Yn sgil llwyddiant eu her rhedeg enfawr yn ôl ym mis Mai – a fu’n helpu cysylltu preswylwyr a staff cartrefi gofal o amgylch Cymru gyda’u teuluoedd – mae’r clwb bellach wedi codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r mater o dlodi bwyd yn y ddinas.
“Mae pobl yn gorfod ymdopi gyda mwy o drafferthion nag erioed yn ystod y pandemig hwn, boed hynny oherwydd colli swyddi neu afiechyd,” meddai’r trefnydd Chris Jones, sydd mewn amseroedd mwy arferol yn chwarae fel maswr neu gefnwr i’r clwb. “Mae Marcus Rashford wedi dod â llawer o sylw i gyflwr pobl sydd mewn angen dybryd am fwyd, ac fe gawson ni’r syniad o gynnal casgliad bwyd ar gyfer Banc Bwyd Caerdydd.”
Dros y penwythnos diwethaf, gwahoddwyd aelodau’r clwb i ddod â bwyd a diod – yn ogystal â chynhyrchion hylendid personol – i lawr i ystafelloedd newid y clwb ym Meysydd Pontcanna, gyda busnesau lleol hefyd yn cael eu hannog i gefnogi a lledaenu’r gair trwy’r cyfryngau cymdeithasol.
“Roedd yr ystafelloedd newid ar agor rhwng 8yb a 6yn ddydd Sadwrn a dydd Sul, gyda’r aelodau’n cymryd sifftiau i oruchwylio popeth,” esboniodd Jones, sy’n gweithio yng nghwmni cyfreithiol Hugh James. “Roedd gennym arwydd y tu allan i’r ystafelloedd newid a phot casglu i bobl roi arian, neu ddod ag unrhyw ganiau bwyd y gallent eu sbario i lawr.
“Erbyn diwedd y penwythnos, roedd yr ystafelloedd newid yn hollol lawn.”
Dywedodd Jones fod haelioni aelodau’r clwb – gan gynnwys eu hadrannau iau, dynion a menywod – wedi ei synnu. “Mae’r gyriant bwyd a’r her rhedeg yn ôl ym mis Mai wedi creu bach o ‘buzz’ o amgylch y clwb yn ystod amseroedd ansicr,” meddai Jones, sy’n wreiddiol o’r Drenewydd yng Nghanolbarth Cymru. “Nid oes gennym dŷ glwb ein hunain, ond mae gennym gysylltiad cryf fel clwb o hyd, ac mae wedi bod yn anhygoel gweld beth y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn tynnu at ein gilydd.”
O ystyried ei lwyddiant, mae potensial i’r digwyddiad cael ei chynnal yn flynyddol i helpu pobl mewn angen ledled y ddinas. Cafodd yr achos eleni hwb mawr trwy’r 200 o blant a gymerodd rhan mewn ymarfer yr adran Iau ddydd Sul: daeth pob un ohonynt ag eitemau i’w rhoi i’r casgliad bwyd.
“Hoffwn dangos gwerthfawrogiad y clwb i rai aelodau yn benodol,” ychwanegodd Jones. “Creodd Rhun Dafydd ein holl gynnwys ar-lein sydd wedi helpu i ledaenu’r neges, tra bod Neil Cole, Sam Lewis, David Pemberton a Rhys Jones yn haeddu diolch enfawr.
“Ac yn olaf, diolch enfawr i’r adran Iau. Roedd chyfraniad nhw yn wirioneddol anhygoel.”