Cadarnhaodd Undeb Rygbi Cymru heddiw y bydd yn parhau i weithio tuag at ddychwelyd rygbi cymunedol yn raddol yng Nghymru, ar ôl iddo barhau i weithio’n agos gyda’r Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol a sefydlwyd i oruchwylio ymateb chwaraeon yng Nghymru i’r pandemig.
Gyda hyn mewn golwg, mae Bwrdd Cymunedol Undeb Rygbi Cymru wedi cytuno ar gyfres o argymhellion, i’w weithredu pan yn addas, sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Fwrdd llawn yr Undeb.
Mae’r rhain yn cynnwys:
– ailgyflwyno elfen o rygbi cyffwrdd a rhyw fath o gystadleuaeth gyda rheolau a rheoliadau wedi’u haddasu, gan ddechrau gyda chlybiau’r Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth. Bydd clybiau yn yr adrannau hynny’n cael eu cysylltu cyn i’r cyfnod hwn yn cael ei hawdurdodi ac yn cael cyfnod hyfforddi o chwe wythnos cyn bod unrhyw lefel o rygbi cyswllt (contact) cystadleuol yn cael ei hawdurdodi. Pan fydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu hynny, bydd pob lefel arall o’r gêm yng Nghymru yn gallu ailddechrau rygbi cyswllt o fewn y canllawiau presennol a byddant yn cael chwe wythnos o rybudd cyn i’r cam rygbi llawn gael ei gyflwyno ymhellach.
– Mae Undeb Rygbi Cymru yn dal yn hyderus iawn y bydd rhyw fath o rygbi cymunedol cystadleuol yn cael ei gynnal yng Nghymru cyn diwedd y tymor presennol, ac mae wedi penderfynu ymestyn y tymor presennol y tu hwnt i fis Mai 2021 i sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i ganiatáu i hyn ddigwydd.
– Fodd bynnag, mae penderfyniad wedi’i wneud na fydd rygbi’r Gynghrair Genedlaethol yn digwydd y tymor hwn. Mae hyn yn cynnwys holl Gynghreiriau Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru i ddynion a merched ar lefel uwch ac ieuenctid ac, o ganlyniad, ni fydd timau’n cael dyrchafiad nac yn cwympo’r tymor hwn; bydd eu statws cynghrair presennol yn cael ei drosglwyddo i’r tymor nesaf.
Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, “Ry’n ni’n gweithio’n galed gyda’r holl bartneriaid i ddychwelyd i ryw fath o rygbi cymunedol cystadleuol yn ôl cyn diwedd y tymor ac ry’n ni’n teimlo bod y cynllun hwn yn adlewyrchu hynny. Ry’n ni wir yn ymwybodol o faint mae pobl yn gweld eisiau rygbi. Ry’n ni hefyd yn gwybod bod ein clybiau, sydd wedi bod yn esiampl ardderchog yn ystod yr argyfwng iechyd hwn, yn dal yn wynebu heriau. Mae eu pryderon ynglŷn â’r posibilrwydd o bobl yn rhoi’r gorau i’r gêm yn ystod y cyfnod hwn, lle mae bywyd rygbi pawb wedi gorfod newid, yn gwbl glir.
“Fodd bynnag, mae angen i ni ddod â’r gêm yn ôl yn ddiogel ac yn gynaliadwy pan fydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu hynny. Mae’r mesurau newydd hyn wedi cael eu cyflwyno gan Fwrdd y Gêm Gymunedol ac mae’r Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol a Bwrdd Llawn yr Undeb wedi’u cymeradwyo. Ry’n ni’n awyddus i roi eglurder i’n clybiau ac i’r bobl sy’n rhan o’n gêm yng Nghymru. Er ein bod yn cydnabod nad yw hyn yn dychwelyd i bethau fel yr oedden nhw, mae’n dangos llwybr yn ôl at rygbi cystadleuol.”
Ychwanegodd Julie Paterson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Undeb, “Rydyn ni’n parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a chyrff partner eraill i fwrw ymlaen gyda’n cynllun Dychwelyd i Rygbi’r Gymuned, ac i ddod â rygbi’n ôl yn raddol ac yn ddiogel. Mae’r mesurau hyn, ac yn enwedig y camau i ddychwelyd yn raddol i rygbi llawn, yn gerrig milltir pwysig ar ein taith a gobeithio y bydd ymestyn y tymor yn gam arall tuag at ddychwelyd i ffitrwydd llawn.”