Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae holl athrawon a dysgwyr Cymru yn gallu lawrlwytho Microsoft Office a defnyddio Minecraft: Education Edition yn rhad ac am ddim gartref ar eu dyfeisiau personol.
Wedi cystadleuaeth agoriadol lwyddiannus y llynedd, lle dangosodd dysgwyr gadernid a chydweithrediad rhyfeddol yn ystod cyfnodau dysgu gartref ac yn yr ystafell ddosbarth, mae’r ail gystadleuaeth bellach yn fyw. Cystadleuaeth sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr ledled Cymru ddylunio ac adeiladu eu clwb y dyfodol rhithwir eu hunain fel rhan o raglen Minecraft: Education Edition, ac mae’n cynnwys taith rithwir o amgylch cartref eiconig Rygbi Cymru, Stadiwm Principality o fewn Minecraft: Education Edition! Mae’r gystadleuaeth yn agored i ddysgwyr o 5 i 16 oed, gyda rowndiau lleol a rhanbarthol yn cael eu cynnal cyn y rownd derfynol ym mis Mehefin 2022.
Trwy fynd i fyd Minecraft: Education Edition, mae dysgwyr yn mynd ar daith rithwir drwy Stadiwm Principality, gan grwydro ardaloedd a meysydd allweddol yr adeilad. Ar hyd y ffordd, bydd dysgwyr yn dod ar draws cymeriadau NPC (cymeriadau nad ydynt yn chwaraewyr) sy’n datgelu gwybodaeth am yr ardal honno. O hynny wedyn, bydd dysgwyr ac athrawon yn cael cyfle i lawrlwytho rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ffeithiau, ffigurau a deunyddiau gweledol fel lluniau a fideos y tu ôl i’r llenni gan Undeb Rygbi Cymru ar wahanol agweddau ar rygbi Cymru.
Mae’r wybodaeth a gesglir ar y daith o amgylch y stadiwm a’r tasgau dilynol a gyflwynir yn yr ystafell ddosbarth wedi eu cynllunio mewn ffordd sy’n herio syniadau’r disgyblion o beth allai ‘Clwb y Dyfodol’ ei gynnwys o safbwynt cynhwysiant ac amrywiaeth, cyfundrefnau hyfforddi tîm, gofynion maeth chwaraewyr a phrofiad cefnogwyr.
Anogir dysgwyr i ystyried eu cymuned leol, ymchwilio ac archwilio’r anghenion yn eu hardaloedd lleol nhw er mwyn dechrau datblygu cynllun ar gyfer ‘clwb rygbi’r dyfodol’. Clybiau rygbi yw calon cymunedau lleol yn aml, felly bydd dysgwyr yn ystyried gwerthoedd rygbi a sut y gellir eu defnyddio i roi profiad cadarnhaol i bawb a chyfrannu at iechyd a lles hirdymor cymdeithas yng Nghymru. O’r cynllun, bydd dysgwyr wedyn yn dechrau dod â’u gweledigaeth eu hunain er mwyn dod â chlwb y dyfodol yn fyw o fewn Minecraft: Education Edition.
Roedd y bydoedd a gyflwynwyd y llynedd yn dangos dealltwriaeth o’r amgylchedd lleol a byd-eang a’r angen am gynaliadwyedd a rhai syniadau creadigol a oedd yn dangos pwysigrwydd creu cyfleusterau cynhwysol. Hefyd, bu dysgwyr yn dangos llawer o ddulliau arloesol i gynnwys ac ennyn diddordeb pobl o bob oed mewn clybiau rygbi.
Datblygwyd y prosiect hwn gan Hwb i sicrhau bod ystod eang o gysylltiadau’r cwricwlwm â Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cael eu bodloni: y Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Lles, y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Rhifedd a Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Meddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi mynd i bartneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru a Minecraft: Education Edition i lansio’r gystadleuaeth hon i ysgolion Cymru a’n bod yn caniatáu i ddysgwyr greu eu clwb rygbi eu hunain ar gyfer y dyfodol.
“Mae bywyd wedi bod yn dra gwahanol i ddysgwyr eleni, ond mae ein platfform Hwb yn dangos sut y gallwn barhau i annog dysgu a datblygu medrau allweddol mewn ffyrdd arloesol i ategu ein cwricwlwm.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John, “Roeddem wrth ein bodd gyda safon y ceisiadau gan ddysgwyr o bob oed y llynedd yng nghystadleuaeth gyntaf Clwb y Dyfodol. Roedden nhw’n cynnwys llawer iawn o wybodaeth a dealltwriaeth amhrisiadwy y gall ein clybiau rygbi elwa arnynt er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cynnig awyrgylch cynhwysol a chynaliadwy sy’n addas i groesawu chwaraewyr rygbi, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr am gryn amser eto.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Hwb a Minecraft:Education Edition ar y gystadleuaeth eleni. Gyda’r rhan fwyaf o ddysgwyr bellach yn ôl yn yr ysgol a’r coleg yn llawn amser, a chlybiau rygbi ar agor, rwy’n siŵr y gwelwn ni hyd yn oed mwy o gydweithio pan fydd dysgwyr yn mynd ati i greu eu clybiau ar gyfer y dyfodol”.
Meddai Cyfarwyddwr Rhaglenni Dysgu Minecraft: Education Edition, Justin Edwards: “Mae heriau adeiladu Minecraft yn ffordd wych o ennyn diddordeb myfyrwyr mewn datrys problemau a’u hysbrydoli i greu eu byd delfrydol. Gan adeiladu ar lwyddiant cystadleuaeth y llynedd, bydd her Undeb Rygbi Cymru yn rhoi cyfleoedd i bob myfyriwr ar draws ystod o grwpiau oedran feithrin eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o bynciau pwysig fel cynaliadwyedd, amrywiaeth a chynhwysiant.”
Mae’r her gyffredinol yn cynnwys chwe cham: Archwilio ac Ymchwilio (trwy fyd Minecraft Stadiwm Principality), Ymchwil, Cynllunio, Adeiladu, Rhannu Gwybodaeth ac yn olaf creu taith gerdded ar fideo o adeilad y dysgwyr.
Drwy’r cam ‘Archwilio ac Ymchwilio’ mae’r opsiwn gan athrawon i drefnu bod dysgwyr yn canolbwyntio ar ystod eang o weithgareddau fel ymchwilio i faeth a bwyta’n iach o safbwynt chwaraewr rygbi ac unigolyn y tu fas i fyd chwaraeon. Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i ddylunio bwydlen faethlon ar gyfer prydau bwyd un diwrnod cyfan, gan ystyried yr achlysuron cymdeithasol gwahanol pan mae bwyd yn bwysig. Pob un yn cysylltu â Meysydd Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles a’r Dyniaethau.
Mae meysydd cwricwlwm eraill yn cynnwys Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Bydd dysgwyr yn ystyried sut mae papurau newydd wedi cael dylanwad mawr ar rygbi fel rhan annatod o fywyd y genedl. Gallai dysgwyr roi cynnig ar ysgrifennu erthygl papur newydd neu hyd yn oed chwarae rôl mewn cyfweliad fideo.
Sut i gymryd rhan?
Mae croeso i bob ysgol sydd wedi cofrestru drwy Microsoft Teams gymryd rhan yn y gystadleuaeth. I gofrestru’ch ysgol, cliciwch ar: https://aka.ms/WRUMinecraft
Mae strwythur y gystadleuaeth wedi’i gynllunio ar gyfer tri lefel mynediad sy’n gysylltiedig â thri cham cynnydd
1. Cam Cynnydd 1 a 2
2. Cam Cynnydd 3
3. Cam Cynnydd 4 a 5
Mae tair rhan i’r gystadleuaeth:
1. Rownd leol (ysgolion unigol) – Dyddiad cau: Dydd Gwener 8 Ebrill 2022
2. Rownd gynderfynol ranbarthol – byddwn yn cyhoeddi 1 enillydd o bob ystod oedran ar gyfer pob consortiwm erbyn dydd Gwener 13 Mai 2022
3. Rownd derfynol genedlaethol – Dydd Mercher 8 Mehefin 2022 Stadiwm Principality
Cynghorir pob ysgol sy’n cofrestru drwy Teams i gynnal cystadleuaeth eu hunain yn yr ysgol ar gyfer eu dysgwyr. Bydd tystysgrifau ar gael i ysgolion eu dyfarnu i’w dysgwyr am gymryd rhan.
Bydd angen i bob ysgol feirniadu* a dewis cais ar gyfer y grŵp/grwpiau oedran dan sylw cyn y rownd ranbarthol a’r rownd derfynol a’r seremoni wobrwyo.