Bydd yr adran hon o’r Game Locker yn cynnig lle penodol ac adnoddau perthnasol fydd yn rhannu gwybodaeth ar iechyd a lles. Dylai chwaraewyr benywaidd, eu hyfforddwyr a gwirfoddolwyr clybiau ystyried y wybodaeth hon wrth ddarparu unrhyw fath o weithgaredd sy’n cynnwys Rygbi.
Dolen Game Locker: <https://www.wrugamelocker.wales/en/>
Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru:“Mae Adran Gymunedol URC wedi’i hymroi i flaenoriaethu iechyd a lles o fewn ein gêm, ac rydym yn anelu at gynnig cymorth i’r clybiau o fewn ein cymunedau drwy ddarparu addysg ac adnoddau i’w cefnogi”
Mae yna rai ffactorau sy’n benodol i Rygbi Merched a Menywod a all effeithio perfformiadau o ganlyniad i wahaniaethau mewn anatomi, ffisioleg a hormonau rhwng rhywiau. Bydd rhai o’r pynciau hyn yn ffurfio rhan o’r adnoddau, gan gynnwys:
- Cylch mislif
- Diwedd y mislif
- Iechyd y fron
- Iechyd pelfig
- Beichiogrwydd
- Atal Anafiadau
Bydd yr adnoddau hyn yn cynnig gwybodaeth ar y pynciau uchod ynghyd ag awgrymiadau a chyfarwyddiadau ar sut i reoli iechyd a lles, ynghyd â gofynion corfforol chwarae’r gamp. Mae’r wybodaeth am y Cylch misol, Iechyd pelfig ac Atal Anafiadau ar gael heddiw, gydag adnoddau pellach yn i ddilyn yn fuan. Game Locker <https://www.wrugamelocker.wales/en/>
Mae’r adnoddau hyn wedi’u cynhyrchu gyda chymorth arbenigwyr yn eu maes ym Mhrifysgol Abertawe a chwaraewyr Rhyngwladol Menywod Cymru.
Joanna Perkins yw Ffisiotherapydd Tîm Menywod Cymru ac mae hi’n dweud, “Mae’r pwnc o iechyd a lles Menywod yn y maes proffesiynol yn agos iawn at fy nghalon, ac mae gallu cefnogi’r merched yn gyfle cyffrous, i ddatblygu’r gêm ymhellach yma yng Nghymru. Mae’r adnoddau hyn yn werthfawr i bob person all fod eu hangen nhw, o fewn eich clybiau a’ch cymunedau.”
Cadw Llygad ar Anafiadau Cymuned URC
Mae’r prosiect cyffrous hwn yn anelu at adnabod yr ardaloedd risg anafiadau uwch mewn rygbi cymunedol i Ferched a Menywod, yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Adran Gymunedol Undeb Rygbi Cymru wedi cydweithio gyda Phrifysgol Met Caerdydd i gymryd rhan mewn astudiaeth am anafiadau, sy’n berthnasol yn benodol ar gyfer chwaraewyr benywaidd.
Bydd yr ymchwil hwn yn casglu data ar raddfa a risgiau anafiadau o fewn gêm y Menywod mewn sawl gwlad.
Nod y prosiect yw ceisio dysgu sut y gall arferion meddygol a hyfforddi merched gael eu gwella, er mwyn sicrhau bod cynlluniau addas yn bodoli ac yn berthnasol.
Y gobaith yw y bydd y ffocws hwn ar les Menywod yn benodol o fewn gêm yn arwain at leihad mewn anafiadau a’u difrifoldeb, er mwyn cryfhau cryfder corfforol a chynyddu nifer chwaraewyr.
Dywed Lewis Cannon, Rheolwr Llesiant Cymunedol URC, “Mae’r prosiect hwn yn gyfle arbennig i rygbi cymunedol Merched a Menywod yng Nghymru, er mwyn adeiladu’r gêm a datblygu chwaraewyr a hyfforddwyr. Gallwn hefyd sicrhau adnoddau ac awyrgylch ddiogel ar gyfer chwaraewyr y presennol a’r dyfodol”.
Os hoffai eich clwb chi gymryd rhan yn y gwaith ymchwil penodol hwn er mwyn hyrwyddo iechyd a lles Merched a Menywod ein teulu rygbi yma yng Nghymru, cysylltwch â lcannon@wru.wales