Neidio i'r prif gynnwys

Diweddariad statws URC 16/04/2020

Status Update

Ar adegau arferol, rhoddaf y moethusrwydd i mi fy hun o gȇm o golff ar benwythnosau neilltuol. Fel cyn chwaraewr rygbi sydd wedi cynrychioli’i wlad, hoffaf gredu fod gennyf beth addasrwydd ar gyfer chwaraeon yn gyffredinol ac, fel y bu imi symud i ffwrdd o gyflogaeth amser llawn tros y blynyddoedd, llwyddias i roi mwy o amser i golff. Ceisiaf lenwi fy nyletswyddau fel cadeirydd URC gyda balchder, diwidrwydd ac ymroddiad yn ystod yr wythnos, ond rwyf yn chwaraewr cyson ar foreau Sul a hwyrach yr af allan i ymarfer gyda sesiynau ychwanegol pan ganiata amser hynny.

Mae’n fath o gynllun y gall chwaraewyr rygbi’n y gȇm gymunedol ei mwynhau, o bosibl, fel y maent yn paratoi cymryd rhan yn eu hobi dewisiedig ar feysydd rygbi ar draws Cymru’n ystod y tymor.  O gymharu gyda’r gȇm broffesiynol yn y naill gamp neu’r llall, buawsn yn awgrymu ein bod hwyrach ar yr un safon. Nid wyf yn mynd i ennill Cwpan Ryder a gwelir cannoedd o chwaraewyr mewn clybiau ledled y wlad na wnaiff byth wisgo crys coch Cymru, ond sydd, fodd bynnag, yn caru ac yn mwynhau’n gȇm gydag arddeliad ac, yn wir, yn helpu i’w chynnal gyda brwdfrydedd ac ymroddiad llawn.

Fel y dywedwn yn aml, y gȇm gymunedol yw llinyn arian ein camp. Mae chwaraewyr clwb hefyd yn gefnogwyr, hyfforddwyr, gweinyddwyr a dyfarnwyr a, gyda’u teuluoedd a’u rhyngweithiau cymdeithasol yn ffurfio’r DNA cywir o rygbi Cymreig, ond mae un ffactor parhaus ar y lefel yma o’r gȇm na allaf i’n syml ei dirnad – tȃl.

Nid oes neb yn teithio’r cyrsiau golff yn chwilio i’m temtio gyda chynigion drudfawr wedi imi lwyddo cael rownd dda iawn ac ni fuaswn i, na neb arall chwaith, o ran hynny’n disgwyl cynnig o’r fath. Felly, pam y mae clybiau, sy’n bodoli ar gyfer rygbi, a rygbi’n unig, yn gwagio’r union adnoddau’n ddiangen allasai sicrhau cynaladwyedd tymor hir drwy fynnu talu chwaraewyr?

Dywedais ar y tudalennau hyn yr wythnos ddiwethaf am gyfle’n codi o’r helbulon presennol. Yn awr, mae gan glybiau ar draws y wlad gyfaddefiad gonest i’w wneud. Wedi canslo’r tymor ar ddiwedd Mawrth, cauwyd y drysau, trowyd y goleuadau i ffwrdd a lleihawyd costau, yn barod ar gyfer yr amser pan y gallwn droi popeth ymlaen unwaith eto.  Ond, mae rhai allanolion sy’n methu cau’r holl dapiau’n y ffordd syml hyn. Clybiau amatur ydynt sydd gyda chwaraewyr ar gytundebau a biliau cyflog i’w cynnal.  Yn y gȇm broffesiynol, cynhaliwyd negodiadau a thor-cyflog ar draws y bwrdd, ond yn y gȇm amatur ni ddylai hyn fod yn fater o gwbl.

Rwyf yn gwybod, er enghraifft, fod nifer o’n clybiau Uwch Gynghrair Grŵp Indigo, yn awyddus i ddefnyddio’r seibiant cyfredol o chwarae er mwyn ail-asesu’u cyllidebau’u hunain.  Ar y lefel hon o’r gȇm gwelir parodrwydd yn barod i reoli taliadau i chwaraewyr yn dynnach gyda derbyniad llydan o’r agwedd nad yw’r wedd hon o fodelau busnes clwb unigol yn addas i’r pwrpas ar hyn o bryd. Ond, os oes rhaid i’r Uwch gynghrair dynhau’r belt yn sylweddol, ni ddylai taliadau gael eu gwneud o gwbl mewn lleoedd eraill.

Bydd gennym y cyfle’n fuan, gobeithio, i ail ddechrau. Mae’r cyfle yna inni gyd eistedd i lawr gyda’n cyfranogwyr allweddol ac ail-greu. Bydd rygbi Cymreig yn dychwelyd gydag egni newydd, bydd wedi’i ad-fywio ac ni ellir ei gadw i lawr a bydd y cymunedau o gwmpas ein clybiau’n ffrydio allan o’u cartrefi i ymgasglu eto er mwyn mwynhau cwmniaeth ei gilydd ag i fwynhau’n camp genedlaethol.

Ond, os gwelwch yn dda, annwyl glybiau, rwy’n ymbilio arnoch i ddechrau eto gyda’r strwythur cywir. Os nad oes unrhyw glwb yn cynnig taliadau, yna, ni fydd marchnad ar gyfer cyflogau chwaraewyr ac ni fydd unrhyw glwb yn teimlo’r angen. Os na fydd unrhyw glwb yn torri’r ranc a’n bod i gyd yn chwarae am fwynhȃd, i’n tref neu bentref ein geni, i’r clwb y teimlwn yr agosatrwydd mwyaf, gyda’n cyfeillion a’n cymdogion, ein teuloedd estynedig a’n plant, yna, ni fydd unrhyw glwb yn dioddef yr un bygythiad o ddiflannu a deimlir yn bresennol mewn rhai achosion, pe byddai creisis tebyg yn taro eto.

Peidiwch a thalu chwaraewyr. Chwaraewch yn y gynghrair yr ydych ynddi, ceisiwch eich gorau i guro’r gwrthwynebwyr yr ydych yn eu hwynebu, breuddwydiwch am godi’r tlysau sydd ar gael yn eich safon presennol ag atynwch y chwaraewyr sy’n cael eu tynnu at eich clwb. Defnyddiwch yr arian yr ydych yn ei arbed ar atynu, datblygu a chael chwaraewyr i gysylltu gogyfer ȃ’r dyfodol ar sicrhau fod eich clwb yn parhau’n hwb ganolog i’ch cymuned fel ag y bu erioed. Byddwch yn gynnaliadwy a chynorthwywch i sicrhau’r dyfodol i ni i gyd.

Yr eiddoch mewn rygbi,

Gareth Davies
Cadeirydd URC

Cefnogaeth Clwb COVID – 19

Cwblhawyd ein Harolwg Effaith Clwb gan dros 130 clwb erbyn hyn. Anfonwyd at ysgrifenyddion yn y Diweddariad Gwybodaeth ar ddydd Gwener, 3ydd Ebrill. Bydd y gonestrwydd a’r geirwiredd a gafwyd gan y rhai a dderbyniwyd cyn belled, yn ein helpu’n fawr i’ch cynorthwyo chwi ac rydym yn gofyn i glybiau sydd heb, hyd yn hyn, gwblhau’r arolwg i wneuthur hynny, os gwelwch yn dda, erbyn dydd Gwener, 24ain Ebrill 2020.
Bydd hyn yn caniatau inni ddeall yn well lle y mae clybiau angen cefnogaeth a chyngor ag i ddyrannu’r adnoddau cywir yn ôl y galw. Mae’n hollbwysig fod cymaint o glybiau ȃ phosibl yn rhoi inni’r wybodeth gywir cyn gynted ag y gallent.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at Linell Gymorth URC clubdevelopment@wru.wales

Cefnogaeth Cymorthdal Llywodraeth Cymru

Cynlluniwyd Cynllun Cefnogaeth Busnes Llywodraeth Cymru er mwyn dyfarnu busnesau o mewn y sectorau adwerthu, twristiaeth a lletygarwch – gyda gwerth trethiannol o rhwng £12,001 & £51,000 – gyda chymorthdal otomatig o £25,000 ag, i fusnesau llai gyda gwerth trethiannol sy’n llai na £12,000, mae cymorthdal ar gael o £10,000.
Yn awr, mae clybiau’n dechrau derbyn cefnogaeth cymorthdal gan Awdurdodau Lleol yn cynnwys Yr Hendy a Hendy-Gwyn ar Daf sydd wedi derbyn taliadau o £25,000 a £10,000 yn ôl eu trefn, gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.
Derbyniodd Pentyrch gymorthdal o £10,000 gan Gyngor Dinas Caerdydd a Bedwas £25,000 oddiwrth Gyngor Bwrdeisdref Sirol Caerffili.
Tra’n cyflwyno’r ddau gymorthdal, rydym yn gwybod y nodwyd fod rhai clybiau ddim yn addas i dderbyn y cynnig busnes bychan o £10,000 gan nad ydynt yn derbyn Adwerth Drethiannol Busnes Bychan. Felly, buasem yn annog y clybiau hynny i asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cymorthdal cefnogi diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, y Gronfa Gwytnwch Economaidd,a lawnsir ddydd Gwener, 17eg Ebrill, 2020.
Un clwb o’r fath oedd Tonna a benderfynwyd eu bod yn anaddas yn dilyn trafodaethau gyda’u Hawdurdod Lleol.  Amlinellir y sefyllfa a wynebir gan nifer o glybiau ar draws Cymru gan Byron Morris, Ysgrifennydd y Clwb, isod:
“Our Local Authority are not paying the £10,000 grants to sports clubs like ourselves who have a rateable value under £12,000 and are registered as CASCs. They have advised that the Business Rates relief granted to CASCs is different to Small Business Rates relief (SBRR), and only businesses that receive SBRR are eligible for the grant.
“Some good news – the criteria for the Economic Resilience Fund Grant provided by Welsh Government confirms we should now be eligible.”

Cymorthdal Cronfa Gwytnwch Economaidd (lawnsir 17/4/2020)

Bydd y gronfa’n darparu cefnogaeth ariannol ychwanegol yn ystod y pandemig coronafeirws a bydd yn cynorthwyo sefydliadau i reoli pwysedd llif arian. Bydd yn gymorth i ateb gwagleoedd sydd ddim yn cael eu cyfarfod gan gynlluniau gyhoeddwyd yn barod gan Lywodraeth y DG, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. I asesu a yw’ch clwb yn gymwys ar gyfer y Gronfa Gwytnwch Economaidd a chymorthdaliadau lletach Llywodraeth Cymru, buasem yn annog pob clwb i ddilyn y linc a ddarperir yma  https://fundchecker.businesswales.gov.wales/#step-0 a chwblhau’r cwestiynau a ofynir.

Bydd y cam yma o’r Gronfa Gwytnwch Economaidd yn rhyddhau £200m o gyllid, a thargedir busnesau meicro, MBC’au a busnesau mawr o bwys critigol yn gymdeithasol neu’n economaidd i Gymru.
Gall busnesau meicro sy’n cyflogi i fyny hyd at naw cyflogai fod yn gymwys i ddrbyn cefnogaeth hyd at £10k. I fod yn addas am y gefnogaeth o £10k, gofynnir y canlynol i’r sefydliadau:

• Wedi profi mwy na 40% o leihȃd mewn trosiant ers y 1af Mawrth 2020
• Yn gallu arddangos yr ymdrechwyd i gynnal gweithredoedd busnes
• Ddim yn dilyn ffurfiau eraill o gyllid cymorthdal di-dȃl yn ôl Llywodraeth Cymru
• Ddim yn gymwys ar gyfer cymorthdaliadau Adwerth Dreth Busnes

Gall clybiau sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 gweithiwr fod yn gymwys i gael cymorthdaliadau i fyny at £100k os y gallent arddangos eu bod:

• Wedi profi lleihȃd o dros 60% o drosiant o ddydd cyntaf mis Mawrth
• Ddim yn addas am gymorthdaliadau lleihȃd trethiannol busnes, neu os yr ydynt, bydd y swm hwnnw’n cael ei dynnu o’u dyraniad o’r gronfa hon
• Gyda Chynllun Busnes cynaliadawy i barhau i fasnachu ymhellach na’r pandemig Covid-19
• Yn cadarnahu na fydd diswyddiadau’n y dyfodol yn cael eu gwneud cyn belled ag y bydd y Cynllun Cadw Swydd Corinafeirws mewn grym
• Ddim yn dilyn unrhyw ffurf arall o gyllid cymorthdal di-dȃl yn ôl Llywodraeth Cymru

Diweddarwyd y creiteria cynhwysedd ar gyfer y Gronfa gan Lywodraeth Cymru yr wythnos hon i gynnwys yn unig, yn awr y sefydliadau hynny sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW. Os gwelwch yn dda, cysyllter gyda Llinell Gymorth URC os yr ydych yn anghymwys i unrhyw rai o’r cefnogaethau uchod.
Bydd y broses ymgeisio i’r busnesau sy’n gymwys ar gyfer cefnogaeth ariannol o’r Gronfa Gwytnwch Economaidd y agor ddydd Gwener, 17eg Ebrill trwy safwe Busnes Cymru.

Yswiriant

Wedi, i ddechrau, wahardd pob math o rygbi, yn cynnwys ymarfer, o ddydd Sadwrn 14eg Mawrth tan ddydd Llun, 30ain Mawrth, bu i URC gadarnhau ymhellach ar ddydd Gwener, 20fed Mawrth, y cansliad o dymor 2019/20 ar gyfer yr holl gystadlaethau rygbi.
Y cyfarwyddyd gan URC oedd fod holl weithgareddau rygbi gan gynnwys gemau, ymarfer ag ati i barhau’n waharddiedig tan derbyn rhybudd pellach ag, o ystyried y gwaharddiad hwn o weithgareddau rygbi, rydym wedi bod yn trafod y sefyllfaoedd posibl o gwmpas y gorchudd ychwanegol a roddwyd gan glybiau ar gyfer buddion wythnosol, yn neilltuol, chwaraewyr hŷn, lle nad oes ei angen bellach.
Hoffem sicrhau clybiau ein bod yn parhau i weithio gyda’n Broceriaid, AON ag Yswirwyr AVIVA mewn perthynas ȃ’r tymor sydd wedi’i ganslo. Unwaith y cyrhaeddir penderfyniad, cyfathrebwn hynny’n uniongyrchol gyda’r clybiau a effeithir.

Rhannu:

Cefnogaeth Hyfforddi

Cynhyrchwd nifer o webinarau erbyn hyn gyda chymorth arbennig hyfforddwyr cymunedol yn cynnwys Rachel Taylor (Clwb Rygbi Bae Colwyn, prif hyfforddwr y dynion hŷn), Jason Hyatt (Clwb Rygbi Aberafan, prif hyfforddwr y dynion hŷn), Bobby Andrews (Clwb Rygbi Senghenydd, prif hyfforddwr y dynion hŷn) a Lee Jones & Ieuan Randell (Clwb Rygbi y Barri, hyfforddwyr ieuenctid).
Uchelbwynt arall i ddod fydd Camilla Knight, Athro Cynorthwyol mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe a fydd hefyd yn darparu mewnwelediad gwerthfawr ar destun cefnogi rhieni.
Gwneir sylw’n y webinarau o sawl testun yn y gȇm, gyda mwy’n cael eu creu pob dydd, mae’r cyfanswm sy’n cael eu cynhyrchu yn awr mewn ffigyrau dwbl.
Rhyddheir y fflimiau llawn gwybodaeth yma bob rhyw ychydig ddyddiau drwy ‘Game Locker https://www.wrugamelocker.wales/ mewn adran o dan y teitl ‘Coaches Corner’ gyda nodiadau tynnu sylw yn ymddangos yn rheolaidd ar drydar URC Cymunedol @wru_community.

Cofio Leighton Davies

Cyrhaeddodd teyrngedau di-rif i un o arwyr tawel rygbi Cymreig, Leighton Davies, cyn brif hyfforddwr a darlithydd AG am gyfnod maith yng Ngholeg Addysg Caerdydd, a fu farw tros y penwythnos yn 83 oed.
Yn un o’r hyfforddwyr pwysicaf a dylanwadol yn y gȇm genedlaethol am bron i dair degawd, bu iddo feithrin dwsinau o chwaraewyr rhyngwladol Cymreig yn ogystal ȃ Llewod Prydain & Iwerddon, gan osod y safon ar gyfer miloedd o athrawon ysgol a phlannu’r hedyn hyfforddi’n meddyliau cannoedd yn fwy.
Fel y cyhoeddwyd y newyddion am ei farwolaeth, bu i gyn-fyfyrwyr ledled y byd ddechrau atgofio’r dyddiau pan yr oedd ‘Mr Davies’, a elwid yn annwyl yn ‘Nutty’, serch byth i’w wyneb, eu haddysgu. Cynhaliwyd cynhadledd Zoom a alwyd yn ‘Remembering Leighton Davies’ wedi’i threfnu o Qatar. Treuliodd y cyn ail reng Caerdydd, Brive a Chymru A oriau ar y ffôn gyda chyn gyd-weithwyr yn ei gartref yn Brisbane a bu i lawer iawn arall gofio’r safonau a osodai a’r dylanwad a gafodd arnynt.
Ganwyd ym Mhen y Bont yn 1937, a dysgodd Davies ei rygbi’n Ysgol Ramadeg Garw ac enillodd dri chap tros Ysgolion Eilradd Cymru’n 1956 cyn teithio allan i Dde’r Affrig ar daith. Chwaraeodd yn yr Awyrlu Brenhinol gyda’i dîm tref cartref, Pen y Bont,ac yna gyda St Luke’s.
Chwaraeodd tros Ddyfnaint drwy ymgyrch Pencampwriaeth y Siroedd yn 1959-60 cyn dychwelyd i Gymru a chwarae tros TC Caerdydd. Capteiniodd Pen y Bont i Bencampwriaeth answyddofol y Western Mail yn nhymor 1965/66 a chwaraeodd dros 300 gwaith i glwb Caeau’r Bragdy.
Yn ogystal, chwaraeodd tros dîm cyfun Pen y Bont & Maesteg XV yn erbyn Fiji yn 1964 ac aeth ymlaen i fod yn gapten Maesteg yn nhymor 1970/71.
Hyfforddodd Fyfyrwyr Cymreig a Cholegau Cymreig , aeth a’r Crawshay’s i Dde Affrig ac roedd yn ddylanwadol iawn gyda’r Academicaliaid Cymreig fel hyfforddwr a rheolwr tîm, hyfforddodd yn ogystal, tîm Cymru B yn yr Eidal.
Roedd cyfarwyddwr presennol rygbi cymunedol yn Undeb Rygbi Cymru, Geraint John, yn chwaraewr arall a ddysgodd cymaint dan arweiniad buddiol Davies yng Nghyncoed. Disgrifiodd ef fel “an unsung hero” y gȇm yng Nghymru ag yn ŵr roedd gan gymaint barch mor fawr iddo.
“Each and every one of the players who went to Cyncoed will have their own ‘Nutty’ story. He had a massive influence on so many of us and always challenged us to strive to be better.
“He instilled huge confidence in us and always believed we could rise to any challenge and win any game. He set high standards and we respected him for that.”

Newyddion gan y Dan 20

Serch y siomiant chwerw o golli allan ar Bencampwriaethau Ieuenctid Rygbi’r Byd yr haf hwn, parha prif hyfforddwr Dan 20 Cymru, Gareth Williams i gredu y gallai fod buddiannau i rai o’r chwaraewyr sy’n edrych i wneud argraff fawr mewn rygbi rhanbarthol y tymor nesaf.
Bydd gohiriad y twrnament Eidalaidd, oedd i fod i redeg o’r 28ain Mehefin tan y 18fed Gorffennaf, yn awr yn rhoi i hufen rygbi Cymreig yr oedran yma yr amser talent i fynd tros eu pennau mewn cyn-tymor llawn gyda’u rhanbarthau i herio a datblygu’u hunain yn gorfforol.
Roedd y garfan Gymreig i fod i gyfarfod Awstralia, Seland Newydd a Georgia’n nghystadleuaeth fwyaf eu gyrfaon hyd yn hyn. Bu i’r pandemig, yn ogystal, chwalu ymgyrch Chwe Gwlad Cymru Dan 18 gan greu ansicrwydd a fydd eu taith drefniedig i Dde’r Affrig ym mis Awst yn mynd yn ei blaen.
Ond mae Williams, sydd yng nghofal datblygiad a llȇs pob chwaraewr Dan 23 yng Nghymru, wedi annog ei holl ieuenctid i wneud y gorau o’u hamser ymarfer estynedig y byddent yn ei brofi’n awrgan fod yn hollol barod i ddechrau’r tymor nesaf.
“The players have all come to terms with the disappointment of missing out on representing their country at a major tournament and have been very mature about it. I’ve been in contact with them all and told them to use this summer wisely,” meddai Williams.
“A large number have also taken up the offer of regular catch-ups over video calls regarding some work they are undertaking in their homes under isolation. The advantage they now have is being able to participate in a full pre-season campaign at their regions.
“For a few others it will give them extra time to get over injuries to ensure they are fit and firing for next season. Given the fact the U20 tournament had been moved back a few weeks we had factored in an off season break for the players post-Six Nations, allowing them to go straight into pre-season on their return from Italy.
“That was just another small example of the collaborative approach that has been established with the regions. The players were also earmarked for a further development phase around the autumn.
“Now they will be able to join in from the start and benefit from that. Despite missing out on a fantastic playing experience, we all realise it is down to a unique set of circumstances and there are still hugely positive interventions to put in for the players.”
Gallwch glywed mwy gan Gareth Williams ar Bodcast URC: www.wru.wales/audio/welsh-rugby-union-podcast-15-2020/

Golwg chwaraewr

Bu Lloyd Lewis yn siarad ar safwe URC am y diwedd sydyn i’r tymor gartref mewn ffordd y gall chwaraewyr y gȇm gydymdeimlo.
Roedd asgellwr Pontypwl yn edrych yn ôl ar ei dymor clwb, ym Mhencampwriaeth Genedlaethol Specsavers a ddaeth i ben gydag galwad yn ôl i garfan Saith Pob Ochr Cymru:
“I returned to Pontypool (after time on the Wales 7’s circuit) at the beginning of March to what I thought would be a promotion run-in. Instead, I was met with the news that the 2019-2020 had been cancelled with immediate effect.  Although the WRU’s decision was absolutely necessary it was still a tough one to take.
“Promotion has been the goal for everyone at the club for years; from management, to players, volunteers and supporters.
“That being said, it’s most definitely not all doom and gloom. We can really take confidence from our performances throughout the season; we remained unbeaten in the league and fought hard to secure wins against some of the Premiership teams that had come down to the Championship.  We’ve had plenty of set-backs as a club before and have bounced back every time
“I feel that I speak for everyone at Pooler when I say we’re hungrier now to get back out there and establish ourselves in the Premiership…”. Darllenwch fwy gan Lloyd ar www.community.wru.wales

Merched Cymru’n y rheng flaen

Mae pedair cynrychiolydd benywaidd a chwaraeodd tros Gymru ar y maes rygbi’r tymor diwethaf yn awry n rheng flaen y creisis cenedlaethol cyfredol fel gweithwyr GIG clinigol.
Mae chwaraewyr Gleision Caerdydd Abbie Fleming, Megan Webb a Paige Randall yn ogystal ȃg asgellwraig y Gweilch, Angharad De Smet i gyd wedi ennill eu cap cyntaf tros Gymru yr Hydref diwethaf ond yn awry n cynorthwyo eu gwlad mewn modd hollol wahanol fel y mae’n brwydro i ddiddymu’r llifiad ag effeithiau’r coronafeirws. Darllenwch fwy yma: https://www.wru.wales/article/wales-women-flying-the-flag-on-the-front-line/

Unedig wrth gefnogi’r GIG

Ag yn olaf….erbyn hyn, mae rygbi Cymreig wedi ennill y cyfan wrth gefnogi GIG yn yr amser hwn o angen, gyda’r pedwar rhanbarth cyfan ag URC yn darparu safleoedd.  Mae lleoliad hyfforddi’r Gweilch yn Llandarcy a Pharc Y Sgarlets ill dau’n darparu ysbytai tros dro ac mae Parc yr Arfau, Caerdydd yn awr yn rhan o safle meddygol newydd a adeiladwyd ar Stadiwm y Principality, tram ae Canolfan Ardderchogrwydd Genedlaethol URC yn y Vale Resort yn Hensol hefyd yn Ysbyty maes gyda chartref y Dreigiau yn Rodney Parade wedi dod yn ganolfan brofi Covid-19.
Wrth gwrs, dim ond ehangiad o’r hyn y mae clybiau a’u cymunedau’n eu gwneud o gwmpas Cymru yw’r gefnogaeth dreiddiol gan y gȇm broffesiynol, a dylai fod yn arwydd o falchder mawr inni gyd fod, gydag ond ychydig o gyd-lynu meddwl ei angen, inni uno’n arbennig y tu cefn i’r fenter anrhydeddus hon.Os yr amheuodd unrhywun y safle unigryw y deil rygbi Cymreig yn strwythur cymdeithasol ein cenedl, ni ddylent wneud hynny mwyach.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert