Mewn cyfarfod ddydd Iau (8 Chwefror) aseswyd ac ystyriwyd y ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth newydd sydd wedi ei chreu er mwyn pontio’r bwlch perfformio rhwng y gêm amatur a phroffesiynol. Enillwyr y gystadleuaeth fydd yn cael eu hystyried fel clwb gorau Cymru y tymor hwnnw.
Gwnaed y penderfyniad i gadarnhau argymhellion Panel Trwyddedu CDE o safbwynt y clybiau cymwys i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn nhymor 2024/25.
O’r 10 cais a wnaed – cymeradwyd a chadarnhawyd y ceisiadau gan y 9 clwb a nodir isod:
Aberafan,
Abertawe,
Casnewydd,
Cwins Caerfyrddin,
Glyn Ebwy,
Llanymddyfri,
Penybont,
Pont-y-pŵl,
RGC 1404.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae panel o arbenigwyr yn y maes wedi ei greu gan Undeb Rygbi Cymru, i ystyried a gwerthuso’r ceisiadau oedd yn cynnwys Cynlluniau Busnes y Clybiau, Cynlluniau Perfformiad Rygbi a data allweddol a pherthnasol arall. Yn ystod y cyfarfod ar yr 8fed o Chwefror – fe benderfynodd URC dderbyn argymhellion y Panel Trwyddedu a’u cadarnhau.
Gwerthuswyd yr holl geisiadau yng nghyd-destun 5 maes sylfaenol: Diwidrwydd, Datblygiad Rygbi, Potensial o Dwf, Darpariaeth Unigryw a Diddordeb Cyhoeddus.
Wrth gydnabod pwysigrwydd sylweddol y datblygiad hwn i gamp y clybiau yng Nghymru, ‘roedd Undeb Rygbi Cymru yn hynod falch o longyfarch y clybiau hynny fu’n llwyddiannus gyda’u ceisiadau. Cydnabyddwyd safon uchel a thrylwyr y ceisiadau llwyddiannus a chadarnhawyd y bydd URC yn cydnabod y trwyddedau am dair blynedd i ddechrau.
Bydd y gystadleuaeth newydd yn dod o dan ofal a llywodraethiant y Bwrdd Rygbi Proffesiynol. Bydd 10 tîm yn cymryd rhan a bydd y tymor yn cydfynd â strwythur tymor y gêm broffesiynol.Bydd partneriaeth swyddogol yn cael ei greu a’i feithrin rhwng clybiau a rhanbarthau penodol.
Fel rhan o’r broses drwyddedu, bydd clybiau’n derbyn buddsoddiad ychwanegol gan Undeb Rygbi Cymru a bydd disgwyl iddynt weithio o dan amodau uchafswm cyflog. Bydd Safonau Gweithredu disgwyliedig hefyd yn gorfod cael eu diwallu.
Gyda 9 o glybiau wedi derbyn y drwydded hyd yn hyn, mae URC wedi awdurdodi Nigel Walker, Huw Bevan a John Alder i ail-agor y broses, i gynnig cyfle arall i glybiau wneud cais am yr un drwydded sy’n weddill. Y bwriad yw cwblhau y broses hon erbyn dechrau’r Gwanwyn.
Dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad URC, Huw Bevan: “Ry’n ni angen deg o dimau er mwyn i’r gystadleuaeth newydd weithredu ar ei gorau. Mae’r holl broses drwyddedu yn mynd i sicrhau cystadleuaeth elît lwyddiannus a chynaliadwy yma yng Nghymru.
“Dyna pam ry’n ni am barhau i chwilio am y degfed tîm i gymryd rhan yn y gystadleuaeth gyffrous yma.
“Bydd y gystadleuaeth newydd yn cwblhau y llwybr datblygu ar gyfer rygbi dynion yma yng Nghymru – ond bydd hefyd yn ffenest siop ar gyfer y gêm glwb draddodiadol – a’i hanes a’i hetifeddiaeth hefyd.
“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn i rygbi Cymru ac mae’n rhaid i ni osod y seiliau cywir yn eu lle i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer y gystadleuaeth hon.
“Mae’r drws yn dal ar agor i glybiau eraill godi eu llaw – yn y gobaith y cawn nifer o geisiadau pellach – fel bo’r broses o ddewis y clwb olaf i gymryd rhan – yn drylwyr a chystadleuol.
“Bydd y cynghrair newydd hwn yn cryfhau’r llwybr datblygu o’r gêm rhannol broffesiynol tuag at lefel broffesiynol y gamp yma yng Nghymru.
“Bydd yn hyrwyddo datblygiad chwaraewyr ifanc addawol sydd eisoes yn y gêm broffesiynol a bydd hefyd yn cryfhau ansawdd y gêm rhannol broffesiynol yn ein gwlad.
“Gyda 9 o’r trwyddedau eisoes wedi eu cadarnhau ar gyfer y gystadleuaeth – gall y clybiau hynny fwrw ‘mlaen gyda’u cynlluniau busnes, wynebu unrhyw heriau fydd yn codi, ac yn bwysicach na dim – ddechrau gwneud trefniadau o safbwynt eu carfan a’u tîm hyfforddi ar gyfer tymor nesaf.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda’r clybiau fydd yn cymryd rhan wrth i ni gyd baratoi ar gyfer mis Medi.
Yn ogystal â chwblhau’r broses drwyddedu’n effeithiol, ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at wireddu’r datblygiad cyffrous hwn yn hanes rygbi Cymru.”