Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad Statws URC 3/02/21

Diweddariad Statws

“Hoffwn ailadrodd fy sylwadau ein bod yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i’r gêm gymunedol a phroffesiynol yng Nghymru hyd yma. O’r dechrau, nol ym mis Mai’r llynedd, yn ystod trafodaethau am becyn cyllid a fyddai’n helpu i’n gêm oroesi’r pandemig, mae trafodaethau wedi bod yn bositif, ond hefyd yn drylwyr a manwl.

Yn ystod ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ymateb yn gyflym a dod o hyd i ddatrysiad – gyda benthyciad £20 miliwn NatWest drwy Gynllun Benthyciadau Ymyriad Coronafeirws i Fusnesau Mawr. Mae’r swm yma yn gymorth i ni ddiogelu’r Gleision, Dreigiau, Gweilch a Scarlets Caerdydd ar gyfer y dyfodol agos. Roedd hyn ar adeg pan oedd gan y llywodraeth flaenoriaethau eraill, ffocws uniongyrchol ar reoli lledaeniad y firws ac achub bywydau ledled y wlad. Wrth gwrs, yn dilyn hyn, croesawyd grant £13.5miliwn ar gyfer y gêm broffesiynol a oedd yn amserol iawn.

Rydym wrth gwrs yn gwybod y bydd angen mwy o help arnom ac mae’r sgyrsiau adeiladol, ynglŷn ag ymdopi a’r heriau sy’n ymwneud a’r benthyciadau yn benodol, yn parhau. Ond byddwn yn parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru i gyflawni ein nod datganedig o sicrhau bod Rygbi Cymru yn goroesi’r pandemig. Erbyn hyn mae’r ffordd ymlaen yn glir.

Hoffwn bwysleisio ein bod wedi mynd ati drwy gydol y pandemig i fod yn ddinasyddion da. Rydym wedi helpu ein hunain lle bynnag y bo modd ac wedi cefnogi Llywodraeth Cymru a chymunedau ledled Cymru y mae strwythur ein clwb yn eu cefnogi, ym mhob mesur i frwydro yn erbyn y firws. Rydym wedi defnyddio ac elwa o amrywiaeth o gynlluniau’r llywodraeth, gan gynnwys y cynllun ffyrlo ac amrywiaeth o grantiau a phecynnau ariannol eraill sydd wedi bod ar gael i helpu clybiau yn y gêm gymunedol i oroesi.

Mae strategaeth Undeb Rygbi Cymru, sy’n cael llawer o gyhoeddusrwydd, yn parhau i ddiogelu cyllid ar gyfer y gêm gymunedol, ac mae’r dull hwn wedi bod yn hanfodol i gynnal clybiau hyd yma. Roedd hyn yn golygu, oherwydd yr anawsterau a welwyd oherwydd y pandemig, cafodd cyllid ar gyfer ein gêm broffesiynol ei effeithio.

Ymunodd Rygbi Cymru â’r ymgyrch genedlaethol yn erbyn y firws, yn benderfynol o helpu, nid bod yn faich, ac i chwarae rhan mewn unrhyw ffordd. Defnyddiwyd y Stadiwm Principality ar gyfer Ysbyty Calon y Ddraig a gwnaed defnydd o ganolfan hyfforddi’r Garfan Genedlaethol yn y Vale Resort yn yr un modd yn ogystal â chyfleusterau’r Dreigiau, Gleision Caerdydd a’r Scarlets. Bu ein clybiau cymunedol yn brysur yn helpu hefyd. Ddim yn fodlon wrth fynd i’r afael â’u brwydrau eu hunain i oroesi, roeddent yn helpu eu cymunedau ac yn trefnu gweithgareddau a ffyrdd o godi arian i gefnogi’r GIG. Mae’n galonogol clywed hyn am ein gêm.

Darn olaf y jig-so ar gyfer ein gêm broffesiynol fydd ailedrych ar y telerau yn ymwneud a’r benthyciad a dderbyniwyd drwy Gynllun Benthyciadau Ymyriad Coronafeirws i Fusnesau Mawr. Bydd telerau mwy ffafriol yn rhoi cyfle i’n rhanbarthau nid yn unig atgyfnerthu ond parhau i fod yn gystadleuol pan ddaw’r pandemig presennol i ben. Mae gennym bellach yr adnoddau angenrheidiol i sicrhau – ein nod datganedig – y bydd Rygbi Cymru yn goroesi yn gystadleuol a chynaliadwy ym mhob lefel o’r gêm.

O ran materion eraill, rwyf wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i glybiau sy’n aelodau am bob mater pan fyddant yn codi a byddaf yn ceisio mynd i’r afael â phob un yn ei thro:

· LLEWOD PRYDAIN AC IWERDDON: rydym yn parhau i edrych ar yr opsiynau sydd ar gael i’r Llewod o ystyried yr heriau amlwg a gyflwynwyd gan y pandemig a gobeithiwn gwblhau’r trafodaethau hynny yn ddiweddarach y mis hwn. 
· CHWE GWLAD: rydym yn parhau i drafod gyda CVC ynglŷn â’r cyfle iddynt ddod yn bartneriaid yn y Chwe Gwlad ac rydym yn hyderus o ganlyniad cadarnhaol yn fuan. 
· CWPAN RYGBI’R BYD 2031: efallai eich bod wedi darllen sôn yn y cyfryngau ein bod wedi ystyried gyda’n cydweithwyr yn Undeb Rygbi Iwerddon, Undeb Rygbi Lloegr ac Undeb Rygbi’r Alban ynglŷn â’r cyfle i gynnal Cwpan Rygbi’r Byd 2031, ond nid yw’r mater hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
· CWPAN YR ENFYS: mae Cwpan Enfys PRO14 Guinness yn ddigwyddiad cyffrous yn enwedig i gefnogwyr a fydd yn gweld chwaraewyr rhyngwladol o’r gogledd a’r de yn chwarae yn y gystadleuaeth newydd yma. Edrychwn ymlaen at weld pedwar tîm ‘Uwch’ De Affrica yn cystadlu.
· RYGBI PROFFESIYNOL YNG NGHYMRU: Ynghyd â’n clybiau proffesiynol, rydym yn ailedrych ar ein Strategaeth Rygbi proffesiynol presennol gyda’r nod o sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau pan fyddwn yn dod allan o’r pandemig. Bydd mwy o newyddion am hyn yn dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
· RECRIWTIO: rydym wedi dechrau’r broses o lenwi’r swydd wag presennol ar gyfer rôl y Cyfarwyddwr Perfformiad ac rydym yn archwilio’r holl opsiynau sydd ar gael i ni.

Yn y cyfamser, rwy’n gwybod y bydd y genedl yn cael cysur yn yr hyn a welant o’u blaen y penwythnos hwn – Cymru yn dechrau eu hymgyrch Chwe Gwlad Guinness 2021 yn erbyn Iwerddon, yn Stadiwm Principality. Ond wrth gwrs mae rhywbeth o’i le yn y darlun hwn o hyd. Roeddem wedi gobeithio y byddai dychwelyd i Stadiwm Principality yn cyd-fynd â gwelliant mewn amgylchiadau ar lefel genedlaethol o ran y pandemig; y byddai’r trawsnewidiad o Ysbyty Calon y Ddraig yn ôl i gartref y bêl hirgrwn yn ein galluogi i groesawu cefnogwyr ffyddlon rygbi Cymru. Mae’n ymddangos bod yn rhaid i ni aros yn hirach nag yr oeddem wedi’i ddymuno neu ei obeithio, ond rydym yn ddiolchgar am yr hyn sydd gennym – y cyfle i chwarae. Mae llawer o waith caled wedi’i wneud i sicrhau y gallwn wneud yr union beth hwnnw, a galluogi tîm Wayne Pivac i barhau i gynrychioli’r genedl yn y gystadleuaeth hanesyddol hon. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu wrth drefnu’r gêm heddiw.

Diolch i’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff o’r ddwy ochr am yr ymroddiad y maent wedi’i ddangos a’r aberth y maent wedi’i wneud i sicrhau y gall y gêm heddiw gael ei chynnal yn ddiogel.  Wrth gwrs, mae ein staff yn URC hefyd wedi cyfrannu’n sylweddol at sicrhau y gall gwasanaeth arferol – os yn bosib – ailddechrau yn Stadiwm Principality, rwy’n ddiolch iddyn nhw hefyd.

Hefyd i staff y GIG, a dreuliodd fwy na chwe mis ar y safle yn Stadiwm Principality cyn ei ddychwelyd i ni. Yn feddygon, nyrsys, staff adeiladu, gweinyddwyr ac, wrth gwrs, y cleifion – byddwch bob amser yn rhan o hanes ein stadiwm. Hoffem feddwl y gallem fod wedi helpu i ddod ag o leiaf rhywfaint o oleuni i rai o’r dyddiau tywyllaf.

Yn olaf, o safbwynt Prif Swyddog Gweithredol, mae cydbwysedd rhwng delio a’r cyfnod presennol o’r pandemig ac edrych ar yr amcanion tymor canolig a hir dymor fel busnes. Hoffwn gynnig y cysur i’n clybiau a’n rhandeiliaid o fewn ein gêm genedlaethol, ein bod yn ffocysu ar y ddau. Rydym yn bwriadu sicrhau fod Rygbi Cymru nid yn unig yn goroesi’r pandemig, ond ei fod mewn sefyllfa i ffynnu ar y llwyfan rhyngwladol ac ar lawr gwlad.

Mwynhewch y penwythnos o rygbi sydd o’n blaenau,
Steve Phillips
Prif Swyddog Gweithredol URC

Partneriaeth Newydd URC a Chwmni Gardiau Ceg OPRO
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi arwyddo cytundeb ar gyfer partneriaeth newydd gyda brand gardiau ceg o safon flaengar drwy’r byd, OPRO, i ffitio a chyflenwi ei holl dimau elît tan 2024.
Gan ddechrau gyda gem agoriadol Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness 2021 yn erbyn Iwerddon, ddydd Sul 7 Chwefror, bydd holl dimau elît Cymru – Dynion, Merched, 7 bob ochr, Dan 20 a Dan 18 – yn cael ystod o gardiau ceg OPRO, a hynny am y tair blynedd nesaf.
Yn ogystal â darparu gard ceg bwrpasol, addas i bob chwaraewr, bydd OPRO hefyd yn cynhyrchu gardiau ceg drwyddedig swyddogol â brand URC, o’u cyfres Self-Fit, i’w gwerthu i’r cyhoedd.
Mae OPRO wedi ymrwymo i ddod â thechnoleg a diogelwch blaenllaw i athletwyr ar bob lefel ac maent wedi derbyn Gwobr Fenter y Frenhines yn y categori Arloesi ddwywaith, i gydnabod eu gwaith arloesol i wella diogelwch plant ac athletwyr.
Mae OPRO yn bartner swyddogol gard geg ar gyfer fwy nag 85 o dimau a chymdeithasau ledled y byd. Mae’r rhestr yn cynnwys Gleision Caerdydd, y Scarlets a’r Dreigiau yn ogystal â Rygbi Lloegr, Undeb Rygbi’r Ariannin, Rygbi Awstralia a Rygbi Seland Newydd.
“Mae OPRO yn arwain y byd yn eu maes ac rydym yn falch iawn o’u croesawu fel ein unig gyflenwr swyddogol ar gyfer gardiau ceg,” meddai Prif Swyddog Gweithredol URC Steve Phillips.
“Mae diogelwch chwaraewyr, wrth gwrs, yn un o’n prif bryderon. Nid yn unig i’n timau elît ond i bawb sy’n ymwneud â rygbi Cymru ar bob lefel. Mae cynnyrch OPRO yn cael ei gydnabod ar draws y byd fel un sydd o’r safonau uchaf ac yn darparu’r amddiffyniad gorau posibl.
“Gyda datblygiadau technolegol yn gwella cynnyrch drwy’r amser rydym bellach yn gwybod, gydag OPRO, y bydd gan ein chwaraewyr elît yr offer gorau i amddiffyn y geg wrth iddynt gystadlu am anrhydeddau mewn llu o gystadlaethau a thwrnameintiau rhyngwladol yn y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Marchnata Chwaraeon OPRO, Daniel Lovat: “Mae’n fraint gweithio mewn partneriaeth ag URC a darparu gardiau ceg wedi eu creu yn arbennig i’w chwaraewyr.”
“Mae gardiau cegau yn hanfodol ar gyfer amddiffyn chwaraewyr ar bob lefel o’r gêm ac mae gennym dros 20 mlynedd o brofiad ac arbenigedd mewn darparu gardiau ceg sy’n darparu’r lefel uchaf o gysur a diogelwch.
“Mae URC yn un o’r Undebau mwyaf eiconig ac uchel ei barch ledled y byd ac mae cael eu hymroddiad i amddiffyn eu chwaraewyr yn anrhydedd enfawr ac yn dyst i’r holl waith caled ac arloesedd o fewn Grŵp OPRO.”
Bydd sêr Cymru, fel y capten Alun Wyn Jones, George North a Ken Owens (yn y llun) yn gwisgo ystod o gardiau ceg elît OPRO wrth iddynt chwarae yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Am fwy o wybodaeth ewch i

Datganiad ynglŷn â Phencampwriaeth Rygbi’r Byd Dan 20 2021
Ni fydd Pencampwriaeth Rygbi’r Byd dan 20 2021 yn cael ei chynnal eleni oherwydd effaith barhaus pandemig byd-eang COVID-19. Gwnaed y penderfyniad gan Rygbi’r Byd mewn ymgynghoriad â darpar westeion ac undebau a oedd yn cymryd rhan.
Mae Rygbi’r Byd bellach yn gweithio gyda rhanbarthau ac undebau i nodi cyfleoedd cystadlu rhanbarthol mewn amgylchedd diogel, gan adlewyrchu uchelgais y ffederasiwn rhyngwladol i gefnogi llwybrau cystadlu perfformiad uchel ar gyfer sêr rygbi’r dyfodol.

Y ddiweddaraf am Bencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod a Dan 20 oed
Cyhoeddwyd heddiw y bydd Chwe Gwlad y Menywod yn cael eu cynnal ym mis Ebrill mewn fformat newydd a chyddwysedig. Bydd y Chwe Gwlad dan 20 oed yn cael eu cynnal ym mis Mehefin a mis Gorffennaf yn yr un fformat ag a gynlluniwyd ond dros gyfnod cyddwysedig o dair wythnos.
Bydd fformat Chwe Gwlad y Menywod yn debyg i Gwpan Cenhedloedd yr Hydref, gyda dau grŵp o dri a phenwythnos mawreddog y rownd derfynol. Mae Menywod Cymru wedi cael eu rhoi yng Ngrŵp A gyda Ffrainc ac Iwerddon, gan deithio i Ffrainc ar benwythnos Ebrill 3 cyn croesawu Iwerddon ar benwythnos Ebrill 10. Bydd pob gwlad yn chwarae gêm ar 24 Ebrill yn erbyn y tîm gwrthgyferbyniol o’r Grŵp arall – 1 v 1, 2 v 2 a 3 v 3. Caiff dyddiadau manwl y gemau, y lleoliadau a’r amseroedd cychwyn eu cyhoeddi maes o law.

Negeseuon i atgyfnerthu’r cyfnod
Mae tîm cenedlaethol Cymru yn defnyddio eu proffil i gefnogi negeseuon allweddol Llywodraeth Cymru a COVID-19 y GIG yn ystod Chwe Gwlad Guinness 2021.
Mae nifer o gyfleoedd cyhoeddusrwydd wedi eu cynllunio ar gyfer y bencampwriaeth i helpu i atgyfnerthu’r neges allweddol i ‘Gadw Cymru’n Ddiogel’ ac i ‘Aros Adref. Diogelu’r GIG. Achub Bywydau’
Dechreuodd hyn yr wythnos diwethaf gyda llun unigryw o’r garfan i gyd yn gwisgo mygydau dan amodau ymbellhau cymdeithasol. Bydd rhagor o gyhoeddusrwydd yn dilyn yn ddiweddarach yn y bencampwriaeth.
Gweler llun sgwad Chwe Gwlad Guinness dynion Cymru 2021 yn

PONT-Y-CLUN WEDI’U HYSBRYDOLI
Mae mwy na 70 o chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr Clwb Rygbi Pont-y-clun wedi cychwyn ar her arwrol i roi cyfle i un aelod o’r clwb wylio ei fab ifanc yn chwarae rygbi.
Cafodd y cyn chwaraewr Jonathan Hobbs anaf a newidiodd ei fywyd tra ar wyliau ac mae bellach wedi’i gyfyngu i gadair olwyn.
Fodd bynnag, nid yw’r gadair olwyn yn addas ar gyfer caeau rygbi. Oherwydd hyn mae’r clwb yn gobeithio codi digon o arian i brynu cadair newydd a all ei ddefnyddio ar dir anwastad, i’w alluogi i wylio ei fab yn chwarae o bellter llawer agosach.
Dywedodd hyfforddwr tîm ieuenctid Pont-y-clun, Keith Ruggles, “Rwyf bob amser yn darllen diweddariad statws URC ac mae wedi bod yn ysbrydoledig dysgu am ymdrechion enfawr clybiau eraill i fod yn egnïol a chodi arian i elusennau amrywiol ac i helpu aelodau’r clwb. Roedd gorchest ddiweddar Rhiwbeina yn arbennig o ysbrydoledig ac fe gawsom ein sbarduno i wneud rhywbeth ein hunain.
“Chwaraeodd Jonathan i’r tîm iau, ieuenctid a hŷn a’r nod yw cerdded, loncian neu redeg o leiaf 2,500 milltir rhyngom yn ystod mis Chwefror. Cost y gadair yw £10,000 ac rydym wedi codi tua £2.5mil yn barod felly rydym yn obeithiol y byddwn yn chwalu’r targed hwnnw.
“Mae llawer o’n chwaraewyr hŷn yn cymryd rhan, tua 15 o chwaraewyr o’r tîm ieuenctid, yn ogystal â hyfforddwyr, cyn chwaraewyr, swyddogion cymorth cyntaf a gwirfoddolwyr. Mae rhai yn eu 60au, rwy’n gwella o lawdriniaeth ar y glun, ond mae’r her hefyd yn ein helpu i fynd allan cadw’n heini ac yn ein galluogi i aros mewn cysylltiad fel clwb.”
Mae tudalen Go fund me wedi’i sefydlu ar gyfer codi arian www.gofundme.com/f/help-jonathan-hobbs-get-his-off-wheelchair?

IAITH AR DAITH: JAMES HOOK
Dros bedwar diwrnod cyffrous, mae James Hook wedi bod yn carthu stablau, arddangos defaid, pigo gwymon, ac yn ymweld â gwesty llawn ysbrydion.
Efallai ei fod yn swnio fel rhestr o bethau i’w gwneud yn ystod eich blwyddyn allan – er ei fod wedi’i gyfyngu i ddarn 60 milltir o Gymru – ond mae’r cyn maswr wedi dod o hyd i’w ddawn. Mae’r cyfan wedi bod er mwyn dysgu’r iaith Gymraeg.
Yn ystod cyfres ddiwethaf Iaith ar Daith ar S4C gwelwyd enwogion fel Scott Quinnell, Adrian Chiles, Colin Jackson, Ruth Jones a Carol Vorderman yn derbyn yr her i ddysgu Cymraeg. Bydd yr ail gyfres yn dilyn Hook, yr arbenigwr bywyd gwyllt Steve Backshall a’r actorion Joanna Scanlan a Mark Lewis Jones i gyd yn gwneud yr un peth.
Mwy yma:

DYCHWELYD I GARTREF RYGBI YNG NGHYMRU
Mae prif hyfforddwr Cymru Wayne Pivac a’r capten Alun Wyn Jones yn mwynhau’r cyfle i ddychwelyd i Stadiwm Principality ar gyfer Chwe Gwlad Guinness 2021.
Ar ddiwedd 2020, wynebodd Cymru’r Alban yn eu gêm olaf o Chwe Gwlad 2020 ac yna Lloegr, Georgia a’r Eidal yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref ym Mharc y Scarlets.
Cynhaliwyd y gemau hynny yn Llanelli oherwydd bod Stadiwm Principality yn cael ei ddefnyddio fel Ysbyty Calon y Ddraig i helpu i ymladd y frwydr yn erbyn Covid-19.
Nawr mae cartref rygbi Cymru yn ôl. Bydd yn croesawu dynion Pivac ar gyfer eu gemau cartref yn erbyn Iwerddon a Lloegr yn y Bencampwriaeth eleni.
Dywedodd Jones – chwaraewr a’r nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol yn rygbi’r byd: “Mae’n rhyfedd oherwydd ar y daith bws ni fyddwn yn gweld y cefnogwyr
“Mae’n anodd dyblygu diwrnod gêm oherwydd eu bod yn ddiwrnodau arbennig, ond mae gallu mynd yn ôl a chwarae yn y Stadiwm Principality yn arbennig iawn yn ystod cyfnod fel hyn.”
Mwy:

Y PARATOI – DRWY LYGAID JOSH, AELOD NEWYDD Y GARFAN
Mae’r wythnos gyntaf yng ngwersyll Tîm Nghymru wedi bod yn wych, ysgrifennai blaenasgellwr y Scarlets, Josh Macleod. Mae wythnos yn hirach na’r hyn a lwyddais i’w wneud yn yr hydref [pan gafodd anaf a achosodd iddo golli ei gyfle i chwarae yng ngharfan Cymru], felly rwy’n falch iawn o gael cyfle arall.
Mae’n debyg eich bod wedi clywed am y cyfyngiadau llym yr ydym yn eu dilyn oherwydd Covid, a’r profion trwyadl rydym yn eu cael. Dydw i ddim yn gweld hynny fel baich; mae’n fwy o fraint mewn ffordd. Rwy’n mwynhau pob eiliad o fod yma gyda chriw gwych o fechgyn. Mae’r holl chwaraewyr hŷn yn y gwersyll yn fy helpu i addasu a setlo i mewn, felly rwy’n ceisio dysgu ganddyn nhw gystal ag y gallaf.
Mwy yma:

‘BRENIN’ FFYDDLON YN RHOI GORAU I CHWARAE
Mae chwaraewr rheng ôl y Gweilch James King wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o rygbi proffesiynol heb oedi.
Ymddangosodd y chwaraewr rhyngwladol, ag 11 cap dros Gymru, yn ei gêm gyntaf i’r Gweilch yn 2009, ac mae’n chweched ar y rhestr ymddangosiadau ar gyfer yr ochr rhanbarthol.
Roedd King, 30, yn ffyddlon i’w dîm rhanbarthol gan ymddangos mewn 203 o gemau, a sgorio saith cais yn ystod ei yrfa yn Stadiwm Liberty.
Mwy:

KRUGER YN YMDDEOL O’R GÊM
Yn 36 oed, mae prop y Scarlets Werner Kruger hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol – ar ddiwedd y tymor – gan ddod â’r llenni i lawr ar yrfa ryfeddol o 16 mlynedd.
Mae prop rhyngwladol De Affrica wedi gwneud dros 100 o ymddangosiadau ar gyfer Blue Bulls, tîm Bulls Super Rugby a hefyd y Scarlets, ar ôl bod yn aelod allweddol o’r garfan ers iddo gyrraedd gorllewin Cymru bum mlynedd yn ôl.
Gyda phedwar cap dros Dde Affrica, mae Kruger wedi gwneud 122 ymddangosiad yng nghrys coch y Scarlets ac roedd yn rhan o’r garfan a gipiodd deitl PRO12 Guinness mewn modd cofiadwy yn 2017.
Mwy:

TIWNIWCH I MEWN I BODLEDIAD DIWEDDARAF URC – TAITH SNEDDON
Clywn yn faith gan un o ddarpar hyfforddwyr Cymru – gan gynnwys manylion ei daith ryngwladol ei hun – ym mhodlediad diweddaraf Undeb Rygbi Cymru.
Mae cyn chwaraewr Caerdydd a Glamorgan Wanderers Scott Sneddon yn hyfforddi yn Hong Kong ar hyn o bryd, ond ar fin dychwelyd i’r DU ac mae wedi bod yn rhan o lwybr datblygu hyfforddiant URC.
Gwrandewch yma:

HER RHITHWIR YSGOLION CYMRU
Mae ysgolion Cymru yn cydweithio i hyrwyddo lles corfforol a meddyliol.
Mewn ymgais i gadw disgyblion yn egnïol a hyrwyddo lles meddyliol yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant, mae nifer o ysgolion ar draws De Cymru wedi dod at ei gilydd i gymryd rhan mewn her ffitrwydd a ysbrydolwyd gan y Chwe Gwlad.
Mae disgyblion – a staff – yn Ysgolion Cyfun Bryntirion, Cwmtawe, Trefynwy a Chas-gwent a Choleg Cymunedol y Dderwen (CCYD) wedi gosod her rithwir i’w hunain. Y nod yw rhedeg / cerdded / beicio / rhwyfo i gynifer o leoliadau gemau’r Chwe Gwlad â phosibl erbyn ail rownd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness.
Dywedodd Chris Dicomidis, Swyddog Hwb CCYD, “Fe wnaethon ni geisio meddwl am ffordd o annog disgyblion blwyddyn 7 ac 8 i fynd allan ac aros yn egnïol yn ystod y cyfyngiadau a pha thema well na’r Chwe Gwlad? Roeddem yn meddwl y byddem yn dod ag elfen gystadleuol i’r syniad felly rydym yn cystadlu rhwng ysgolion i weld pa ysgol all gyrraedd y pellaf erbyn hanner tymor mis Chwefror.
“Mae llawer o’r disgyblion fel arfer yn cymryd rhan mewn chwaraeon, yn dimau ysgol a thimau thu allan i’r ysgol, felly mae hynny’n rhywbeth maen nhw yn eu golli ar hyn o bryd. Mae’n hanfodol i ni i gyd gadw’n heini ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddyliol. Rwy’n gwybod ei fod yn helpu i’m hysgogi, ac rwy’n gwybod bod y gwahaniaeth mae mentro allan ac bod yn egnïol yn ei gael ar fy mhlant fy hun sy’n eistedd gartref drwy’r dydd.”
Efallai y bydd ysgolion eraill naill ai yng Nghymru neu ymhellach i ffwrdd yn ceisio curo cyfansymiau terfynol y disgyblion ysgol yma, ac yn teithio’r holl ffordd i Rufain!

YN OLAF… MAE WEDI BOD YN GYFNOD CLÔ PRYSUR YN LLANYMDDYFRI
Mae Clwb Rygbi Llanymddyfri wedi bod yn cadw’n brysur yn ystod y cyfnod clô.
Cyn y Nadolig, defnyddiwyd y clwb i gynnal pum sesiwn o glinigau brechu rhag y ffliw gydag aelodau o’r bwrdd yn gweithredu fel stiwardiaid a chynorthwywyr meysydd parcio.
Cafodd dros fil o aelodau’r gymuned leol eu brechu ac aeth yr holl waith yn ddidrafferth iawn.
Yn dilyn y llwyddiant hwn, mae’r Clwb bellach yn cael ei ddefnyddio fel canolfan brechu ar gyfer Covid-19, gydag aelodau’r clwb unwaith eto yn gweithredu fel stiwardiaid.
Roedd nifer o drigolion lleol yn synnu ar yr ochr orau o dderbyn cinio Nadolig tri chwrs arbennig, wedi’i ddanfon at eu drws. Noddwyd hyn gan aelodau’r Bwrdd a’r Clwb.
Mae’r Rheolwr Arlwyo, Chris Reeve, yn parhau i gynnig gwasanaeth tecawê yn ystod y penwythnos, sy’n boblogaidd iawn gyda’r gymuned leol.

Rhannu:

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert