Neidio i'r prif gynnwys

Jones â ffydd yn Jackman

Jones â ffydd yn Jackman

Mae Ryan Jones, Pennaeth Cyfranogiad Undeb Rygbi Cymru, wedi disgrifio’r modd y bydd y corff llywodraethu yn helpu hyfforddwr newydd y Dreigiau, Bernard Jackman, i ennill cefnogaeth ar hyd a lled y rhanbarth.

Rhannu:

Mae cyn-Gapten Cymru, sydd wedi ennill 75 cap a thair camp lawn ac a fu’n chwarae dros y Llewod yn Seland Newydd 12 mlynedd yn ôl, yn si?r y bydd Jackman yn cael effaith gadarnhaol ar y cae ac oddi arno yn Rodney Parade, ac mae’n dweud y bydd yn cael cefnogaeth lawn Undeb Rygbi Cymru i wneud hynny.

“Mae pawb sydd ynghlwm â’r rhanbarth yn gwybod bod y clybiau cyfagos a’u cefnogwyr, eu chwaraewyr a’u staff yn allweddol i lwyddiant cynaliadwy’r rhanbarth yn y tymor hir,” meddai Jones, a aeth i Ysgol Basaleg yng Nghasnewydd gan chwarae ei gêm rygbi gyntaf dros dîm ieuenctid Rhisga.

“Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ymgysylltu â’r clybiau hynny a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i’r hyn sydd gan y Dreigiau i’w gynnig yn yr ardal hon.

“Ein nod yw ehangu ar y gwaith da sydd eisoes wedi’i wneud gan staff y Dreigiau yn y cymunedau rygbi cyfagos a gwneud ymdrech arbennig i gynyddu cyfranogiad yn y gamp, drwy’r ddarpariaeth mewn ysgolion a thrwy wneud llawer o waith ychwanegol gyda chlybiau.

Mae Jones o’r farn bod Jackman yn berffaith ar gyfer y Dreigiau – mae cyn-fachwr Iwerddon yn dechrau ar ei gyfnod yn y swydd wrth i’r Undeb gymryd rheolaeth o’r rhanbarth yn swyddogol yr wythnos hon, gan ddechrau ar strategaeth newydd i ymgysylltu â chymunedau ledled Gwent.

“Gall Bernard fod yn arweinydd ysbrydoledig a fydd yn datblygu brîd newydd o Gymry dawnus yn yr ardal ac yn symbylu’r 73 o glybiau yn y rhanbarth i gefnogi’r Dreigiau, ond bydd angen iddo gael cymorth o bob cyfeiriad, a bydd yn cael y cymorth hwnnw,” meddai Jones.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert