Neidio i'r prif gynnwys

Clwb yn helpu Cysylltu Cymru

Clwb Rygbi Cymry Caerdydd

Mae Chris Jones a Sam Lewis o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd yn dadparu tabledi i gartrefi gofal ar draws Caerdydd

Bu i un clwb rygbi Cymreig gwblhau her anferthol er mwyn cynorthwyo cyswllt rhwng preswylwyr cartefi gofal ledled Cymru a staff gyda’u teuluoedd.

Rhannu:

Dangosodd y teulu rygbi ei ysbryd cymunedol unwaith eto’n ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gyda nifer o glybiau a grwpiau yn ymestyn allan i’r rhai hynny sydd gyda’r angen mwyaf.

Thema’r wythnos fu caredigrwydd – i’n hunain yn ogystal ag i eraill a dyna’r hyn yr ydym yn ei weld o wythnos i wythnos gan glybiau, staff a gwirfoddolwyr drwy’r gȇm gyfan. Gall fod yn cadw mewn cysylltiad gydag aelodau bregus o’n cymunedau drwy godi’r ffôn, neu gydlynu ymdrechion codi arian sy’n ysbrydoli pawb sydd ynghlwm yn yr her gorfforol ac sydd yn darparu cefnogaeth gwir ei angen i’r derbynwyr, bu inni weld clybiau rygbi a grwpiau’n dod at ei gilydd fwy nag erioed o’r blaen, os yn rhithiol.

O Glwb Rygbi Treharris, sy’n bwydo gweithwyr allweddol a phobl fregus drwy’u hardal gyfan, Aberhonddau sydd wedi cyfrannu mwy na £11,000 tuag at lesiant ag iechyd meddwl cleifion GIG, eu teuluoedd a staff drwy eu hymgych ‘Noddwch Ddafad’, neu unigolion yn trefnu galwadau grŵp a chwisiaui gadw pobl yn weithredol, ni fu unrhyw derfyn i’r hyn y mae clybiau ac unigolion yn barod i’w wneud ac, yn amlwg, mae iechyd meddwl a llesiant yn bwnc agos at galonnau pawb.

Ag yn awr, mae Clwb Rygbi Cymry Caerdydd wedi bod allan yng nghylch Caerdydd yn darparu tabledau electronaidd i 65 o gartrefi gofaler mwyn caniatau i breswylwyr a staff i gael galwadau fideo gyda’r rhai y maent yn eu caru.

Bu i’r clwb godi mwy na £11,800 yn eu her Cylchdaith Cymru. Roedd aelodau’r Clwb eisiau dod a’r Clwb at ei gilydd a gwneud gwahaniaeth i’r GIG a gweithwyr allweddol yn ystod y cload mawr ac felly, bu iddynt gychwyn allan i geisio cwblhau taith rithiol o gwmpas Cymru tros benwythnos Gŵyl Banc Mai. Treuliodd chwaraewyr o bob oed, yn ogystal ȃ hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a’u teuluoedd eu hawr ymarfer yn cerdded a rhedeg gan gyflwyno’u pellteroedd. Yn y diwedd, bu iddynt glocio 4,120 milltir – yn hafal i bedair lap o’r wlad!

Capten Ail Dîm y Clwb, Chris Jones, oedd yr un oedd yn cyfansymu’r holl filltiroedd rhithiol. Dywedodd, “Fel grŵp o chwaraewyr, roeddem yn awyddus iawn i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd. Yn gyntaf, roedd yr her gorfforol yn dda i’n hiechyd meddwl ein hunain ac roedd yn dda gweld y lluniau a’r fideoau yn dod i mewn gan aelodau’r clwb o bob oed oedd yn cerdded a rhedeg yn gwisgo’u CRCC. Mae gennym ychydig o feddygon a gweithwyr GIG ymysg ein chwaraewyr a’n cyn-chwaraewyr a bu inni gofyn am eu cyngor yn nhermau’r hyn oedd ei angen. Pan ddaeth yr arian nawdd i mewn gyntaf, pwrcasom a dosbarthwyd rhoddion y gellid eu bwyta yn ogystal ȃ stwff ymolchi ar gyfer staff ysbyty yn Ne Cymru, ac ariannu’r cynhyrchiad mewn ysgolion o offer gwarchod ond roedd y milltiroedd yn dal a dal i ddod i mewn, a’r arian gyda hwy.

“Roedd gennym darged o £6,000 ond, erbyn hyn, bu inni gyrraedd mwy na £11,800. Wrth siarad gyda’r arbenigwyr iechyd o mewn y clwb, cynghorwyd ni, o bwrcasu tabledau ar gyfer cartrefi gofal, buasem yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i nifer sydd, ar yr amser yma’n methu gweld a chadw cysylltiad gyda’u teuluoedd. Rydym wrth ein boddau fod ein hymdrechion i #KeepWalesConnected yn galluogi mwy na 3,000 o breswylwyr i allu cynnal galwad fidel gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd.

“Yn ychwanegol at gartrefi gofal Caerdydd, roeddem eisiau cysylltu gydag ardaloedd eraill o gwmpas Cymru – i wneud linciau cryfach gyda chlybiau rygbi eraill ac, yn ogystal, roeddem eisiau ymgyrraedd at rai o’r lleoedd y mae ein chwaraewyr a’n haelodau’n dod ohonynt yn wreiddiol ar draws Cymru. Felly, bu inni gysylltu gyda 40 clwb yr oeddem yn rhithiol ‘wedi mynd trwyddynt’ ar ein cylchdaith o Gymru ac rydym yn dosbarthu tabled iddynt i’w roi i gartref gofal ar ein rhan. Yn barod, bu inni adeiladu ar ein perthynas newydd gyda chlybiau eraill trwy wneuthur hyn, a fydd, heb unrhyw amheuaeth, yn helpu pan fydd rygbi’n ail gychwyn. Golyga fod ein codi arian yn cynorthwyo pobl dros Gymru gyfan a hwyrach, os y symuda chwaraewyr o ardaloedd eraill i Gaerdydd ryw ddydd, y byddent yn dod i gysylltiad gyda ni.”

Beth bynnag ddigwydd yn y dyfodol, gall y clwb fod yn falch iawn o’u hymdrechion yn ystod yr amser yma a bydent, yn sicr, yn gryfach o ganlyniad.

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Partneriaid swyddogol darlledu
BBC Cymru/Wales
S4C
Partneriaid Swyddogol
Heineken
Gullivers Sports Travel
Isuzu
Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Sportseen
Rhino Rugby
Gilbert