Neidio i'r prif gynnwys

Corey’n cydnabod cyfraniad pedwar arbennig sydd wrth galon rygbi Cymru

Corey’n cydnabod cyfraniad pedwar arbennig sydd wrth galon rygbi Cymru

12.09.24 -Cynrychiolwyr o Glwb Llanilltud Faerdref, Calon Hearts ac URC ar noson y cyflwyniad.

Gwnaeth Corey Domachowski, chwaraewr rhyngwladol Cymru, ymweliad annisgwyl â Chlwb Rygbi Llanilltud Faerdref neithiwr i gyflwyno tystysgrifau o gydnabyddiaeth arbennig i bedwar aelod yn y clwb a achubodd fywyd yn ddiweddar.

Rhannu:

Ddydd Sadwrn 10fed Awst, ar ôl gêm gyfeillgar yn erbyn Arberth, roedd Llanilltud Faerdref wedi trefnu bod canwr o’r enw Jeff Jones yn mynd i ddiddanu pawb yn y clwb. Gyda chwaraewyr a chefnogwyr o’r ddau dîm yn bresennol – fe ddioddefodd y canwr o Nelson – drawiad difrifol ar ei galon.

Aeth tri o aelodau’r clwb rygbi cartref, Owen Pearce, Mark Edmunds a Liam Malkin gyda chymorth Gareth Cooksey – ymwelydd ar y noson sy’n ymwneud â Chlwb Rygbi Pentyrch – ymlaen i ddefnyddio diffibriliwr y clwb, a ddarparwyd trwy gynllun defib URC ac Elusen Calon Hearts i achub bywyd Mr Jones. Mae’r bartneriaeth hon rhwng Calon Hearts a’r Undeb wedi gweld diffibriliwr wedi ei osod ym mhon un o glybiau rygbi Cymru ers 2021 – a diolch i’r drefn am hynny!

Dioddefodd Jeff Jones ei drawiad wrth iddo baratoi i ddiddanu’r dorf. Mae bellach wedi gwella’n llwyr, ac mae’n amlwg bod ymdrechion y pedwar gwirfoddolwr ar y noson wedi achub ei fywyd.

Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol URC: “Gwirfoddolwyr yw anadl einioes ein gêm gymunedol a heno ry’n ni wedi gallu cydnabod pedwar unigolyn eithriadol fu’n ddigon dewr a chyfrifol i ddefnyddio’r offer achub bywyd gafodd ei ddarparu gan yr Undeb. Ry’n ni wedi bod yn ffodus i weithio gyda chwmni Gilbert i greu pedair pêl arbennig i gydnabod gweithredoedd arbennig yr unigolion hyn ac i gynnig ein diolch iddyn nhw hefyd.”

O’r chwith: Liam Malkin, Gareth Cooksey ac Owen Pearce wedi iddynt dderbyn eu tystysgrifau ‘Diolch’.

Ychwanegodd Sharon Owen o Calon Hearts: “Rydym wedi gweithio gydag URC ers 2012 gyda’r nod o ddarparu diffibrilwyr a hyfforddiant ym mhob clwb cymunedol. Mae’r digwyddiad hyn yn enghraifft arall eto o’r cydweithio rhyngom yn arwain at achub bywyd. Mae’r hyfforddiant rydym yn ei ddarparu mewn partneriaeth ag URC yn hanfodol – ac fe gafodd ein canllawiau a’n hyfforddiant eu gweithredu’n berffaith gan y pedwar gwirfoddolwr.”

Dywedodd Corey Domachowski: “Ry’n ni gyd yn gwybod bod gennym bobl arbennig wrth galon ein gêm gymunedol ac mae hon yn enghraifft wych o bobl yn dod at ei gilydd i gyflawni rhywbeth sbeshial iawn.

“Mae wedi bod yn bleser dod yma i gydnabod gweithredoedd pedwar aelod arbennig iawn o deulu rygbi Cymru.”

Dywedodd Owen Pearce o Glwb Rygbi Llanilltud Faerdref: “Doedd hi ddim yn sefyllfa braf i fod  ynddi – ond fe wnaeth y pedwar ohonon ni ymateb yn reddfol yn union wedi i ni sylweddoli fod Mr Jones yn dioddef trawiad ar y galon. Yn ffodus roedd diffibriliwr yn y clwb – a gan bod yr hyfforddiant gafon ni gan yr Undeb a Calon Hearts yn dal yn ffres yn ein meddyliau – fe lwyddon ni i achub Jeff – oedd yn rhyddhad enfawr i ni gyd. Ers y digwyddiad mae Jeff wedi bod mewn cysylltiad â ni i ddweud diolch ac mae wedi addo dod draw i’r clwb am beint cyn diwedd y mis. Fe sy’n prynu’r rownd gyntaf!”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert