Unwaith yn y naill hanner a’r llall, ymddangosodd Rees ar ysgwydd Aaron Warren i sgorio ceisiau cofiadwy, gan sicrhau bod ei d yn llwyr reoli Rownd Derfynol yr Uwch Gynghrair.
Yn ystod y tymor arferol, ‘roedd Euros Evans a’i garfan wedi gorffen yn ail y tu ôl i Gaerdydd – ond gwŷr y gorllewin aeth â hi yn heulwen tanbaid y brifddinas brynhawn Sul.
Dyma’r tro cyntaf yn eu hanes – 145 o flynyddoedd – i Lanymddyfri gael eu coroni’n Bencampwyr y Cynghrair.
Cyn yr ornest, ‘roedd hyfforddwr Caerdydd, Steve Law, wedi cydnabod bod ei dîm wastad yn ei chael hi’n anodd i guro’r Porthmyn – ac felly y bu hi ar Barc yr Arfau o flaen torf swmpus.
Cicio cywir Jack Maynard – enillodd y Bencampwriaeth gyda Chaerdydd y tymor blaenorol – a chais cyntaf Rees – sicrhaodd oruchafiaeth Llanymddyfri yn y cyfnod cyntaf.
Gôl gosb hwyr Harrison James oedd unig sgôr y tîm cartref cyn yr egwyl olygodd bod gan Lanymddifri fantais o 13 pwynt wrth droi.
Enillodd y Porthmyn o 37-20 yn erbyn Caerdydd yn y Cynghrair ym mis Mawrth ac fe barhaodd eu hyder a’u goruchafiaeth yn yr ail hanner hefyd.
Fe wnaeth y clwb cartref bethau’n galetach fyth i’w hunain wrth i Aaron Pinches weld cerdyn melyn am dacl anghyfreithlon ac fe lwyddodd yr ymwelwyr i fanteisio ar y bwlch hwnnw yn y canol i greu ail gais hyfryd Rees.
Pedwaredd cic gosb Maynard – sgoriodd gyfanswm o 14 pwynt gwblhaodd y sgorio i Lanymddyfri.
Er i Ryan Wilkins sgorio cais cysur i Gaerdydd ar achlysur gêm olaf eu capten Morgan Allen – diwrnod hynod siomedig brofodd clwb y brifddinas.
Buddugoliaeth fythgofiadwy i Lanymddyfri felly wrth i’r Porthmyn greu hanes a chipio Pencampwriaeth Uwch Gynghrair yr Indigo am y tro cyntaf yn eu hanes.