Nid yw cael ein chwaraewyr yn ôl ar y cae wedi digwydd dros nos. Mae wedi bod yn ganlyniad llawer iawn o waith caled gan y clybiau a nifer o adrannau o fewn URC. Mae wedi bod yn braf gweld pawb yn cyd-dynnu yn yr amseroedd anarferol ac anodd hyn – y ffaith bod gennym 400 o bobl ar weminar ddiweddar yn trafod gêm y clwb yn awgrymu ein bod i gyd yn gwneud rhywbeth yn iawn.
Cyn i’r pandemig ddod â’r gêm i ben yn boenus, roedd yr Is-Ffwrdd Cymunedol mewn gwirionedd wedi bod yn gweithio gyda’n clybiau i greu strategaeth addas i’r diben ar gyfer dyfodol ein gêm.
Yn amlwg mae Covid-19 wedi bod yn rhwystr mawr i gwblhau’r gwaith, ond mae ymgysylltiad ein Bwrdd Cymunedol ag adrannau amrwyiol a staff o mewn URC wedi dod â’r Undeb a’r clybiau yn agosach at ei gilydd yn fy ngolwg i.
Dechreuodd Strategaeth Clwb y Dyfodol o ddifrif fis Hydref diwethaf gyda nifer o weithdai a oedd yn cynnwys ein clybiau (Gweithdai Ardaloedd), Aelodau’r Bwrdd, y Cyngor, Cynrychiolwyr Ardal a phartneriaid pwysig.
Y dasg mewn llaw oedd creu ‘ Clwb y Dyfodol ‘ gyda lansiad wedi ei drefnu’n fras ar gyfer y tymor i ddod ond yn amlwg, mae Covid-19 wedi rhoi sbaner yn y gwaith hwnnw. Beth yw Clwb y Dyfodol, sut mae’n gweithio, beth mae’n ei gynnwys, sut y gall lunio dyfodol cymuned rygbi Cymru, oedd rhai o’r cwestiynau a godwyd ac a drafodwyd yn faith.
Mae’r Cyngor, y Bwrdd Cymunedol a’r Bwrdd wedi cydweithio, gan gasglu adborth gan y clybiau yn y broses, gan eu bod yn elfen hanfodol yn y broses hon.
Mae rhai elfennau allweddol eisoes wedi’u dwyn allan o’r weithdrefn hon sy’n gorchuddio’r gȇm gyfunol i ddynion a marched ac felly, yn sylfaenol, mae’r strategaeth yn gorchuddio pob agwedd o’r gȇm. Er enghraifft, pan ddaw i chwarae a chefnogaeth y gêm ar y maes yn y gêm graidd sy’n cynnwys y strwythur cystadlu cywir o’r pen uchaf i’r gwaelod, mae’n hanfodol ein bod yn cael y maes hwn yn iawn i gefnogi ein gêm ar gyfer y tymor hir, ar, ac oddiar y cae – chwaraewyr, gwirfoddolwyr a’n cefnogwyr gwych.
Mae arnom angen mwy o gefnogaeth sy’n cynnwys hyfforddiant ac addysg o amgylch ein gwirfoddolwyr – hyfforddwyr, dyfarnwyr, a’n holl wirfoddolwyr oddi ar y maes gan gynnwys rheolwyr tîm, swyddogion cymorth cyntaf a gweinyddwyr. Mae hyn yn hanfodol yn awr o dan yr amgylchiadau presennol ac yn hanfodol bwysig a chan symud ymlaen mae’n hollbwysig ein bod yn datblygu ein presenoldeb ar-lein digidol wrth ymwneud â hyn ac wrth i ddysgu ar-lein ddod yn fwyfwy pwysig yn yr oes fodern
O ran cyfleusterau, mae ein tai clwb a’n cyfleusterau yn allweddol, mae gennym frics a morter – ond sut ydym yn defnyddio’r rhain i gefnogi ein teulu rygbi presennol? Mae angen i ni sicrhau y darperir ar gyfer pob gwryw a benyw yn ogystal â’n cymunedau gwych mewn amgylchedd cwbl gynhwysol.
Yn ogystal â bod rygbi yn gynnyrch craidd, rydym bellach yn cynnig llawer mwy o gynnyrch amgen, mae gennym gynigion o bwys ar gyfer ein cymuned – rygbi 7 pob ochr, rygbi cyffwrdd, rygbi i’r anabl a gallu cymysg, rygbi cadeiriau olwyn, rygbi pobl fyddar a rygbi â nam ar eu golwg yn enghraifft o’n cyrhaeddiad cynyddol.
Rydym ni, ynghyd â phartneriaid anghredadwy eraill, hefyd yn darparu llawer iawn o gymorth i’n cymunedau ehangach. Mae partneriaethau’n bwysig gan eu bod yn helpu i dyfu ein gêm gymunedol – mae sefydliadau fel Chwaraeon Cymru, yr Urdd, Gemau Stryd ac Ysgol Ergydion Caled yn rhai ohonynt wrth i ni barhau i ddarparu nifer o opsiynau i bawb dan sylw.
O ran ysgolion ac addysg, mae ein plant i gyd yn mynd i’r ysgol – rhaid i ni barhau ein cefnogaeth yma a thyfu rygbi yn ein hysgolion a chefnogi ein hathrawon ardderchog – nid yn unig ar y maes ond hefyd yn yr ystafell ddosbarth lle mae Rhaglen Hwb URC a phresenoldeb gwerth uchel o mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru yn gwneud gwyrthiau gyda’r cwricwlwm ystafell ddosbarth digidol URC gwych sy’n cyrraedd cynulleidfa fawr o bobl ifanc a rhieni. – gallen nhw fod yn chwaraewyr i’n clybiau a’n gwirfoddolwyr yn y dyfodol.
Rydym bellach yn anelu at lansio strategaeth clwb y dyfodol yn 2021 gyda mwy o fewnbwn gan ein clybiau cymunedol. I gefnogi’r prosiect uchelgeisiol hwn rhaid inni wneud yn siwr bod y model yn cefnogi’r gêm a hefyd twf ein clybiau.
Mae pob un o’r uchod, yn fy marn i, yn dangos bod gennym gynllun i gefnogi’r gêm, y chwaraewyr, y bobl a’n clybiau cymunedol.
Yr eiddoch mewn rygbi
Gareth Davies
Cadeirydd URC
URC yn cael ei gyfareddu gan archwaeth a welir drwy holl rygbi cymunedol
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn cael ei ddarbwyllo gan yr awydd i gael ei weld drwy bob rhan o rygbi cymunedol yn cwblhau’r prosesau addysg yn ogystal ȃ iechyd a diogelwch Clwb angenrheidiol er mwyn ailddechrau hyfforddi o fewn y canllawiau cyfredol.
Mae’r niferoedd cofrestru yn uchel – o fewn wythnos o broses gofrestru ar-lein URC yn agor ar 1af Awst, roedd mwy na 25 000 o chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr eraill wedi cwblhau cwrs addysg covid Rygbi’r Byd a chofrestru ar-lein URC. Mae’r nifer hwnnw wedi codi ers hynny i fwy na 33 000.
Mae nifer o glybiau a Hybiau Menywod ledled Cymru wedi dechrau trefnu hyfforddiant i rai neu i bob un o’u timau gyda llawer ohonynt yn barod i ganmol eu hyfforddwyr, chwaraewyr, gwirfoddolwyr a rhieni sydd wedi sicrhau bod y broses hon wedi rhedeg yn ddidrafferth. Mae eraill yn cynllunio ar gyfer eu dychweliad yn raddol.
Meddai Cyfarwyddwr Cymunedol URC, Geraint John, “Mae’n galonogol gweld chwaraewyr, yn enwedig pobl ifanc, allan yn mwynhau bod yn rhan o’u tîm rygbi eto. Rydym i gyd wedi colli’r gêm ei hun, a’r manteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol yr ydym i gyd yn eu trysori. Mae’n bwysig i ni lynu wrth ganllawiau’r Llywodraeth er mwyn helpu i gadw Cymru’n ddiogel, a chyda lles chwaraewyr yn allweddol, rydym hefyd wedi cymryd agwedd diogelwch yn gyntaf at ailgyflwyno rygbi cyswllt ar bob lefel.
“Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am yr ymrwymiad a ddangoswyd gan bawb sy’n ymwneud â’r gêm i fynd drwy’r prosesau addysg a diogelwch yr ydym wedi eu rhoi ar waith i gefnogi’r gêm gymunedol ac wedi’n calonogi gan yr awydd pur yr ydym yn ei weld i fynd yn ôl allan ar y cae a thaflu pêl o gwmpas gyda ffrindiau tîm.”
Dywedodd Gareth Ashman, Cadeirydd Caerffili, “Mae gennym ni dimau’n hyfforddi bob nos-naill ai pobl hŷn ac ieuenctid, minis a Iau neu Hwb Menywod y ‘Chargers’ sydd yn ychwanegiad newydd i’w groesawu i’r clwb.
“Mae dychweliad gweithgaredd clwb yn ras arbediad ar ôl, nid yn unig y cload ond y llifogydd cyn hynny. Rydym wedi troi’r maes parcio yn ardd gwrw ac mae’r tywydd wedi helpu i gynhyrchu rhywfaint o incwm mawr ei angen. Nid yn unig hynny ond rydym yn gymuned, yn deulu rygbi ac mae pawb mor falch o weld eu cyd-aelodau tîm, eu cyd-hyfforddwyr, rhieni eraill ac ati o fewn y rheolau pellhau cymdeithasol.”
Mae Caerffili hefyd wedi canfod ffordd effeithlon o ran amser ac ynni i aros ar ben y broses tracio ac olrhain.
“Am swm nominyddol, rydym yn talu ffi misol am gôd QR sy’n benodol i glwb. Mae pawb sy’n dod i safle’r Clwb – naill ai at ddibenion hyfforddi neu gymdeithasol – yn defnyddio eu ffôn clyfar i logio eu hunain mewn, ac felly, pe byddai yna achos o Covid, byddai’r cwmni sy’n dal yr holl wybodaeth gyswllt yn hysbysu’r awdurdodau iechyd cyhoeddus a fyddai’n cysylltu â ni a’r unigolion perthnasol i roi’r mesurau angenrheidiol ar waith. Mae’r broses gyfan yn cydymffurfio â’r Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol (RhGDC) a chaiff y manylion cyswllt eu dinistrio o fewn tri mis.”
Dywedodd Ysgrifennydd Wrecsam, Becky Pomeray, “Rydym yn ddiolchgar iawn am y gwaith caled y mae hyfforddwyr a’n gwirfoddolwyr eraill yn ei wneud i helpu i gael ein timau yn ôl ar y cae.
“Yn dilyn y gweminar cyntaf o dan arweiniad URC, cynhaliwyd ein cyfarfodydd ‘zoom’ ein hunain i gymryd hyfforddwyr, yn enwedig, drwy’r canllawiau i gyd a sefydlwyd cyfeiriad e-bost penodol i gadw rheolaeth ar y gwaith papur oedd yn dod i mewn. Gyda’r angen am hyfforddiant Covid i bawb a chofrestru URC, rydym wedi sefydlu cytundeb ar gyfer chwaraewyr a rhieni chwaraewyr er mwyn sicrhau eu bod yn deall y ‘ gwneud ‘ a’r ‘ peidio gwneud’. Mae hyn yn ofynnol yn awr cyn i unrhyw chwaraewr ddod i hyfforddiant ynghyd â’r cwrs Rygbi’r Byd a gwiriwr symptomau URC.
“Mae gennym grwpiau bach, prosesau glanhau llym a diheintio llaw rheolaidd yn ystod yr hyfforddiant. Cafodd un hyfforddwr ei chwaraewyr i greu llinell gyda chôn yr un a chael pob chwaraewr i roi ei ddiod yn ei orsaf côn eu hunan. Roedden ni’n meddwl bod hynny’n syniad gwych felly rydyn ni wedi’i fabwysiadu yn ein grwpiau eraill.
“Dwi’n meddwl bod tua 95% o’n chwaraewyr wedi dychwelyd. Mae wedi bod yn wych hyd yma. Mae pawb wedi prynu i mewn iddo ac mae rhieni wedi croesawu ein dull gweithredu.
“Mae’n fater iechyd y cyhoedd. Rydyn ni’n troi pobl i ffwrdd os nad ydyn nhw wedi mynd drwy’r gwiriadau cywir. Os byddwn yn ei gael yn iawn nawr, gallwn fynd yn ôl i chwarae gemau yn gyflymach fel ei bod hi er budd i ni gael pethau’n iawn y tro cyntaf. ”
Ychwanegodd Steve Pillner, o Sports Pen-y-bont ar Ogwr, “Mae’r rhan fwyaf o’n timau wedi dychwelyd yr wythnos hon gyda’r Hwb Merched yr ‘Hawks’ yn ôl gyda ni ddydd Llun nesaf.
“Mae’n dal yn ddyddiau cynnar ac mae gennym ni i gyd ffordd bell i fynd yn y frwydr hon yn erbyn Covid felly mae’n llawer gwell i gymryd y peth yn araf a chael popeth yn iawn. Dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd rownd y gornel. Mae’r cyfnod presennol hefyd yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau pêl ar bob lefel, gall ochr gyswllt y gêm ddod yn ddiweddarach.
“Fodd bynnag, mae’r gêm yn gymuned hefyd. Mae’n bwysig cadw mewn cysylltiad ac mae pawb yn falch o weld ei gilydd i gadw’r gymuned honno’n fyw. ”
‘Aderyn yw’r gair’
Mae Liza Burgess bob amser wedi arwain y ffordd yn ei gyrfa chwarae a hyfforddi ac mae hi’n gwneud yr un peth erbyn hyn wrth iddi geisio gwneud argraff yn llywodraethiant rygbi Cymru.
Roedd y cyn-Rhif 8 – a elwid yn Aderyn – yn gapten ar ei gwlad 62 o weithiau a hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru ym mis Tachwedd y llynedd.
Mae hi’n gobeithio helpu rygbi merched i barhau i ffynnu – ymhlith pethau eraill – ond mae’n cyfaddef bod pandemig y Coronafeirws wedi cael effaith fawr ar y gêm yng Nghymru, ac y bydd yn parhau i wneud hynny.
“Mae’n anhygoel bod ar Fwrdd URC a rhywbeth na wnes i erioed, erioed wedi breuddwydio amdano,” meddai Burgess. “Mae’n anrhydedd enfawr, ond hefyd yn gyfrifoldeb i ofalu am, a datblygu ein gêm genedlaethol.
“Dw i wedi llwyddo i weld rygbi Cymru o ddwy ochr ac erbyn hyn dwi’n sylweddoli faint o waith sydd yn mynd ymlaen yn URC. Mae’n amlwg bod yna feirniaid, ond mae’r hyn y mae URC yn, ac wedi’i wneud drwy’r argyfwng hwn yn dangos y gefnogaeth a’r arweiniad gwir sydd ar wait hi bawb sydd ynghlwm ȃ rygbi drwy Gymru gyfan. Yn ogystal, mae cymaint o waith yn digwydd y tu ôl i’r llenni i helpu gêm y merched yng Nghymru ac mae’n wych bod URC wedi ymrwymo i fuddsoddi llawer mwy yn y gwaith o ddatblygu rygbi merched.
“Bydd strwythur hyfforddi newydd, sy’n benodol i ferched ag sy’n arwain y byd ar gyfer yr 15’au Cenedlaethol a’r rhaglenni 7-bob-ochr yn cael ei benodi cyn bo hir a fydd yn helpu i gau’r bwlch rhwng y gwledydd blaenllaw.”
Mae URC wedi cymryd camau breision i wella cynrychiolaeth menywod ar eu strwythurau llywodraethu.
Mae Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru – sy’n cynnwys cynrychiolwyr URC ac aelod o bob un o’r pedwar rhanbarth – yn cael ei gadeirio gan Amanda Blanc, sy’n uchel ei pharch.
Mae Pennaeth y gweithrediadau rygbi, Julie Paterson, yn ffigwr allweddol ar frig URC a Rygbi’r Byd, tra, yn 2015, cyfetholwyd menyw fusnes, Aileen Richards, gan URC.
“Mae’n wych cael amrywiaeth ar y Bwrdd. Dim ond ym mis Hydref y bu imi ymuno ac mae’r sefyllfa bresennol wedi gwneud pethau’n anodd, ond rwy’n mwynhau’r rôl yn fawr, “meddai Burgess. “Rydw i wedi cael cipolwg gwych a dwi’n llais arall ar anabledd, amrywiaeth, menywod a genethod a’r gêm gymunedol.
“Yn fy rôl yn y gorffennol fel athrawes, roeddwn yn ymwneud â gwneud penderfyniadau strategol a phell gyrhaeddgar. Mae’n beth gwahanol yn gyfan gwbl pan fyddwch chi’n mynd ar Fwrdd Gweithredol.
“Pan ofynnir i mi fy marn, rwy’n ei roi ac mae’n wych gweld menywod yn yr amgylchedd hwnnw. Mae Julie Patterson, Amanda Blanc ac Aileeen Richards yn dod â chyfoeth o brofiad ac yn fenywod busnes llwyddiannus dros ben eu hunain, felly mae’n wirioneddol wych eu cael ar y Bwrdd.
Mae Burgess yn dal i weithio’n llawn amser fel hyfforddwr ym Mhrifysgol Hartpury ac mae’n teimlo bod yn rhaid i’r cynnydd yng nghynrychiolaeth menywod yn URC gael ei efelychu ar lefel Rygbi’r Byd.
“Mae wedi bod yn wych gweld URC yn creu cyfleoedd i fenywod a hynny’n gwbl briodol,” meddai.
“Mae angen i rygbi gynyddu ei amrywiaeth i gynrychioli’r boblogaeth sy’n chwarae’r gêm ac mae URC a’r clybiau eisiau gwneud hynny hefyd. Mae Rygbi’r Byd wedi camu’n fras hefyd ac maent wedi rhoi llawer o bwys ar fuddiannau ac wedi cyhoeddi papurau ar fanteision amrywiaeth yn ystafell y Bwrdd. Mae rygbi yn gêm i bawb – nid dynion yn unig ac mae’n bwysig ein bod yn adlewyrchu’r bobl sy’n chwarae’r gêm. Yn fy mhrofiad i, mae URC a’r clybiau yn dechrau cofleidio hyn.
“Maen nhw eisiau newid a gwneud y peth iawn sy’n wych ac mae’n bwysig bod hynny’n parhau.
Clwb Rygbi Aberystwyth yn codi £2,500 ar gyfer ysbyty’r dref
Mae Clwb Rygbi Aberystwyth wedi rhoi £2,500 i Ysbyty Bronglais, ar ôl i chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr y clwb redeg, cerdded a beicio dros 3,200 o filltiroedd rhyngddynt.
Mae’r arian yn mynd i gael ei rannu rhwng ward Gwenllian yr ysbyty a’r uned gofal dwys.
Cymerodd bron i 100 o bobl ran yn yr her i godi arian i Elusennau Iechyd Hywel Dda, gan ddefnyddio app GPS, Strava, i olrhain eu milltiroedd yn unigol.
Dywedodd llefarydd ar ran CR Aber, yr Ysgrifennydd Iau, Nerys Hywel: “Rydym ni yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth yn falch iawn o ymdrechion ein chwaraewyr i godi arian, o’r criw Dan 7 trwodd i’r tîm cyntaf, y pwyllgor a’r cefnogwyr.
“Mae ein his-gapten, Matthew Hughes, a’i gydchwaraewyr wedi penderfynu eu bod am rannu’r arian yn gyfartal rhwng y ward gofal dwys a ward Gwenllian yn Ysbyty Bronglais.
“Fe wnawn barhau â’r gwaith da o gefnogi ein cymuned a gobeithio na fydd hi’n rhy hir cyn y byddwch i gyd yn gallu gwylio a’n cefnogi ni nôl ar y cae ym Mhlascrug.”
Mae’r clwb hefyd wedi bod yn gwerthu crysau rygbi GIG CR Aberystwyth a ddyluniwyd yn arbennig, gydag arian o’r gwerthiannau yn mynd i’r GIG.
Arbenigedd byd-eang wedi’i gadarnhau ar gyfer cynhadledd hyfforddi cynhwysiant
Cynhelir Cynhadledd Hyfforddi Anabledd/Cynhwysiad rithiol gyntaf Undeb Rygbi Cymru y dydd Sul hwn rhwng 10.00 y bore a 2.00 y prynhawn.
Bydd siaradwyr allanol o bob cwr o’r byd yn rhan o raglen ar-lein lawn sy’n ymwneud â phwysigrwydd cynhwysiant mewn chwaraeon a chreu’r amgylchedd gorau i ffynnu.
Mae’r gynhadledd rithiol hon wedi’i hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu cyfleoedd i bobl ag anableddau mewn chwaraeon, drwy hyfforddiant a phartneriaethau, gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:
- Arferion hyfforddi cynhwysol
- Profiadau Hyfforddi Rygbi i rai â Nam ar eu Golwg
- Hyfforddi Rygbi Cadair Olwyn Elît
- Hyfforddi Chwaraewyr Byddar a Thrwm eu Clyw
- Hyfforddwyr & Throsglwyddo TalentBydd athletwyr, hyfforddwyr ac arbenigwyr yn y sector o wahanol agweddau o Dirlun Rygbi Anabl yn rhannu eu gwybodaeth drwy sgyrsiau, cyflwyniadau, a thrafodaeth banel.
Nod y gynhadledd yw darparu llwyfan ar gyfer rhannu arfer dda a dysgu gwersi oddi wrth ein gilydd. Mae hyn yn cynnwys cefnogi mynychwyr yn ystod, ac ar ôl, y digwyddiad gydag amrywiaeth o adnoddau wedi’u datblygu’n benodol i’n cefnogi ni i gyd i greu’r amgylchedd gorau i ffynnu
Cynnwys y siaradwyr allanol Paul Shaw, prif hyfforddwr Rygbi Cadair Olwyn Prydain, Robert John Coles, prif hyfforddwr Cymru Byddar, Alex Bassan ar ddatblygu rygbi i rai gyda nam ar eu golwg ledled y byd, Rob Townsend o Brifysgol Waikato, Russell Earnshaw o Magic Academy a Fiona Reid, Prif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru.
Mae’r adran addysg hyfforddwyr cymunedol yn llunio cyfres o gyrsiau tag a chyswllt cynnar a fydd yn cael eu cynnal ar-lein i gefnogi hyfforddwyr iau yn y misoedd nesaf. Cadwch i wirio wrugamelocker.wales am ragor o wybodaeth.
Llogwch eich lle rhad ac am ddim here.
Coleg Sir Gâr a’r Sgarlets yn dathlu carreg filltir partneriaeth
Yn y dyddiau a aeth heibio, credent mai ond chwibanu i lawr y pwll oedd ei angen i ddod o hyd i chwaraewr rygbi o’r radd flaenaf yng Nghymru, neu edrych ar y meysydd chwarae yn Llanymddyfri neu Goleg Crist, Aberhonddu, ond yn yr oes broffesiynol, mae’r broses o ddarganfod talent wedi dod yn llawer mwy soffistigedig ac yn dechrau llawer yn gynharach.
Mae gan bob un o’r pedwar rhanbarth Academïau sy’n frith o dalent a gellir gweld y sgowtiaid a’r asiantwyr ar y linell ystlys mewn gemau Dan 16 a Dan 18 ledled y wlad. Mae timau proffesiynol o bob cwr o’r DU yn chwilio am y dalent orau, ond partneriaethau lleol sy’n aml yn cynhyrchu’r canlyniadau gorau.
Enghraifft glasurol o hynny yw’r berthynas rhwng y Sgarlets a Choleg Sir Gâr, sy’n dathlu ei 20fed pen-blwydd y mis hwn. Sir Gâr oedd y Ganolfan Addysg a Hyfforddiant gyntaf yn rhanbarth y Sgarlets i dderbyn statws Canolfan Ragoriaeth Academi’r Sgarlets.
Y da a’r drwg o’r cyfryngau cymdeithasol
Mae’r ddeuawd merched o Gymru, Elinor Snowsill a Roby Lock wedi siarad am effaith gadarnhaol a negyddol y cyfryngau cymdeithasol.
Ar ôl cymryd rhan mewn arolwg eang gan y BBC ar lawer o feysydd sy’n effeithio ar fenywod mewn chwaraeon, amlygodd mater o ddilorni mewn cyfryngau cymdeithasol ei hun.
O fwy na 530 o gampwragedd elît a gwblhaodd yr arolwg, dywedodd mwy na 30% eu bod wedi profi gwahanol lefelau o drolio neu aflonyddu ar y cyfryngau cymdeithasol, ffigwr sydd wedi dyblu ers yr arolwg diwethaf o’r math hwn yn 2015.
Wedi derbyn cap 56 o weithiau, cadarnhaodd Elinor Snowsill a Robyn Lock (5 cap), eu bod wedi cael y math hwn o sylw digymell.
Er eu bod yn gyflym i groesawu’r manteision y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn eu cynnig i chwaraeon menywod, nid oes lle i gam-drin o unrhyw fath yn rygbi Cymru.
Dywedodd Snowsill, “Rwy’n credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn hanfodol, yn enwedig o ran chwaraeon menywod. Rydym yn gallu siarad yn uniongyrchol â chefnogwyr a gallwn gael effaith gadarnhaol ar ddarpar fabolgampwyr.
“Fodd bynnag, mae’r negeseuon preifat cyson rwy’n eu cael pan fyddaf yn postio rhywbeth yn gallu teimlo ychydig fel aflonyddwch. Mae’n air mor gryf ond pe bai’r person hwnnw’n dod yn gyson ac yn adweithio i bopeth a wnaethoch mewn bywyd go iawn, byddai’n teimlo braidd yn rhyfedd.
NEWYDDION RYGBI
Datganiad COVID-19 chwaraewr
Mae unigolyn (chwaraewr) yn y Dreigiau wedi profi’n bositif am COVID-19 yn rhaglen brofi Rygbi Cymru.
Mae’r person yn rhydd o symptomau ac mae’n ynysu ar hyn o bryd.
Mae holl ganllawiau dilynol Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Llywodraeth yn cael eu dilyn.
Dyma ganfyddiad cadarnhaol cyntaf Rygbi Cymru mewn dros fis o brofi gydag ymhell dros 1100 * o brofion wedi cael eu cynnal hyd yn hyn.
Ni fydd manylion pellach am yr unigolyn yn cael eu darparu.
James wedi gwirioni ar hyfforddi
Gyda’i yrfa ddisglair y tu ôl iddo erbyn hyn wedi 16 mlynedd ar y brig, a oedd yn cynnwys dwy Gamp Lawn yn ei 81 o gapiau Cymraeg, mae James Hook yn troi ei sylw at hyfforddi y genhedlaeth nesaf o sêr y Gweilch – ac mae’n methu aros i dechrau.
Yn enwog am ei sgiliau sidanaidd a’i ddiffyg panig o dan bwysau, byddai Hook wedi cael ei ystyried yn ddewis naturiol i ymgymryd â hyfforddiant, ond mae hynny’n dybiaeth nad yw, o reidrwydd, yn cytuno’n llwyr a 100 y 100 â. (Mwy o hynny yn nes ymlaen)
Ers mis Medi y llynedd, mae Hook wedi bod ymhlith grŵp o chwaraewyr a ddewiswyd i gymryd rhan yn y rhaglen gychwynnol o Chwaraewr i Hyfforddwyr 12 mis o hyd a ddatblygwyd gan Undeb Rygbi Cymru dan oruchwyliaeth Rheolwr Hyfforddwr Perfformiad URC, Dan Clements.
Mae’r blociau adeiladu wedi cael eu rhoi yn eu lle ar gyfer Hook a’r criw. er mwyn adeiladu sylfeini cadarn yn eu gyrfaoedd hyfforddi ay’n egino, ond, i Hook, mae trosglwyddo i hyfforddi wedi chwarae, heb fod yn benderfyniad dros nos.
Dai yn awyddus i ddychwelyd i weithredu
Mae hyfforddwr cefnwyr y Sgarlets, Dai Flanagan, yn edrych ymlaen at weld y gweithredu’n dychwelyd ar lefel ranbarthol. Ar ein podlediad diweddaraf, mae’n dweud wrthym sut beth fu hi dan reolaeth newydd Parc y Sgarlets a hefyd mae’n datgelu sut deimlad oedd bod yn rhan o gynllun datblygu hyfforddwyr Undeb Rygbi Cymru.
Rydym hefyd yn clywed gan gyn chwaraewr rhygwladol Cymru a’r fforiwr di-ofn, Richard Parks ar sut y bu iddo ymdopi â’r cload – ynghyd â rhai rhybuddion diddorol.
CLICIWCH YMA I GLYWED PODLEDIAD:
Nick Williams mawr yn galw amser ar ei yrfa
Mae Rhif 8 Gleision Caerdydd, Nick Williams, wedi hongian ei esgidiau ar ôl 16 mlynedd fel chwaraewr proffesiynol.
“Mae’n drist nad wyf wedi cael un rhediad olaf ym Mharc yr Arfau ond gyda Covid-19, a phopeth sydd wedi dod gydag ef, mae pethau llawer mwy wedi bod i boeni amdano,” meddai Williams.
“Rwyf wedi cael bendith i chwarae’r gêm hon gyhyd ac ni allwn fyth fod wedi dychmygu y byddwn yn broffesiynol am 16 mlynedd ac wedi teithio i gynifer o leoedd gwych ledled y byd.