Neidio i'r prif gynnwys

Sut mae cymryd rhan rygbi merched

Ymunwch a ni!

“Mae wedi rhoi hwb i’w hyder”, “mae ganddi deulu newydd o ffrindiau”, “mae’n teimlo ei bod hi’n aelod gwerthfawr o dîm”, “mae wedi bod yn brofiad gwych a chadarnhaol”, “mae wedi gwella ei ffitrwydd”, “mae wedi creu ymdeimlad o berthyn ynddi”, “mae wedi ein clymu ni fel teulu”, “rydw i wedi meithrin diddordeb newydd hefyd drwy fynychu sesiynau ffitrwydd rygbi”.

Dyma farn rhai o’r rhieni y mae eu merched wedi dechrau ymwneud â rygbi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Gwelwyd cynnydd enfawr yn nifer y merched sy’n dangos diddordeb ac sy’n cymryd rhan mewn rygbi merched yng Nghymru. Mae nifer y merched sy’n chwarae rygbi yn un o’r 95 o ysgolion a cholegau sydd â swyddogion hybu rygbi llawn-amser wedi cynyddu o lai na 200 i bron 10,000 yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Y tu allan i’r ysgol erbyn hyn, mae canolfannau clystyrau ‘merched yn unig’ yn dechrau ar eu trydydd tymor ‘gwanwyn a haf’ ac yn mynd o nerth i nerth.

Y tymor hwn ceir mwy o gyfleoedd fyth i ferched gymryd rhan, gan fod 32 o glystyrau o amgylch Cymru a bod yr ystod oedran a gynigir yn y clystyrau wedi’i ehangu er mwyn darparu ar gyfer y galw ymhlith merched i allu chwarae rygbi mewn cymunedau ledled Cymru. Erbyn hyn mae’r clystyrau ar agor i ferched o bob oed – o rai dan 7 i rai dan 18.

Sut ydych chi am gymryd rhan?

 

 

Women's and Girls' Rugby

Chwilio am glwb

Sut mae cymryd rhan rygbi merched

Hwb Menywod

Sut mae cymryd rhan rygbi merched

Gweithlu rygbi menywod a merched

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert