Mae Tarian Dewar bellach wedi’i integreiddio’n ffurfiol i’r llwybr rhanbarthol, a fydd yn caniatáu cyfnod datblygu 22 mis ar gyfer chwaraewyr sy’n dod i’r amlwg yn yr ystod oedran o 14-16 (o dan 15 ac o dan 16).
Bydd y datblygiad newydd a chyffrous hwn yn rhan o’r cyfnod Darganfod Dawn o Daith Datblygu Chwaraewyr Addawol a bydd cael ei arwain gan y rhanbarthau a’i gefnogi gan URC. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno ar draws y 24 ardal ar hyd a lled Cymru.
Egwyddor y rhaglen yw gwella datblygiad chwaraewyr unigol mewn lleoliad grŵp lleol. Bydd y trefniant newydd hwn yn cynnig cyfnod ehangach i chwaraewyr wireddu eu potensial mewn awyrgylch a rhaglen safonol.
Er mwyn hwyluso ac ymestyn y cyfnod datblygu o 22 mis, bydd blwyddyn gyntaf y rhaglen (o dan 15) yn darparu gŵyliau rygbi cystadleuol fydd yn caniatau i’r chwaraewyr barhau i ymarfer a chwarae dros eu clybiau.
Bydd ail flwyddyn y cynllun yn gosod pwyslais cystadleol sylweddol ar Darian Dewar fydd yn cynnwys disgyblion Blwyddyn 11 (o dan 16 oed). Dyma fydd prif ffynhonell adnabod chwaraewyr addawol yn ystod y cyfnod allweddol hwn o’r rhaglen. Bydd gemau Tarian Dewar yn cael eu chwarae rhwng mis Medi a’r Nadolig.
Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol URC:
“Yn y gorffennol roedd cystadleuaeth Tarian Dewar yn ymgysylltu â thua 750-800 o chwaraewyr sy’n cyfateb i tua 13% o boblogaeth chwaraewyr Cymru oedd wedi eu cofrestru o dan 15.
“Y targed newydd a osodwyd yw dyblu y nifer hwnnw i gynnwys 1500 o chwaraewyr yn y rhaglen.
Ychwanegodd Chris Ower Pennaeth Chwarae a Chadw Chwaraewyr URC: “Fel enghraifft o arfer da, fe gynhaliodd y Scarlets ddigwyddiad diweddar oedd yn cynnwys eu holl ardaloedd mewn gwersyll 2 ddiwrnod ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Daeth 140 o fechgyn fydd yn cystadlu yn Nharian Dewar eleni i’r digwyddiad, lle roedd chwaraewyr a hyfforddwyr y Scarlets yn cynnig arweiniad gwerthfawr yn ystod y sesiynau.”
Ychwanegodd Huw Bevan, Cyfarwyddwr Perfformiad dros dro URC: “Y grŵp oedran 14-16 yw’r cyfnod allweddol pan mae’r gêm gymunedol yn cwrdd â’r llwybr perfformiad am y tro cyntaf ac rydym ni fel Undeb yn hyderus y bydd y diwygiadau newydd yma – sydd wedi derbyn cefnogaeth gref – yn creu mwy a gwell chwaraewyr i’n clybiau, rhanbarthau a’n gwlad.”
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Ysgolion Cymru: “Ry’n ni’n hynod o falch ein bod wedi gwarchod a hyrwyddo un o gystadlaethau hynaf y byd rygbi a sefydlwyd yn 1904. ‘Ry’n ni’n cydnabod a diolch i’r athrawon, gwirfoddolwyr ac yn fwy diweddar, staff Undeb Rygbi Cymru am gynnig y cyfle gwych i chwaraewyr ifanc gael y profiad o barhau’r traddodiad hwn.
“Ry’n ni’n ddiochgar bod gwerth y rhaglen hon yn cael ei werthfawrogi a’i gydnabod fel elfen greiddiol yn natblygiad ein chwaraewyr addawol a byddwn yn parhau i gefnogi’r cynllun hwn.
“Bydd y 26 o ardaloedd yn parhau i gydweithio, mewn partneriaeth gydag URC a’r Rhanbarthau i sicrhau y bydd y rhaglen yn parhau i gynnig cystadleuaeth a chefnogaeth o safon er mwyn datblygu ein chwaraewyr ifanc. Gobeithio wir y bydd Tarian Dewar yn parhau am flynyddoedd lawer.”
Bydd gemau agoriadol Tarian Dewar y tymor hwn yn dechrau’r wythnos nesaf gyda gemau darbi lleol megis Dwyrain Abertawe yn erbyn Aberafan (13 Medi) a Phontypridd yn erbyn y Rhondda (15 Medi).