Evans oedd capten y tîm ifanc yn y gêm yng Nghanolfan Rhagoriaeth Chwaraeon Bwrdeistref Sirol Caerffili – gêm a roddodd gyfle i lawer o chwaraewyr amhrofiadol wneud argraff ar Rowland Phillips a’i dîm hyfforddi.
Mae Evans o’r farn bod arwyddion cadarnhaol ym mherfformiad y tîm ddydd Sul, ond mae’n mynnu ei bod yn bwysig i dîm Merched Cymru barhau i ganolbwyntio wrth baratoi ar gyfer Cwpan y Byd ym mis Awst.
“Roedd yn gyfle da i roi llwyfan i rai o’r chwaraewyr ifanc – maent wedi bod yn ymarfer yn dda dros y pum wythnos diwethaf ac maent wedi haeddu eu cyfle yn erbyn Japan,” meddai Evans.
“Roeddem yn gwybod y byddai merched Japan yn gryf, ac rydym wedi bod yn trafod hynny drwy’r wythnos – maent yn gorfforol ac yn cael llawer o gyflymder ar y bêl. Ni fyddwn yn poeni gormod am y sgôr, ond mae gennym lawer o waith i’w wneud dros yr wythnosau nesaf.
“Dyma’r gêm gyntaf i ni ei chwarae, ac er ein bod wedi bod yn ymarfer dros y pum wythnos diwethaf, yr wythnos hon yw’r tro cyntaf i ni roi popeth at ei gilydd yn y sesiynau ymarfer. Byddwn ni’n mynd yn ôl i’r cae ymarfer yr wythnos hon ac yn edrych ymlaen at ein gêm nesaf yn erbyn Sbaen.
“Rwy’n credu bod y merched wedi rhoi ychydig o ben tost i’r tîm rheoli o ran dewisiadau. Roedd llawer o’r merched profiadol yn absennol, ond roedd y merched iau wedi cymryd y cyfle ac wedi rhoi rhywbeth i’r hyfforddwyr feddwl amdano cyn Cwpan y Byd.”