Y prif destun fydd sut y mae’r grant craidd yn cael ei rannu rhwng y 274 o glybiau cymwys a bydd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol URC, a Phennaeth Lleoedd URC, Angharad Collins, yn teithio i naw Ardal yr Undeb i esbonio’r meddylfryd newydd a’r cynllun sy’n cael ei ffafrio.
Nod y model ariannu newydd yw gosod rygbi Cymru ar flaen y gad ym maes chwaraeon ar lawr gwlad ac mae ymgynghori helaeth eisoes wedi digwydd gyda grwpiau sy’n cynrychioli’r clybiau a grwpiau allanol, gan dderbyn ymateb ffafriol.
Cyflwynwyd tri model posib yn wreiddiol ac yn dilyn adborth, a chefnogaeth Pwyllgor Datblygu Clybiau URC, bydd y cynnig sy’n cael ei ffafrio yn cael ei gyflwyno i’r clybiau yn y cyfarfodydd Ardal – gan ddechrau gydag Ardal B yng Nghlwb Athletau Caerdydd ddydd Mercher, 8 Ionawr.
Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Cymunedol, John Manders: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi cynlluniau i gyflwyno strwythur ariannu all drawsnewid y gêm ar lawr gwlad. Mae angen newid ar y gêm, ac rydym yn gwneud hyn mewn cydweithrediad â chlybiau ledled Cymru.
“Y bwriad yw darparu model ariannol cynaliadwy i gefnogi clybiau rygbi ledled y wlad, gyda’r nod o hybu niferoedd a chadw chwaraewyr presennol, gwella cyfleusterau, a hyrwyddo rygbi cymunedol.
“Rydym yn dal i fod yn y cyfnod ymgynghorol gyda’n cynlluniau ar hyn o bryd, ac rydym yn holi barn y clybiau ym mhob Ardal cyn i ni gwblhau’r broses.
“Rydym yn ceisio annog pob clwb sy’n aelodau i ddod ar daith newydd gyda ni – un fydd o fudd iddyn nhw ac i’r gêm gyfan. Ni allwn sefyll yn llonydd yn y byd modern, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod pob clwb mewn sefyllfa briodol i fodloni’r safonau a ddisgwylir gan bob corff chwaraeon erbyn hyn.
“Ein nod yw helpu pob clwb i ddod yn gryfach, yn fwy gwydn ac yn fwy parod i gwrdd â’r heriau niferus y maent yn eu hwynebu ar y cae ac oddi arno. Dyna pam ry’n ni’n gofyn iddyn nhw ein helpu ni fel Undeb i’w helpu nhw i gryfhau.
“Mae Diogelu, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a hyrwyddo rygbi ieuenctid yn bileri allweddol mewn unrhyw glwb cymunedol modern. Mae llawer o glybiau eisoes wedi gwneud cynnydd mawr yn y meysydd hyn ond rydym am fynd â nhw ymhellach fyth i gryfhau eu gallu i ddenu chwaraewyr, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a chyllid newydd.”
Mae prif strategaeth newydd Undeb Rygbi ‘Cymru’n Un’ a lansiwyd ym mis Mehefin 2024 wedi amlinellu tri nod perfformiad allweddol ar gyfer y clybiau cymunedol erbyn 2029:
- Bydd gan 95% o glybiau Gynllun Datblygu Clwb
- Bydd gan 95% o Glybiau Gynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
- Bydd gan 100% o Glybiau raglen fyw a chyson o Hunanasesiad
Argymhellodd yr Adolygiad Annibynnol a gynhaliwyd ar ran URC ddiwygio system gyllido’r clybiau sy’n aelodau – ac mae hefyd yn rhan allweddol o’r strategaeth newydd.
Bydd cyfanswm y cyllid yn aros yr un fath, ond y nod yw sicrhau bod y buddsoddiad yn fwy strategol ac atebol a bod y broses yn cael ei chydlynu’n well.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol URC Geraint John: “Mae angen i’r gêm gymunedol newid, addasu ac esblygu drwy’r amser. Mae ein clybiau’n gwybod hyn yn barod ac rydym am eu helpu i symud ymlaen yn unol â’n strategaeth newydd ‘Cymru’n Un’.
“Mae angen i ni ganolbwyntio ar ddatblygiad ein clybiau a’r bobl ifanc sy’n ymuno gyda’r clybiau hynny i chwarae’r gêm.
“Mae angen i ni gipio calonnau a meddyliau chwaraewyr ifanc – bechgyn a merched – ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y ddarpariaeth sydd gan ein clybiau cymunedol i’w gynnig yn apelio at ein pobl ifanc a’u bod yn addas ac yn groesawgar i bawb.
“Dyna pam ‘ry’n ni am osod meini prawf all gael eu mesur a’u gwerthuso wrth ystyried y grant craidd cyffredinol. Mae mwy o ‘bwyntiau’ ar gael i glybiau ar gyfer eu hadrannau 7-11 a 12-16 nac ar gyfer eu grwpiau ieuenctid ac uwch. Rydym am dyfu a chadw nifer y merched ifanc (6-18) a bechgyn (12-18) yn ein gêm trwy ein clybiau, hybiau ac ysgolion.
“Mae’n ffaith bod mwy na 75% o oedolion sy’n chwarae camp wedi dechrau cymryd rhan pan oedden nhw’n blant. Dyna pam mae angen ffocws hyd yn oed yn fwy ar ein hadrannau iau yn ein clybiau cymunedol.”
Yn ogystal ag archwilio cymwysterau pob clwb ar y cae, bwriad y cynllun newydd yw canolbwyntio hefyd ar feysydd allweddol oddi ar y cae – y gweithlu rygbi, cyfleusterau a llywodraethu a diwylliant.
Ychwanegodd Geraint John: “Wrth ymgynghori gyda chefnogaeth y clybiau, cytunwyd y dylid gwerthuso a chydnabod gweithgareddau oddi ar y cae gymaint ag ar berfformiad ar y maes chwarae. Roedd y clybiau yn teimlo bod y ddau wedi’u cydgysylltu ac os yw’r diwylliant a’r llywodraethiant yn gywir, yna bydd y clybiau’n ffynnu ar y cae ac oddi arno hefyd.
“Rydym yn gofyn i’r clybiau ystyried cynllun gwerthuso pum haen oddi ar y cae a fydd yn gysylltiedig â’r arian y maen nhw’n ei dderbyn bob tymor. Mae llawer o’r hyn y mae angen iddynt ei wneud yn seiliedig ar arweiniad a chefnogaeth sydd ar gael gan dîm Lleoedd URC.
“Ry’n ni eisiau helpu pob clwb i wella a chymryd camau sylweddol ymlaen o ran sut maen nhw’n gweinyddu eu clybiau, yr hyn maen nhw’n ei gynnig i’w chwaraewyr o bob oed a sut maen nhw’n cefnogi eu cymuned ehangach.”