Cadarnhawyd bellach y cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb Rygbi Cymru 2020 am 7o’r gloch yr hwyr ddydd Mercher 28ain Hydref.
Fel yr hysbyswyd yn flaenorol, oherwydd ystyriaethau iechyd a diogelwch a gofynion ymbellhau cymdeithasol parhaus o ystyried pandemig Covid-19, cynhelir y cyfarfod yn rhithiol.
Bydd rhagor o wybodaeth am y trefniadau ar gyfer mynediad rhithwir yn dilyn yn fuan a disgwylir i ddogfennau paratoadol gael eu hanfon i glybiau yr wythnos hon.
Strategaeth Rygbi Cymunedol
Dros y pythefnos diwethaf mae Cyfarwyddwr Cymuned URC, Geraint John wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd yn Ardaloedd Rygbi Cymru A, C, D ac F fel parhad o’r broses ymgynghori gynhwysfawr ar gyfer y strategaeth newydd ar gyfer y gêm gymunedol. Cynhelir cyfarfod tebyg yn Ardal E heno (dydd Mercher 30ain Medi) a bydd cyfarfodydd pellach yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol gyda’r Ardaloedd sy’n weddill ledled Cymru.
• Dosbarth G – Dydd Iau 1af Hydref
• Dosbarth J – Dydd Mawrth 6ed Hydref
• Dosbarth H – Dydd Mercher 7fed Hydref
• Dosbarth B – Dydd Iau 8fed Hydref
Cymru i chwarae ym Mharc y Scarlets
Bydd cyfarfod y Chwe Gwlad Guinness yn erbyn yr Alban a ail-drefnwyd a’r gȇm gartref gyntaf yng Nghwpan y Cenhedlodd yr Hydref, yn erbyn Georgia, yn cael ei chwarae ym Mharc y Scarlets, fe’i cyhoeddwyd heddiw.
Mae gan Undeb Rygbi Cymru opsiynau o hyd i chwarae dwy gêm Cwpan yr Hydref sy’n weddill – yn erbyn Lloegr ar 28ain Tachwedd a’r gêm Derfynol Chwarae ar y 5ed Rhagfyr – yn Llundain, er mwyn sicrhau’r refeniw mwyaf posibl.
Ond mae wedi cael ei gadarnhau y bydd y gemau ar 31ain Hydref a’r 21ain Tachwedd yn cael eu chwarae yng Nghymru erbyn hyn.
Stori lawn yma:
Mae Menywod Cymru yn ôl
Mae Menywod Cymru wrth eu bodd yn dychwelyd gyda’i gilydd i baratoi ar gyfer gêm y Chwe Gwlad i Fenywod a ad-drefnwyd yn erbyn yr Alban (penwythnos 31ain Hydref).
Mae’r garfan yn hyfforddi allan o gyfleusterau chwaraeon Prifysgol Abertawe i baratoi ar gyfer y gêm hon a dyna lle’r oedd Teledu URC wedi dal i fyny â’r capten Siwan Lillicrap:
“Rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn, mae wedi bod yn anodd i bawb, ym mis Mawrth doedden ni ddim yn gwybod beth oedd y dyfodol… ond rydym i gyd wedi gallu gosod sylfeini da yn yr haf hwn ac rydym yn teimlo’n dda. Mae’r corff yn teimlo ei fod wedi’i drwsio, yn fwy heini ac yn gryfach a gobeithio bod llawer o ferched yn teimlo’r un fath,” dywedodd.
“Mae gennym fusnes anorffenedig a hoffem orffen (y Chwe Gwlad) ar lefel uchel yn erbyn yr Alban. Gwyddom y bydd yr hyn a wnawn yn awr fel carfan yn pennu ein dyfodol ac mae’n flwyddyn enfawr o’n blaenau gyda chwpan y byd dim ond 12 mis i ffwrdd.”
Mae Darren Edwards, yr Hyfforddwr Arweiniol Dros Dro, yn fywiog ynglŷn â’r potensial y mae wedi’i weld yn yr ochr eisoes a’r ymrwymiad a ddangoswyd i gynlluniau hyfforddi personol drwy gydol y clo.
“Mae’r chwaraewyr wedi cael seibiant yn gorfforol ac yn feddyliol ac mae hwn yn lle gwych i ddechrau 12 mis cyn Cwpan y Byd,” ychwanegodd.
Mwy yma:
Newyddion Rygbi
CANRIF YN Y CANOL
Nigel Owens fydd y person cyntaf i gymryd cyfrifoldeb am 100 o Brofion pan fydd y Cymro yn dyfarnu Ffrainc yn erbyn yr Eidal yng Nghwpan yr Hydref ym mis Tachwedd.
Bydd dyfarnwr terfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2015 yn gyfrifol am ddwy gêm yn y gystadleuaeth newydd i gyrraedd y garreg filltir, 17 mlynedd ar ôl ei Brawf cyntaf ym mis Chwefror 2003 pan oedd yn y canol ar gyfer Portiwgal yn erbyn Georgia.
Dywedodd Paul Adams, Rheolwr Perfformiad Dyfarnwyr Cenedlaethol URC:
“Dyma’r tro cyntaf i ganolwr rygbi’r undeb gyrraedd carreg filltir mor wych ac mae’n dyst i’w gysondeb ers ennill ei gap cyntaf yn 2003 pan chwaraeodd Portiwgal, Georgia.”
Mwy yma
GEMAU TYMOR 2020/21 ‘GUINNESS PRO14’
Mae pedwar rhanbarth Cymru wedi dysgu beth fydd eu gemau ar gyfer wyth rownd gyntaf tymor PRO14 newydd Guinness gyda rygbi nos Lun yn dod i’r gystadleuaeth am y tro cyntaf.
Mae’r Dreigiau, Gleision Caerdydd, Gweilch a’r Sgarlets bellach yn gwybod pwy fyddant yn eu hwynebu pan fydd ymgyrch 2020/21 yn dechrau y penwythnos nesaf.
Ochr John Mulvihill fydd y tîm cyntaf o Gymru ar waith pan fyddant yn teithio i’r Eidal i wynebu Zebre ddydd Gwener, 2ail Hydref. Mae Dreigiau Dean Ryan hefyd yn wynebu’r pencampwyr Leinster fydd yn ceisio amddiffyn eu teitl, y noson honno.
Ddiwrnod yn ddiweddarach – Dydd Sadwrn, Hydref 3ydd – Bydd y Sgarlets yn wynebu Munster yn Llanelli mewn gȇm fydd yn debyg i rownd derfynol 2016-17 tra bydd Caeredin yn croesawu Gweilch Toby Booth ym mhrifddinas yr Alban.
Bydd y gêm nos Lun gyntaf yn digwydd yng nghylch tri pan fydd Munster yn cyfarfod Gleision Caerdydd ym Mharc Thomond ar 26ain Hydref.
https://www.wru.wales/2020/09/2020-21-guinness-pro14-fixtures-revealed/
BALCHDER YN Y GYMRAEG
Daliodd WRU.wales i fyny gyda Ken Owens a’i gyd chwaraewyr sy’n siarad Cymraeg, Tavis Knoyle, Manon Johnes a Dewi Lake am gipolwg unigryw ar y cysuron o Gymraeg.
“Mae’n debyg y gallech ddweud bod siarad Cymraeg yn rhan allweddol o’m hunaniaeth,” meddai Ken Owens, y bachwr o Gymru a’r Sgarlets. “Rwyf wedi bod yn ffodus o gael fy magu mewn cadarnle Cymraeg, ond mae’n galonogol clywed bod mwy o bobl nad ydynt wedi cael eu codi yn y math hwnnw o amgylchedd yn dewis dysgu’r iaith.”
Gyda’r Sgarlets a chyda Chymru, mae siarad Cymraeg yn beth cyffredin i ddyn sydd wedi arfer â hynny’n Sir Gaerfyrddin
“P’un a yw gyda’m cyd aelodau o’r tîmtethi, aelodau o’r staff hyfforddi neu’r tîm dadansoddi, mae bob amser yn cael ei siarad,” meddai bachwr sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau tros ei wlad. “Mae canu emynau Cymraeg yn draddodiad gyda chlwb a gwlad – hyd yn oed gyda’r Llewod – ac rwyf wedi bod wrth fy modd yn chwarae fy rhan wrth barhau gyda hynny tros y blynyddoedd.”
Mwy yma:
BYWYD RYGBI BRIAN
Mae cyn ganolwr Llanelli a Chaerdydd, Brian Davies, a ddaeth yn ffigwr a edmygwyd yn ddiweddarach yng Nghlwb Rygbi Pentyrch, wedi marw yn 79 oed.
Ganwyd Cap Cymru Rhif 673 (ei dad oedd Rhif 518), David Brian Davies yn Weston-super-Mare ar 7fed Gorffennaf, 1941. Wrth chwarae dros Gymru, Davies oedd y seithfed mab i ddilyn ei dad i’r ochr genedlaethol. Bu naw arall ers hynny.
Enillodd y cyntaf o’i dri chap yn y gêm ‘Frech Wen’ yn erbyn Iwerddon a oedd wedi’i gohirio o fis Mawrth hyd at fis Tachwedd. Daeth y gêm i ben yn gyfartal 3-3 yn Nulyn a’r mis dilynol ymddangosodd yn nhîm Dan 23 Cymru a wynebodd tîm teithiol Canada ym Mharc yr Arfau.
Daliodd ei le yn safle canolwr Cymru ar gyfer y ddwy gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth Pum Gwlad 1963. Nid aeth ei gȇm gyntaf gartref yn dda, gan fod Lloegr wedi ennill 13-6 ar lain Parc yr Arfau wedi’i rhewi, ond bu iddo flasu buddugoliaeth yn Murrayfield yn y gêm hynod enwog o 111 o linellau yn erbyn yr Albanwyr.
Mwy yma:
I GLOI… RHANNU EICH TREFTADAETH
Mae’n Ddiwrnod Cenedlaethol Treftadaeth Chwaraeon yn y DU ddydd Mercher, 30ain Medi ac rydym yn gofyn i chi gymryd rhan.
Byddwn yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i arddangos rhai o’n trysorau chwaraeon dros y blynyddoedd a byddem wrth ein bodd petae clybiau, chwaraewyr a cefnogwyr yn cymryd rhan.
Beth yw’r ffotograff tîm hynaf allan yna? Efallai ei fod yn hongian ar wal y clwb, neu’n cael ei storio o dan wely ysgrifennydd y clwb, ond byddem wrth ein bodd yn gweld llun ohono ar Trydar neu Gweplyfr.
Pwy sydd â chap neu grys rhyngwladol Cymreig a enillwyd ac a wisgiwyd gan eu brawd, ewythr, tad neu dad-cu / taid? Os mai chi yw, yna rhannwch eich balchder a rhowch wybod i ni am y peth.
Os ydych am gymryd rhan ar Trydar yna tagiwch @welshrugbyunion, gan ddefnyddio’r hashnod #ShareYourSportingHeritage – neu anfonwch eich lluniau atom drwy e-bost ar digital@wru.cymru.
Mwy:
Diweddariad Statws URC 30/09/2020
“Yr oeddem yn falch iawn o gyrraedd y man ddoe lle y gallem godi’r gwaharddiad dros dro ar rygbi cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
Gallaf sicrhau pawb yr effeithir arnynt yn y gêm gymunedol nad yw’r penderfyniad i atal dros dro yn cael ei wneud ar chwarae bach. Mae’n mynd yn groes i graidd yr hyn y mae Undeb Rygbi Cymru yn ei wneud fel sefydliad a chorff llywodraethu – rydym yma i alluogi ein chwaraeon cenedlaethol, nid cwtogi na rhwystro ei gynnydd. Ond mae’r arbenigwyr a’r uwch ffigyrau ar ein Bwrdd Rygbi Cymunedol yn benderfynol o reoli dychweliad i rygbi cymunedol fydd yn ddiogel ac yn gynaliadwy yn y tymor hir a’n barn gyfunol o hyd yw y bydd atal dros dro lleol yn dilyn cloeon lleol a arweinir gan y Llywodraeth yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r nod hwnnw.
Mae dychwelyd rygbi cymunedol yng Nghaerffili yn enghraifft dda iawn o’r cyfraniad cadarnhaol hwn ar waith. Yn dilyn adolygiadau rheolaidd o’r sefyllfa yno, a thair wythnos ar ôl gosod clo lleol, gall clybiau a thimau o bob oed yn yr ardal ddychwelyd i ymarfer yn awr
Rydym wedi ystyried nifer o ffactorau wrth adolygu’r sefyllfa hon gan gynnwys gwybodaeth leol am glybiau rygbi, tuedd coronafeirws yn yr Awdurdod Lleol ac yn bwysig, yr ydym wedi ymgynghori â chynrychiolwyr Clybiau a gwirfoddolwyr o holl glybiau rygbi Caerffili. Afraid dweud bod yn rhaid parhau i ddilyn yr holl ganllawiau dychwelyd i rygbi presennol er mwyn sicrhau amgylchedd diogel i chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr eraill
Ataliadau pellach
Yn ystod y pythefnos diwethaf, unwaith eto yn dilyn y cyfyngiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Rhondda Cynon Taf, mae’r holl hyfforddiant rygbi cymunedol wedi’i atal ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, tref Llanelli, Merthyr, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe, gyda Chastell-nedd, Port Talbot, Tor-faen a Bro Morgannwg wedi’i hychwanegu ddoe. Mae’r ataliadau hyn yn parhau hyd nes y rhoddir rhybudd pellach.
Y cynllun yw bod yr ataliadau hyn, pan gânt eu gorfodi, yn rhai dros dro a’u bod yn anelu at gyfyngu ar drosglwyddo cymunedol ar adegau tyngedfennol. Byddant yn cael eu codi, fel gyda Chaerffili, ar ôl i’w heffaith gadarnhaol gael ei theimlo.
Nid oes glasbrint ar sut i ateb yr heriau y mae Covid-19 wedi’u creu ar gyfer ein chwaraeon. Nid ydym am atal pobl rhag chwarae rygbi nac atal plant rhag bod yn egnïol, ond yr ydym hefyd am osgoi cynyddu trosglwyddiad neu, o bosibl, ychwanegu at y baich ar ein gwasanaeth iechyd. Unwaith y bydd ataliad wedi’i sefydlu, rydym yn parhau i adolygu’r sefyllfa gan ystyried nifer o ffactorau sydd ar waith yn yr ardal. Bydd y polisi hwn ei hun hefyd yn parhau i gael ei adolygu’n gyson a byddwn yn ymgynghori â chlybiau yr effeithir arnynt ond ei amcan allweddol sylfaenol yw gwneud y peth iawn am y rhesymau cywir ym mhob achos unigryw.
Ein rhesymeg yw bod amgylcheddau rygbi yn dod â phobl at ei gilydd na fyddent fel arall yn dod i gysylltiad â’i gilydd. Mae hyn yn un o gryfderau unigryw mawr y gêm fel arfer, ond yn her ar adeg pan fo angen lleihau trosglwyddo cymunedol.
Byddwn yn parhau i adolygu’r ataliadau dros dro a osodir nes bod yr amodau’n golygu y gall rygbi ailddechrau’n ddiogel. Yna, bydd gan glybiau ddewis dychwelyd i hyfforddiant a byddant yn cael eu cefnogi gan URC p’un a ydynt yn dewis ailagor ai peidio.
Rydym yn ddiolchgar i bob clwb sy’n aelod, i hyfforddwyr rygbi Cymru, chwaraewyr, gweinyddwyr a llawer o wirfoddolwyr eraill am y gwaith caled, diwydrwydd, brwdfrydedd ac angerdd y maent wedi ei ddangos at ddychwelyd i’r gêm rydym i gyd yn ei charu mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy. Byddwn yn parhau i gydweithio i alluogi clybiau i ddod drwy’r argyfwng hwn.
Gwyddom y bydd cadw chwaraewyr a gwirfoddolwyr yn broblem enfawr i glybiau wrth inni ddod allan o’r pandemig ac mae’r dymuniad i ddychwelyd i ‘normalrwydd’ yn un yr ydym yn ei rannu’n llwyr. Ond mae gennym ddyletswydd gofal i’n gêm genedlaethol a rhaid i ni gymryd golwg strategol hirdymor. Yn y pen draw, mae angen i chwaraewyr, rhieni, hyfforddwyr a’n rhwydwaith eang o wirfoddolwyr wybod eu bod yn gweithredu mewn amgylcheddau diogel a chynaliadwy.
Os oes rhaid inni fod yn rhy ofalus er mwyn cyflawni’r uchelgais hwn, yna nid ymddiheurwn am hynny.
Cadwch yn ddiogel.
Steve Philips
PSG URC
Datganiad llawn ar rygbi cymunedol wrth i Gaerffili ddychwelyd:
Mae Undeb Rygbi Cymru, drwy arweiniad ei Fwrdd Gemau Cymunedol, wedi mynd ati i sicrhau bod rygbi cymunedol yn dychwelyd yn ddiogel yn gyntaf ac mae wedi’i bennu o’r cychwyn cyntaf i geisio chwarae rhan yn y frwydr yn erbyn pandemig Covid yng Nghymru gyda diogelwch chwaraewyr, dychweliad hirdymor y gêm gymunedol ac iechyd ein cymunedau o flaen meddwl.
Meddai Julie Paterson, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, “Rydym yn ddiolchgar i’n holl wirfoddolwyr, hyfforddwyr, rhieni a chwaraewyr sydd wedi mynd y tu hwnt i’r broses hon i gael chwaraewyr yn ôl ar y cae. Gwyddom o siarad â nhw eu bod am ddychwelyd at hyfforddiant – pan mai dyna’r peth diogel a chyfrifol i’w wneud yn eu hardal. Mae atal rygbi mewn ardaloedd lle bernir bod angen cloi’n lleol yn fesur tymor byr sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd…”
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cymunedol Geraint John, “Rydyn ni’n gwybod bod rygbi cymunedol yn ffactor hynod bwysig yn iechyd a lles ein chwaraewyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr. Ein bwriad drwyddi draw fu rheoli dychweliad i rygbi sy’n ddiogel ac yn gynaliadwy yn y tymor hir. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth y clybiau wrth ein helpu i wneud hyn… a byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa ym mhob ardal arall lle mae rygbi cymunedol wedi’i atal ar hyn o bryd.”
DATGANIAD LLAWN YMA:
CCB