Neidio i'r prif gynnwys

Cwins Caerdydd yn cadw’u gafael ar eu Cwpan

Cwins Caerdydd yn cadw’u gafael ar eu Cwpan

Cwins Pinc Caerdydd yn dathlu.

Llwyddodd Cwins Caerdydd i gadw’u gafael ar Gwpan o dan 16 oed yr Hybiau drwy drechu Sêr Môn o 56-17 yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn.

Rhannu:

Fe gafodd y deiliaid y dechrau gorau posib wedi dim ond munud o chwarae wrth i’r blaen-asgellwr Alys Roberts – sy’n marchogaeth beiciau modur yn ei hamser hamdden – blymio dros y llinell gais wedi munud yn unig ar gyfer y cyntaf o ddeg cais tîm y Brifddinas.

Mae twf clwb y Cwins wedi bod yn drawiadol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae ganddynt ddau dîm ar y lefel hon bellach – Pinc a Phorffor – dwy garfan o safon tebyg. Y tîm Pinc oedd wrthi heddiw ac fe gafodd eu gobeithion o gael eu dwylo ar y Cwpan ergyd wedi 7 munud o chwarae wrth i bropiau Sêr Môn wneud y sgôr yn gyfartal. Hyrddiodd y prop pen tynn Erin Carson dros y llinell gais yng nghysgod y pyst – cyn i’r prop pen rhydd Siân Rowlands lwyddo gyda’i throsiad.

Doedd Ruby Cole heb gael ei geni pan redodd Ieuan Evans heibio amddiffyn Yr Alban yn gofiadwy ym 1988 wrth gwrs – ond ‘roedd ei chais unigol wedi chwarter awr o’r gêm yn atgoffa ambell aelod hŷn o’r dorf yn Stadiwm Principality o sgôr unigol cyn gapten Cymru wrth iddi dorri mewn o’r asgell dde i ddawnsio heibio i amddiffyn y gwrthwynebwyr. Holltodd Efa David y pyst gyda’i throsiad am yr eildro hefyd.

Bu’n rhaid i ferched y gogledd adael am y Brifddinas am hanner awr wedi pump y bore ac efallai bod ambell dacl ychydig yn flinedig ganddyn nhw yn ystod yr ornest. Methwyd â llorio rhediad nerthol capten y Cwins Mali Hill ac fe gyflwynodd hi drydydd cais ei thîm o’r cyfnod cyntaf ar blat i’w hîs-gapten Freya Perry.

Gwta dri munud wedi trydydd trosiad David, fe fanteisiodd Ruby Cole ar gamgymeriad Cadi Jones i hawlio ei hail gais hi o’r hanner cyntaf – ac er i Efa David fethu gyda’i throsiad am y tro cyntaf, ‘roedd mantais y Cwins yn 19 o bwyntiau.

Wrth i’r hanner cyntaf ddirwyn i ben – bu oedi am gyfnod sylweddol yn y chwarae wrth i flaen-asgellwr Sêr Môn, Erica Coles ddioddef anaf i’w choes ond yn dilyn yr archwiliadau meddygol trylwyr, braf oedd ei gweld yn gadael y maes chwarae wrth godi llaw ar y dorf.

Ar amseroedd heriol fel hynny mae angen arweiniad gan unrhyw gapten ac fe wnaeth y mewnwr Efa Seren Parry gyfraniadau allweddol iawn ym munudau olaf yr hanner cyntaf. Fe ddawnsiodd hi at y llinell gais i ddechrau ar gyfer ail gais ei thîm – cyn iddi greu sgôr pellach i’r canolwr Eluned Evans gyda symudiad olaf yr hanner cyntaf – gan gymryd mantais o’r ffaith bod Freya Perry yn y cell cosb am 7 munud. Y bwlch wrth droi felly wedi ei gwtogi i 9 pwynt yn unig.

Yn hytrach na pharhau i gymryd mantais o’r chwaraewr ychwanegol, Cwins Caerdydd a’r prop Ffion Nicholls ddechreuodd yr ail gyfnod ar garlam. Mae Nicholls wrth ei bodd yn ffermio – ac fe ddangosodd gryfder fel ychen i groesi llinell gais Sêr Môn bedwar munud yn unig wedi troi.

Ddeng munud wedi hynny, fe sicrhaodd eiliad o athrylith Freya Perry y fuddugoliaeth i’r Cwins i bob pwrpas – wedi iddi gymryd cic gosb yn sydyn o’i llinell 40 metr ei hun – cyn carlamu ar yr ochr dywyll i sgorio ei hail gais hi o’r prynhawn a chweched ei charfan.

Os oedd Perry’n gallu tirio am yr eilwaith, ‘roedd Ruby Perry’n gallu sgorio ei thrydydd cais hi o’r ffeinal bedwar munud wedi hynny, wrth i’w chryfder ei harwain at linell gais gyfarwydd ei gwrthwynebwyr.

Ruby Cole wedi iddi sgorio un o’i thri chais.

Roedd Sêr Môn yn amlwg yn dechrau blino – ac ‘roedd gan y Cwins ddigon o amser i dirio am dri chais pellach. Yr wythwr Amelia Balfry hawliodd ddau ohonyn nhw wrth iddi dorri’n rhydd o 30 metr i ddechrau cyn tirio am yr eildro gyda dau funud yn weddill. Yna’n amser yr amen, y canolwr Faith Hyrcia-Kempster sgoriodd ddegfed cais y Cwins gan osod ychydig o halen ym mriwiau’r Monwysion.

Ymdrech lew a dewr gan ferched y gogledd, ond buddugoliaeth swmpus a haeddiannol i’r Cwins o Gaerdydd sy’n cadw’u gafael ar y Cwpan.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert