“Fel Llywydd Undeb Rygbi Cymru fe hoffwn anfon gair i chi, ein clybiau, yn ystod yr amser unigryw a diflas sydd heb ei ail yn ein hanes modern. Gobeithio eich bod yn cadw’n iachus ac yn ddiogel gan obeithio y bydd y trafferth a’r gwenwyn drosodd cyn bo hir.
Mae ‘na eiriau sydd yn addas ac yn adnabyddus i ni gyd.
As President of the Welsh Rugby Union, I wanted to get in touch with you all, if I may, to express my admiration at the way you have all responded to the very difficult time we are all experiencing during this unique and frightening period in our modern history. I hope you are keeping healthy and safe in every way.
Let us hope that it will soon be over and we can play again.
Y mae clybiau rygbi yn ganolbwynt hanfodol pwysig yn ein trefydd,pentrefi a dinasoedd ledled Cymru, dim ond fel gȇm gystadleuol bwysig ond hefyd mae’r clwb yn le i gael pobl i ddod at ei gilydd fel cymuned cymdeithasol, i ddathlu cyfeillgarwch ac i gael pobl i fwynhau cwmni ei gilydd. Yn wir gymuned.
There is a refrain that is familiar to us in Welsh rugby.
‘The club is the hub’.
This has been a catchword in our rugby for quite a few years and this belief, almost a faith, lies at the heart of the game and gives an idea of what, in essence, rugby means to us in Wales.
A Welsh rugby club is an important focus in all our towns and villages for what is a great competitive sport providing weekly competition. It has also proved to be a focal point for social get-togethers, for celebrations of all sorts and what we must never forget, it is a source where friends, players and non-players alike can have some fun and laughter together. It can give a sense of belonging and provide an identity, a sense of togetherness in all our communities, in our villages, town and cities. And for us as a people, as a nation.
Mae’r clwb a’r aelodau, y chwaraewyr a’r cefnogwyr, teuluoedd a ffrindiau, yn ymestyn at allan ac yn helpu mewn sawl ffordd i esmwytho a lleihau yr ansicrwydd a’r poen.
At no time do I think, that this theme has proved so relevant and so true. This is an extraordinary time, unique in modern times. I know how badly some clubs have been affected, previously by flooding during the winter and now followed by this awful Covid19 virus. It is truly devastating.
You, our rugby clubs, are going through difficult times as the season has come to a halt with all the problems that arise from this, but nonetheless you are, if I may say so, showing terrific patience and resilience, of pulling together, and to go beyond the clubhouse to help each other and those in your communities who are in need of companionship and to help with deliveries of essential supplies and some wonderful fund raising activities.
The club, indeed, is proving to be the hub; of a strong community spirit. We should be proud of our clubs and the wonderful contributions you are all making to our national well-being.
There are examples from players, supporters, families and friends who have come together in support of everyone on the front line to help lives who are at risk from the effects of the pandemic as well as to the community at large, to give hope and a heart-felt support to thos who are vulnerable and elderly and who are thought to be at risk.
You have conducted activities to raise funds for the NHS, the care workers and all others who are in the front line to combat this terrible illness, which has shown to be fatal in vast numbers.
You have gone beyond the playing fields and embraced the community at large.
These are tough times but we must be optimistic and wish that once this is over we shall return to better times, to face the challenges, turn them in our favour with confidence and to leave any disappointments or grievances, if there are any, behind. Perhaps, after the current grim time, to have a revived sense of purpose, to pull together.
There is much to look forward to no more so than among our young people who I know from my grandchildren who yearn for the clubs to be back in action again.
Whilst we understand the desire to return to play, to be active and to enjoy each other’s company once more, it must be done in good and correct time. We need to be patient.
This is the position that the Board and Council of the Welsh rugby union stand by. The Welsh Rugby Union is ensuring that you are informed of all the details that are available and to keep you all up to date and to be as supportive as possible during this time.
Y mae’r Undeb yn ymdrechu i fod more agored a thryloyw ac am wneud yn siwr bob amser eich bod yn derbyn pob gwybodaeth sydd ar gael.
As your President I want to reassure you all that you have my total support and I will do all I can to help all clubs across Wales, to revive and to rebuild.
It will be a privilege to do all I can in whatever way is possible.
Can I thank you all most sincerely for your tireless work and dedication as volunteers for the good of Welsh rugby.
Diolch o galon. Cadwch yn iach.
Keep healthy and safe.
Gerald Davies.
Llywydd URC / WRU President
Newyddion Clwb
Anfonir gwahoddiadau a chyfarwyddiadau ar sut i ymuno gyda’r sesiynau taro i mewn at Ysgrifenyddion Clybiau’n y man.
Dal i fyny gyda Chlybiau
Bydd ein diweddariadau wythnosol i’n clybiau tros yr wythnosau nesaf yn cynnwys clybiau’n dal i fyny gyda gwirfoddolwyr o bob Rhanbarth i drafod sut y maent yn ymdopi yn ystod y cyfnod hwn. Yr wythnos hon, bu’r ffocws ar Ranbarth y Gweilch. Cynhwyswyd galwad fideo gyda Simon Knoyle (Ysgrifennydd Clwb) Clwb Rygbi Glyn Nedd Ltd yn niweddariad yr wythnos diwethaf i’n clybiau. Rydym yn rhyddhau galwad pellach gyda Graham a Jo Thomas (Cadeirydd a Thrysorydd yn ôl eu trefn) o Glwb Rygbi Tondu Ltd y Gwener hwn. Yn y cyfamser, rhydd y linc isod gipolwg o’r trafodaethau gyad’r clwb.
TONDU RFC
Byddwn yn rhannu fersiwn lawn o’r alwad yn ein diweddariad ddydd Gwener ynghyd ȃ galwadau dal i fyny pellach gyda chlybiau o Ogledd Cymru.
Arolwg Effaith Clybiau – Galwad Olaf
Fel ag y dywedwyd yn ystod yr wythnosau a fu, rydym yn tynnu at gwblhau casglu’r gwybodaethau a dderbyniwyd gan ein clybiau er mwyn ei gyflwyno i Fwrdd URC ym Mehefin. Buasem yn annog pob clwb i gwblhau’r arolwg drwy ddilyn y linc isod os na fu iddynt wneuthur hynny’n barod. Mae staff yn weithio’n agos gyda Chynrychiolwyr Ardal er sicrhau fod cysylltiad wedi’i wneud gyda phob clwb sydd heb gwblhau hyd yn hyn.
Nweyddion Clybiau
Trebanos yn chwalu targed i godi cronfa o arian hollbwysig
Gosododd aelodau, chwaraewyr a swyddogion Trebanos darged iddynt eu hunain o redeg, seiclo a cherdded 1897 milltir y penwythnos diwethaf mewn digwyddiad codi arian er budd GIG yn lleol a’r elusen ‘Mind’.
Rheswm tros y targed o 1897 milltir? Yn digwydd bod, dyna’r flwyddyn y ffurfiwyd Clwb Rygbi Trebanos.
Gyda’r cyn – Lew a seren Cymru, Robert Jones, yn arwain yr her, bu i’r gymuned rygbi letach ymateb yn arbennig iawn i’r dasg oedd i’w chwblhau fel y chwalwyd y targed gyda chyfanswm godidog o 10,077 milltir wedi’u teithio.
Codwyd bron i £8,000 hyd yn hyn – ag mae amser yn parhau i dderbyn cyfraniadau yma: https://www.justgiving.com/fundraising/a-lewis14?utm_medium=qrcode&utm_source=offline&utm_term=69fc153e6
Ysgolion Rhondda’n codi arain i ddringo mynyddoe
Mae Rygbi Ysgolion Rhondda’n falch o fod yn rhan allweddol o’r gymuned. Am dros 25 mlynedd, bu i’w prosiect, drwy gyfrwng rygbi’r undeb,ofyn i unigolion “Be the BEST you can be!”
Teimlwyd felly, o wybod am yr amseroedd digynsail hyn, ei bod yn bwysig iawn ac addas i herio’r merched a’r bechgyn i helpu eraill.
Daeth hyfforddwyr Ysgolion Rhondda, Jack Dunning, Chris Jones a Neil Boobyer i fyny gyda’r syniad creadigol o godi arian ar gyfer yr ymddiriedolaeth GIG lleol – Cronfa Elusennol Gyffredinol GIG Cwm Taf Morgannwg.
Gosodwyd tasgau i gyn-chwaraewyr a chwaraewyr presennol i gerdded eu grisiau eu hunain 150 gwaith, (sy’n fras, yn cyfateb i uchder Pen y Fan) gan godi arian trwy ddefnyddio llwyfan rhyngrwydwww.justgiving.com.
Cynhwysai’r rhai a gymerodd ran, yn ogystal ȃ chwaraewyr; rhieni, modrybedd, ewythyrod, teidiau a neiniau, hyfforddwyr, personél rygbi’n lleol, chwaraewyr Gleision Caerdydd presennol a mwy! Fel canlyniad, mae’r tîm ar y llethr olaf i gyrraedd eu targed o £2000.
Pontarddulais yn codi arian er côf am Gerallt Davies
Trefnodd chwaraewyr Clwb Rygbi Pontarddulais her belter rithiol i Redeg, Cerdded neu Seiclo er mwyn codi arian ar gyfer Sant Ioan Cymru er côf am Gerallt Davies MBE, oedd y paramedig cyntaf yng Nghymru i farw o Covid-19 ar yr 20fed Ebrill, 2020.
Yn baramedig yng Nghorsaf Cwmbwrla, Abertawe, cyflwynwyd Gerallt gyda’r anrhydedd MBE yn 2019 am ei waith gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru, lle yr oedd yn swyddog gweithredu cenedlaethol. Roedd Gerallt, yn ogystal, wedi gwasanaethu am ugain mlynedd fel cymhorthydd cyntaf i Dîm Hŷn Pontarddulais yn ogystal ȃ gwasanaethu Ambiwlans Sant Ioan am ddeugain mlynedd. Cynlluniwyd yr her mewn tair rhan fel ag y manylir isod: – RHAN 1 – 3885 milltir – (Cyfanswm milltiroedd eu gemau i ffwrdd yn Adran 2 y Gorllewin) x (15 chwaraewr ar y maes chwarae). (259 x 15) RHAN 2 – 6332 milltir oedd yn Rif Paramedig PIN Gerallt RHAN DERFYNOL – 10,000 milltir. Cymerwyd at yr her, sydd yn agored i holl chwaraewyr ag aelodau’r clwb, gan chwaraewyr ag aelodau o oedran mor ifanc a saith oed hyd at rai y neu chwedeg’au. Cyfanswm y milltioredd ar y 24ain Mai 2020 oedd 3316 milltir gyda’r rhan olaf i’w chwblhau erbyn diwedd Mehefin. Mae yna dudalen ‘just giving’ i unrhyw un a hoffai gyfrannu www.justgiving.com/fundraising/prfc-gerallt
Dim Byd Dafadog am Gwernyfed
Bu Clwb Rygbi Gwernyfed yn gwerthu ticedi loteri wythnosol arlein, a thrwy ddulliau arferol, (yn cynnwys gwerthu mewn sawl tafarn leol ag mewn siopau) am gyfnod hir ond bu’n rheidrwydd lleihau if od arlein yn unig yn yr amseroedd called yma.
Amaethu y mae’r Cadeirydd, Rob Stephens, ar ffermydd rhwng Talgarth ag Aberhonddu ac mae’n hyrwyddo’r loteri drwy ddefnyddio’i fferm i dynnu’r dynfa. Yr wythnos diwethaf, rhoddodd rif i 20 oen a’r pedwar cyntaf i gyryd moronen oedd rhifau’r loteri am yr wythnos! (Tynnir y dynfa’n fyw ar y ‘Gweplyfr’).
Fel mae’n digwydd, enillwyd tynfa’r wythnos diwethaf gan Gerwyn Williams, cefnwr/hannerwr yr XV Cyntaf, sydd wedi gorfod gohirio’i briodas oherwydd y feirws – ond a fydd yn defnyddio’r £1900 i gynorthwyo gwneud cartref unwaith y bydd y sefyllfa wedi gwella.
Drwy dudalen safwe / Gweplyfr y Clwb bu i Gwernyfed recriwtio grŵp o wirfoddolwyr, ar y cyd gyda Chyngor y Dref, gyda Swyddogion y Clwb yn cydlynu’r gwirfoddolwyr sydd yn siopa, casglu presgrripsiynau ac yn cario allan dasgau amrywiol eraill dros y rhai sy’n methu mynd allan yn Nhalgarth a’r ardaloedd cyfagos.
Aelodau Hŷn Ffynnon Tȃf yn cyllidocriw i GIG
Yn dilyn Cload mawr y Covid, penderfynodd Chwaraewyr Hŷn Clwb Rygbi Ffynnon Tȃf godi arian i GIG.
Bu iddynt gyllunio mynd ar eu taith ddiwedd tymor flynyddol i Albufeira ym Mhortiwgal ym Mehefin. Yn hytrach, bu iddynt benderfynu ‘teithio’ y pellter rhwng Ffynnon Tȃf a Albufeira drwy gerdded, rhedeg neu seiclo. 1621 milltir oedd y pellter a gobeithient ei deithio mewn pythefnos gan ddechrau ar ddydd Llun, 20fed Ebrill 2020. Yr amcan ddechreuol oedd cosi swm cyfartal i’r pellter mewn £oedd.
Yna, bu i’r garfan benderfynu i wneud y daith yn ôl o Albufeira i Ffynnon Tȃf, gan obeithio dyblu’r arian yr oeddent wedi’i godi’n barod!
Synwyd y bechgyn ac roeddent wrth eu boddau wrth dderbyn negeseuon cymhellol ar Drydar gan Jamie Roberts, Gareth Anscombe, Tom Shanklin, Jessamy Duke, Hyfforddwr URC, Jonathan Coachman, Lenny Woodard, Leigh Halfpenny anifer fawr o chwaraewyr proffesiynol eraill!
Ar hyn o bryd, cyfanswm y derbyniadau cyllidocriw yw £3191. Penderfynodd y chwaraewyr gefnogi timau GIG yng Nghaerdydd a Dyffryn Morgannwg er mwyn cyllido eitemau sydd allan o gyrraedd GIG i’w darparu’n arferol.
Aberdaugleddau’n gwthio am fater sy’n bwysau
Bu i XV 1af Clwb Rygbi Aberdaugleddau – gyda chymorth bychan gan rhai ffrindiau trwi drwy’r clwb cyfan – godi mwy na £8000 ar gyfer cartrefi gofal lleol wedi iddynt gwblhau mwy na 60 000 press upsmewn pum niwrnod!
Dywedodd hyfforddwr y cefnwyr a chwaraewr ei hun, Steve Martin, “It started out as a team exercise to help keep the boys together, to show that even if you can’t see each other, you can still do something as a team, and to raise money for a cause we cared about. All the care homes we chose have direct connections with our players via a family member either working there or as a resident so the challenge meant something personal to us all.
“We had 22 players so the challenge was initially to do 36,000 press ups in five days – 450 press-ups a day. But it soon became clear that we would smash the target early, especially as other players, coaches, committee members and supporters joined in with press-up videos too, so we increased the target to 50,000 – and then 60 000. We ended up with 52 people completing 69 288 press-ups. Some players would do them in their break at work – one player was delivering oil around Pembrokeshire at the time. We took turns to go live on Facebook three times a day so help with the team effort.
“The challenge certainly helped to keep the boys focussed so hopefully that will help when rugby resumes and it was great to see they were so willing to help out when the going gets tough. It’s fantastic to see so many other clubs around Wales raising money too at this time.
“We’ve delivered the funds to the care homes now and they were all very grateful. One said the money will help build a sensory garden for its residents, another said they will use it to treat the residents.”
Fel Swyddog Hwb yn Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau, mae Martin yn cynorthwyo darpariaeth yr ysgol ar gyfer plant gweithwyr allweddol ar y cyd ȃ dysgu gartref drwy’r dydd.
“Along with helping at the hub, I post fitness videos on the school Facebook page and a rugby challenge on the school Facebook page and after half-term the PE department is running a run, walk, bike challenge to virtually visit every secondary school in Pembrokeshire – 257 miles I believe. I’ve also been delivering the Scarlets care packages in Milford.”
Newyddion Rygbi
Podcast URC – Clwb Rygbi Treharris Phoenix
Profodd Clwb Rygbi Treharris Phoenix Rugby ei hun i fod yng nghalon y gymuned yn yr amseroedd anodd hyn, drwy ddarparu bwyd yn yr ardal i’r rhai sydd ei angen. Gellwch wrando ar Aelod o’r Pwyllgor, Huw Evans trwy ddilyn y linc isod:- Huw Evans – Treharris Phoenix
Creadigrwydd yn cynorthwyo swyddog rygbi, Hannah, yn ystod y cload
Darparodd Swyddog Hwb Rygbi Grŵp Llandrillo Menai, Hannah Hughes, fewnwelediad personol i’r hyn yw i reoli gwaith yn greadigol o gartref yn y cyfnod ansicr hwn.
Mae’n benderfynol na fydd y coronafeirws yn ei gwahardd rhag ymwneud ȃ myfyrwyr Coleg a staff, yn enwedig, am ei bod yn meddwl ei bod yn bwysig cadw mewn cysylltiad a bod yn gadarnhaol gan wneud y gorau o’r sefyllfa heriol yr ydym oll yn canfod ein hunain ynddi ar hyn o bryd.
Fel Swyddog Hwb Rygbi Grŵp Llandrillo Menai, ei rôl yw datblygu, tyfu a gwella’r gȇm genedlaethol, gan ychwanegu at ei hapȇl tra’n sicrhau fod rygbi’n gynhwysol ym mhob adran ac oedrannau ein cymunedau. Drwy gynyddu a gwella ymwneud a chymryd rhan, gall URC hybu gwerthoedd craidd rygbi yn ogystal ȃ darparu cyfle i wella’r cyslltiad clos rhwng iechyd a llȇs, teuloedd a chymunedau.
Stori lawn: https://community.wru.wales/2020/05/22/creativity-helping-rugby-officer-hannah-during-lockdown/
Teulu Rygbi Cerdded yna i’w gilydd
Un o’r rhai cyntaf i’w sefydlu yng Nghymru oedd grŵp Rygbi Cerdded Pontyclun. Llai na dwy flynedd o hynny, mae yna yn awr tua 20 grŵp sy’n actif a chrȇd cydlynydd Pontyclun, Julius Roszkowski, y bydd poblogrwydd y fformat cynhwysol yn cynyddu fel roced tros y blynyddoedd nesaf.
Fel yr ydych yn mynd yn hŷn ac, yn enwedig, pan yr ydych yn ymddeol o’ch gwaith, mae’ch cylch cymdeithasol yn prinhau ac felly, mae’n bwysig iawn ichwi fynd allan a chyfarfod pobl. Mae ymarfer ynddo’i hun yn ardderchog ar gyfer llȇs corfforol a iechyd meddwl ond, rydym yn cael llawer iawn o hwyl a thynnu coes, ar y maes, ac oddiarno’n ein hamser cymdeithasu.
Darllenwch fwy:
Cais gorau Cymru erioed
Nodwyd bron i 5000 pleidlais yn rownd gyntaf chwilio am ‘Gais gorau Cymru erioed’.
Roedd yn a rhai enillwyr clir yn Rownd 1, yn ogystal a rhai’n agos iawn, ac yn parhau’n y ras, mae tri sydd, ac wedi, dal y teitl o fod gyda record Cymru o sgorio ceisiau.
Gwelodd y campwr presennol, Shane Williams (58), un o’i ddwy ymgais yn cael ei guro, ond aeth ymlaen i’r chwarteri diolch i’w ymgais solo’n 2008 o’r hanner ffordd yn erbyn pencampwyr y byd, De Affrig yn Bloemfontein.
Bu i Ieuan Evans (33) hefyd weld un o’i ddau gais yn cyrraedd y rownd nesaf, yr un hwnnw oedd yn rhoi gwers meistr ar gamochri, yn erbyn yr Alban yn 1988, tra y bu un arbennig Syr Gareth Edwards’ (20) yn 1972 o’i 22 ei hun yn erbyn yr Albanwyr guro ymdrech gwefreiddiol Scott Williams yn erbyn Lloegr yn Nhwickenham yn 2012 yn gymharol rwydd.
Drwodd yn ogystal, mae Phil Bennett (v Yr Alban 1977), Scott Gibbs (v Lloegr 1999), Gareth Davies (v Lloegr 2015), Josh Adams (v Lloegr 2019) a Justin Tipuric (v Lloegr 2020).
Golyga’r pleidleisio mai fel a ganlyn fydd y chwarteri:
Scott Gibbs v Ieuan Evans
Gareth Edwards v Gareth Davies
Phil Bennett v Shane Williams
Josh Adams v Justin Tipuric
Ewch i wru.wales i fwrw’ch pleidlais am y chwarteri.
Diweddariad Dyfarnu, Dosbarth Digidol URC & Adran Menter
· Ffocysa cyfweliadau webinarau’r wythnos hon ar fuddion dyfarnu a bydd yn cael ei rhyddhau ar Game Locker URC. Wedi ymddeol fel chwaraewr, trafoda dyfarnwr URC,Kelvin Shorte , ei swrnai 15 mlynedd fel dyfarnwr wrth Rheolwr Datblygu Hyfforddwyr URC, Gerry Roberts, CLICK HERE ti weld y fideo i gyd
· Creir her 30 niwrnod newydd gan athrawon mewn cydweithrediad ȃ chonsortia addysgol ar gyfer Dosbarth Digidol URC
· Mae adnoddau rhaglen Admiral, DSW Play Together yn awr yn fyw ar Game Locker URC
Sylwadau’r Cadeirydd
Rwyf wedi bod ynghlwm gyda chyfarfodydd gweithrediadau amrywiol Chwe Gwlad tros yr wythnos ddiwethaf, lle yr ydym yn siarad gyda chynrychiolwyr o bob un Undeb er mwyn gwerthuso’r tymor diwethaf ag edrych i’r hyn y gallem ei adolygu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Digwydd y cyfarfodydd hyn bob blwyddyn, gyda rheolwyr tîm – fel ein Martyn Williams ni – a hyfforddwyr sy’n adrodd eu meddyliau a’u canfyddiadau gyda’r timau gweithredu ym mhob lleoliad yn gyrru’r trafodaethau.
Trafodwn drefniadau teithio, yr angenrheidiau gweithredu ganddarlledwyr sy’n croesawu ym mhob gwlad, rhediadau’r capten, rhaglenni hyfforddi a lleoliadau croesawu yng nghemau’r dynion a’r merched. Mae anghenion a gofynion masnachu bob amser yn uchel ar y rhaglen.
Yn amlwg, yn yr hinsawdd bresennol, mae gan y cyfarfodydd hyn ddimensiwn ychwaegol gan ein bod oll yn parhau’n ansicr am sut y bydd y tymor o’n blaenau’n troi allan, ond, crybwyllaf hwy yma gan iddynt roi imi’r teimlad y bydd, pan ddaw’r amser, rygbi’n barod, bodlon a galluog i ddychwelyd mor gyflym ag y bydd gonfalon diogelwch yn ei ddweud.
Mae llawer iawn o waith caled yn mynd ymlaen tu ôl i’r llenni, fel sy’n digwyddbob maser bob blwyddyn ar yr adeg hyn, er mwyn trefnu cystadlaeuaeth Chwe Gwlad sydd gyda’r byd chwaraeon yn eiddigeddus ohoni, ac, unwaith y bydd cynghorion iechyd a llywodraeth yn caniatau, yr wyf yn gwybod y bydd yn achos ‘fod yn rhaid i’r sioe fynd yn ei blaen’.
Atgoffir, a rhannaf, falchder pob gwlad sy’n cymryd rhan, mai ni, i raddau helaeth iawn, sy’n berchnogion y Chwe Gwlad. Oes, mae yn a swyddfa a phwyllgor Chwe Gwlad, sy’n rhedeg a gweinyddu’r twrnament, ond, cyfanswm y rhannau i raddau helaeth yw’r gystadleuaeth a chymer gyfraniad hafal gan bob Undeb sy’n cymryd rhan, i groesawu’r twrnament – i roi’r sioe ymlaen.
Mae ein tîm gweithredu ni, a arweinir gan Alex Luff yn Stadiwm y Principality, wedi derbyn adolygiadau gwych gan bob Undeb sydd wedi ymweld ac, o berspectif Cymreig, rydym yn awyddus i bwyntio allan a diolch i’n partneriaid Chwe Gwlad am y croeso yr ydym ni wedi’i dderbyn ym mhob lleoliad perthnasol. Un achos arbennig i ddangos hynny oedd y gȇm Merched i ni ar Barc Energia y tymor diwethaf. Gwnaethpwyd llawer o’r broblem a’r cyfleusterau cawodydd yn y lleoliad arbennig yma, ond roedd rheolaeth merched Cymru’n ddi-wyro’n eu canmoliaeth o groeso’r Gwyddelod, – wnaeth beidio tynnu ei llygad oddiar y bȇl neu bod yn gellweirus fel y nododd rhai sylwebyddion ar yr adeg – na allai wneuthur digon i geisio lleihau’r broblem annisgwyl ac un na ellid ei hosgoi.
Mae safonau’n uchel drwy holl gystadlaethau’r Chwe Gwlad ac mae’n gredyd ei fod yn cael ei rannu chew ffordd ond, bu staff Undeb Rygbi Cymru yn fwy na hafal i’w cyfraniad un allan o chwech ac yn llawn haeddu’r canmoliaeth y maent wedi’i ddrebyn yn fy nghyfarfodydd diweddar.
Mewn lle arall yr wythnos hon, bu inni dderbyn newyddion am fuddsoddiad newydd yng nghystadleuaeth PRO14 Guinness a hoffwn ymuno gyda fy nghydweithwyr yn Rygbi Cymreig wrth fynegi croeso cynnes iawn i CVC i’n teulu rygbi. Bydd ein dyfodol gyda’n gilydd yn un sy’n llawn potensial, croesewir yn fawr y buddsoddiad a dderbyniwyd ond mae’r pwysau ar dyletswydd yn awr ar y rhai sy’n derbyn i ymddwyn yn rhesymol tra ym ei meddiant, symud ymlaen gyda chymysgedd cywir o uchelgais ond, yn ogystal, wyliadwriaeth ac, yn anad dim, gwario’n gall gan gadw’r dyfodol yn y meddwl. Yn fyr, rhaid yw i’r busoddiad fod yn hynny’n unig – codi ysbryd ariannol fydd yn cael ei ddefnyddio i dalu buddion i ddyfodol y gystadlaeuaeth a’i dimau.
Yn olaf, hoffwn groesawu unigolyn pwysig i deulu Rygbi Cymreig – Marianne Økland a ymunodd gyda’n Bwrdd Rygbi Proffesiynol (BRP) yr wythnos ddiwethaf fel ei ail gyfarwyddwr annibynnol di-hawliau, wrth ochr Amanda Blanc, a benodwyd yn Gadeirydd yn ddiweddar. Ni chafodd Marianne gyfle, hyd yn hyn, i fynychu cyfarfod, ond rwyf yn gwybod iddi siarad mewn person gyda phob un o’i chydweithwyr ar BRP ac, yn benodol, y rhai hynny sy’n cynrychioli’n uniongyrchol y gȇm ranbarthol yng Nhymru, sef, cadeiryddion pob un o’n pedwar rhanbarth. Mae’n hynod frwdfrydig am y ffordd ymlaen a daw atom o gefndir gwerth chweil yn y sector ariannol, oedd yn cynnwys cyfnodau mewn banciau yng Nghwlad yr Ia a Groeg a oedd yn ymdrin,ill dwy wlad yn eu tro, gyda chreisis cyfyngder ariannol tros y ddwy ddegawd ddiwethaf. Felly, mae’n unigolyn hynod wybodus a phroffesiynol sydd gyda chyfoeth o brofiadgwerthfawr yn yr amser hynod bwysig hwn i’n gȇm.
Yr eiddoch mewn rygbi,
Gareth Davies
Cadeirydd URC