Gan na chaniateir chwaraeon tîm a chyswllt i ail ddechrau ymarfer ar hyn o bryd, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynghorion cyffredinol i glybiau i’w’ cynorthywo i gael meysydd yn barod i groesawu chwaraewyr pan yn addas ac yn cydfynd ag arweiniad y llywodraeth.
Ni newidiwyd y canllawiau parthed arferion hyfforddi yn nhermau pobl o un neu ddau annedd (gweler y graffeg uchod i arddangos hyn). Yr unig newid i gyngor yr Undeb i glybiau yw, gan gymryd yn ganiataol fod clybiau’n gallu gwarantu arferion gweithio diogel, eu bod yn cael eu hannog, yn awr, i ddechrau cynnal a chadw’u meysydd yn dilyn tri mis o ddisymundrwydd.
Cyhoeddoddd URC ddogfen Arweiniad Paratoi Maes [CLICIWCH YMA]. Mae’r ddogfen, a luniwyd gyda’r Gymdeithas Rheolaeth Maes, yn edrych dros y cyfan o hyd y glaswellt a argymhellir ar gyfer cyfnodau allan o ddefnydd, i awyru, dyfrhau, cywiro lleol a rheolaeth o wellt.
Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol URC, “Tra yr ydym oll yn colli gweithrediadau rygbi, rhaid inni fod yn rhan o’r datrysiad o reoli Covid-19 yng Nghymru a pheidio a bod yn achos tros gynyddau’r raddfa heintio. Gweithiwn yn agos gyda Llywodraeth Cymru ar bod ardal o’r gȇm, o gymuned i elît a gweithrediadau masnachol.
“Ein cyngor ar yr adeg hon yw i aros yn actif o mewn canllawiau Llywodraeth Cymru sy’n golygu ymarfer ar eich pen eich hun, gydag aelodau o’ch annedd, neu, wrth gydfynd ȃ chyngor Llywodraeth – arhoswch yn lleol gydag aelodau o un annedd arall yn unig.
“Fodd bynnag, yn dilyn diweddariad y llywodraeth ddydd Gwener, yr ydym, yn awr, wedi dechrau ar gymal paratoi pwysig a chynghorwn glybiau i dalu sylw i’r cyngor paratoi meysydd hwn sydd yn gam cyntaf cyn inni ail gychwyn unrhyw weithredoedd rygbi ar feysydd clybiau. Rydym yn gwerthfawrogi fod cymaint o’n clybiau wedi penodi Rheolwr Gweithrediadau Clwb a byddwn yn parhau i gydgysylltu’n uniongyrchol gyda hwy fel y dechreuwn Dychwelyd i Rygbi.”