Cyhoeddwyd y bydd gŵyl rygbi i gyfranogwyr sydd ag anableddau hefyd yn cael ei chynnwys eleni. Disgwylir i wyth ysgol gymryd rhan ar y 12 Ebrill a bydd yr ŵyl yn rhan o’r digwyddiad yng Nghaerdydd.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, “Mae ein partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru yn parhau i ffynnu wrth i ni weithio ar ddatblygu ac ehangu’r ddarpariaeth a’r profiad. Mae rygbi yn gêm i bawb ac rydym yn arbennig o falch fod plant a phobl ifanc sydd ag anableddau yn rhan o ddigwyddiad 2019. ”
Mae’r bartneriaeth yn galluogi’r Urdd ac Undeb Rygbi Cymru i gyflawni nodau allweddol trwy gynyddu’r nifer sy’n chwarae’r gêm a datblygu sgiliau wrth annog y defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol.
Yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae’r gwaith i gynnal eu prosiect etifeddiaeth yn parhau drwy gydol y flwyddyn er mwyn cynnig sesiynau rygbi mewn ardaloedd difreintiedig.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John, “Mae rygbi Cymru yn rhan annatod o wead ein cenedl, ac rwy’n credu fod y byd wedi gweld hynny ers i ni ennill y Gamp Lawn dros y penwythnos, Mae rhannu nodau a gweledigaeth gyda Chwaraeon yr Urdd yn ein galluogi i gyfuno ein hadnoddau a defnyddio pŵer rygbi Cymru i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a hyrwyddo rhan annatod arall o’n diwylliant – yr iaith Gymraeg.
“Mae chwarae 7 bob ochr yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau, ffitrwydd ac ymwybyddiaeth o’r gêm, ac wrth gwrs i gael hwyl gyda ffrindiau.
“Ynghyd â manteision ehangach ein partneriaeth gyda’r Urdd, fel y cydweithio rhwng ein prentisiaid a chyfleoedd rygbi cymunedol, mae’r gystadleuaeth hon yn helpu i gefnogi ein nodau craidd o gael mwy o fechgyn a merched i fwynhau rygbi ynghyd â datblygu chwaraewyr ar gyfer y gêm ar bob lefel.
“Mae gem 7 bob ochr yn fformat mor hygyrch gan fod modd ei chwarae gyda llai o ddisgyblion, mewn grwpiau blwyddyn ysgol a gan fechgyn a merched sy’n newydd i’r gêm.”
Ychwanegodd Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas AC,
“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Urdd ac Undeb Rygbi Cymru am barhau i weithio mewn partneriaeth gyda dros 100 o ysgolion ar draws Cymru er mwyn cynnal digwyddiad sy’n cynnwys miloedd o blant ar hyd ac ar led y wlad. Gobeithio gall ymdrechion arbennig ein timau menywod, dynion a dan 20 cenedlaethol ysbrydoli perfformiadau yn ystod y gystadleuaeth. Roeddwn hefyd yn falch iawn o glywed y bydd gŵyl rygbi i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau hefyd yn cael ei chynnwys eleni – mae rygbi, yn ei amrywiol ffurf, yn gamp i bawb. Dymunaf bob lwc i bawb sy’n rhan o’r digwyddiad ac unwaith eto, diolch diffuant i’r Urdd ac Undeb Rygbi Cymru am eu gwaith caled wrth drefnu’r digwyddiad.”