Pob rygbi cymunedol yng Nghymru wedi cael ei ohirio

Cynllun Dychwelyd i Rygbi Cymunedol
Mae Undeb Rygbi Cymru, ar ôl ystyried cyngor meddygol arbenigol, wedi cymryd y mesur rhagofalus o atal pob math o rygbi, gan gynnwys hyfforddiant a chyrsiau rygbi, o 6yp ar 14eg Mawrth hyd at a chan gynnwys dydd llun 30ain Mawrth 2020.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud y penderfyniad hwn er budd ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys chwaraewyr, cefnogwyr, gwirfoddolwyr, dyfarnwyr a chymunedau Cymru yn gyffredinol.
Bydd yr Undeb yn parhau i asesu’r sefyllfa hon sy’n newid yn gyflym ac yn darparu diweddariadau pellach maes o law.