Croesawyd dychweliad gêm yr oedolion yr wythnos hon, mis wedi i weithgareddau rygbi cymunedol ailddechrau yng Nghymru. Mae’n donic ei fod yn cyd-fynd â rhyddhau ticedi ar gyfer gemau Cyfres Cenhedloedd yr Hydref yn Stadiwm Principality.
Rydym yn obeithiol y bydd y stadiwm yn llawn wrth i Seland Newydd, De Affrica, Fiji ac Awstralia ymweld yn ystod pedair wythnos yn olynol yn yr Hydref. Nid oes modd osgoi’r ffaith ei fod yn ddyhead optimistaidd iawn, ac i fod yn glir, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o’n huchelgais. Ein bwriad yw dilyn canllawiau yn drylwyr ac rydym yn ffyddiog ac yn ymddiried yn y broses a gaiff ei ddilyn wrth ddiogelu iechyd ein cenedl – ond mae gennym obaith.
Ac, mae’n edrych, fod ein cefnogwyr ffyddlon yn rhannu’r un teimlad gyda galw mawr am y ticedi gan glybiau sy’n aelodau. Mae polisi ad-daliad clir, prisiau ticedi wedi eu rhewi a menter newydd, sy’n cynnig gostyngiad ar dicedi i unrhyw un dan 17 ar gyfer pob sedd ym mhob gêm – am y tro cyntaf erioed – yn amlwg wedi helpu.
Mae hefyd yn dwymgalon gwybod nad yw ac na fydd y dwndwr yn ymwneud a dychwelyd i rygbi yn gyfyngedig i’r gemau rhyngwladol yma. Mae’r cyfranogiad yn y gêm gymunedol yn gryf, gyda chwaraewyr iau ar dân eisiau dychwelyd i weithgareddau yn yr awyr agored. Bydd yn parhau i gryfhau wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ym mhellach, i gyd-fynd a’n strategaeth gyhoeddedig Llwybr at Gyfranogiad. Byddwn yn gwybod mwy ynglŷn â gêm yr oedolion yn yr wythnosau i ddod, ond bydd yn bosib i chwaraewyr o bob lefel o’r gêm gymunedol yng Nghymru dechrau ailgyflwyno lefel o hyfforddiant cyswllt o Fai 1 sy’n newyddion croesawus iawn.
Llongyfarchiadau mawr i Fenywod Cymru yn eu hymdrech a’u hymroddiad wrth gynrychioli eu gwlad yn ystod brwydr galed twrnament y Chwe Gwlad. Fel yr ydym yn ei wneud bob tro fel y byddech yn disgwyl, byddwn nawr yn cymryd amser i edrych ar gynnydd yn erbyn ein cynllun a’n strategaeth ar gyfer gêm y Menywod, fel yr ydym yn ei wneud ar gyfer pob un o ymgyrchoedd ein timau. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb oherwydd y pandemig, ond hoffwn ailadrodd fod rygbi Menywod yn flaenoriaeth strategol allweddol i Undeb Rygbi Cymru, ac na fyddwn yn camu yn ôl o’n hymrwymiad i fuddsoddi yn ei ddyfodol.
Ar y pwnc hwn, rydym yn cymryd camau sylweddol o fewn y broses recriwtio i benodi aelod newydd o’r bwrdd gweithredol er mwyn cymryd y cyfrifoldeb o’r ochr berfformiad i’n gêm genedlaethol. Oherwydd y clô, yn sgil y pandemig, mae’r swydd yma wedi bod yn wag am gyfnod estynedig ond rydym wedi defnyddio’r amser yma i ailedrych ac archwilio’r hyn yr hoffwn ei gael yn y maes yma, ac rydym yn disgwyl derbyn newyddion positif yn yr wythnosau i ddod.
Yn olaf, bydd tîm rhyngwladol dynion Cymru yn amddiffyn eu teitl ar gyfer Chwe Gwlad Guinness yn 2022, gyda thair gêm gartref yn Stadiwm Principality mewn gemau a gafodd eu cyhoeddi bore yma. Byddwn ni i gyd yn edrych ymlaen at yr ymgyrch yma, ond bydd hefyd digonedd o rygbi i’w fwynhau cyn hynny.
Nid yw ein capten rhyngwladol, yr anfarwol Alun Wyn Jones, yn dangos unrhyw arwydd ei fod yn arafu ac yn parhau i chwarae rygbi o safon uchel. Hoffwn ei longyfarch yn bersonol wedi i’w gontract â Chymru gael ei ymestyn, mewn paratoad ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023.
Ar hyn o bryd mae’r pedwar tîm rhanbarthol yn chwarae yng Nghwpan yr Enfys ac, er bod dechrau’r gystadleuaeth yma wedi ei heffeithio oherwydd cyfyngiadau Cofid-19, gwelwyd dwy gêm ddarbi Gymreig o safon uchel benwythnos diwethaf, a bydd llawer mwy i ddod gan ein timau proffesiynol.
Gyda chyhoeddiad carfan Llewod Prydain ac Iwerddon i ddod yn fuan, mae tensiwn ychwanegol yn yr awyr pob tro y mae chwaraewr o Gymru gyda’r potensial i chwarae i’r Llewod yn camu ar y cae. Hoffwn gymryd y cyfle yma i longyfarch staff hyfforddi a’r staff ategol sydd yn barod wedi eu gwahodd i ymuno a’r daith.
Mae ein timau rhanbarthol yn rhan hollbwysig o rygbi Cymru a byddant yn annatod i’n hadferiad wedi’r pandemig yma. Dyna pam nad ydw i yn meindio ailadrodd fy ymrwymiad i geisio ail gyllido’r benthyciad CLBILS presennol, ac mae trafodaethau yn parhau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r mater. Mae’n bwysig o safbwynt cefnogi dyled fod y pedair ochr ranbarthol ar yr un lefel a thimau Lloegr. Rhaid parhau i gael yr economeg gywir yn y gêm broffesiynol a’r unig ffordd i lwyddo yw drwy weithio gyda’n gilydd. Dim ond drwy undod a chydberthynas y byddwn ni yn parhau i gryfhau a llwyddo i’n llawn botensial ar lefel ryngwladol a rhanbarthol, ac o safbwynt cyfranogiad lefel cymunedol.
Gwelwn sawl eginyn newydd, sy’n olygfa groesawus, ond ni fyddwn yn cilio o’n cyfrifoldeb i feithrin pob un a rhoi gofal ac ystyriaeth i bob ardal o’r gêm yng Nghymru.
Yr eiddoch mewn rygbi
Y Llywydd yn talu teyrnged i John Dawes
“John Dawes oedd un o’r goreuon ym myd rygbi, fel chwaraewr, hyfforddwr ac yn enwedig, yn fy marn i, fel capten di guro. Fe lwyddodd i fwy na chyflawni ym mhob un o’r rolau yma.
Roedd ganddo weledigaeth hollgynhwysol a hynod graff o rygbi. Cynhyrchodd, ar ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au, fersiwn o rygbi a dorrodd y mowld o’r hyn oedd, hyd at y foment honno, yn dderbyniol wrth chwarae’r gêm. O ganlyniad, daeth ‘eang’ i eiriadur rygbi fel gair i ddisgrifio’r math o gêm a ddychmygodd ac a roddodd ar waith, yn gyntaf oll gyda phobl o’r un meddylfryd ac ef yng Nghlwb Rygbi Cymry Llundain yn Old Deer Park.
Fel capten roedd ei arddull yn un o anogaeth a pherswâd, gan hudo chwaraewyr i berfformio, heb unrhyw osgo awdurdodaidd.
Roedd ganddo hefyd rinwedd hollbwysig fel capten o allu codi uwch ben sŵn a chynnwrf y cystadlu brwd yn ystod gêm, er mwyn cael golwg cyffredinol o’r hyn a ddigwyddai, er mwyn arwain ei dîm yn briodol.
I mi, roedd yn anrhydedd i fod wedi bod yng nghwmni dyn mor fawr ym myd rygbi, ac o fod wedi cyd-chwarae gyda’i steil hudol o rygbi.
Rydym yn cydymdeimlo gyda’i deulu.”
Gerald Davies
Llywydd URC
Bu farw John dawes yn gynharach yn y mis yn 80 oed.
Llwyddodd y cyn-hyfforddwr i lywio tîm Cymru i ennill pedair Goron Driphlyg yn olynol a dwy Gamp Lawn. Hefyd hyfforddodd y Llewod yn Seland Newydd yn 1977, pan y gwnaethant drechu pob tîm taleithiol, ac ennill un o’r gemau prawf.
Fel chwaraewr fe drawsnewidiodd rygbi ym Mhrydain, gyda’i osgo o chwarae ymosodol. Rhoddodd gynllun ar waith er mwyn helpu Cymru i ennill y Gamp Lawn, a’r Llewod yn eu cyfres lwyddiannus yn Seland Newydd yn 1971.
Daw ei farwolaeth misoedd yn fyr o ddathliad 50 mlynedd ers buddugoliaeth hanesyddol y Llewod yn Seland Newydd.
(mwy gan Gerald Davies yma:
Dychweliad rygbi oedolion
Wedi cyhoeddiad diweddara Llywodraeth Cymru, ailddechreuodd gweithgareddau rygbi ar gyfer oedolion ar Ddydd Llun 26 Ebrill, cyhyd ag y bod cyflwr iechyd cyhoeddus yn parhau i fod yn ffafriol. Ailddechreuodd gweithgareddau rygbi cymunedol ar gyfer Dan 18 ar Fawrth 27 ac erbyn hyn, yn dilyn y llacio diweddar yng nghyfyngiadau’r clô, gall oedolion ar draws Cymru ddychwelyd i sesiynau hyfforddi wedi eu trefnu (grwpiau o hyd at 30), os yw clybiau yn teimlo eu bod yn gallu darparu amgylchedd diogel i bawb sydd ynghlwm, ac yn gallu sicrhau fod y protocolau angenrheidiol yn cael eu parchu.
Tra bod modd i chwaraewyr Dan 18 chwarae gemau rygbi tag a chyffwrdd yn erbyn clybiau eraill, yn unol a Llwybr at Gyfranogiad URC (https://community.wru.wales/2021/03/24/pathway-to-participation/ ), mae oedolion wedi dychwelyd i’r un cam o gynllun Dychwelyd i Rygbi fel a ddigwyddodd cyn ac ar ôl y clô bach yn yr Hydref.
Fel ynghynt, bydd gweithgareddau yn ymwneud a sgiliau a ffitrwydd yn flaenoriaeth, gyda rygbi cyffwrdd yn cael ei gyflwyno tuag at ddiwedd sesiynau. Cyhyd ag y bod cyflwr iechyd cyhoeddus yn parhau yn ffafriol, bydd pob chwaraewr o bob lefel o’r gêm gymunedol yng Nghymru yn gallu dechrau ailgyflwyno lefel o hyfforddiant cyswllt o 1 Mai.
Rydym yn atgoffa clybiau o’r protocolau mae’n rhaid i bob chwaraewr, hyfforddwr a gwirfoddolwr gydymffurfio iddynt cyn mynychu sesiynau hyfforddi, yn ystod y sesiynau ac wedi’r sesiynau.
Cynhelir gweminar dydd Iau a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei ddarparu i’r clybiau.
Mwy yma:
Mae pum clwb yn Ne Cymru wedi ymgysylltu â chynllun peilot gyda Gwasanaeth Prawf Cymru a fydd yn cynnig buddiannau i’r clwb a’r tîm Ad-daliad Cymunedol y Gwasanaeth Prawf. Wrth i glybiau barhau i groesawu chwaraewyr yn ôl, bydd y cynllun yn rhoi cyfle i unigolion o gynllun Ad-daliad Cymunedol y Gwasanaeth Prawf i weithio â chlybiau lleol i helpu paratoi’r caeau ar gyfer gemau, gan ymgymryd â thasgau cynnal a chadw hanfodol, marcio’r caeau a gwaith trwsio.
Mae’r tîm sy’n gyfrifol am gae Stadiwm Principality eisoes wedi darparu eu harbenigedd i’r clybiau a goruchwylwyr y tîm Ad-daliad Cymunedol yn ymwneud a pob mater o waith cynnal a chadw caeau, er mwyn i’r gwaith allu gael ei wneud pan fydd y fenter yn cychwyn yr wythnos nesaf.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol URC Geraint John, “Mae hwn yn gyfle cyffrous gyda sawl budd i’r naill a’r llall. Yn dilyn 13 mis o gyfnod clô, mae nifer o’n clybiau angen dwylo ychwanegol i helpu baratoi y caeau a’r adeiladau, ac gyda gemau ar drothwy, bydd tasgau wythnosol i’w cwblhau. Diolch i’n arbenigwyr cae yn Stadiwm Principality, bydd y tîm Ad-daliad Cymunedol yn enyn sgiliau ymarferol a gwybodaeth ar draws nifer o feysydd, ac yn cwblhau rolau bwysig er budd y gymuned leol.”
Daeth diddordeb gan chwedeg o glybiau ar draws Cymru ar ddechrau’r cynllun ond arafodd hyn oherwydd y clô. Byddwn yn ail-drefnu a’r clybiau hyn yn dilyn gwerthusiad o’r peilot.
Dechreuwyd y cynllun yn dilyn adborth Gweithdai Ardal a gynhaliwyd er mwyn cefnogi’r Strategaeth Gymunedol newydd, gan ganolbwyntio ar ansawdd caeau a lleihau y gofyn ar wirfoddolwyr.
Budd allweddol arall o’r cynllun yw rhagolygon gyrfa dyfodol y rhai a gymerai ran, a chyfleoedd hyfforddiant achredadwy ychwanegol y gallwn eu darparu mewn cyswllt a’r Gwasanaeth Prawf.
Daeth y cyllid ar gyfer y cynllun drwy Chwaraeon Cymru (Llywodraeth Cymru)Datgelu gemau Cyfres Cenhedloedd yr Hydref
Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus yn nhwrnament Chwe Gwlad Guinness, mae tîm buddugol Wayne Pivac yn paratoi i wynebu pencampwyr presennol y byd De Affrica, mawrion hemisffer y de Seland Newydd ac Awstralia a thîm llewyrchus Fiji yn ystod Cyfres Cenhedloedd yr Hydref yn Stadiwm Principality.
Bydd y Crysau Duon yn ymweld a Chaerdydd am y tro cyntaf ers 2017, gan ddechrau’r gyfres ar Ddydd Sadwrn 30 Hydref drwy gynnig prawf heriol i garfan Pivac, wrth i Gymru awchu i ennill yn eu herbyn am y tro cyntaf ers 1953.
Ni fydd saib i’r tîm wrth i’r ‘Springboks’ ddychwelyd i’r ddinas wythnos yn ddiweddarach, ac yna Ffiji’r wythnos ganlynol ar Ddydd Sul 14 Tachwedd, cyn ymweliad y ‘Wallabies’ yn ystod penwythnos olaf y gyfres.
Dywedodd Pivac, prif hyfforddwr Cymru, “Nid oes amheuaeth fod rhestr gemau cyfres yr Hydref yn arwyddocaol, ac rydyn ni eisoes yn edrych ymlaen, yn enwedig oherwydd y posibilrwydd o allu croesawu cefnogwyr yn ôl i Stadiwm Principality.”
Mae prisiau tocynnau wedi cael eu rhewi, sy’n golygu gall gefnogwyr wylio Seland Newydd am yr un prisiau a welwyd yn 2017 (£40/ £60 / £75/ £85 a £95, gyda chonsesiwn hanner pris nawr ar gael ar gyfer pob categori*)
Mae ticedi ar gyfer De Affrica ac Awstralia, a chwaraeodd yng Nghaerdydd ddiwethaf yn 2018, yn dechrau o £25 a rhai ar gyfer Fiji yn dechrau o £10.
*Am y tro cyntaf mae URC wedi cyflwyno consesiwn 50% Dan 17 ar gyfer Cyfres Cenhedloedd yr Hydref 2021 ar draws pob categori o dicedi a phob gêm, sy’n golygu bydd miloedd yn ychwanegol ar gael a gall gefnogwyr ifanc a theuluoedd fwynhau’r gêm gyda’i gilydd o unrhyw ran o’r stadiwm – gan gynnwys yr Ardal Ddi-Alcohol.
Tra bo’r dyfodol yn parhau yn un ansicr, mae hyder y bydd Cyfres Cenhedloedd yr Hydref 2021 yn gweld cefnogwyr yn dychwelyd i Stadiwm Principality.
Mae ticedi eisoes ar werth i glybiau sy’n aelodau, gyda strategaeth ad-daliad cadarn yn ei le, gan alluogi cefnogwyr i brynu â hyder.
Rhagor o wybodaeth yma:
Llongyfarchiadau i bawb yn rygbi Cymru a gyfrannodd i’n llwyddiant wrth guro gwobr ‘Sefydliad Insport y Flwyddyn’ yn ystod Noson Wobrwyo Rithiol Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC) yn ddiweddar.
Ers i ni cyhoeddi ein strategaeth Rygbi Anabledd gyntaf yn 2018, rydym wedi llwyddo i dderbyn gwobr efydd ac arian insport, ac yn gweithio tuag at y wobr aur.
Gyda Darren Carew yn arwain ar yr ochr weithredol o’r strategaeth gydag adran Menter Rygbi Greg Woods, mae nawr cyfleoedd i ymgysylltu mewn nifer o fformatau cynhwysol o’r gêm ar draws Cymru.
Mae clybiau cymunedol cynhwysol ar gyfer pobl ifanc ynghyd â timau gallu cymysg ar gyfer oedolion ym mhob rhanbarth rygbi, rhagor o dimau rygbi cadair olwyn a rygbi cerdded, ac rydym yn gweithio’n agos â phartneriaid allweddol gan gynnwys Byddar Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Urdd Gobaith Cymru a’r bedair rhanbarth, er mwyn parhau i wneud rygbi yn gêm i bawb. Rydyn ni hefyd yn gobeithio ehangu cyfleoedd mewn meysydd fel rygbi nam golwg.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol URC Geraint John: “Rydym yn falch o’r cynnydd mae ein staff, gwirfoddolwyr a’r holl gymuned rygbi yng Nghymru wedi gwneud wrth ddod yn fwy cynhwysol, ac roeddem yn falch iawn o ennill y wobr o ystyried yr ymgeiswyr eraill a fu’n arddangos yn ystod y seremoni wobrwyo. Fel ein chwaraeon cenedlaethol, mae’n hanfodol fod cyfleoedd i bawb yn rygbi Cymru, a byddwn yn parhau i weithio’n galed i sicrhau ein bod mor gynhwysol â phosib wrth ddod allan o’r pandemig.”
Ychwanegodd Greg Woods, Rheolwr Menter Rygbi URC: “Mae nifer o bobl yn credu mai un deg pump o ddynion mewn parc am hanner awr wedi dau ar bnawn Sadwrn mewn cae mwdlyd ydi Rygbi, ond mae’n llawer mwy na hynny.”
“Mae’n cwmpasu’r nod i’w greu yn gêm i bawb. Mae gennym ddywediad fod crys i bawb, ac rydyn ni eisiau gwireddu hynny, er yn anodd weithiau mae’r hyn yr ydyn ni wedi ei wneud yn ystod y cyfnod yma o amser ydi cynyddu ein fformatau, cynyddu’r lefel o gefnogaeth ac arweiniad yr ydyn ni yn ei gynnig i hyfforddwyr a gwirfoddolwyr er mwyn ei wireddu..”
Dysgwch fwy yma:
O’DOWD YW ARWR NANT-Y-GLO – 50 MLYNEDD AC YN DAL I FYND
Defnyddir y dywediad gŵr cryf yn aml wrth drafod Rygbi Cymru. Efallai fod arwr yn well, er nid yw’n ddigon i egluro’r ymrwymiad, trylwyder a defosiwn.
Ar hyd a lled y wlad, mae unigolion wrth galon clybiau rygbi, nid yn unig yn eu cynnal ond yn eu helpu i ffynnu.
Ar draws Cymru, mae dynion a menywod fel Mike O’Dowd yn gwasanaethu i’r gêm yn ddiofyn, a hynny heb gael ei gydnabod a’i gymryd yn ganiataol. Ond hebddynt….gallwn ddweud fod eu presenoldeb yn hanfodol.
Dechreuodd Mike chwarae i Glwb Rygbi Nant-y-glo yn 1968. Gan amlaf chwaraeodd yn safle’r prop neu ail reng, a chwaraeodd mewn dros 500 o gemau.
Yn 1970 cafodd ei ethol yn drysorydd ac mae wedi bod yn y rôl ers hynny.
Roedd yn allweddol wrth adeiladu adeilad y clwb yn 1980, ac yn dal i redeg y llinell, er nid yw mor gyflym ag oedd o, fel yr eglurai’r Ysgrifennydd Anrhydeddus Helen Jones!
“Mae’n debycach i cerddediad cyflym dyddiau yma oherwydd problem a’i glun, “ chwerthodd Jones. “Mae Mike yn enwog am fod yn ofalus o’r geiniog, ac yn gyfrifol am lwyddiant y clwb fel y mae hi heddiw.
“Mae wedi bod yn gyfranogwr tu hwnt i rygbi ar lawr gwlad a rôl y clwb yn y gymuned yn ehangach. Hoffwn ni hefyd ddynodi rôl ei wraig, Christine, sydd wedi cefnogi Mike a’r clwb am yr 50 mlynedd ddiwethaf.”
Beth bynnag yw’r gair orau i ddisgrifio Mike, Christine ac eraill tebyg ar draws y gêm, mae Rygbi Cymru yn falch ohonoch chi i gyd.
YR HAUL YN TYWYNNU AR BENTYRCH
Bydd rhagor o reswm i’r trysorydd yng Nghlwb Rygbi Pentyrch i wenu pan y bydd yr haul yn gwenu yr haf yma.
Ynghyd ag hwyluso dychweliad i hyfforddi a chwarae ar gyfer nifer o’r timau rygbi yn y clwb, timau pêl-droed Pentyrch Ranger a XI Criced Pentyrch, bydd hefyd yn helpu’r ddau ychwanegiad newydd i’r clwb allu codi rhagor o arian.
Dydi’r clwb rygbi o Ardal y Dwyrain heb fod yn gorffwyso yn ystod y clô ac wedi nodi dychweliad i yfed yn yr awyr agored ar draws Cymru drwy adeiladu ardal letygarwch ychwanegol ochr yn ochr â phrif fynedfa adeilad y clwb.
Bydd y strwythur £16,000 yma nid yn unig yn gwella’r ddarpariaeth i aelodau allu mwynhau eu hunain yn ystod diwrnod braf, ond bydd hefyd yn darparu lloches yn ystod misoedd y gaeaf i rieni sy’n cefnogi yn ystod sesiynau hyfforddi a gemau, pan na fydd y tywydd mor ffafriol.
Yn ychwanegol i hyn, mae’r clwb hefyd wedi gosod paneli solar ar do adeilad y clwb er mwyn lleihau eu biliau. Bydd y pres a gaiff ei arbed yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn grwpiau rygbi cerdded i ddynion a menywod.
I ddarganfod sut, dilynwch y linc yma:
EVANS A JONES YN ANELU AT Y GEMAU OLYMPAIDD
Mae dyfarnwyr Cymru Craig Evans ac Adam Jones yn obeithiol y bydd y disgwyl hir a phoenus ar gyfer y Gemau Olympaidd werth pob eiliad, pan fyddant yn anelu am Tokyo i gymryd rhan yng Ngemau Gemau Olympaidd XXXII ym mis Gorffennaf.
Ym mis Mawrth y llynedd, rhoddwyd pedair blynedd anodd o baratoi tuag at y Gemau Olympaidd yn y fantol i athletwyr gorau’r byd, wrth i pandemig Covid-19 ledaenu ar draws y byd, a sicrhau bod digwyddiad mwyaf yng nghalendr chwaraeon y byd yn cael ei ohirio.
Yn gynharach y mis hwn, a chyda llai na 100 diwrnod i fynd i’r Gemau hir disgwyliedig, cadarnhaodd Rygbi’r Byd y dyfarnwyr penodedig, ac anadlodd y ddau o Gymru ochenaid enfawr o ryddhad pan ddatgelwyd eu henwau.
Mwy yma:
Roedd y prif hyfforddwr Warren Abrahams yn falch iawn o’r frwydr a’r ddawn a ddangosodd ei dîm wrth i’w hymgyrch yn Chwe Gwlad Menywod 2021 ddod i ben yn ystod eu gêm yn erbyn yr Alban, ble cafwyd eu trechu.
Er iddyn nhw golli o 27-20 yn Scotstoun, brwydrodd Cymru hyd nes y chwiban olaf gyda dwy gais lewyrchus gan Lisa Neumann a Caitlin Lewis, gan orffen yr ymgyrch ar nodyn positif.
Credai Abrahams fod hyn yn achos i fod yn optimistaidd wedi iddo wylio cynnydd ym mherfformiad ei dîm.
Mae gan Abrahams a’i staff amser nawr i edrych yn fanylach ar ymgyrch Chwe Gwlad y Menywod cyn dechrau paratoi at Gwpan Rygbi Byd yn Seland Newydd flwyddyn nesaf.
Mwy yma:
Hefyd… roedd nifer o wynebau hapus yn Gowerton pan ymwelodd capten menywod Cymru, Siwan Lillicrap i weld rygbi yn ailddechrau ar gyfer Hawks Gorllewin Abertawe.
Fideo:
Roedd Dean Ryan wedi gwirioni a’r ymosodiad bygythiol a welwyd gan ei dîm, wedi i’r Dreigiau guro’r Sgarlets i ddechrau ymgyrch Cwpan yr Enfys mewn steil.
Llwyddodd y dynion o Rodney Parade i lanio saith cais yn erbyn eu gwrthwynebwyr o Lanelli, gydag aelodau o garfan Cymru Jonah Holmes ac Aaron Wainwright yn sgorio dwywaith.
Ychwanegodd Jordan Williams, Rio Dyer ac Aneurin Owen i’r sgôr hefyd wrth i’r Dreigiau guro 52-32.
Mwy yma:DAI YN CEFNOGI DAU O DÎM Y GLEISION
Mae Dai Young yn gobeithio y bydd y ddau o Gaerdydd Ellis Jenkins a Jarrod Evans yn cael cyfle i greu argraff gyda Chymru’r haf yma.
Credai Young, cyfarwyddwr rygbi Gleision Caerdydd efallai y caiff ei chwaraewyr gyfle i chwarae rygbi rhyngwladol.
Roedd y maswr, Evans, yn rhan o garfan buddugol Chwe Gwlad Guinness 2021 Cymru, er iddo beidio chwarae.
Mae’r cyn chwaraewr o Bontypridd hefyd wedi arwyddo contract newydd â Chaerdydd.
Drwy chwerthin awgrymodd Justin Tipuric y gall Alun Wyn Jones chwarae hyd nes y bydd yn 45. Ond y gwir yw nad oes modd rhwystro capten Cymru, wedi iddo arwyddo cytundeb newydd am flwyddyn gyda’r Gweilch.
Mae Jones yn 35, a’r chwaraewr ym myd rygbi a’r mwyaf o gapiau gyda 157 o ymddangosiadau. Ond nid yw’n ymddangos ei fod yn arafu, a llwyddodd mis diwethaf i arwain ei wlad i fuddugoliaeth Chwe Gwlad Guinness.
Mae hefyd yn gystadleuwr ar gyfer lle yng ngharfan Llewod Prydain ac Iwerddon yr haf yma.
Gobeithio capten y Gweilch Tipuric y bydd penderfyniad Jones i aros a Rygbi Cymru am 12 mis arall yn helpu ei ranbarth ynghyd a’r wlad i lwyddo.
Mwy yma: