Sgoriodd yr ysgol o Gefneithin ddau gais yn ystod yr hanner cyntaf gan i’r asgellwr Jack Melly groesi’n gyntaf. Yn fuan wedi iddo dirio bu’n rhaid iddo adael y cae o ganlyniad i dacl mewnwr y Strade Morgan Hughes. A dyna sut y cafodd Elis Payne y cyfle i ddod i’r maes a llywio ei ysgol at fuddugoliaeth gofiadwy. Croesodd am gais i ddechrau cyn i Bencampwyr Cynghrair y Gorllewin daro’n ôl trwy geisiau’r cefnwr Cai Evans a’r wythwr Joseph Gower.
Yn y pendraw gôl gosb Payne o’r gêm hawliodd y fuddugoliaeth i’w dîm – a gwobr Seren y Gêm iddo ef yn bersonol hefyd. Tipyn o gamp wrth ystyried ei fod wedi dechrau’r Ffeinal ar y fainc.
Maes y Gwendraeth : C: Melly, Payne. Tros: J Jones. C Cosb: Jac Jones, Payne
Y Strade C: Gower, Tros. Evans C Cosb: C Evans 2.
Ysgol Bro Teifi enillodd y gêm ddarbi fawr yn rownd derfynol y Plat o dan 18 wrth iddyn nhw drechu Ysgol Bro Pedr o 29-7 yn Stadiwm Principality.
‘Doedd yr ysgol erioed wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon o’r blaen ond gwta funud wedi’r chwiban gyntaf – croesodd Guto Dafis am y cyntaf o bedwar cais ei dîm yn ystod y cyfnod cyntaf. Hawliodd y canolwr Tomos Edwards ddau gais yn ystod yr ornest – ac ef gafodd ei ddewis yn Seren y Gêm (Go.Compare) o’r herwydd.
Partner Edwards yng nghanol cae, Osian Taylor gafodd y cais arall gan osod mynydd yn rhy uchel i’w ddringo yn yr ail gyfnod i fois Llambed. Steffan Evans groesoedd am unig gais Bro Pedr wedi troi.
Sgorwyr Bro Teifi: C: Edwards 2, G Dafis, Taylor; Tros: Evans 3; C Cosb: Evans:
Sgorwyr Bro Pedr: C: Steffan Evans; C: Roberts
Enillodd Bro Myrddin y Fâs o dan 18 mewn modd hynod ddramatig ar ail ddiwrnod rowndiau terfynol y Ffordd i’r Principality.
Er iddynt fod ar ei hôl hi am gyfnodau helaeth o’r gêm – ac er bod Gruff Owen yn y cell cosb – llwyddodd 14 dyn y bechgyn o Dre’r Dderwen i ennill cic gosb yn yr eiliadau olaf. Cadwodd y cefnwr Tomos Lewis ei ben i sicrhau’r fuddugoliaeth ddramatig i’w dîm o 20-19.
Capten Bro Myrddin ar y dydd oedd Osian Jones mae ei efaill Steffan – oedd hefyd ar y cae – yn feibion i gyn glo Cymru Deiniol Jones.
Sgorwyr Bro Myrddin: C: Lewis, Porter Tros: Lewis 2; C Cosb: Lewis 2
Sgorwyr Bro Dinefwr: C : H Davies, Hughes, Blakeman; C: I Davies 2