Neidio i'r prif gynnwys

URC yn lansio cynllun datblygu newydd ar gyfer merched ifanc

Urdd_WRU_7s_149

Yn unol â strategaeth ‘Cymru’n Un’ Undeb Rygbi Cymru, mae’n bleser gan yr Undeb i lansio ei Chynllun Chwaraewr Addawol Newydd (EPP) cyntaf ar gyfer merched dan 16 oed yng Nghymru.

Rhannu:

Mae’r cynllun yn gobeithio efelychu llwyddiant y rhaglen Chwaraewyr Addawol ar gyfer bechgyn o dan 16 oed a lansiwyd yn 2023 – welodd y gystadleuaeth am Darian Dewar yn cael ei chynnwys yn rhan o’r llwybr datblygu rhanbarthol.

Bydd lansiad y Cynllun Chwaraewyr Addawol ar gyfer y merched yn dod o hyd i dalent newydd yn gynnar ac yn cyflymu’r broses o feithrin y chwaraewyr a’r doniau hynny. Nod greiddiol arall yw sicrhau y bydd 10,000 o ferched a menywod wedi eu cofrestru erbyn 2029.

Dywedodd Huw Bevan, Cyfarwyddwr Perfformiad URC, “Mae gêm y merched a’r menywod yn tyfu’n rhyfeddol ac mae hynny’n gyffrous iawn. Mae hynny hefyd yn golygu bod yn rhaid i ni fel Corff Llywodraethu fod yn barod i fanteisio ar y diddordeb hwnnw a chreu cyfleoedd i ferched ymarfer a chwarae rygbi.

“I gyrraedd y targed o 10,000 o ferched a menywod wedi eu cofrestru dros y pum mlynedd nesaf, ac felly’n cynyddu’r dalent sy’n dod i mewn i’r gêm broffesiynol, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar roi’r cyfle i bob merch 6-18 oed i ymgysylltu, mwynhau, a rhagori drwy leoliadau addysgol a/neu glybiau/hybiau yng Nghymru.

“Rydyn ni’n gweld lansiad ein rhaglen CChA ar gyfer merched yng Nghymru yn gam hanfodol i ddarganfod talent a’u meithrin trwy ein llwybr datblygu chwaraewyr.”

Bydd y Cynllun Chwaraewyr Newydd ar gyfer merched yn cael ei beilota yn 2025, trwy’r timau cymunedol, gyda chefnogaeth staff tîm perfformiad URC.

Bydd adolygiad yn cael ei gynnal wedi’r cynllun peilot a’r gobaith fydd darparu amgylcheddau ymarfer o ansawdd uchel yn lleol gan gynnig cyfleoedd chwarae o fewn 90 munud i gartrefi y merched neu eu Hwb lleol.

Bydd y rhaglen yn dechrau mewn 9 safle rhwng Ionawr 2025 ac Ebrill 2025, dros gyfnod o 6 – 8 wythnos. Darperir hyfforddiant a dau gyfle chwarae mewn timau fydd wedi eu cyfuno ym mhob un o’r tair ardal (Dwyrain, Gorllewin, Gogledd) Bydd y rhaglen yn rhad ac am ddim i unrhyw chwaraewr a dyma fydd y cam gwirioneddol cyntaf tuag at ddatblygu talent a chyrraedd lefel o rygbi cynrychioladol.

Meddai Caryl Thomas, Arweinydd Rygbi Cymunedol Merched a Menywod URC: “Mae hwn yn gam blaengar a gwych yn ein nod strategol i wella ein darpariaeth ar gyfer merched sy’n chwarae rygbi ledled Cymru.

“Mae’r CChA wedi’i gynllunio i ymgysylltu â 60% o’r chwaraewyr 14-16 oed sydd wedi eu cofrestru ar draws Cymru a byddwn yn annog unrhyw chwaraewr i ddod i gymryd rhan. “Os oes unrhyw ferch sy’n chwarae rygbi ar hyn o bryd ac yn breuddwydio am gynrychioli ei gwlad rhyw ddydd, dewch draw.

“Dyma lle mae’r gêm gymunedol a’r gêm broffesiynol yn cydblethu a bydd yn rhoi’r cyfle i chwaraewyr arddangos eu doniau mewn lleoliad proffesiynol. Yn ogystal wrth gwrs, bydd hyn hefyd yn darparu cam pwysig ymlaen yn natblygiad y chwaraewyr, a dyma fydd y cyfle cyntaf i ddarganfod talent i’w feithrin ar hyd llwybr datblygu’r Merched a’r Menywod.”

Amodau ar gyfer Chwaraewr
1. 14 oed – 16 oed (Blwyddyn 10 & 11 mewn Addysg)
Ysgol o fewn ardal benodol (e.e. os y’r ysgol wedi’i lleoli yn rhanbarth Gorllewin Cymru – Scarlets a’r Gweilch). *Os yw chwaraewr yn byw neu’n mynychu sefydliad addysgiadol ar draws dwy ffin yn y Gorllewin / Dwyrain/Gogledd Cymru, – ysgol y chwaraewr fydd yn llywio’r penderfyniad o safbwynt lleoliad.

Mynegi diddordeb a chofrestru ar gyfer y cynllun
Os ydych chi’n chwaraewr dan 16 oed rhwng 14 ac 16 oed ac â diddordeb mewn derbyn rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru, gofynnwch i’ch rhiant/gwarcheidwad gofrestru ar y ddolen ganlynol: –
Cofrestrwch ar gyfer EPP Merched Dan 16 URC

Lleoliadau
Gorllewin Cymru
1. Ysgol Maes Y Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin
Dydd Gwener 24ain Ionawr – 14eg Mawrth, 19:00 – 20:00

2. Ysgol Uwchradd Hwlffordd, Sir Benfro
Dydd Llun 27ain Ionawr – 17eg Mawrth, 18:00 – 19:00

3. Maes Hyfforddi 3G, Ysgol T Llew Jones, Synod Inn, Llandysul, Sir Aberteifi
Dydd Llun 27ain Ionawr – 17eg Mawrth, 18:00 – 19:00

4. Academi Chwaraeon Llandarcy, Abertawe
Dydd Llun 27ain Ionawr – 17eg Mawrth, 17:30 – 18:30

Cyfleoedd chwarae – dydd Sul 23ain Chwefror & Dydd Sul 23ain Mawrth

Dwyrain Cymru
1. Clwb Rygbi Pontypridd, Rhondda Cynon Taf
Dydd Llun 13eg Ionawr – 3ydd Mawrth, 18:00 – 19:00

2. Ysgol Gyfun Y Coed Duon (3G), Sir Caerffili.
Dydd Llun 13eg Ionawr – 3ydd Mawrth, 17:00 – 18:00

Cyfleoedd chwarae – I’w Cadarnhau

Gogledd
1. Clwb Rygbi Caernarfon, Gwynedd
Llun 3ydd Mawrth – 7fed Ebrill, 17:30- 18:00

2. Clwb Rygbi Wrecsam.
Llun 3ydd Mawrth – 7fed Ebrill, 17:30- 18:00

3. Coleg Llandrillo, Conwy
Llun 3ydd Mawrth – 7fed Ebrill, 17:30- 18:00

Cyfleoedd chwarae – dydd Sul 23ain Mawrth & Dydd Sul 13eg Ebrill

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert