Neidio i'r prif gynnwys

Crwydriaid Llanelli’n taro’n ôl eto i gipio Cwpan y Bencampwriaeth

Crwydriaid Llanelli’n taro’n ôl eto i gipio Cwpan y Bencampwriaeth

Crwydriaid Llanelli'n codi Cwpan y Bencampwriaeth

Ar ôl bod ar ei hôl hi o 28 o bwyntiau – fe gadwodd Crwydriaid Llanelli eu gafael ar Gwpan y Bencampwriaeth wrth drechu Tondu o 35-32 gyda chais ym munud olaf y gêm.

Rhannu:

Cic hwyr iawn ac 17 pwynt Nick Gale oedd yn bennaf gyfrifol am lwyddiant y Crwydriaid yn erbyn Glyn-nedd y tymor diwethaf – ond methiant fu ei ddau gynnig cyntaf tuag at y pyst o fewn y 4 munud cyntaf y prynhawn yma.

Ar y llaw arall, llwyddo gyda’i ymdrech agoriadol ef wnaeth Jamie Murphy wrth i gyn-faswr Yr Almaen hollti’r pyst yn hyderus o 40 metr i roi Tondu ar y blaen wedi 11 munud o chwarae.

Gyda’r ddau glwb wedi curo ei gilydd unwaith yr un yn y cynghrair y tymor hwn, ‘roedd disgwyl gornest glos heddiw a chadw’r bêl yn dynn wnaeth Crwydriaid Llanelli o’u sgarmes symudol gyntaf o’r gêm wedi 14 o funudau.

Wrth i’r pentwr cyrff godi – y capten a’r bachwr Rhodri Owens oedd â’r wên letaf yn Stadiwm Principality gan ei fod wedi agor cyfrif ei glwb am y prynhawn – gan roi’r Crwydriaid ar y blaen yn y broses.

Llwyddodd Gale gyda’r trosiad i godi cyfanswn ei dîm, codi ei hyder ef hefyd a chodi calon ei dad – sef y Prif Hyfforddwr Sean Gale.

Serch hynny, Mathew Tatchel a thîm hyfforddi Tondu fyddai wedi mwynhau gweddill y cyfnod cyntaf gan i gyn-glwb JPR Williams groesi am dri chais allweddol cyn yr egwyl.

Wedi 21 munud fe roddodd pas hir Murphy’r cyfle i Caine Woolerton redeg yn gryf i hawlio cais cyntaf ei glwb o’r prynhawn a 10 munud wedi hynny fe diriodd y bachwr poblogaidd Jake Lewis yn orfoleddus am ail gais Tondu.

Mae chwarae mewn unrhyw Rownd Derfynol yn brofiad cofiadwy ac ‘roedd chwarae yn Stadiwm Principality ar achlysur ei 100fed ymddangosiad dros y clwb yn brofiad arbennig i Stu Young. Pan groesodd am drydydd cais Tondu gyda 6 munud ar ôl o’r hanner cyntaf – ‘roedd ei brynhawn wedi troi’n fythgofiadwy

Cyn i’r asgellwr dirio  – fe droseddodd Lloyd Pike wrth geisio taclo Harri Morgan – ac felly ‘roedd Tondu ar y blaen o 11 o bwyntiau ac ‘roedd ganddyn nhw ddyn o fantais wrth i’r gêm ail-ddechrau.

Er na lwyddodd Tondu i drafferthu’r sgorfwrdd tan i gyfnod Pike yn y cell cosb ddod i ben – wyth munud wedi troi – fe gryfhawyd eu gafael ar yr ornest.

‘Roedd gan y Crwydriaid lein ymosodol bum metr o linell gais eu gwrthwynebwyr – ond Tondu sicrhaodd y meddiant ac o fewn mater o eiliadau, ‘roedd y canolwr Sam Matthews yn croesi am bedwerydd cais ei dîm ym mhen arall y maes.

Trosodd Josh Tatchell yn syml – ac ‘roedd gwell fyth i ddod o safbwynt Tondu.

Wedi 53 munud o chwarae, ‘roedd yr wythwr profiadol Steff Lewis wedi darllen y chwarae’n gampus – ac yn dilyn ei ryng-gipiad fe garlamodd fel ebol blwydd am 60 metr cyn tirio – a chymryd anadl ddofn iawn wedi hynny.

Efallai bod Tondu yn meddwl eu bod wedi gwneud digon i ennill y Cwpan erbyn hynny – ac fe ddangoson nhw rywfaint o ddiffyg disgyblaeth wedi’r pumed cais hwnnw gan i’w cyd-gapten Bowen Davies ac yna’r maswr Jamie Murphy orfod treulio 10 munud ar yr ystlys.

Fe darodd Crwydriaid Llanelli’n ôl gan sgorio dau gais o fewn 5 munud. Cais cosb oedd y cyntaf gan i Murphy atal y sgôr wrth gamsefyll – ac yna fe groesodd yr eilydd Elgan Morgan am drydydd cais ei dîm wnaeth gwaith Gale o dorri’r bwlch i lawr i 9 pwynt yn unig yn eithaf syml.

Yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Beddau, ‘roedd Crwydriaid Llanelli ar ei hôl hi o 26 phwynt ar un cyfnod – ac fe gaeon nhw’r bwlch i 4 pwynt yn unig y prynhawn yma wedi cais Josh Weeds a throsiad arall gan Gale ac ‘roedd wyth munud yn weddill o hyd.

Gan i Jamie Murphy fethu â’i ymdrech am gic gosb gyda phum munud ar ôl – byddai cais hwyr wedi cipio buddugoliaeth anhygoel i’r Crwydriaid.

Gyda munud ar ôl ar y cloc fe gafodd Gwŷr y Gorllewin sgrym bump yng nghysgod pyst Tondu – ac wedi iddyn nhw gadw’r meddiant yn effeithiol fe groesodd Elgan Morgan am yr eildro i gipio’r Cwpan. Wedi trosiad Gale ‘roedd Crwydriaid Llanelli wedi sgorio 28 o bwytiau heb ymateb ac ‘roedd cymeriad y Crwydriaid yn amlwg i bawb oedd yn gwylio.

Canlyniad: Crwydriaid Llanelli 35 Tondu 32.

Yn dilyn y gêm fe ddywedodd Steffan Phillips o glwb Crwydriaid Llanelli; “Fe ddathon ni’n ôl yn y rownd gyn-derfynol ac ‘ry’n ni wedi gwneud yr un peth eto heddiw. Mae ennill y Cwpan am yr ail dymor yn deimlas arbennig iawn.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert