Neidio i'r prif gynnwys

Clwb a chymuned Porthcawl yn cefnogi achos Aston

Clwb a chymuned Porthcawl yn cefnogi achos Aston

Alan Bateman ar y dde'n cefnogi'r achos.

Mae Clwb Rygbi Porthcawl wedi cychwyn ymgyrch i gefnogi chwaraewr ifanc wrth iddynt chwilio am rywun all rannu eu mêr esgyrn gyda Aston Bevington.

Rhannu:

Fe gafodd y chwaraewr addawol 16 oed ddiagnosis ei fod yn dioddef o Leukaemia ymosodol ganol mis Rhagfyr a bu’n rhaid iddo ddechrau ar gwrs dwys o gemotherapi ar unwaith.

Yn anffodus mae ei gorff wedi gwrthod y driniaeth ac felly mae’n rhaid iddo bellach ddod o hyd i roddwr mêr yr esgyrn addas.

Yn wyneb yr her aruthrol yma – mae ei gyd-chwaraewyr wedi torri eu gwalltiau ac ar noson i godi arian daeth dros 100 o bobl i gefnogi’r achos. Un o’r rheiny oedd cyn ganolwr Cymru a’r Llewod Alan Bateman a chodwyd dros £2000 ar y noson. Sefydlwyd tudalen ‘Go Fund Me’ hefyd ac o fewn y 48 cyntaf derbyniwyd dros £25,000 o gyfraniadau.

Yn ogystal â bod yn chwaraewr rygbi o safon, ‘roedd Aston wedi bod yn aelod o academi bêl-droed Abertawe ers yn bum mlwydd oed – ac ‘roedd wedi bod yn chwarae dros Bontardawe’n ddiweddar.

Ar y meysydd rygbi, ‘roedd ei berfformiadau dros Borthcawl ac Ardal Penybont wedi golygu ei fod wedi cael ei ddewis i gymryd ei le yn Academi’r Gweilch y tymor hwn.

Mae Aston hefyd wedi bod yn cefnogi timau iau Clwb Rygbi Porthcawl wrth gwblhau y cwrs dyfarnu a chymryd gofal o gemau ar foreau Sul.

Enillodd y clwb wobr Clwb Cymunedol Gorau Cymru’r llynedd ac felly nid yw’n syndod eu gweld yn tynnu at ei gilydd i gefnogi Aston a’i deulu.

Mae’r dudalen ‘Go Fund Me’ bellach wedi cyrraedd a phasio’r targed gwreiddiol o £8000 fydd yn cynorthwyo Aston gyda’i driniaieth a’i daith yn ôl i’r meysydd chwarae yn y pendraw.

Dywedodd Ian Davies, Rheolwr Perfformiad Dyfarnwyr Elît Undeb Rygbi Cymru, sydd hefyd yn hyfforddwr gyda Chlwb Rygbi Porthcawl: “Rwyf wedi hyfforddi Aston ers ei fod yn chwe mlwydd oed ac mae’n chwararewr rygbi a phêl-droed arbennig o dda.

“Dim ond ychydig o wythnosau yn ôl ‘roedd yn chwarae dros y clwb – wedi iddo ddychwelyd o anaf i’w bigwrn – oedd wedi ei gadw mas o’r gêm am 10 wythnos.

“Mae’n anhygoel i feddwl ei fod nawr yn brwydro am ei fywyd.”

Dywedodd ei fam Sian Mansell ar Facebook: “Mae’r arbenigwyr wedi bod yn onest iawn gyda ni gan egluro bod cyfnod anodd a heriol o’n blaenau fel teulu – ond ‘ry’n ni gyd yn benderfynol o weld Aston yn ôl ar y cae – yn gwneud yr hyn y mae’n caru ei wneud. ‘Ry’n ni gyd yn meddwl ei fod yn dipyn o seren – ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen at ei weld yn disgleirio unwaith eto.”

Cliciwch yma CLICK HERE i gefnogi achos Aston.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert