Gwahoddir chwaraewyr presennol, cyn chwaraewyr, swyddogion, hyfforddwyr, dyfarnwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr i gymryd rhan. Mae’r arolwg yn ceisio darganfod be sy’n ysgogi chwaraewyr a gwirfoddolwyr i gymryd rhan yn y gêm, yr agweddau fwyaf pleserus a hefyd unrhyw ardaloedd o rygbi yng Nghymru allai gael eu gwella o fewn clybiau, ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Dywedodd Ryan Jones, Pennaeth Cyfranogiad Rygbi URC “Dyma gyfle arall i bawb sydd yn rhan o rygbi yng Nghymru i ddeud eu deud, fel bod y genhedlaeth nesaf yn gallu parhau i gael buddion o’r hyn mae rygbi yn gallu dod i deuluoedd a chymunedau ar draws Cymru. Bydd cael gwell dealltwriaeth o sut mae pobl yn teimlo am ein gêm yn ein helpu i neud rygbi lleol yn fwy perthnasol i deuluoedd modern a dod dros unrhyw rwystrau i gyrraedd ein amcan o Mwy o Fobl, yn Fwy Aml gyda Mwy o Fwynhad a Mwy o Lwyddiant.
“Mae ymuno gyda’r gwledydd eraill yn rhoi persbectif fwy eang o’r materion sy’n effeithio rygbi yng ngwledydd hemisffer y gogledd a chymdeithas yn gyffredinol. Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r arolwg ‘Shape our Game’ yn 2015 er mwyn gwella rygbi ar gyfer ail dimau a’r trawsnewid rhwng rygbi iau a ieuenctid ynghyd a ieuenctid a rygbi hyn. Rydym nawr eisiau cael gwybodaeth bellach er mwyn helpu prif ardaloedd y gêm fel sut rydym yn rhyngweithio gyda ein hyfforddwyr â’n dyfarnwyr cymunedol, sut rydym cefnogi gwirfoddolwyr a swyddogion clwb, a sut i gysylltu’n well gyda chwaraewyr rygbi mewn Prifysgolion.
Bydd pawb sydd yn cwblhau’r arolwg yn cael y cyfle i roi eu henwau i mewn i ‘draw’ er mwyn ennill un o dri phâr o docynnau i un o gemau Cymru yn y gystadleuaeth 6 Gwlad NatWest yn 2018.
Cliciwch yma er mwyn cael deud eich deud am ddyfodol rygbi yn eich cymuned. Mae’r arolwg (Saesneg yn unig) yn cau ar Rhagfyr 6ed.