Neidio i'r prif gynnwys

Pontypridd yn ennill Tarian Dewar drwy drechu Canol Caerdydd

Pontypridd yn ennill Tarian Dewar drwy drechu Canol Caerdydd

Ponty'n codi'r Darian am y seithfed tro'n eu hanes.

Am y tro cyntaf ers 2018, Ysgolion Pontypridd enillodd Darian Dewar wrth iddynt drechu Canol Caerdydd o 34-28 yn Stadiwm Principality.

Rhannu:

Er bod timau’r Brifddinas wedi ennill y Darian 26 o weithiau cyn heddiw, eleni oedd y tro cyntaf i Gaerdydd rannu’n dri thîm yn hytrach na dau – ond Ysgolion Pontypridd aeth â hi o dan gymylau bygythiol Stadiwm Principality – gan ddod â record ddi-guro Canol Caerdydd y tymor hwn i ben yn boenus.

Er bod Ponty wedi profi llwyddiant yn y gystadleuaeth ar chwe achlysur cyn ffeinal heddiw – bois y Brifddinas reolodd y meddiant cynnar ac wedi dim ond tri munud, tiriodd yr wythwr Ali Al Jassem am y cyntaf o bedwar cais ei dîm.

Trosodd Finlay Britton yn hyderus i droi’r pum pwynt yn saith.

Er i faswr Pontypridd, Isaac Manning Burke fethu gyda chynnig am gic gosb – fe lwyddodd drosi cais yr wythwr Will Watkins wedi sgarmes symudol gydag 14 munud ar y cloc – i wneud y sgôr yn gyfartal. Yna gyda hanner awr o’r ornest wedi ei chwarae – yn groes i ddisgwyl llawer – fe groesodd y canolwr Harrison Richards i roi Ponty ar y blaen am y tro cyntaf.

Fe wellodd pethau ymhellach i’r crysau du a gwyn cyn yr egwyl wrth i’r bachwr Brooklyn Baldwin godi o waelod y pentwr cyrff yn dilyn sgarmes symudol effeithiol o’r lein – cyn i’r blaen-asgellwr Ashton Gill dirio pedwerydd cais Ponty cyn troi. Llwyddodd Manning Burke i drosi’r cais olaf hwnnw o’r cyfnod cyntaf i roi blaenoriaeth o 17 pwynt i Ponty hanner ffordd drwy’r ornest.

Cosbwyd bechgyn Caerdydd yn gyson yn ardal y dacl yn ystod y cyfnod cyntaf ond parhau wnaeth eu diffyg disgyblaeth yn union wedi troi. Bu’n rhaid i Ali Al Jassem dreulio 10 munud yn y cell callio am drosedd sinicaidd mewn sgarmes – ac fe ychwanegodd Isaac Manning Burke driphwynt hawdd arall at gyfrif ei dîm.

Rygbi trefnus ac effeithiol welwyd gan Bontypridd wedi hynny er mwyn prysuro bysedd y cloc a lladd unrhyw obeithion oedd gan Gaerdydd o daro’n ôl. Fe gymrodd y clo Samson Phillpott y cyfrifoldeb o gymryd cic gosb yn sydyn yng nghysgod y pyst wrth i’r gêm gyrraedd y chwarter olaf – ac fe diriodd yr îs-gapten bumed cais ei dîm gan ymestyn y bwlch rhwng y timau i 27 pwynt yn dilyn trydedd cic lwyddiannus Manning Burke.

Llwyddodd Canol Caerdydd i hawlio tri chais hwyr trwy’r eilydd Alex Mynett a dau gan y capten Will Thomas i barchuso’r sgôr yn sylweddol – a gan i Britton lwyddo gyda dau o’r trosiadau hynny hefyd – caewyd y bwlch i chwephwynt yn unig – ond ‘roedd hynny’n rhy ychydig yn rhy hwyr yn y pendraw.

Pontypridd yn hawlio Tarian Dewar am y seithfed tro yn eu hanes felly a hynny’n haeddiannol o 34-28.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert