Neidio i'r prif gynnwys

Cystadleuaeth mwyaf 7 bob ochr i ysgolion Cymru i gymryd le

Cystadleuaeth mwyaf 7 bob ochr i ysgolion Cymru i gymryd le

Gyda disgwyl 3000 o chwaraewyr a 50 o ddyfarnwyr dros 3 diwrnod, cyhoeddodd Yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru heddiw mai’r Gystadleuaeth Rygbi 7 bob ochr Genedlaethol i Ysgolion Cymru, Pencoed 2017 fydd yr un mwyaf erioed i’w chynnal yng Nghymru.

Rhannu:

Bydd y gystadleuaeth, a gynhelir ar y 4-6 o Ebrill 2017 yn agored i dîmau o unrhyw ysgol uwchradd a choleg addysg bellach yng Nghymru.

Yn ôl Ryan Jones, Pennaeth Cyfranogaeth Rygbi gydag URC, a chyn-gapten tîm rygbi Cymru “Rydym yn gyffrous iawn am y fenter gyd-weithio ddiweddaraf rhwng URC â’r Urdd. Mae rygbi 7 bob ochr yn gêm gyffrous, sy’n tyfu yn ei boblogrwydd yn fyd-eang, ac mae’n bwysig bod ieuenctid Cymru yn cael pob cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau o’r math yma. Rydw i’n siwr y bydd y bobl ifanc sy’n mynychu yn cael profiad rygbi bositif drwy chwarae ffurf wahanol ar rygbi fydd, gobeithio, yn cydio yn eu diddordeb gydol eu bywydau, ac rydym ni yn Undeb Rygbi Cymru yn falch iawn o roi pob cefnogaeth posib i alluogi hyn i ddigwydd.”

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Penybont-ar-Ogwr “Fel sir sydd â hanes balch o rygbi, rydym yn falch iawn bod yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu cynnal yr ?yl fawr yma o rygbi 7 bob ochr yma ym Mwrdeistref Sirol Penybont-ar-Ogwr.

“Mae cannoedd o fechgyn a merched lleol yn chwarae rygbi yn wythnosol led-led y sir, ac rydw i’n siwr y bydd ysgolion wrth eu boddau yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn twrnameint mor fawreddog ar eu stepen drws.
“Edrychwn ymlaen at groesawu chwaraewyr ifanc o bob cwr o Gymru, a’u teuluoedd, i’r ardal fis Ebrill, a gobeithiwn eu gweld unwaith eto fis yn ddiweddarach pan ddaw Eisteddfod Genedlaetho yr Urdd ei hun i Bencoed.”

Mwy o rygbi merched a bechgyn ar draws Cymru

Yn ogystal â’r digwyddiad mawr ym Mhencoed, mae’r Urdd ac URC yn gweithio’n agos iawn ar ddatblygu cystadlaethau i fechgyn a merched ar draws Cymru.

Ymysg y datblygiadau ar gyfer 2016/17 fydd cystadleuaeth 7 bob ochr cenedlaethol i ysgolion cynradd a chystadleuaeth rygbi tag cenedlaethol i ferched cynradd, fydd yn cyrraedd uchafbwynt yn y rowndiau terfynol yn Aberystwyth fis Mai.

I’r ysgolion uwchradd bydd dwy gystadleuaeth arall, sef un rygbi cyffwrdd cenedlaethol i dîmau bechgyn, merched a chymysg; a chystadleuaeth cenedlaethol rygbi 7 bob ochr i ferched fydd â’i rownd derfynol yn Llanelli yn mis Mehefin.

Dywedodd Gary Lewis, Cyfarwyddwr Adran Chwaraeon yr Urdd, “Mae’r Urdd yn falch iawn o allu cyhoeddi cryfhau ein partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru, ac o ganlyniad rydym wedi llwyddo i ehangu ein holl weithgaredd rygbi merched a bechgyn, gan gynnwys y gystadleuaeth 7 bob ochr cenedlaethol fydd yn dridiau heb ei ail o rygbi.

Rhaid diolch yn arbennig i Gyngor Tref Pencoed, Clwb Rygbi Pencoed, Coleg Penybont, Ysgol Gyfun Pencoed a Chyngor Bwrdeistref Sirol Penybont-ar-Ogwr am eu cymorth wrth sicrhau’r lleoliad ar gyfer y gystadleuaeth. Hoffwn ddiolch hefyd i brif noddwr adran chwaraeon yr Urdd, Prifysgol Aberystwyth. Mae ein partneriaeth yn ein cynorthwyo i ddatblygu pob rhan o waith yr adran, gan gynnwys cystadlaethau, gan annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn pob math o chwaraeon.”

Gellir cael mwy o wybodaeth am y cystadlaethau rygbi, a holl weithgareddau chwaraeon eraill Urdd Gobaith Cymru drwy fynd i’r wefan www.urdd.cymru/chwaraeon.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert