfoddolwyr rygbi yn canolbwyntio ar anafiadau sy’n gyffredin ar y cae. Cynhelir y cwrs yn adeilad y clwb ac mae’n addas i bob gwirfoddolwr dros 16 oed.

Strapio ac Ymwybyddiaeth Feddygol – Cynhelir y cwrs hwn gan ffisiotherapydd Rhanbarthol ac mae’n cwmpasu anafiadau Difrifol, cynllunio camau argyfwng, cyngor sylfaenol ynghylch cyfergyd yn ogystal â strapio mewn partneriaeth â Chorffoledd. Cynhelir y cwrs dwy awr yn eich clwb ac mae’n addas ar gyfer pob cymhorthydd Cyntaf sy’n gweithio ym maes rygbi dan 12 neu uwch.
Diogelu ac amddiffyn plant – Cwrs achrededig 3 awr mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru a’r NSPCC. Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad i ddiogelu gyda phynciau ynghylch sut i warchod y plant yr ydych yn gweithio â nhw, yn ogystal â gwarchod eich hun mewn sefyllfaoedd a all fod yn beryglus i’ch enw da. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer pob gwirfoddolwr, ac mae’n rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus.

Hylendid Bwyd – Cwrs diogelwch bwyd sylfaenol yw hwn ac mae’n addas ar gyfer pob gwirfoddolwr a fydd yn ymdrin â bwyd. Mae’n gwrs 6 awr a gellir ei gynnal dros ddwy noswaith neu mewn un sesiwn.

Cyflwyniad i Gynnal a Chadw Tiroedd – Cyflwyniad sylfaenol i swyddogaeth staff tiroedd a phrif egwyddorion cynnal a chadw tiroedd. Bydd y cwrs yn rhoi sylw i amserlenni cynnal a chadw rhagweithiol ynghyd â sut i ddefnyddio cyfarpar sylfaenol yn effeithiol. Mae’n gyfle gwych i ofyn cwestiynau am dir eich clwb yn ogystal ag unrhyw broblemau a sut i’w datrys. Cynhelir y cwrs ar benwythnos ac mae’n para tua 5 awr.

 

YMUNWCH Â NI

Ydych chi eisiau bod yn rhan o’r tîm sydd y tu ôl i bob chwaraewr rygbi yng Nghymru? Mae’n cymryd amrywiaeth eang o bobl â sgiliau amrywiol i wneud i rygbi ddigwydd.
Mae clybiau yng Nghymru yn cael eu rhedeg diolch i egni pobl cymuned fel chi sy’n defnyddio eu sgiliau a’u hymroddiad i wneud i rygbi ddigwydd. Ydych chi’n meddu ar y nodweddion angenrheidiol i fod yn rhan o’r tîm sydd y tu ôl i Wreiddiau Rygbi Cymru’r chwaraewyr? A ydych chi eisiau’r cyfle i ddatblygu eich hun mewn amgylchedd unigryw a meithrin sgiliau a phrofiad?
Mae bod yn rhan o un o’n clybiau yn arwain at ddatblygu eich sgiliau gydol oes, o weinyddu busnes i wybodaeth achub bywyd. Mae URC yn bwriadu rhoi cyfleoedd i wirfoddolwyr i ddysgu a datblygu eu sgiliau fel ffordd o ddiolch iddyn nhw am eu hamser a’u hymroddiad i’r gêm.
Mae Gweinyddwyr Clybiau yn ganolog i’r clybiau. Dechreuodd gwirfoddolwyr fel Rhian Edwards o Flaendulais ei gwreiddiau rygbi oherwydd bod ei phlant yn cymryd rhan yn y gêm. Dechreuodd gwreiddiau Rhian wrth iddi gefnogi’r adran iau er mwyn datblygu’r clwb. Datblygodd i fod yn swydd gyda’r uwch bwyllgor gan roi’r cyfle i Rhian ddefnyddio ei sgiliau presennol a datblygu mwy.
Os nad yw gweinyddu clwb at eich dant chi, mae gennym ni swyddogaethau yn ymwneud â’r timau. Mae Rheolwyr Tîm a Chymhorthwyr Cyntaf yn ganolog i’r broses o hyfforddi a gwneud i gemau ddigwydd bob wythnos. Mae David Jones o Fae Colwyn yn enghraifft. Yn rheolwr tîm ieuenctid fe aeth ar gwrs Cymorth Cyntaf Rygbi. Erbyn hyn mae’n defnyddio ei wybodaeth bob wythnos gyda’i dîm. Fe ddefnyddiodd ei wybodaeth hefyd y tu allan i faes rygbi pan ofalodd am unigolyn a oedd wedi cwympo mewn gorsaf betrol.

Os ydych chi eisiau tyfu eich gwreiddiau rygbi a bod yn rhan o’n gêm, gadewch inni eich helpu-anfonwch e-bost at jharris@wru.wales

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert