Neidio i'r prif gynnwys

Lewis yn cipio Coron y Pencampwyr gyda chic olaf y ffeinal

Lewis yn cipio Coron y Pencampwyr gyda chic olaf y ffeinal

Tomos Lewis - perfformiad capten heb os.

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yw Pencampwyr Ysgolion Cymru wedi eu buddugoliaeth eiliad olaf o 35-34 dros Ysgol Cwm Rhymni yn Stadiwm Principality yn dilyn cais a throsiad hwyr eu capten Tomos Lewis.

Rhannu:

‘Roedd gan naw o chwaraewyr yr ysgol o Gaerfyrddin brofiad blaenorol o chwarae’n y Stadiwm Genedlaethol – yn Rownd Derfynol y Fas ym mis Mawrth – a dim ond dau funud gymrodd hi cyn i’r canolwr Gwion Evans fanteisio’n llwyr ar bas gynnil Dylan Davies i garlamu’n glir o dan y pyst i roi’r dechrau perffaith i’w dîm.

Gwaith hawdd o’r herwydd oedd gan y capten Tomos Lewis i gwblau’r trosgais – ac ‘roedd gan y maswr lawer mwy o ddylanwad i ddod ar yr ornest hon.

Dim ond pedwar munud pellach gymrodd hi tan i gapten Cwm Rhymni sgorio y cais cyntaf o chwech ei ysgol. Yn dilyn cyfnod o bwyso’n agos at y llinell gais – fe blymiodd yr wythwr Will Thomas i agor cyfrif y dynion o’r dwyrain.

Prop pen tynn Bro Myrddin, Daniel Evans, oedd y nesaf i brofi’r wefr o groesi am gais yn Stadiwm Principality oherwydd wedi 12 munud o chwarae fe fanteisiodd ar feddiant ei dîm o lein ymosodol i gynnig deubwynt ychwanegol ar blât i’w gapten.

Bro Myrddin yn dathlu.

Taro’n ôl am yr eildro wnaeth bois Cwm Rhymni wrth i chwarter agoriadol yr ornest ddirwyn i ben. Yn dilyn pas ddeallus y mewnwr Joseph Wooley, fe wasgodd Rhydian Jones i mewn i’r gornel i gau’r bwlch rhwng y timau i bedwar pwynt wrth iddi hawlio’r cyntaf o’i dri chais ef o’r prynhawn.

Ddau funud yn ddiweddarach tro asgellwr bechgyn Bro Myrddin oedd hi i greu atgof am oes wrth i Harry Wrigglesworth gasglu ei gic bwt fach ei hun cyn tirio’n y gornel. Wedi trydydd trosiad Tomos Lewis ‘roedd mantais gwŷr y gorllewin yn 11 pwynt.

‘Roedd amser cyn troi i Gwm Rhymni daro’n ôl am y trydydd tro wrth i rediad llesmeiriol Fin Reynolds a gwaith cynorthwyol Will Thomas greu’r cyfle i’r prop Tobie Cribb hawlio’i gais.

Yn dilyn trosiad Kavan Phillips ‘roedd Cwm Rhymni o fewn un sgôr i’w gwrthwynebwyr ac yna’n ystod munudau olaf yr hanner cyntaf – fe aethon nhw ar y blaen am y tro cyntaf yn ystod yr ornest wedi i Rhydian Jones ymestyn ei gam am yr eildro i roi pwynt o fantais i’w ysgol wrth droi.

Ddeng munud wedi’r ail-ddechrau – tro Bro Myrddin oedd taro’n ôl am unwaith – ac yn dilyn bylchiad cofiadwy Tomos Lewis – gosodwyd y sylfaen i’w îs-gapten Gruff Owen i dirio pedwerydd cais ei dîm.

Dri munud yn ddiweddarach ‘roedd Cwm Rhymni wedi ad-ennill y flaenoriaeth wrth sgorio dau gais yn ystod y cyfnod hwnnw. Y canolwr Max Marshall hawliodd y cyntaf cyn i Rhydian Jones garlamu’n orfoleddus am ei drydydd cais o’r prynhawn gwta funud wedi hynny. Yn dilyn trosiad Marshall, ‘roedd gan fechgyn Sir Caerffili fantais o chwephwynt.

Dangoswyd cerdyn melyn i glo Cwm Rhymni Ben Brown yn ystod y deng munud olaf am dacl anghyfreithlon ac fe brofodd hynny i fod yn hynod gostus yn y pendraw. Yn eiliadau yr amen fe groesodd Tomos Lewis am bumed cais Bro Myrddin – a pharhau wnaeth ei record berffaith gyda’i droed wrth iddo drosi gyda chic olaf yr ornest a chipio Coron Pencampwyr Ysgolion Cymru i’w ysgol.

Pymtheg pwynt i Lewis, teitl y Pencampwyr i Fro Myrddin a thorcalon i Gwm Rhymni oedd yn hynod urddasol wedi’r chwiban olaf.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert