Mewn maes hynod o gryf, mae Steve wedi dangos bod ganddo’r arbenigedd, gwybodaeth heb ei hail am rygbi Cymru a’r mewnwelediad i ddod o hyd i’r atebion cywir i’r heriau sydd o’n blaenau. Rydym wrth ein bodd ei fod wedi derbyn yr her o sicrhau dyfodol rygbi Cymru.
Wedi i ni ddatgelu ein cynlluniau’r wythnos diwethaf ar gyfer y Llwybr at Gyfranogiad, mae wedi bod yn braf gweld clybiau ar hyd a lled y wlad yn dychwelyd i gaeau rygbi gyda’u timau ifanc. Rydym yn ymwybodol fod yr awydd i ddychwelyd i glybiau rygbi, ym mhob gallu, mor gryf ag erioed yng Nghymru ac y bydd cyfranogwyr, mewn llawer o ardaloedd, yn gorlifo’n ôl cyn gynted ag y gallant. Ond rydym hefyd yn ymwybodol y bydd angen help a chefnogaeth ar glybiau drwy gydol y broses hon a bydd hyn yn parhau i gael ei ddarparu gan ein hadran gymunedol.
Rydym wedi cyhoeddi cynllun manwl, gyda ffocws cychwynnol ar haf o fformatau hwyliog o’r gêm i helpu i ailgyflwyno chwaraewyr o bob oed yn ôl i rygbi cyswllt ac i sicrhau bod y gêm gymunedol yn dychwelyd yn gryf.
Cofion gorau
Rob Butcher
Cadeirydd URC
Mwy yma gan Rob Butcher, cadeirydd y Bwrdd, a Steve Phillips ynglŷn â’i benodiad parhaol i’r rôl fel Prif Swyddog Gweithredol Grŵp URC: www.wru.wales/2021/03/phillips-confirmed-as-permanent-wru-ceo
Sylw’r Prif Swyddog Gweithredol
Mae Cwpan Rygbi’r Byd 2023 yn weledigaeth byw i Wayne Pivac, gyda chynllun cynhwysfawr i Gymru gyrraedd yno yn anterth eu pwerau gydag Undeb Rygbi Cymru yn eu cefnogi cant y cant yn eu nod i wneud hyn.
Byddwn yn cyfarfod ar ôl pob ymgyrch i drafod sut rydym yn olrhain yn erbyn unrhyw gynllun. Cyfarfuom ar ôl Cwpan Cenhedloedd yr Hydref. Yr oedd yr ymgyrch honno, fel y nodwyd yn gyhoeddus gan y rheolwyr ar y pryd, yn ymwneud â rhoi cyfle i chwaraewyr brofi rygbi Prawf a rhoi cyfle i reolwyr weld sut yr oeddent yn gwneud hynny. Ym meddwl Wayne nid oedd gwahaniaeth rhwng y gemau’r hydref a Phencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness, lle byddem yn chwarae rygbi twrnament a’r canlyniadau’n holl bwysig. Wrth ennill y twrnament a’r Goron Driphlyg, mae’n amlwg eu bod wedi mwy na llwyddo a llawn gyflawni eu nod.
Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn asesu ein cynnydd mewn ffordd ystyriol. Mewn chwaraeon proffesiynol mae modd mynd o fod yn arwr i fod yn neb, ac yn ôl i fod yn arwr mewn pythefnos. Er mwyn osgoi adweithiau ‘difeddwl’ rydym yn mesur cynnydd yn erbyn nodau tymor byr a thymor hir. Mae Wayne, y rheolwyr a’r chwaraewyr, yn ôl unrhyw fesur, yn dangos cynnydd eithriadol o dda.
Roedd ennill y Bencampwriaeth eleni yn amlwg yn nod tymor byr. Ond mae’r hyn a gyflawnwyd yn ystod yr Hydref hefyd wedi creu argraff, wrth gyflwyno chwaraewyr newydd, gwella cryfder y garfan a gosod sylfaen ar gyfer dull newydd ac amrywiol ar gyfer tactegau a chynlluniau’r gêm.
Mae Wayne, y tîm rheoli a’r chwaraewyr wedi cyflawni’r hyn yr oeddem wedi ei obeithio. Rwy’n ymwybodol fy mod yn siarad ar ran y bwrdd a phawb yn URC wrth eu llongyfarch yn eu llwyddiannau, ac rydym yn edrych ymlaen at ddilyn eu cynnydd wrth baratoi at Ffrainc 2023.
Mae ein ffocws nawr yn troi oddi wrth Wayne a’i dîm ac yn edrych tuag at Warren Abrahams a’i dîm. Fis nesaf, bydd yn arwain Menywod Cymru i mewn i’w Bencampwriaeth Chwe Gwlad gyntaf wedi iddo ei benodi i’r llyw ym mis Tachwedd.
Mae gêm Menywod Cymru yn flaenoriaeth erbyn hyn. Cefais y fraint o dreulio ychydig o amser â Warren a’i garfan nos Lun wrth i mi dorri ar draws eu sesiwn hyfforddi. Mi wnes fwynhau, ac felly mae’n rhywbeth rwy’n gobeithio ei wneud eto yn ystod eu hymgyrch presennol.
Yn gyntaf byddwn yn wynebu Ffrainc yn Stade de la Rabine, yn Vannes, y penwythnos yma wedi iddynt ddychwelyd i hyfforddi i bencadlys hyfforddi URC yn y Fro. Dros dro, bu’r garfan yn hyfforddi ym Mharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru, gyda chyfyngiadau Cofid-19 yn golygu fod rhaid i’r ddau dîm hyn hyfforddi mewn lleoliadau ar wahân. Ond erbyn hyn mae adnoddau llawn URC ar gael iddynt eu defnyddio. Rydym yn werthfawrogol iawn o’r gefnogaeth gan Brifysgol De Cymru hyd yma, ond mae’n bwysig i ni fod Menywod Cymru â mynediad lawn i’n holl adnoddau ar y cae ac oddi arni wrth iddynt gamu tuag at y twrnament bwysig yma.
Fel carfan y dynion, mae Menywod Cymru hefyd wedi gwneud aberth sylweddol o ran eu teuluoedd, gwaith ac ymdrechion personol er mwyn gwisgo’r crys a chynrychioli ein gwlad ac – er unwaith eto mae’n bechod nad oes modd i ni fod yn bresennol – rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i wylio’r holl gemau ar y BBC.
Yn olaf, diolch yn bersonol i bawb, yn URC a thu hwnt, a ddymunodd yn dda i mi drwy ysgrifennu ataf a gyrru sylwadau yn ymwneud a fy mhenodiad swyddogol fel Prif Swyddog Gweithredol Grŵp URC. Fel y dywedais, rwy’n hynod falch o’r cyfle, ond mae hefyd yn adeg pan wyf yn ymwybodol iawn o’r cyfrifoldeb sydd gennyf am ddyfodol ein gêm genedlaethol.
Gwn fy mod yn gyfartal â’r dasg ac yr wyf yn barod am yr heriau niferus sydd o’n blaenau. Ond, wrth imi setlo i mewn i’r rôl yn llawn amser, un peth hoffwn ofyn o’n clybiau sy’n aelodau ac ardaloedd URC, o’r gêm gymunedol i’r gêm broffesiynol: chi yw rygbi Cymru a chyda’ch cefnogaeth, ymroddiad a brwdfrydedd gall y gêm ddod allan o’r cyfnod hwn a mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod.
Rwy’n eich gwahodd i ymddiried yn eich Bwrdd, ei gadeirydd a’r staff proffesiynol yn URC i arwain y ffordd, i weithredu gyda’ch gofynion chi wrth wraidd penderfyniadau ac i sicrhau fod popeth wedi ei hystyried yn ein nod i ddiogelu, ymestyn, hyrwyddo a gwthio ein gêm i gyflawni ei photensial yn llawn.
Yr eiddoch mewn rygbi,
Prif Swyddog Gweithredol URC
Llwybr at Gyfranogiad
Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd ein Llwybr at Gyfranogiad ar gyfer rygbi cymunedol. Mae hwn yn gynllun manwl gyda ffocws cychwynnol ar haf o fformatau hwyliog o’r gêm i helpu i ailgyflwyno chwaraewyr o bob oed yn ôl i rygbi cyswllt. Mae’r cynllun ar fin rhoi hwb i’r gêm genedlaethol yn dilyn effaith ddealladwy pandemig Cofid-19, a sicrhau fod y gêm gymunedol yn dychwelyd yn gryf.
Mae rhywfaint o rygbi eisoes wedi dechrau ar lefel dan 18 oed ac iau. Cyhyd ag y bydd amodau iechyd cyhoeddus yn parhau yn ffafriol, gall gemau rygbi tag a rygbi cyffwrdd i’r chwaraewyr hynny (Dan 18) gael eu caniatáu o 1 Ebrill o fewn eu hardaloedd eu hunain.
Bydd mesurau ynghylch hyfforddiant a gemau yn parhau i fod yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Gall pob lefel o’r gêm, gan gynnwys timau ieuenctid ac uwch dimau (gwrywaidd a benywaidd) edrych ymlaen at ddychwelyd at hyfforddiant cyswllt cyfyngedig wedi’i addasu’n o 1 Mai. O ganol mis Mehefin, gall chwaraewyr o bob oed edrych ymlaen at fis o gemau rygbi saith bob ochr a deg bob ochr yr haf – o dan gyfreithiau wedi’u haddasu
Mae rhagor o fanylion am y Llwybr Saith cam i Gyfranogiad ar gael yma:
Strategaeth Gymunedol
Mae ein Strategaeth Rygbi Cymunedol, a gaiff ei lansio’n swyddogol yr haf hwn, wedi cynhyrchu tair ffrwd waith cyfredol allweddol: adolygiad o gystadlaethau; adolygiad o raglen Hyb URC ac ymrwymiad cynyddol i ‘gydnabod gwirfoddolwyr’ yn y gêm gymunedol.
Mae’r rhain yn feysydd twf allweddol y mae clybiau a rhanddeiliaid ar draws y gêm wedi tynnu sylw atom yn ystod ymgynghoriad helaeth dros y 12-18 mis diwethaf ac sydd wedi’u cymeradwyo ar lefel Bwrdd Cymunedol.
Bydd ein Hadolygiad o Gystadlaethau yn edrych ar gynghreiriau domestig a cenedlaethol URC. Mae ein proses ymgynghori gychwynnol gyda chlybiau sy’n aelodau wedi dechrau a bydd gweithdai, cyfarfodydd ac arolygon yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf, a gall partïon â diddordeb eu mynychu.
Nod Adolygiad yr Hyb, fel y crybwyllwyd yn eich Diweddariad Statws URC diwethaf, yw darparu canllawiau clir ar gyfer cam posibl nesaf y Rhaglen Hyb, er mwyn sicrhau bod y cam nesaf hwn yn cyd-fynd â Strategaeth Gymunedol URC ac anghenion Addysgol a Chymunedol ar lawr gwlad yng Nghymru.
Credwn, ers ei sefydlu, fod y Rhaglen Hyb yn un arloesol, ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau bobl ifanc mewn lleoliadau addysgol ac yn y gymuned yn ehangach ledled Cymru.
Mae cam cytundebol presennol y Rhaglen Hyb yn dod i ben, ond ein huchelgais o hyd yw tyfu, datblygu a gwella’r Rhaglen Hyb wrth ddiogelu cyfranogiad yn rygbi’r undeb yng Nghymru i’r dyfodol a chefnogi iechyd ein pobl ifanc. Bydd diweddariadau pellach i ddilyn.
Rydym yn gweithio’n galed ar gydnabod gwirfoddolwyr. Gwyddom fod gennym gynifer o unigolion gwych sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi gemau clwb mewn llawer o wahanol ffyrdd ledled y wlad. Yr unigolion hyn yw hanfod ein gêm a’n nod yw cynnig cefnogaeth ac ymgysylltu â phob agwedd o rygbi cymunedol er mwyn cydnabod a gwobrwyo eu hymdrechion parhaus. Mae’r cymorth arfaethedig hwn yn agwedd arbennig o bwysig y Strategaeth Gymunedol a fydd yn ein galluogi i barhau i dyfu ein gêm a gwella cynaliadwyedd ar y lefel hon.
Menywod Cymru yn ôl yn y gêm
Mae prif hyfforddwr Menywod Cymru Warren Abrahams yn gyffrous i gychwyn ymgyrch y Chwe Gwlad ar ôl 12 mis o gyfnod clô. Dywedai ei fod wedi bod yn 12 mis caled, ond mae’r garfan ‘yn barod i fynd.’ Maent yn wynebu Ffrainc yn Vannes ddydd Sadwrn (3 Ebrill, 8pm Amser Haf Prydain [BST]) cyn croesawu Iwerddon i Barc yr Arfau Caerdydd ddydd Sadwrn 10 Ebrill (5pm).
Mae’r garfan cryf o 32 yn cynnwys pedair chwaraewraig heb eu capio – maswr y Wasps Flo Williams, prop Y Saraseniaid Donna Rose, y mewnwr o Gaerwysg Megan Davies a mewnwr Sale Sharks Jess Roberts; tra bod y ddeuawd o’r Fyddin Gemma Rowland a Bethan Dainton yn dychwelyd ynghyd â mewnwr Y Saraseniaid Jade Knight.
Mae ail reng Siarcod Sale Teleri Wyn Davies, a enillodd un cap yn erbyn yr Alban yn 2018 hefyd wedi cael ei galw i fyny, ynghyd â dwy o Gaerwysg y gefnwraig Niamh Terry a’r prop Gwenllian Jenkins, a enillodd ddau gap ym mis Tachwedd 2019.
Mae Caryl Thomas a Shona Powell-Hughes hefyd yn ôl – cawsant eu galw’n ôl ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban yn yr hydref a gafodd ei ohirio.
Y gêm yn erbyn Ffrainc fydd y cyntaf i Fenywod Cymru eu chwarae ers mis Mawrth y llynedd, pryd y chwaraeasant Lloegr, ac mae’r cyffro o fewn y garfan yn amlwg.
Fideo:
Y Stori yn llawn:
Rhestr fer y Chwe Gwlad – Cymry yn serennu
Coronwyd Cymru yn bencampwyr Chwe Gwlad Guinness 2021 ddydd Sadwrn ond nid yw carfan Warren Pivac wedi gorffen gyda’r gwobrau eto. Mae’r asgellwr Louis Rees-Zammit and rhif 8 Taulupe Faletau ar y rhestr fer o 6 ar gyfer gwobr chwaraewr y bencampwriaeth.
Yn 20 oed, llwyddodd Rees-Zammit i sgorio 4 cais yn ei bencampwriaeth Chwe Gwlad gyntaf fel rhan o’r garfan a enillodd y bencampwriaeth, twrnament i’w chofio i’r olwr o Gaerloyw. Mae Faletau, chwaraewr o Gaerfaddon sydd wedi chwarae i Lewod Prydain ac Iwerddon ddwywaith, bellach wedi ennill tri theitl Pencampwriaeth y Chwe Gwald, gan gynnwys y Gamp Lawn yn 2012. Fe wnaeth 19 tacl mewn ymgais amddiffynnol arbennig yn erbyn yr Alban, ei enwi fel chwaraewr y gêm yn erbyn Lloegr yn yr ail rownd a diweddodd y twrnament wedi cario’r bel 66 o weithiau (yn drydedd ar y rhestr) ac wedi llwyddo i wneud 77 tacl lwyddiannus (eto yn drydedd ar y rhestr).
Daw cystadleuaeth i’r ddau Gymro ar y rhestr fer gan ddau o dîm Iwerddon Robbie Henshaw a Tadhg Beirne, mewnwr Ffrainc Antoine Dupont, a blaenasgellwr yr Alban Hamish Watson.
Mwy yma:
CWPAN YR ENFYS
Bydd Cwpan yr Enfys Guinness PRO14 yn cychwyn ar benwythnos 24 Ebrill gyda gemau’r tair rownd gyntaf wedi eu cadarnhau.
Bydd tri phenwythnos o gemau darbi yn cael ei ddilyn gan gemau traws hemisffer ble bydd timau Guinness PRO14 yn gwynebu Vodacom Bulls, Emirates Lions, Cell C Sharks a DHL Stormers am y tro cyntaf erioed.
Manylion yn llawn a’r amserlen i’w weld yma:
DYLANWAD DYFARNWYR CYMRU
Yn ystod tymor heriol i gefnogwyr, chwaraewyr a dyfarnwyr rygbi, mae tri swyddog o Gymru wedi gwneud cynnydd sylweddol yn eu hymgais i ddod yn ddyfarnwr prawf a dilyn ôl traed Nigel Owens.
Mae Craig Evans, Adam Jones a Ben Whitehouse i gyd wedi eu penodi gan Rygbi’r Byd fel swyddogion ar gyfer nifer o gystadlaethau. Mae’r tri dyfarnwr wedi cael budd o ddilyn strwythur newydd ar gyfer hyfforddi dyfarnwyr, a chael eu mentora gan gyn-ddyfarnwr prawf o’r Iwerddon Dave McHugh a chyn-ddyfarnwyr URC Robert Davies, Les Peard, Gareth Simmonds, Clayton Thomas ac yn fwy diweddar Nigel Owens.
Mwy yma:
Y LLEWOD YN BAROD I RUO YN NE AFFRICA
Mae Llewod Prydain ac Iwerddon a Rygbi De Affrica wedi cadarnhau y bydd Cyfres Castle Lager y Llewod yn Ne Affrica yn cael ei gynnal yn yr haf yn ystod y cyfnod ag amlinellwyd. Cadarnhaodd Bwrdd Y Llewod eu blaenoriaethau â Rygbi De Affrica brynhawn dydd Llun cyn cyfarfodydd dilynol yn gynnar ddydd Mawrth.
Mwy yma:
50 MLYNEDD ERS CAMP LAWN Y 70’AU
Bydd Dydd Sadwrn 27 Mawrth 2021 yn cael ei nodi yn hanes Rygbi Cymru fel diwrnod y dathliad dwbl – y diwrnod y derbyniodd Alun Wyn Jones teitl Chwe Gwlad Guinness 2021 a 50 mlynedd ers Camp Lawn 1971.
Nid oedd tlws ar gyfer tîm llawn talent John Dawes yn 1971. Aethant i Baris i gwblhau eu rhediad, a churo 9-5 mewn gêm gyffrous yn Stade Colombes. Dwy flynedd yn ddiweddarach roeddynt wedi cael gem gyfartal ym Mharis wrth ennill y Goron Driphlyg a’r teitl. Ond wedi iddynt ddychwelyd, roeddynt yn dîm gwahanol, yn benderfynol o ddangos eu doniau i weddill y byd rygbi. Os mai 1969 oedd gwawr y cyfnod euraidd, 1971 oedd y dechreuad!
Mwy:DIOLCH TREHARRIS
Mae sawl un o’n clybiau rygbi wedi mynd tu hwnt i’r gofyn yn ystod y pandemig, dyma’r diweddara i gael eu cynnwys yn ‘Dydd Iau Diolch’.
Mae Nicola Garbett a’i chriw o helpwyr o Dreharris wedi dosbarthu prydau bwyd i bobl yn y gymuned tra bo Clwb Rygbi Cymru Caerdydd wedi cadw Cymry ar-lein yn ystod y clô drwy gyfrannu 100 o dabledi Amazon Fire o’r elw o £12,000 a wnaed wrth redeg o amgylch Cymru yn ystod her rithiol.
Fideo:
AMY’R APRENTIS
Yn ddiweddar llwyddodd Amy Rothero i gwblhau prentisiaeth Lefel 3 datblygu rygbi gydag Undeb Rygbi Cymru. Yn dilyn ei phrofiad, penderfynodd Amy i fynd ymlaen ac astudio gradd mewn rheolaeth chwaraeon ym Mhrifysgol Athrofaol Caerdydd. Yn ddiweddar ymddangosodd Amy ar wefan UCAS (Universities and Colleges Admissions Services) yn canmol rhinweddau prentisiaethau URC.
Dywedodd “Yn ifanc iawn roedd gennai ddiddordeb ac angerdd mewn chwaraeon. Yn y coleg, astudiais Ddiploma estynedig BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon. Doedd gennai ddim syniad beth oeddwn i eisiau ei wneud – ond gwyddwn fy mod eisiau dilyn llwybr yn ymwneud a chwaraeon,”
“Doedd gennai ddim syniad beth oedd prentisiaeth. Nid oeddwn yn eu hystyried yn waith go iawn i ddechrau. Erbyn hyn rwy’n gweld fy mod angen y brentisiaeth er mwyn darganfod beth oeddwn i eisiau ei wneud mewn bywyd.”
Darllenwch mwy yma:
YN OLAF…CYMRU YN BENCAMPWYR
Cyfaddefodd prif hyfforddwr Cymru Wayne Pivac ei fod wedi cymryd hyd nes ddydd Mercher i ddod dros y siom o beidio ennill y gamp lawn ym Mharis. Ond mae erbyn hyn yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair wedi iddynt ddathlu ennill Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2021.
Cafodd y tlws ei gludo o Stade de France i bencadlys Cymru ym Mro Morgannwg wedi buddugoliaeth munud olaf Yr Alban. Yr oedd yr wythnos olaf o’r twrnament yn achosi llu o emosiynau i Pivac, ei staff, chwaraewyr a chefnogwyr rygbi Cymru. Ond wedi iddynt gael gafael ar y tlws, credai’r prif hyfforddwr fod ei garfan ar y trywydd i lwyddiannau parhaus.
Dywedodd cyn i’r tîm godi tlws Chwe Gwlad Guinness a’r Goron Driphlyg, yn dilyn diweddglo dramatig i bencampwriaeth 2021. “Rydym yn cadw llawer o’n hemosiynau i’n hunain. Nid oeddwn eisiau dod o’r tŷ hyd nes y dydd Mercher. Mi ydyn ni am edrych yn ôl â balchder,”
Fideo yma:
Ym mhodlediad diweddara URC mae Alun Wyn Jones a Josh Navidi yn adlewyrchu ar yr hyn a ddigwyddodd ym Mharis. Mae hefyd yn cynnwys cadeirydd URC Rob Butcher a Prif Swyddog Gweithredol URC Steve Phillips:
Clywn hefyd gan Warren Abrahams a’r capten Siwan Lillicrap am garfan Menywod Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad, ac yn edrych ar ddiwedd tymor y PRO14.