Fel rhan o’u paratoadau ar gyfer gemau prawf yr haf yn erbyn Tonga a Samoa, fe fydd Cymru o dan ofal y prif hyfforddwr Robin McBryde yn teithio i’r gogledd er mwyn cynnal sesiynau ymarfer fydd yn gorffen gyda gem yn erbyn enillwyr Cwpan Cenedlaethol URC ar ddydd Gwener 2 Mehefin.
Fe fydd y gic gyntaf am 7pm gyda’r gêm yn cael ei ddarlledu yn fyw ar S4C o Barc Eirias. Fe fydd y gatiau yn agor am 5.30pm ar gyfer y gêm sydd yn cael ei weld fel dathliad o rygbi yng ngogledd Cymru.
Pris y tocynnau yw £15 (eistedd) a £10 ar gyfer oedolion a £5 ar gyfer rhai dan 16 ar y teras. Mae modd archebu tocynnau o wru.wales/tickets neu trwy alw 0844 847 1881 (ar raddfa premiwm)* Mae’r gêm yn cael ei gynnwys fel rhan o becyn deiliaid tocynnau tymor RGC ac fe fydd deiliaid yn cael gwybod am y trefniadau maes o law.
Fe fydd elw o’r gêm yn cael ei rannu rhwng dwy elusen, Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru a T? Gobaith.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Robbie McBryde: “Yr ydym wrth ein boddau i gael dechrau ymarfer ar gyfer taith yr haf yng ngogledd Cymru ar ddiwedd y mis.
“Mi gawsom ni groeso cynnes yng Ngogledd Cymru yn ystod ein hymweliad diwethaf a dwi’n falch iawn i gael dychwelyd unwaith eto. Mae’r gymuned yng ngogledd Cymru wedi cofleidio tîm dan 20 Cymru ac wedi creu awyrgylch arbennig ac fe fydd hi’n braf cael rhannu’r profiad.
“Roedd yn rhaid i ni wynebu her cyn mynd ar daith i hemisffer y de, a dwi’n falch i gael chwarae yn erbyn RGC – tîm sydd wedi cymryd camau breision dros y blynyddoedd diwethaf.”
Dywedodd prif hyfforddwr RGC Mark Jones: “Mae hwn yn gyfle gwych i RGC helpu Cymru gyda’u paratoadau ar gyfer taith yr haf. Ond yn bwysicach efallai i mi, yw’r ffaith ei fod yn dangos pa mor bell yr ydym wedi datblygu fel Rhanbarth Datblygu. Yr ydym yn gweld chwaraewyr sydd wedi teithio ar hyd y llwybr talent yng ngogledd Cymru bellach yn mwynhau un o’r anrhydeddau mwyaf – cyfle i herio ein tîm cenedlaethol sy’n dangos bod y llwybr yma yn y gogledd i galluogu chwaraewyr gyrraedd lefel uchel iawn. “