Cymerodd Pritchard, cyn chwaraewr rheng ôl Abergele, ran allweddol yn sefydlu RGC, fel cyfarwyddwr gwirfoddol y tîm yn y dyddiau cynnar, ac yn ddiweddarach roedd yn bartner allweddol i RGC ac Undeb Rygbi Cymru fel uwch swyddog digwyddiadau cyn symud i Motorsports UK, ble yr oedd yn gyfrifol am waith masnachol a chwsmeriaid yn Rali GB Cymru a Phencampwriaeth Rali Brydeinig. Rhan eang o’i rôl oedd bod yn gyfrifol am lwybrau at rygbi cymunedol a rygbi perfformiad yng Ngogledd Cymru yn ogsytal â gweithio â phartneiriad allweddol fel Cyngor Conwy er mwyn sicrhau profiad o ansawdd ar gyfer chwaraewyr, staff a chefnogwyr yn Parc Erias.
Dywedodd, “Mae’n wych i fod yn rhan o rygbi yng Ngogledd Cymru unwaith eto. Rwy’n gobeithio y gallaf ddod â fy mhrofiad, gwybodaeth lleol, egni a pherthnasoedd dda â budd-deiliaid i’r rôl newydd gyffrous yma. Un o fy phrif obeithion i ddechrau yw i adeiladu ar bartneriaethau sydd eisoes wedi’i sefydlu, fel Cyngor Conwy, sefydladau addysgol a phartneriaid masnachol, a sefydlu rhai newydd er mwyn i rygbi ffynnu ar draws Gogledd Cymru ym mhob lefel o’r gêm.”
Mae Pritchard eisoes wedi torchi ei lewys yn y swydd. “Blaenoriaeth arall ar hyn o bryd yw sicrhau fod gennym garfan o chwaraewyr a strwythur staffio yn ei le i helpu gydlynnu’r nodau drwy’r rhanbarth. Mae hyn yn wir am y gêm gymunedol hefyd – rydym yn rhoi sylfaenni yn eu lle, ynghŷd â gweddill tîm cymunedol URC, er mwyn helpu i gynyddu’r nifer o chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ar draws y Rhanbarth a’u cefnogi i gyrraedd eu potensial yn llawn, boed hynny yn y gêm gymunedol neu drwy academi lwyddiannus URC Gogledd Cymru. Wrth symud ymlaen, mae hefyd dymuniad i RGC fod yn gystadleuol yn yr Uwchgynghrair a’r Gwpan, gan frwydro yn erbyn y goreuon cyn cynted a phosib. I ddechrau rydym ni angen ail-sefydlu RGC yn dilyn cyfyngiadau COVID ac yn y pendraw rydym eisiau gwireddu’r freuddwyd i ddod yn ranbarth broffesiynol cyn gynted.”
Croesawodd Cyfarwyddwr Cymunedol URC y penodiad. “Mae Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru yn parhau yn flaenoraieth i ni fel Undeb ac rydym yn falch fod rhywun fel Alun Pritchard sydd a’i brofiad rygbi a masnachol a pherthnasoedd allweddol, wedi ei benodi i arwain y Rhanbarth yn ôl i weithgarwch llawn yn dilyn y pandemig, gan anelu i fynd a’r Rhanbarth gyfan i’r lefel nesaf ar ac odder y cae. Rydym ni yn edrych ymlaen i adeiladu ar y partneriaethau cryf â Chyngor Conwy, staff a gwirfoddolwyr yn y Rhanbarth er mwyn creu model unigryw ar gyfer datblygu cyfleoedd rygbi a meithrin talent ym mhob lefel o’r gêm.”
Ychwanegodd Hywel Roberts, aelod Bwrdd Undeb Rygbi Cymru ar gyfer Gogledd Cymru:
“Hoffwn i longyfarch Alun ar ei benodiad i’r rôl allweddol yma. Mae hyn yn dangos ymrwymiad parhaol yr Undeb i’n Rhanbarth Datblygu. Yn ogystal â’i wybodaeth lleol sy’n cynnwys ei gysylltiad blaenorol â RGC yn y dyddiau cynnar, mae’n dod â chyfoeth o brofiad ac egni i’r rôl.
“Mae Alun a’i dîm yn addas iawn ar gyfer datblygu’n gêm ar gyfer dynion a’r menywod ar bob lefel ar draws y Rhanbarth.”