Doedd pethau ddim yn edrych yn dda ar hanner amser i’w Cwins, gyda’r ymwelwyr ar y blaen 3-13, a hynny’n haeddiannol. Ond, yn yr ail hanner, cyflymodd y Cwins eu tempo a sgorio pedwar cais.
Sgoriodd yr asgellwr, Morgan Griffiths, ddau gais cydnerth tra ychwanegodd yr arian byw o fewnwr Rhodri Davies, a Dale Ford un bob un, wrth i Lanelli gael eu sgubo o’r neilltu a gadael Caerfyrddin yn waglaw.
Roedd popeth wedi dechrau mor addawol i’r crysau cochion pan ruthrodd Liam Hutchins i lawr yr asgell cyn i’r amddiffyn ei lusgo i’w llawr. Llwyddodd Llanelli i ailgylchu’r bêl yn gyflym a’i phasio i’r asgellwr a frasgamodd dros y llinell gais yn y gornel. Roedd trosiad o’r ystlys Ioan Hughes yn golygu bod yr ymwelwyr ar y blaen 0-7 yn gynnar yn y gêm.
Tarodd Jac Wilson yn ôl ar unwaith gyda chic gosb agos, ond methodd ag ymgais arall yn fuan wedyn. Ar y drydedd funud ar ddeg, aeth Llanelli ati i ymosod a chafodd Hughes gyfle arall at y pyst. Llwyddodd gyda’r gic gan olygu bod Llanelli ar y blaen 3-10 erbyn hynny.
Roedd y Cwins yn ei chael hi’n anodd mynd i mewn i’r gêm gan fod Llanelli’n achosi problemau mawr yn yr hanner cyntaf wrth ymosod. Aeth Jonathan Lewis yn syth drwy’r llinell amddiffyn olaf, ond dyfarnwyd bod ei bàs wedi mynd ymlaen, felly collwyd cyfle clir.
Roedd y tîm cartref yn cael trafferth dod i mewn i’r gêm, wrth i Lanelli daclo fel y cythraul. Yn ystod ymosodiad prin yn hanner Llanelli, cipiodd y prop, Rhys Davies, y bêl ar ôl tacl gan greu rhagor o rwystredigaeth i’r tîm cartref, a hynny pan oedd pethau’n edrych yn addawol.
Cafodd Llanelli gyfle i gael rhagor o bwyntiau ychydig cyn hynny, ond tarodd Hughes y bêl yn erbyn y postyn a llwyddodd y Cwins i osgoi’r perygl.
Roedd y Cwins yn amlwg wedi’u hysgwyd wrth i’r chwiban hanner amser agosáu ac roedden nhw’n cael eu gorfodi i chwarae’r bêl yn ddwfn yn eu hanner eu hunain. Gorffennodd Llanelli’r hanner gydag ysgarmes ffrwydrol a arweiniodd at gic gosb rwydd i Hughes felly roedd Llanelli ar y blaen 3-13 ar yr egwyl, a hynny’n annisgwyl.
Gwastraffodd y Cwins ddau gyfle amlwg gan fethu trosi pwysau’n bwyntiau cyn i’r prop newydd Thomas Zoogah gael ei anfon i’r gell callio. Rhoddodd hynny’r hwb angenrheidiol i’r tîm cartref.
Cyflymodd y Cwins eu tempo a dyfarnwyd cais amheus i Griffiths yn y gornel. Gyda throsiad gwych Steff Marshall, roedd y tîm cartref wedi closio hyd at dri phwynt i Lanelli.
Yna, allan o unman, aeth y Cwins ar y blaen wrth i gyn chwaraewr cyflym Saith Bob Ochr Cymru, Rhodri Lewis, ennill y blaen ar Hughes i sgorio cais yn y gornel a sicrhau bod y tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.
Daliodd y Cwins ati wrth i’r cefnwr, Dale Ford, sgorio cais arbennig yn deillio o waith tîm da i sicrhau bod y tîm cartref ar y blaen 20-13 ac roedd Llanelli yn methu’n deg â gwrthdroi pethau.
Diolch i giciau Marshall, aeth y Cwins hyd yn oed fwy ar y blaen cyn i Griffiths hyrddio ei ffordd dros y llinell gais yn y gornel gyda Marshall yn trosi’r gic o’r ystlys i ennill y gêm.